Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Emlyn Dole yn
Gadeirydd y Cydbwyllgor dros dro. Y Cynghorydd Emlyn Dole (Cadeirydd) fu’n llywyddu. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Cod
Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Mae’n rhaid
i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk
erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dosrannu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol. PDF 685 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Darparodd Phil
Ryder (Swyddfa Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn rhoi
gwybod i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe am Adroddiad Monitro
Chwarterol ac Uchafbwyntiau Misol Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer
Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol. Rhoddodd y
diweddaraf i'r Cyd-bwyllgor ar y cynnydd, sy'n gysylltiedig â'r canlynol: ·
Ymgysylltu
â Busnesau; · Yr Egin; · Prosiect Morol Doc Penfro; · Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau (Arena
i'w throsglwyddo cyn bo hir); Pentre Awel; · Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer; · Isadeiledd digidol; · Cefnogi Arloesedd a
Thwf Carbon Isel; · Sgiliau a Thalent. · Campysau BDdBA. Nodwyd bod tri
risg goch yn parhau i gael eu nodi mewn perthynas â chostau adeiladu,
newidiadau posib Tan15 a llithriant posib wrth
ddarparu cynlluniau, a bod wyth risg is newydd wedi’u nodi. Amlinellwyd a
manylwyd ar gyflawni buddion o tua £160m, yn ogystal â’r 600+ o swyddi a grëwyd
a'r cyfraniad o £60m i'r GYG. Penderfynwyd nodi'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer
y Portffolio BDdBA a'i raglenni/prosiectau
cyfansoddol. |
|
Cynllun Cyfathrebu a Marchnata Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Rhoddodd Chris
Moore, Swyddog A151 ar y Cyd (Cyngor Sir Gâr) ddiweddariad manwl i Gyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf Dinas-ranbarth Bae
Abertawe. Amlinellodd fod ychydig
o danwariant yn y gyllideb ar hyn o bryd a manylodd ar y rhesymau a'r ffactorau
y tu ôl i hynny, yn ogystal ag amlinellu crynodeb ariannol o'r naw cynllun, a'r
sefyllfa fuddsoddi bresennol. Penderfynwyd cymeradwyo adroddiad diweddaru monitro
ariannol Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
|
Monitro chwarterol Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 260 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Rhoddodd Chris
Moore, Swyddog A151 ar y Cyd (Cyngor Sir Gâr) adroddiad i Gyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe a oedd yn rhoi gwybod iddynt am y trefniadau mewn
perthynas â chadw a dosbarthu'r AAC ychwanegol a gynhyrchwyd drwy brosiectau
rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Amlinellodd
gefndir y mater, a dywedodd fod swyddogion Adran 151 o'r holl awdurdodau wedi
cytuno ar Opsiwn 1. Penderfynwyd nodi'r adroddiad a chymeradwyo argymhelliad
y swyddog ar gyfer Opsiwn 1 mewn perthynas â'r ffaith bod y rhaglen y cytunwyd
arni i gadw AAC yn cael ei chymeradwyo. |
|
Monitro Ariannol Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 1008 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Heidi
Harris, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata BDdBA
adroddiad a oedd yn amlinellu i'r Cydbwyllgor yr hyn a oedd wedi’i ddiwygio a’i
ddiweddaru. Cynllun
Cyfathrebu a Marchnata a gweithgareddau ymgysylltu manwl ar gyfer portffolio BDdBA a'i brosiectau cyfansoddol. Dywedodd ei bod
am greu rhai is-grwpiau i edrych ar faterion amrywiol a'u diweddaru wrth symud
ymlaen. Penderfynwyd nodi'r diweddariad cyfathrebu a marchnata
gan gynnwys y Cynllun Cyfathrebu a Marchnata BDdBA
diwygiedig sydd ynghlwm yn Atodiad A (i'r adroddiad) a'r Atodlen Cyfathrebu ac
Ymgysylltu BDdBA sydd ynghlwm yn Atodiad B (i'r
adroddiad). |