Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Dim. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Mae’n rhaid i gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol
dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod
o 10 munud. Cofnodion: Dim. |
|
Diweddariad am Brosiect Morol Doc Penfro. PDF 448 KB Cofnodion: Cyflwynodd Steve
Edwards (Cyfarwyddwr Masnachol, Porth Aberdaugleddau) adroddiad 'er gwybodaeth'
i hysbysu’r Cyd-bwyllgor o’r cynnydd a wnaed ar Raglen Ardal Forol Doc Penfro
Bargen Ddinesig Bae Abertawe (BDdDA) a'i statws. Manylodd ar y
gweithgareddau a gwblhawyd, y gweithgareddau a gynlluniwyd, risgiau a
phroblemau. |
|
Monitro Portffolio Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 343 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Phil
Ryder (Rheolwr Swyddfa Portffolio Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd
yn rhoi'r diweddaraf am Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae
Abertawe (BDdBA) ar gyfer y Portffolio BDdBA a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol. Darparodd yn
benodol ddiweddariadau am gynnydd ynghylch y canlynol: ·
Atodiad
A: Dangosfwrdd Monitro Chwarterol. Ø
Statws
Coch Melyn Gwyrdd (CMG) y Rhaglen/Prosiect. Ø
Amserlen
Cyflawni'r Portffolio. Ø
Cofrestr
Risg Portffolio. Ø
Cofnod
Materion. Ø
Asesiad
Effaith COVID. Ø
Gwireddu
buddion. Ø
Rheolaeth
Ariannol. Ø
Rheoli
newid. Ø
Adolygiadau
Sicrwydd ac Archwiliad. Ø
Cyfathrebu
a Chynnwys. Ø
Crynodeb
o'r Gwaith Caffael sydd ar y Gweill. ·
Atodiad
B: Adroddiad Monitro Chwarterol BDdBA (sy'n cynnwys 2
lefel â sawl cydran). Ø
Portffolio
– o
Cyfathrebu
a Marchnata Ø
Rhaglenni/Prosiect
- o
Cerdyn
cadw sgôr gyda chrynodeb o'r statws. o
Cyflawniadau'r
chwarter blaenorol a gweithgareddau cynlluniedig y chwarter presennol. ·
Atodiad
C: Cofrestr Risgiau'r Portffolio - Risgiau Coch a Newydd Ø
Mae
cofrestr risgiau portffolio BDdBA yn nodi ac yn
monitro risgiau portffolio allweddol ynghylch cyflwyno'r Fargen Ddinesig a
chyflawni’i nodau ac amcanion. ·
Atodiad
D: Cofnod o Faterion y Portffolio - Materion Coch a Newydd Ø
Mae
cofrestr o faterion portffolio BDdBA yn nodi ac yn
monitro materion portffolio allweddol ynghylch cyflwyno'r Fargen Ddinesig a
chyflawni’i nodau ac amcanion. Mae
Statws CMG wedi’i ychwanegu at y Cofnod Materion bellach i ddangos lefel
difrifoldeb. ·
Atodiad
E : Gwireddu buddion Ø
Mae
cofrestr buddion BDdBA yn nodi'r buddion portffolio
blynyddol ar gyfer buddsoddiad, gwerth ychwanegol gros a swyddi a fydd yn cael
eu cyflwyno hyd at 2032/33. Rydym yn aros am wybodaeth am Gefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel, CALL Canolfan Dechnoleg y Bae
ar hyn o bryd. ·
Atodiad
F: Sicrwydd Portffolio Ø
Mae BDdBA wedi llunio portffolio a 3 adolygiad prosiect/rhaglen
Gateway dros y 12 mis diwethaf. Mae graddfeydd Asesiad Hyder Cyflawni yr
Adolygiad Gateway ar gyfer pob rhaglen/prosiect i'w
gweld ochr yn ochr â'r dyddiad a drefnwyd ar gyfer yr adolygiad nesaf. ·
Atodiad
G: Crynodeb o'r Effaith Adeiladu Ø
Diben
yr asesiad risgiau/problemau a'r asesiad effaith ar y cyd yw amlygu a
meintioli'r risgiau/problemau penodol sy'n cael eu profi ar hyn o bryd drwy'r
holl ddiwylliant adeiladu. Mae Bwrdd Rhaglen a Chyd-bwyllgor BDdBA wedi gofyn i'r holl raglenni a phrosiectau asesu eu
statws cyfredol a'u monitro parhaus, mewn perthynas â'r effaith bosib y bydd yr
heriau adeiladu hyn yn ei chael ar gyflwyno'r portffolio a'i raglenni a
phrosiectau cyfansoddol yn llwyddiannus. Penderfynwyd nodi'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar
gyfer Portffolio BDdBA a'i raglenni/prosiectau
cyfansoddol. |
|
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. PDF 180 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jason Blewitt (Archwilio Cymru) grynodeb o ganfyddiadau'r
Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn derbyn Archwiliad Archwilio Cymru o'r Adroddiad Datganiad o Gyfrifon 2021/2022 ar gyfer Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe. |
|
Datganiadau Ariannol 2021/22. PDF 282 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Arnold (Rheolwr Cyllid, BDdBA) adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Rhaglen BDdBA ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022. Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo
Datganiad o Gyfrifon BDdBA ar gyfer 2021/22 ar ôl
iddo gael ei archwilio. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Arnold (Rheolwr Cyllid, BDdBA) adroddiad a
oedd yn ceisio cydnabyddiaeth ffurfiol o Lythyr Sylwadau Swyddog Adran 151 BDdBA i Archwilio Cymru. Penderfynwyd cydnabod y Llythyr Sylwadau a anfonwyd
gan Swyddog Adran 151 BDdBA a Chadeirydd y
Cyd-bwyllgor i Archwilio Cymru. |
|
Cofnodion: Rhoddodd Richard
Arnold (Rheolwr Cyllid, BDdBA) yr wybodaeth
ddiweddaraf am sefyllfa ariannol bresennol Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn adolygu ac yn cymeradwyo'r adroddiad sy’n rhoi’r diweddaraf am fonitro ariannol. |
|
Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Phil
Ryder (Rheolwr Swyddfa Rheoli Portffolio Dinas-Ranbarth Bae Abertawe) adroddiad
a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer drafft terfynol yr
Adroddiad Blynyddol a atodwyd yn Atodiad A. Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo drafft terfynol yr Adroddiad Blynyddol a atodwyd yn Atodiad A. |