Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Gwnaed y
cyhoeddiadau canlynol: a)
Cydymdeimladau
- Huw Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor gyda thristwch at
farwolaeth ddiweddar Huw Mowbray. Huw oedd Rheolwr Strategol Datblygu ac
Adfywio Ffisegol y cyngor. Roedd Huw yn ffrind ac yn gydweithiwr arbennig o dda
i lawer ac fe'i parchwyd yn fawr gan Gynghorwyr a Swyddogion am ei ymroddiad
a'i broffesiynoldeb. Am nifer o flynyddoedd helpodd Huw i lywio'r gwaith
o adfywio Canol y Ddinas ac fe'i parchwyd yn fawr iawn gan ein Partneriaid a'n
Datblygwyr. Mae effaith Huw ar y ddinas i'w gweld heddiw yn y datblygiadau
niferus sydd wedi helpu i drawsnewid Canol y Ddinas. Mae ein meddyliau a'n cydymdeimladau gyda theulu,
ffrindiau a chydweithwyr Huw. b)
Croesawodd
y Cadeirydd yr Athro Elwen Evans, aelod cyfetholedig newydd arfaethedig
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Judith Hardisty, cyfetholedig newydd
arfaethedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i'r pwyllgor. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Aelodau Cyfetholedig Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. PDF 117 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Debbie Smith, Dirprwy
Swyddog Monitro, i adolygu a chytuno ar aelodau cyfetholedig argymelledig y Cydbwyllgor. Penderfynwyd bod
y Cydbwyllgor yn cymeradwyo penodi: 1)
Yr
Athro Elwen Evans fel yr Aelod Cyfetholedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
newydd; 2) Judith Hardisty fel yr Aelod Cyfetholedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda newydd. |
|
Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2023-24. PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Matthew Holder, Pennaeth Archwilio Mewnol, adroddiad i ystyried a chymeradwyo'r
Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol. Penderfynwyd: 1) Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2023-24. |
|
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Jason
Blewitt, Archwilio Cymru, yr adroddiad archwilio cyfrifon (Safon Ryngwladol ar
Archwilio 260) ar gyfer 2022/23 mewn perthynas â Chyd-bwyllgor Bargen
Ddinesig Bae Abertawe ar 31 Mawrth 2023. Penderfynwyd: 1) Bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn archwiliad Archwilio Cymru o'r Adroddiad Datganiad o Gyfrifon 2022/2023 ar gyfer Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe. |
|
Datganiadau Ariannol 2022/23. PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Moore, Swyddog Adran 151, adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer
Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer
blwyddyn ariannol 2022/2023. Penderfynwyd: 1) Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe ôl-archwiliad 2022/2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Moore, Swyddog Adran 151, adroddiad "Er Gwybodaeth" er mwyn cael
cydnabyddiaeth ffurfiol y Cyd-bwyllgor o Lythyr Sylwadau Swyddog Adran 151
Bargen Ddinesig Bae Abertawe i Archwilio Cymru. Bydd y llythyr yn cael ei lofnodi gan y Swyddog Adran 151 a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn dilyn y cyfarfod. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Nicola
Pearce, gyda chefnogaeth Lisa Willis a Jane Lewis, adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor ar gyfer cais am newid er mwyn i'r Rhaglen
Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel (SILCG)
ymgorffori'r Ganolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol (NZSCoE) yn y prosiect Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu
Uwch (AMPF) cymeradwy. Penderfynwyd: 1) Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r Cais am Newid yn Atodiad A ar gyfer ymgorffori'r Ganolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol yn y rhaglen SILCG fel y nodir yn yr Achos Busnes Amlinellol yn Atodiad B. |
|
Monitro Ariannol Chwarterol Ch2 2023/24. PDF 802 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd Chris
Moore, Swyddog Adran 151, ddiweddariad ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf
Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd: 1) Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad diweddaru am fonitro ariannol. |
|
Monitro Portffolio Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 350 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe (BDdBA), adroddiad “Er Gwybodaeth” i hysbysu'r Cyd-bwyllgor
o Adroddiad Monitro Chwarterol BDdBA ar gyfer
portffolio BDdBA a'r rhaglenni/prosiectau sy'n rhan
ohono. |
|
Diweddariad ar Werth Ychwanegol Gros ar gyfer Monitro a Gwerthuso Portffolio. PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ian Williams,
Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe adroddiad “Er
Gwybodaeth” i ddweud wrth y Cyd-bwyllgor fod cadarnhad wedi’i dderbyn gan
Lywodraethau nad yw’n ofynnol i bortffolio BDdBA
olrhain na chysylltu'r Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) fel rhan o'i waith monitro
ac adrodd rheolaidd. Mae'r pwyllgor yn
nodi: 1)
Y
cadarnhad gan Lywodraethau nad yw'n ofynnol i'r portffolio fonitro a phriodoli
GVA i ymyriadau rhaglenni a phrosiectau; 2) Bydd Swyddfa Rheoli Portffolio BDdBA yn gweithio gyda rhaglenni a phrosiectau i ddatblygu metrigau economaidd CAMPUS amgen a phriodol ar gyfer monitro a gwerthuso. |