Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Election of Chair Pro Tem. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Emlyn Dole yn Gadeirydd y Cydbwyllgor dros dro. Y Cynghorydd Emlyn Dole
(Cadeirydd) fu’n llywyddu. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod
Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022 fel
cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Cynigiodd y
Cadeirydd y dylid gohirio Eitem 7 ar yr agenda - Trefniadau Sicrwydd Portffolio
‘Gateway’ Bargen Ddinesig Bae Abertawe i'w hystyried
yn y cyfarfod nesaf. Gofynnodd y
Cadeirydd am gymeradwyaeth i ystyried Eitem 9 ar yr agenda - Achos Busnes
Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dilyn cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Penderfynwyd y dylid cytuno ar y diwygiadau uchod i'r
agenda. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Mae’n rhaid i gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol
dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod
o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 134 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio (Dinas-ranbarth Bae
Abertawe) Achos Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig wedi’i ddiweddaru, yr oedd
angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'r DU. Manylodd ar y cefndir a thynnodd sylw at y newidiadau sylweddol a oedd yn
cynnwys: • Gwybodaeth wedi'i
diweddaru am gydweddiad strategol y portffolio â pholisïau/strategaethau Cymru,
y DU a Rhanbarthol a mentrau cyfredol y sector cyhoeddus, gan gynnwys Cynllun
Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru, y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol a
mentrau'r Gronfa Codi'r Gwastad/Ffyniant Gyffredin • Yr adran Achos dros
Newid wedi'i diweddaru gyda'r blaenoriaethau polisi economaidd rhanbarthol a'r
sylfaen dystiolaeth yng Nghynllun Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru. Nodwyd
tueddiadau, anghenion a chyfleoedd cyfredol • Statws datblygu a
chymeradwyo achosion busnes diwygiedig ar gyfer pob rhaglen a phrosiect sydd
bellach wedi cael cymeradwyaeth ranbarthol a llywodraeth ac mae Portffolio BDdBA bellach yn cael ei gyflawni’n llawn erbyn hyn • Gwybodaeth
ddiwygiedig am arfarniadau economaidd ar gyfer portffolios, rhaglenni a
phrosiectau • Gwybodaeth am gyllid a
buddsoddiadau wedi'i diweddaru gan y rhagwelir mai cyfanswm buddsoddiad
portffolio BDdBA fydd £1.241bn erbyn hyn • Gwybodaeth monitro a
gwerthuso wedi'i diweddaru ar gyfer y portffolio, gan gynnwys cynllun Monitro a
Gwerthuso wedi'i ddiweddaru a gwybodaeth gyfredol ar gyfer risgiau, materion,
budd-daliadau a monitro ariannol • Trefniadau sicrwydd
annibynnol arfaethedig ar gyfer y portffolio a'r trefniadau ar gyfer datblygu a
chymeradwyo Achosion Busnes Llawn • Cynllun Cyfathrebu a
Marchnata ac amserlen wedi'u diweddaru • Map ffordd cyflawni'r
portffolio cyfredol ar gyfer pob rhaglen a phrosiect Nododd y Pwyllgor fod fersiwn ymgynghoriad drafft o Achos Busnes y
Portffolio wedi'i dosbarthu i'r holl Uwch-berchnogion Cyfrifol ac arweinwyr
rhaglenni/prosiectau ar 14 Ionawr i gael sylwadau ac adborth. Ystyriwyd yr
adborth a dderbyniwyd ac fe'i hymgorfforwyd yn yr achos busnes lle bo hynny'n
briodol. Dosbarthwyd yr achos busnes drafft a'r atodiadau i aelodau Bwrdd y
Rhaglen, y Cyd-bwyllgor a swyddogion allweddol yn Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU ar 18 Chwefror. Cynigiwyd sesiynau briffio ar gynnwys yr achos
busnes hefyd i randdeiliaid. Cafodd yr Achos Busnes ei ystyried a'i gytuno yng nghyfarfod Bwrdd y
Rhaglen (Portffolio) ar 1 Mawrth. Mae'r Achos Busnes yn cynnwys adborth gan randdeiliaid
ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor, hwn fydd y fersiwn derfynol i'w
hanfon at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Penderfynwyd bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r Achos Busnes
Portffolio BDdBA sydd wedi'i atodi yn Atodiad A yr
adroddiad. |
|
Adroddiad ar Brif Bwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 202 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Phil Ryder (Swansea Bay City Deal Programme Office) provided
a “For Information” report to inform Swansea Bay City Region Joint Committee of
the Swansea Bay City Deal Quarterly Monitoring & Monthly Highlight Report
for both the Swansea Bay City Deal Portfolio and its constituent programmes /
projects. He outlined and updated the Joint Committee on the progress
relating to the following: ·
Communications and Marketing; · Pembroke Dock Marine; · Pentre Awel; · Yr Egin; · Supporting Innovation & Low Carbon Growth; ·
Swansea City & Waterfront Digital District; ·
Digital Infrastructure; ·
Homes as Power Stations; ·
Skills & Talent; and ·
SBCD Campuses. The Committee congratulated organisers for the recent successful Scarlets Showcase event. The Chair thanked Mr Ryder for the updates. |
|
Fframwaith Sicrwydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 233 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r adroddiad i'w ystyried yn y
cyfarfod nesaf. |
|
Cytundeb y Cyd-bwyllgor - Atodlen 15. PDF 208 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd Jon Burnes (Cyfarwyddwr Portffolio BDdBA)
am gymeradwyaeth ar gyfer Cytundeb y Cyd-bwyllgor – Atodlen 15 Rolau a
Chyfrifoldebau BDdBA a'r CSRhP.
Nododd y Pwyllgor
rolau a chyfrifoldebau Swyddfa Reoli BDdBA, a oedd yn
weithred amrywio ofynnol yn ôl cais y Cyd-bwyllgor yn dilyn yr Adolygiad Actica allanol. Penderfynwyd bod Cytundeb y Cyd-bwyllgor – Atodlen 15
fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo. |