Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd Wendy Walters (Prif Weithredwr Cyngor Sir Gâr)
gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 64
"Penodi Uwch-swyddog Cyfrifol" a gadawodd y cyfarfod cyn y
drafodaeth. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae
Abertawe a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: 1)
Cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe o bell Croesawodd y Cynghorydd Rob Stewart (Cadeirydd) bawb i gyfarfod cyntaf
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe o bell. 2)
Prosiect Morol Doc Penfro Nododd y Cynghorydd David Simpson fod Prosiect Morol Doc Penfro wedi derbyn
cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Nododd y byddai hyn yn flaenllaw i Sir
Benfro. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan
o hyn. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn y cyfarfod a rhaid iddynt ymwneud
â’r eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cynllun Archwilio 2020 Archwilio Cymru. PDF 269 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jason Garcia
(Swyddfa Archwilio Cymru) Gynllun Archwilio 2020 Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad yn hysbysu'r Cyd-bwyllgor
o'r cynllun ac yn darparu cwmpas o ran archwiliad allanol Datganiad o Gyfrifon
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd adolygu a chytuno ar y cynllun arfaethedig
a chwmpas archwiliad allanol Datganiad o Gyfrifon Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth
Bae Abertawe a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
Cytundebau Ariannu. PDF 526 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog 151 y Cyd-bwyllgor (Chris Moore) adroddiad a oedd yn nodi'r trefniadau
ariannu ar gyfer rheoli’r broses o ryddhau arian y Fargen Ddinesig i
Bartneriaid Cyflwyno. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r trefniadau ariannu templed a nodwyd yn
Atodiadau A a B yr adroddiad a'u mabwysiadu i reoli’r
broses o ryddhau arian o'r rhaglen i'r cynghorau a'r partneriaid cyflwyno: i)
Atodiad A - cytundeb safonol rhwng y Corff Atebol a'r
awdurdod sy'n arwain y prosiect; ii)
Atodiad B - cytundeb ar ffurf templed i'w ddiwygio gan yr
awdurdod sy'n arwain y prosiect er mwyn ei wneud yn addas ar gyfer y cytundeb
â'r parti cyflwyno; 2)
Dirprwyo awdurdod i Swyddog Adran 152 Cyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe a'r Swyddog Monitro iddyn nhw wneud unrhyw
ddiwygiadau hanfodol ac angenrheidiol i'r cytundeb templed yn Atodiad A yr
adroddiad. |
|
Dosbarthiad Llog Buddsoddi. PDF 313 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor (Chris Moore) adroddiad a oedd yn nodi'r
argymhellion mewn perthynas â thrin y llog a enillwyd drwy fuddsoddi
gweddillion ariannol y rhaglen. Penderfynwyd cytuno ar Opsiwn 2, fel a nodwyd yn yr
adroddiad mewn perthynas â'r llog a enillwyd o ganlyniad i fuddsoddi
gweddillion ariannol y rhaglen. Mae Opsiwn 2 fel a ganlyn: "Mae’r llog
a gynhyrchir yn cael ei ailddosbarthu'n uniongyrchol i brosiectau yn ôl y
dyraniad a amlinellir yn y prif delerau gwreiddiol." |
|
Diweddariad am Brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 305 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Cyfarwyddwr
Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes) ddiweddariad ar y
prosiectau sy'n llunio rhan o Raglen y Fargen Ddinesig. Mae'r prosiectau
hynny'n cynnwys: Ø
Prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau; Ø
Datblygiad Gwyddor Bywyd a Lles a gynllunnir ar gyfer
Llanelli; Ø
Prosiect Campws Gwyddor Bywyd a Lles; Ø
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer; Ø
Isadeiledd Digidol; Ø
Sgiliau a Thalentau; Ø
Prosiect Morol Doc Penfro; Ø
Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon
Isel; Ø
Yr Egin. Penderfynwyd nodi'r diweddariadau a'r cynnydd. |
|
Achos Busnes Cartrefi fel Gorsafoedd Pwer. PDF 587 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd
Cadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE) (Ed Tomp)
adborth gan y BSE mewn perthynas â'r Prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Diolchodd i Gyngor Castell-nedd am eu gwaith
mewn perthynas â'r prosiect. Dywedodd ei
fod wedi argymell y prosiect i'r Cyd-bwyllgor. Cyflwynodd y Cynghorydd Rob Jones a Nicola Pearce adroddiad a oedd yn rhoi adborth gan y BSE ac a oedd hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno achos busnes model pum achos yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cais ffurfiol ar gyfer achos busnes model
pum achos Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer sy'n ceisio cymeradwyaeth gan
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; 2)
Rhoi'r pwerau dirprwyedig i wneud unrhyw fân ddiwygiadau
i'r achos busnes yn ôl yr angen er mwyn cael cymeradwyaeth i Brif-berchennog
cyfrifol y prosiect. |
|
Penodi Uwch-berchennog Cyfrifol. PDF 334 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe (Jonathan Burnes) adroddiad a
oedd yn ceisio penodi Prif-berchennog Cyfrifol sy'n atebol i Gyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe i sicrhau bod gan raglen Bargen Ddinesig Bae
Abertawe lywodraethu priodol ar waith. Penderfynwyd penodi Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Dinas-ranbarth
Bae Abertawe fel y Prif-berchennog Cyfrifol ar gyfer rhaglen Bargen Ddinesig
Bae Abertawe. |
|
Strwythur Swyddfa Rheoli Rhaglenni. PDF 752 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan
Burnes) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Strwythur y Swyddfa
Rheoli Rhaglenni. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Mae Opsiwn B2 fel y'i nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn
cael ei gymeradwyo fel Strwythur y Swyddfa Rheoli Rhaglenni i alluogi recriwtio
ar gyfer y Swyddfa Rheoli Rhaglenni; 2)
Adolygu Strwythur y Swyddfa Rheoli Rhaglenni o fewn 12
mis. |
|
Cofrestr Risgiau'r Rhaglen a Chofnod o Faterion y Prosiect. PDF 200 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan
Burnes) adroddiad a oedd yn ystyried materion cyfredol y prosiect a risgiau
uniongyrchol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd nodi materion diweddaraf y prosiect a risgiau'r
rhaglen. |
|
Cynllun Sicrwydd a Chymeradwyo Integredig (IAAP). (Er gwybodaeth) PDF 294 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe (Jonathan
Burnes) adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am ddatblygiad Cynllun Sicrwydd a
Chymeradwyo Integredig ar gyfer rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd nodi'r cynnydd a wneir ar ddatblygu Cynllun
Sicrwydd a Chymeradwyo Integredig ar gyfer rhaglen Bargen Ddinesig Bae
Abertawe. |
|
Adborth gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE). (Llafar) Cofnodion: Nododd Cadeirydd
y Bwrdd Strategaeth Economaidd (Ed Tomp) ei fod wedi
darparu adborth i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn gynharach yn y cyfarfod dan
Gofnod 63 "Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer". |