Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Cod
Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Mae’n rhaid i gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol
dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod
o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2021-22. PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd Matthew
Holder, Pennaeth Archwilio Mewnol adroddiad i ystyried a chymeradwyo'r Cylch
Gorchwyl Archwilio Mewnol. Adroddodd y
byddai'r Cyd-bwyllgor Craffu hefyd yn cael ei gynnwys yn y 'Trefniadau Adrodd'
a amlinellir yn Atodiad A. Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn adolygu ac yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2021-22. |
|
Adroddiad Adolygu Porth 5 Yr Egin. PDF 199 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd Geraint
Flowers (Arweinydd Prosiect yr Egin) adroddiad i roi gwybod i Gyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe am yr adolygiad diweddar ar Borth 5 yr Egin. Penderfynwyd y byddai Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe'n nodi’r Sgôr Gwyrdd DCA a ddyfarnwyd a'r argymhellion sy'n deillio o’r Adolygiad Porth 5. |
|
Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau - Cais am newid y matrics arloesedd. PDF 304 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Geraint
Flowers adroddiad "Er Gwybodaeth" i ddiweddaru Cyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar y cais i newid Matrics Arloesedd Ardal Ddigidol
Dinas Abertawe a’r Glannau. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Flowers am y diweddariad. |
|
Adroddiad Monitro Chwarterol a Misol Uchafbwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 334 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Phil Ryder
(Swyddfa Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe) adroddiad "Er
Gwybodaeth" i roi gwybod i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe am
adroddiad Monitro Chwarterol ac Uchafbwyntiau Misol Bargen Ddinesig Bae
Abertawe ar gyfer Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i
raglenni/brosiectau cyfansoddol. Rhoddodd y
diweddaraf i'r Cyd-bwyllgor ar y cynnydd, sy'n gysylltiedig â'r canlynol: ·
Ymgysylltu
â Busnesau; ·
Yr
Egin; ·
Prosiect
Morol Doc Penfro; ·
Ardal
Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau; ·
Pentre
Awel; ·
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer; ·
Isadeiledd
digidol; ·
Cefnogi
Arloesedd a Thwf Carbon Isel; ·
Sgiliau
a doniau. ·
Campysau
BDdBA. Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru wedi gohirio newidiadau posib Tan15 mewn perthynas ag
ardaloedd llifogydd yng Nghymru am 18 mis. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Ryder am y diweddariadau. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol 2021/22 - Sefyllfa Canlyniad Rhagolwg Chwarter 2. PDF 939 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Rhoddodd Richard
Arnold, Rheolwr Cyllid (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) ddiweddariad i
Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf
Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd bod Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn adolygu ac yn cymeradwyo'r adroddiad diweddaru monitro ariannol. |
|
Blaenraglen waith y Cyd-bwyllgor. PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd
Jonathan Burns, Cyfarwyddwr (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad i roi
gwybod i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe am y blaengynllun gwaith
diweddaraf. Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe'n adolygu ac yn cytuno ar y blaengynllun gwaith arfaethedig. |
|
Digwyddiad Arddangos Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 222 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd
Jonathan Burns, Cyfarwyddwr (Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad "Er
Gwybodaeth" i ddiweddaru Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar
gynigion ar gyfer Digwyddiad Arddangos Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn 2022. Cynigiwyd y
byddai'r digwyddiad yn ddigwyddiad presenoldeb byw, wedi'i
fformatio fel digwyddiad arddangos "cwrdd â'r prosiect", yn debyg i ddigwyddiad
lansio 2018 ond y tro hwn bydd yn canolbwyntio mwy ar yr hyn sydd ar y gweill o
ran caffael a hyrwyddo asedau, cyfleoedd buddsoddi a sut y gallai busnesau
gymryd rhan. Rhybuddiwyd y gallai'r sefyllfa o ran cyfyngiadau COVID-19 effeithio ar ei ddarpariaeth a byddai opsiynau eraill fel rhannol fyw/rhannol ddigidol neu gwbl ddigidol yn cael eu cynllunio ar eu cyfer. |