Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2023 fel cofnod
cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Gwnaed y
cyhoeddiadau canlynol: 1)
Diolchodd
y Cadeirydd i'r Athro Medwin Hughes a oedd newydd ymddeol o Brifysgol Cymru y
Drindod Dewi Sant am ei gefnogaeth a'i waith wrth gyfrannu at gyflawni Bargen
Ddinesig Bae Abertawe. Byddai ei olynydd, yr Athro Elwen Evans, yn cael
gwahoddiad i gyfarfodydd yn y dyfodol. 2) Mynegodd y Cadeirydd hefyd ei ddiolch a'i ddymuniadau gorau i Mark Hackett, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a oedd hefyd wedi rhoi'r gorau i'w rôl. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Questions can be submitted in writing to Democratic Services democracy@swansea.gov.uk up until noon on the working day prior to the meeting. Written questions take precedence. Public may attend and ask questions in person if time allows. Questions must relate to items on the open part of the agenda and will be dealt within a 10 minute period. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Monitro Ariannol Chwarter 1 2023/24. PDF 760 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Moore, Swyddog Adran 151, adroddiad i'r cyd-bwyllgor
i roi’r diweddaraf iddynt ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf Dinas-ranbarth Bae
Abertawe. Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r adroddiad sy’n rhoi’r diweddaraf am fonitro ariannol. |
|
Adroddiad Uchafbwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 282 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad “Er
Gwybodaeth” i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyd-bwyllgor am gynnydd y
rhaglenni/prosiectau sy’n rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel yr
amlinellir yn Atodiad A. Darparwyd
diweddariadau ynghylch y canlynol: ·
Ymgysylltu
â Busnesau a Chyfathrebu; ·
Yr
Egin; ·
Pentre
Awel; ·
Isadeiledd
digidol; ·
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS); ·
Ardal
Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau; ·
Prosiect
Morol Doc Penfro. O ran Prosiect Morol Doc Penfro, nodwyd bod risg newydd wedi'i nodi oherwydd y rownd arwerthu contractau ar gyfer gwahaniaeth aflwyddiannus mewn perthynas ag ynni gwynt ar y môr gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, roedd y risg yn cael ei lliniaru a'i rheoli ac roedd cynllun gwaith wedi'i lunio er mwyn cyflawni canlyniadau ar gyfer Prosiect Morol Doc Penfro, yn enwedig o ran isadeiledd arloesedd, a fyddai'n gwasanaethu uchelgeisiau trawsnewid ynni am ddegawdau i ddod. |
|
Asesiad Effaith Adeiladu. PDF 401 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd
Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad "Er
Gwybodaeth" i hysbysu'r Cyd-bwyllgor o'r Crynodeb o'r Asesiad Effaith
Adeiladu fel yr amlinellir yn Atodiad A. Eglurodd y
Cyfarwyddwr yr wybodaeth yn yr adroddiad a oedd yn nodi nad yw'r statws risg
wedi newid, fodd bynnag, eglurodd fod y costau sy'n gysylltiedig â dau brosiect
wedi cynyddu mewn perthynas â Champysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a
Phrosiect Morol Doc Penfro. Esboniodd y
gwaith sy'n mynd rhagddo mewn perthynas â'r ddau brosiect ac amlinellodd y
mesurau lliniaru a oedd yn cael eu rhoi ar waith i leihau'r risgiau. Gofynnodd y Cynghorydd Darren Price i HAPS yn benodol gael ei ystyried mewn fformat neu adroddiad gwahanol i sicrhau bod y Pwyllgor yn gallu olrhain effaith pwysau chwyddiant yn y dyfodol ar y cynllun. |
|
Adroddiad Argymhellion a Chynllun Gweithredu Adolygiad Portffolio Gateway. PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd & cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad i
hysbysu'r Cyd-bwyllgor ynghylch canlyniad Adolygiad Portffolio Gateway ac i gytuno ar y Cynllun Gweithredu mewn ymateb i
argymhellion yr adolygiad. Penderfynwyd: 1)
y
bydd y Cyd-bwyllgor yn nodi canlyniad Adolygiad Portffolio Gateway
ac yn cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sydd ynghlwm yn Atodiad B a'r ymateb i
argymhellion yr Adolygiad (Atodiad A). |