Agenda a Chofnodion
Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo Cofnodion Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a
gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dyfarnu Amodau Ariannu. PDF 424 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Gyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes)
a oedd yn amlinellu statws amodau Dyfarnu Cyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd cymeradwyo cyflwyno'r adroddiad statws i
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. |
|
Cynllun Monitro a Gwerthuso. PDF 331 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Gyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes)
a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Monitro a Gwerthuso Bargen
Ddinesig Bae Abertawe sy'n cyd-fynd ag argymhelliad adolygiad allanol. Fe'i cydnabyddir hefyd fel arfer Rheoli
Rhaglen da. Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Monitro a Gwerthuso
Bargen Ddinesig Bae Abertawe i'w gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
i'w ystyried. |
|
Achos Busnes y Rhaglen. PDF 331 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Gyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes)
a oedd yn dweud bod angen Achos Busnes ar gyfer Rhaglen y Fargen Ddinesig er
mwyn cyflawni argymhelliad a gododd o'r adolygiadau a gyflawnwyd ar y Fargen
Ddinesig. Fe'i cydnabyddir hefyd fel
arfer Rheoli Rhaglen da. Penderfynwyd cymeradwyo'r Achos Busnes ailddiwygiedig
ar gyfer Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe i'w gyflwyno i Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru i'w ystyried. |
|
Cynllun Gweithredu. PDF 201 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Gyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes)
a oedd yn rhoi gwybod am Gynllun Rhoi ar Waith Bargen Ddinesig Bae Abertawe
sydd wedi'i ddiweddaru. Penderfynwyd adolygu fersiwn ddiweddaraf Cynllun Rhoi
ar Waith Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i chymeradwyo. |
|
Cyllideb Ddiwygiedig y Cyd-bwyllgor 2010/2021. PDF 759 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor (Chris Moore) adroddiad a oedd yn rhoi gwybod
am gyllideb ddiwygiedig mewn perthynas â'r swyddogaethau gweinyddiaeth a
chefnogaeth ar gyfer Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd ystyried y gyllideb ddiwygiedig mewn
perthynas â'r weinyddiaeth y mae ei hangen i gefnogi a chyflwyno Bargen
Ddinesig Bae Abertawe, a'i chymeradwyo. |
|
Asesiad Effaith Covid-19. PDF 502 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Gyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes)
a oedd yn darparu trosolwg o'r hunanasesiadau o effaith COVID-19 ar gyfer naw
prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a diweddariad ar eu statws. Penderfynwyd derbyn y diweddariad am statws yr asesiad
effaith COVID-19. |
|
Cyd-bwyllgor Craffu - Newidiadau i'r Cylch Gorchwyl. PDF 295 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor (Tracey Meredith) a oedd yn
amlinellu cais gan y Cyd-bwyllgor Craffu i newid y cylch gorchwyl. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
diwygiad i'r cylch gorchwyl a nodwyd ym Mharagraff 1.5 y Cyd-bwyllgor Craffu; 2)
Awdurdodi
Swyddog Monitro Cyngor Abertawe/Penaethiaid Adrannau Cyfreithiol Cynghorau Sir
Gâr, Sir Penfro a Chastell-nedd Port Talbot i ymrwymo i gytundeb sy'n
angenrheidiol i gyflawni'r newidiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor. |
|
Diweddariad Prosiectau. (Llafar) Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes) ddiweddariad
ar y prosiectau sy'n rhan o Raglen y Fargen Ddinesig. Mae'r prosiectau hyn yn
cynnwys: Ø
Isadeiledd
digidol; Ø
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer; Ø
Prosiect
Campws Gwyddor Bywyd a Lles; Ø
Datblygiad
Gwyddor Bywyd a Lles yn yr arfaeth ar gyfer Llanelli; Ø
Prosiect
Morol Doc Penfro; Ø
Sgiliau
a doniau; Ø
Cefnogi
Arloesedd a Thwf Carbon Isel; Ø
Ardal
Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau; Ø
Yr
Egin. Penderfynwyd nodi'r diweddariadau a'r cynnydd. |