Lleoliad: Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Ffuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae
Abertawe a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: 1)
Diweddariad gan Gyfarwyddwr y Rhaglen Dywedodd y Cadeirydd bod y diddordeb a ddangoswyd
yn swydd Cyfarwyddwr y Rhaglen yn gadarnhaol ac y byddai'r Swyddog Monitro a'r
Swyddfa Ranbarthol yn cwrdd ar 16 Medi 2019 i drafod y broses recriwtio. 2)
Cyfarfod Nesaf - 2.00pm
ar 24 Medi 2019 Dywedodd y Cadeirydd y trefnwyd cyfarfod nesaf Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer 24 Medi 2019 am 2.00pm. Mae angen cyflwyno'r holl adroddiadau i'r Swyddfa Ranbarthol a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd erbyn 16 Medi 2019. Gobeithiwyd y byddai'r adroddiad "Amodau a Thelerau" yn cael ei ystyried yn y cyfarfod hwnnw. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Datganiad o Gyfrifon - Enillion Blynyddol 2018/19 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151
Dinas-ranbarth Bae Abertawe'r "Datganiad o
Gyfrifon - Adroddiad Blynyddol 2018-2019” ac amlygodd bod y cyfrifon ar gyfer y
cyfnod o 29 Awst 2018 (cyfarfod cyntaf ffurfiol y Cyd-bwyllgor) i 31 Mawrth
2019. Tynnodd sylw'r pwyllgor at y
cyllid cyfredol sy'n cael ei ddarparu gan y cyfraniadau partner a nodwyd bod
gweddill o £99,871 i'w ddwyn ymlaen o 31 Mawrth 2019. Dywedodd hefyd, am y rheswm ei fod yn disgwyl i brif arian grant y Fargen
Ddinesig gan y ddwy lywodraeth ddechrau llifo yn 2019-2020, y byddai gofyniad i
lunio Datganiad o Gyfrifon llawn ar gyfer y flwyddyn hon. Yna cyflwynodd
Jason Garcia o Swyddfa Archwilio Cymru ei adroddiad
archwilio'n unol â gofynion Adran 12 ac Adran 14 Deddf Archwilio Cyhoeddus
(Cymru) 2004. Cadarnhaodd, ar sail eu
hadolygiad, fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol yn eu barn
hwy'n unol ag arferion priodol ac nid oedd materion a oedd yn peri pryder wedi
dod i'w sylw o ran gofynion deddfwriaeth a rheoliadol nad oedd wedi'u
bodloni. Fodd bynnag, dywedodd fod
Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gwneud y ddau argymhelliad canlynol: 1)
Bydd angen
i'r Cyd-bwyllgor adolygu cadernid y trefniadau llywodraethu newydd hyn i
sicrhau eu bod yn gweithredu'n effeithiol; 2)
Mae angen
sefydlu Grŵp Swyddogion i gytuno ar ba incwm, gwariant, asedau ac
ymrwymiadau sy'n cael eu cynnwys yn natganiadau ariannol y pwyllgor yn y
dyfodol." Ymatebodd Jason Garcia
(SAC) i gwestiynau'n ymwneud ag archwiliad, ac ymatebodd Chris Moore (Swyddog
Adran 151 y Cyd-bwyllgor) i gwestiynau am sefyllfa Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mynegodd y pwyllgor ei fod yn fodlon
â'r ddau argymhelliad, fodd bynnag, byddai'n ceisio defnyddio grŵp sydd
eisoes yn bod fel Grŵp Swyddogion Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe
(fel yn y cytundeb ar y cyd) a Bwrdd y Rhaglen i fodloni gofyniad yr ail argymhelliad
uchod. Penderfynwyd: 1)
Y bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo cyfrifon
ôl-archwiliad 2018-2019 ac Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, er
mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. |