Agenda a Chofnodion
Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas Ranbarth Bae Abertawe. Cofnodion: Gofynnodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd am enwebiadau ar gyfer y Cadeirydd. Derbyniwyd
enwebiad ar gyfer y Cynghorydd R C Stewart. Cynigiwyd ac eiliwyd yr enwebiad. Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart
yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. Sylwer: Mae'r Cytundeb ar y Cyd yn nodi bod yr
Arweinwyr sy'n weddill o'r tri chyngor yn gweithredu fel Is-gadeiryddion ar y
cyd. Councillor R C Stewart (Chair) Presiding |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a
gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Jason Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru, Adroddiad Archwilio Cyfrifon 2019-2020,
Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae
Abertawe". Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am roi barn ynghylch a
yw'r Datganiad o Gyfrifon yn dangos darlun gwir a theg o sefyllfa Cyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar 31 Mawrth 2020. Ymatebodd Jason Garcia (SAC) i gwestiynau o natur
dechnegol, ac ymatebodd Chris Moore (Swyddog Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe)
i gwestiynau am sefyllfa Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Derbyn archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru o
adroddiad Datganiad o Gyfrifon 2019-2020 ar gyfer Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth
Bae Abertawe. |
|
Datganiad o Gyfrifon Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe (2019/2020). PDF 280 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151
Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Chris Moore), adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Rhaglen Dinas-ranbarth
Bae Abertawe, 2019-2020. Penderfynwyd
cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2019-2020 ar ôl ei
archwilio yn er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru)
2014, fel y'u diwygiwyd yn 2018. |
|
Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru. PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151
Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Chris Moore), adroddiad a oedd yn gofyn am
gydnabyddiaeth ffurfiol o sylwadau Swyddog Adran 151 Dinas-ranbarth Bae
Abertawe i Swyddog Archwilio Cymru. Penderfynwyd
cydnabod llythyr sylwadau Swyddog Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe a
Chadeirydd y Cyd-bwyllgor i Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol 2020/21 - Sefyllfa Alldro Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 878 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151
Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Chris Moore) adroddiad a oedd yn rhoi gwybod am
sefyllfa alldro ragweledig diwedd y flwyddyn mewn
perthynas â swyddogaethau gweinyddol Swyddfa Rheoli'r Rhaglen, y Corff Atebol,
y Cyd-bwyllgor a'r Cyd-bwyllgor Craffu. Penderfynwyd adolygu cyfrifon blynyddol Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
|
Adolygiad Allanol ar Raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 267 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Rhaglen
Dinas-ranbarth Bae Abertawe adroddiad a oedd yn rhoi gwybod am ganlyniad ac
argymhellion Adolygiad Cymheiriaid Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd cymeradwyo'r adroddiad cymheiriaid allanol a rhoi caniatâd i Swyddfa Rheoli Portffolio Dinas-ranbarth Bae Abertawe roi cynllun gweithredu ar waith sy’n seiliedig ar y chwe argymhelliad. |
|
Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd. PDF 410 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Rhaglen
Dinas-ranbarth Bae Abertawe adroddiad a oedd yn rhoi gwybod am newid dros dro
i'r Cadeirydd a phenodi Is-gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE). Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo penodi Chris Foxall yn Gadeirydd y BSE am gyfnod o hyd at 6 mis. 2)
Cymeradwyo penodi Amanda Davies yn Is-Gadeirydd y BSE am gyfnod o hyd at 6
mis. 3) Adolygu'r ddau benodiad ar ôl 6 mis neu pan fydd yn angenrheidiol gwneud hynny. |
|
Diweddariad ar brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe ddiweddariad ar y prosiectau
sy'n rhan o Raglen y Fargen Ddinesig. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys: Ø
Isadeiledd
digidol; Ø
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer; Ø
Prosiect
Campws Gwyddor Bywyd a Lles; Ø
Datblygiad
Gwyddor Bywyd a Lles sydd yn yr arfaeth ar gyfer Llanelli; Ø
Prosiect
Morol Doc Penfro; Ø
Sgiliau
a doniau; Ø
Cefnogi
Arloesedd a Thwf Carbon Isel; Ø
Ardal
Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau; Ø
Yr
Egin. Penderfynwyd nodi'r diweddariadau a'r cynnydd. |