Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

  • Y Cyng. Cyril Anderson
  • Y Cyng. Hazel Morris

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Dim

4.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Trosolwg a Diweddariad pdf eicon PDF 206 KB

·         Y Cynghorydd Mary Sherwood – Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl)

·         Paul Thomas – Rheolwr Integreiddio Cymunedol a Phartneriaeth

·         Gareth Pritchard – Cydlynydd Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cofnodion:

  • Mae cydleoli gwasanaethau yn gweithio'n dda iawn ac yn caniatáu i swyddogion nodi problemau'n gynnar er mwyn atal cynnydd
  • Erbyn hyn mae ymagwedd fwy cyfannol tuag at ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Mae cronfa ddata sy’n cofnodi'r tramgwyddwyr a'r bobl sy'n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol dro ar ôl tro
  • Mae rhai achosion wedi newid sut yr ymdrinnir ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac wedi creu llawer mwy o ymagwedd bartneriaeth
  • Mae cynllun 4 cam wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Mae ymagwedd integredig wedi creu un pwynt cyswllt ar gyfer problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae'n golygu bod yr holl dimau perthnasol megis gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid, Tîm am y Teulu ac ati yn cymryd rhan yn y cam cychwynnol i atal dyblygu
  • Mae'r tîm yn cyflwyno Contractau Ymddygiad Derbyniol (ABCs)
  • Mae'r tîm tai yn ymdrin â gwaharddebau mewn perthynas â phobl sydd â thenantiaeth cyngor
  • Anfonir tua 30 o lythyrau rhybudd bob mis a dim ond tua 2 - 3% sy'n cael eu dwysáu - ymagwedd lwyddiannus iawn
  • Mae'r tîm yn cydlynu ymatebion priodol - mae cefnogaeth ar gyfer y dioddefwr a'r tramgwyddwr
  • Nid oes gan rai heriau rhwng anghydfodau sifil agwedd droseddol ac nid ydynt yn faterion i'r heddlu, a gall y cyngor weithredu os yw'r tenant yn un o denantiaid tai'r cyngor yn unig.
  • Mae cydberthynas rhwng ymddygiad gwrthgymdeithasol a thlodi
  • Mae tystiolaeth yn dangos bod llai o droseddu mewn cymdeithasau mwy cyfartal
  • Mae llai o adnoddau i bobl ifanc yn effeithio ar gymunedau
  • Bydd yn parhau i wella gweithio'n agos
  • Model diogelu newydd yn edrych ar agweddau anstatudol e.e. modelau cymdeithasol/amgylcheddol
  • Cysylltiadau â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus 'Cymunedau Cryfach'
  • Edrych ar sut gall cymunedau weithio gyda'i gilydd e.e. Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
  • Gweithio'n agos gyda'r brifysgol
  • Mae rhai prosiectau yn ymwneud â chymdogion da lle mae tenantiaid newydd yn cael eu cyflwyno i'w cymdogion
  • Mae gweithio gyda chymunedau'n bwysig iawn
  • Mae clywed bod ymagweddau cydweithredol ar waith yn galonogol
  • Rhan fach o agenda cynhwysiad cymdeithasol ehangach
  • Mae diogelu data'n bwysig iawn
  • Mae digonedd o waith da yn cael ei wneud a'i gydlynu
  • Mae ysgolion ac addysg hefyd yn cael eu cynnwys mewn sawl cam
  • Cofnodir ystadegau i olrhain mannau sy'n peri problemau dro ar ôl tro a thueddiadau
  • Mae'n anodd rhagweld ymddygiad gwrthgymdeithasol ac olrhain tueddiadau am eu bod yn oddrychol iawn
  • Gellir olrhain gweithgarwch fesul ward a dyrannu cymorth ac adnoddau yn unol â hynny
  • Rhai problemau yn ymwneud â defnyddio cyffuriau a chyfarpar yn Uplands - adborth i'w gyflwyno i'r Bwrdd Cynllunio Ardal
  • Mae iechyd meddwl yn broblem barhaus ac mae trafodaethau ar lefel strategol yn parhau
  • Mae atal troseddau wedi'i gynnwys yng nghamau cynllunio datblygiadau e.e. canolfannau siopa
  • Roedd maint a natur gydweithredol y gwaith wedi creu argraff ar y panel

 

5.

Cyfle i'r panel drafod yr adroddiad

Cofnodion:

  • Trafododd y panel yr hyn a glywon nhw a'r cyflwyniad a gawson nhw a phenderfynu ar gynnwys eu llythyr

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 511 KB