Lleoliad: Ystafell Caint - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae
Abertawe a gynhaliwyd ar 29 Mis Hydref 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diweddariad am Brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. (ar lafar) Cofnodion: Sir
Gaerfyrddin Roedd prosiect y
Pentref Llesiant yn destun manwl gyweirio. Roedd trafodaethau parhaus ynghylch
y buddsoddiad preifat. Mae trafodaethau â'r Partner Academaidd bron â dod i
ben. Castell-nedd
Port Talbot Cyfarfu'r
awdurdod â'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn gynharach yn y dydd i amlinellu ei
Achosion Busnes Carbon Isel a Chartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Yng nghyfarfod Bwrdd y Rhaglen ar 15 Tachwedd
2019, cytunwyd argymell y ddau gynllun i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd. Cafwyd ymateb cadarnhaol i'r cynlluniau hyn
gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd a byddai'r un cyntaf yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor ar y Cyd ym mis Ionawr 2020 gyda'r ail yn dilyn yn mis Chwefror
2020. Cadarnhaodd Edward Tomp hyn. Nododd Steve
Phillips fod y drafftiau wedi'u cyflwyno i'r ddwy lywodraeth a chynhelir dau
weithdy terfynol gyda'r ddwy lywodraeth yn wythnos gyntaf mis Rhagfyr. O ganlyniad,
roedd y broses yn bodloni'r gofynion cymeradwyo rhanbarthol a nodwyd mewn
gohebiaeth flaenorol gan weinidogion y Du a Chymru. Rhaid i'r
awdurdod hysbysu'r ddwy lywodraeth o'r cynnydd a wnaed mewn perthynas ag Achos
Busnes Castell-nedd Port Talbot a'r holl ddogfennaeth berthnasol a rennir cyn
i'r Pwyllgor ar y Cyd gytuno'n derfynol, er mwyn peidio ag oedi'r prosiectau. Sir Benfro Roedd gwaith ar
brosiect Morol Doc Penfro yn datblygu; fodd bynnag, roedd yr awdurdod yn gwario
mewn ffordd beryglus a gofynnwyd bod arian y Ddinas-ranbarth yn cael ei
ddyrannu i'r holl awdurdodau cyn gynted â phosib. Abertawe Cymeradwywyd
prosiect Cam Un Abertawe Ganolog gan y Cabinet ar 21 Tachwedd 2019. Dechreuodd y gwaith ar y safle yn yr wythnos
a ddechreuodd 25 Tachwedd 2019. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1) Nodi'r diweddariadau. |
|
Amodau a Thelerau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 284 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i lofnodi a derbyn
llythyr ariannu Llywodraeth y DU a Chymru a'r amodau a thelerau cysylltiedig. Penderfynwyd cefnogi
llythyr ariannu Llywodraeth y DU a Chymru a'r amodau a thelerau cysylltiedig
a'u hanfon ymlaen at y pedwar awdurdod cyfansoddol i'w cymeradwyo. |
|
Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe. PDF 127 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddfa Ranbarthol adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y Broses Recriwtio
ar gyfer Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Abertawe. Penderfynwyd cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd
Cyfarwyddwr Rhaglen ar 5 a 6 Rhagfyr 2019. |
|
Next Meeting Cofnodion: Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Canslo'r
cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 20 Rhagfyr 2019; 2) Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 28 Ionawr 2020. |