Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas Ranbarth Bae Abertawe. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Rob Stewart yn
Gadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Yn absenoldeb y
Cynghorydd Rob Stewart, pleidleisiwyd i ethol Cadeirydd Dros Dro. Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Darren Price yn
Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a
gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022-23. PDF 198 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Matthew Holder (Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Pennaeth Archwilio Mewnol)
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cylch Gorchwyl Archwilio
Mewnol 2022-2023. Penderfynwyd cymeradwyo Cylch Gorchwyl Archwilio
Mewnol 2022-2023 fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad. |
|
Siarter Archwilio Mewnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 295 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Matthew Holder (Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Pennaeth Archwilio Mewnol)
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Siarter Archwilio Mewnol
Ddrafft ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Penderfynwyd cymeradwyo'r Siarter Archwilio Mewnol
Ddrafft. |
|
Y Diweddaraf am Gartrefi fel Gorsafoedd Pwer. (Er gwybodaeth) PDF 333 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Oonagh Gavigan (Rheolwr y
Prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer) adroddiad gwybodaeth a oedd yn
amlinellu cynnydd y prosiect. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol 2022/23 - Sefyllfa Alldro Dros Dro ar gyfer Chwarter 2. PDF 973 KB Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Moore (Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn
rhoi'r diweddaraf am sefyllfa ariannol ddiweddaraf Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd cymeradwyo'r adroddiad diweddaru am
Fonitro Ariannol. |
|
Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 344 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Amanda
Halfhide (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn amlinellu'r
Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe
a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol. Penderfynwyd nodi'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar
gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau
cyfansoddol. |
|
Proses Datblygu Achos Busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 302 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Williams (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer Proses Ddatblygu Achos Busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer
diweddaru a datblygu'r achosion busnes. Penderfynwyd cymeradwyo Proses Datblygu a Diweddaru
Achos Busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel y’i hatodir i'r adroddiad. |
|
Fframwaith Sicrwydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Williams (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer Fframwaith Sicrwydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n manylu ar y trefniadau
sicrwydd ar gyfer y Portffolio a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol. Penderfynwyd cymeradwyo Fframwaith Sicrwydd Bargen
Ddinesig Bae Abertawe fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad a'r cylch gorchwyl
cysylltiedig. |
|
Trefniadau Sicrwydd Portffolio 'Gateway'. PDF 210 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Williams (dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad
Adolygiad Portffolio Gateway ac roedd yn gofyn i’r aelodau gytuno ar y Cynllun Gweithredu
mewn ymateb i argymhellion yr adolygiad. Penderfynwyd nodi canlyniad Adolygiad Portffolio
Gateway a chymeradwyo'r cynllun gweithredu a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad
mewn ymateb i argymhellion yr adolygiad. |
|
Blaengynllun Gwaith y Cydbwyllgor. PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Amanda
Burns (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn amlinellu'r Flaenraglen Waith. Penderfynwyd cytuno ar y Flaenraglen
Waith. |