Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2023 fel cofnod
cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Monitro Portffolio Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Phil
Ryder adroddiad i hysbysu'r Cyd-bwyllgor o adroddiad Monitro Chwarterol Bargen
Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i
raglenni / brosiectau cyfansoddol. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn nodi'r Adroddiad Monitro
Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni /
brosiectau cyfansoddol; 2) Darparu diweddariad ffurfiol neu anffurfiol ar y prosiectau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS). |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burnes adroddiad i ofyn yn ffurfiol i Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae
Abertawe gymeradwyo diweddaru'r achos busnes Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel
(SILCG) er mwyn cynnwys Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch gwell (AMPF),
sef cynnwys Canolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero-net Genedlaethol. Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae
Abertawe: 1)
Yn
cymeradwyo bod y £5.3 miliwn o gyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe sydd heb ei
ddyrannu yn cael ei ddyrannu mewn egwyddor i Gyngor Castell-nedd Port Talbot at
y dibenion a amlinellir yn y Crynodeb Prosiect Cyfleuster Cynhyrchu
Gweithgynhyrchu Uwch gwell sydd ynghlwm wrth Atodiad A; 2)
Yn
gofyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot fwrw ymlaen yn ffurfiol i ddatblygu
Achos Busnes SILCG i gynnwys y prosiect Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu
Uwch gwell; 3) Yn cymeradwyo'r Achos Busnes gan ddilyn y broses cymeradwyo a newid achosion busnes fel yr amlinellir yn Atodiad B. |
|
Adroddiad Buddsoddiad/Cyfraniad y Sector Preifat. (Er gwybodaeth) PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Peter
Austin adroddiad "Er Gwybodaeth" i ddiweddaru Cyd-bwyllgor
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe am y sefyllfa bresennol gyda buddsoddiad a
chyfraniadau portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel yn Atodiad A. |
|
Blaenraglen Waith y Cyd-bwyllgor. PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Jonathan
Burnes adroddiad i hysbysu Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe o'r Flaenraglen Waith ddiweddaraf. Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae
Abertawe yn cymeradwyo'r Flaenragolen Waith fel yn
Atodiad A. |
|
Diolch. Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd fod Phil Ryder wedi llwyddo i sicrhau swydd newydd y tu allan i
Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Ar ran y Pwyllgor diolchodd i Phil Ryder am ei holl waith gyda'r Fargen Ddinesig a'i gyfraniad i'r Rhanbarth. |