Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad, datganwyd y cysylltiad
canlynol: Datganodd Chris Foxall gysylltiad personol a rhagfarnol
â Chofnodion rhif 42 a 43 a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitemau hyn gael eu
trafod. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae
Abertawe a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Er nad oedd
unrhyw gyhoeddiadau, roedd y Cadeirydd yn falch o ailadrodd bod y 9 prosiect/rhaglen yn
Ninas-ranbarth Bae Abertawe wedi cael eu cymeradwyo'n llawn. Agorwyd Arena
Abertawe yn 2022 ac mae'r gwaith i adeiladu 71/72 Ffordd y Brenin wedi hen
ddechrau. Dinas-ranbarth Bae Abertawe oedd yr unig Fargen Ddinesig i glustnodi
ei holl arian ac roedd pob prosiect yn cael ei gyflwyno. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cyd-bwyllgor Rhanbarth Dinas Bae Abertawe wedi'i Gyfethol. PDF 120 KB Cofnodion: Cyflwynodd Phil
Ryder (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Rheolwr Swyddfa'r Portffolio) adroddiad i
adolygu aelodau cyfetholedig y Cyd-bwyllgor ar gyfer y pedwar sefydliad partner
a chytuno arnynt. Estynodd y Cadeirydd
ddiolch ar ran y Cyd-bwyllgor i Steve Wilkes am ei gyfraniad yn ystod ei gyfnod
yn y swydd. Penderfynwyd y
bydd y Cyd-bwyllgor yn cadarnhau'r aelodau cyfetholedig presennol a nodwyd yn
nhabl 1 ac yn cymeradwyo penodi Paul Boyle yn aelod
cyfetholedig newydd Prifysgol Abertawe. Croesawodd y Cadeirydd Mr Boyle a’i longyfarch ar ei benodiad. |
|
Adolygiad o Gadeirydd y Bwrdd Strategol Economaidd. PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burnes (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cyfarwyddwr y Portffolio)
adroddiad i geisio cymeradwyaeth am yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac
Is-Gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd.
Penderfynwyd: 1)
Ailbenodi
Chris Foxall yn Gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd; 2) Ailbenodi Amanda Davies yn Is-gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol 2022/23 - Sefyllfa Alldro Dros Dro ar gyfer Chwarter 3. PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Moore (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Swyddog Adran 151) adroddiad i'r
cyd-bwyllgor i roi’r diweddaraf iddynt ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf
dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r adroddiad sy’n rhoi’r diweddaraf am fonitro ariannol. |
|
Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Phil Ryder
(Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Rheolwr y Swyddfa Portffolio) adroddiad a oedd
yn amlinellu'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig
Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol. Penderfynwyd nodi'r
Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe
a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol. |
|
Diweddariad ar gynnydd Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau. PDF 432 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Huw Mowbray (Cyngor Abertawe - Rheolwr Strategol Datblygu ac
Adfywio Ffisegol) adroddiad "er gwybodaeth" i roi gwybod i'r cyd-bwyllgor am y canlynol: 1)
Y cynnydd a wnaed a statws rhaglen Ardal Ddigidol Dinas
Abertawe a’r Glannau BDdBA. 2)
Datblygiad achos busnes diweddaraf y rhaglen fel yn
Atodiad A. 3)
Canlyniad Adolygiad Asesiad Perfformiad Gateway fel yn Atodiad B a'r cynllun gweithredu fel yn
Atodiad C. |
|
Diweddariad ar Gefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel. PDF 413 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Dr Brett Sudell (Rheolwr Rhaglen
CATCI) adroddiad "er gwybodaeth" i hysbysu’r cyd-bwyllgor
o’r cynnydd a wnaed a statws rhaglen Cefnogi Arloesedd
mewn Twf Carbon Isel Bargen Ddinesig Bae Abertawe. |
|
Asesu Costau Adeiladu Cynyddol. PDF 333 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burnes (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cyfarwyddwr y Portffolio)
adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r diweddaraf i'r cyd-bwyllgor
ar gostau adeiladu chwyddiannol a chynyddol sy'n effeithio ar brosiectau o fewn
y portffolio a’r camau gweithredu lliniarol sy'n cael eu cymryd er mwyn mynd
i'r afael â hwy fel y disgrifir yn Atodiad A. |
|
Adroddiad Asesu Lleihau Carbon Portffolio. PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd
Jonathan Burnes (Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cyfarwyddwr y Portffolio)
adroddiad "er gwybodaeth" i asesu'r cyfraniadau at dargedau lleihau
carbon rhanbarthol a wnaed gan raglenni a phrosiectau Bargen Ddinesig Bae
Abertawe. |