Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas Ranbarth Bae Abertawe. Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Rob Stewart. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
|
Pro tem ethol Cadeirydd. Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Darren Price yn Gadeirydd pro tem. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd D Price yn Gadeirydd Dros Dro. Bu'r Cynghorydd D Price (Cadeirydd Dros Dro) yn llywyddu |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a
gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Aelodau Cyfetholedig Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. PDF 188 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Monitro Bargen Ddinesig Bae Abertawe (BDdBA)
adroddiad i adolygu Aelodau cyfetholedig argymelledig
y Cyd-bwyllgor a chytuno arnynt. Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe: 1)
Yn cymeradwyo penodiad Dr Neil Wooding fel Aelod Cyfetholedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel
Dda. |
|
Archwilio Cymru - Asesu Sicrwydd a Risg 2023-24. PDF 187 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Gareth
Jones, Archwilio Cymru, adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am
ganfyddiadau’r adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru - Asesiad Sicrwydd a Risg
- yn Atodiad A ac i gytuno ar y Cynllun Gweithredu yn Atodiad B. Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe: 1) Yn derbyn Asesiad Sicrwydd a Risg
Archwilio Cymru yn Atodiad A;
2) Yn cytuno ar y Cynllun Gweithredu yn
Atodiad B. |
|
Adroddiad Argymhellion Archwilio Mewnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2023-24. PDF 192 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Matthew Holder, Rheolwr Archwilio, Risg a Gwrth-Dwyll, adroddiad i ystyried
canfyddiadau a chamau gweithredu adolygiad Archwilio Mewnol 2023-24 i’r
Portffolio BDdBA. Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe: 1) Yn cymeradwyo canfyddiadau a chamau
gweithredu adolygiad Archwilio Mewnol 2023-24 i Bortffolio BDdBA
yn Atodiad A. |
|
Y Diweddaraf am Gartrefi fel Gorsafoedd Pwer. (Er gwybodaeth) PDF 977 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Oonagh Gavigan, Rheolwr Prosiect
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer adroddiad “Er Gwybodaeth” a ategwyd gan
gyflwyniad Powerpoint i hysbysu'r Cyd-bwyllgor am
gynnydd y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. |
|
Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. (Er gwybodaeth) PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burns, Cyfarwyddwr BDdBA adroddiad “er
gwybodaeth” i hysbysu'r Cyd-bwyllgor ynghylch Adroddiad Monitro Chwarterol BDdBA ar gyfer Portffolio BDdBA
a'i rhaglenni/phrosiectau cyfansoddol. |
|
Fframwaith Gwerthuso Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 171 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio BDdBA adroddiad
i geisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer Fframwaith Gwerthuso BDdBA a oedd yn manylu ar y trefniadau gwerthuso ar gyfer y
Portffolio a'i raglenni a phrosiectau cyfansoddol yn Atodiad A. Penderfynwyd bod Cyd-bwyllgor
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe: 1)
Yn cymeradwyo
Fframwaith Gwerthuso Bargen Ddinesig Bae Abertawe sydd ynghlwm yn Atodiad A. |