Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datgeliadau a fuddiannau – Peter Jones

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cyflwyniadau Twristiaeth Gynaliadwy/Eco

Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr

Deb Hill, Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur

Chris Dale, Arweinydd y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad

 

Cofnodion:

Roedd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, Deb Hill, Arweinydd Tîm Cadwraeth Natur a Chris Dale, Arweinydd Tîm Mynediad i Gefn Gwlad yn bresennol i gyflwyno trosolwg o'r gwaith y mae'r awdurdod yn ei wneud mewn perthynas â thwristiaeth gynaliadwy/eco.

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Mae'n bwysig cydnabod gwerth yr amgylchedd naturiol i dwristiaeth a'r economi.
  • Yn ogystal â Gŵyr, mae coridor afon Tawe hefyd yn bwysig i dwristiaeth. Cytunwyd ar y Cynllun Datblygu Lleol yn ddiweddar ac mae'n cynnwys mynediad i lannau'r afon ar hyd goridor afon Tawe.
  • Mae'r Gweithgor yn falch o weld faint o waith caled sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod.
  • Gallai'r awdurdod wneud llawer mwy mewn perthynas â thwristiaeth petai ganddo'r adnoddau ond mae'r gyllideb wedi'i thorri 50% mewn rhai adrannau dros y 3 blynedd diwethaf. Mae'r adran yn croesawu argymhellion gan yr adran Graffu am yr hyn y gellir ei wneud gyda'r isafswm adnoddau.   
  • Mae eco-dwristiaeth yn bwysig iawn i benrhyn Gŵyr. Hoffai'r Gweithgor weld y rhwydwaith beicio oddi ar y ffordd yn cael ei gyflwyno. Cost amcangyfrifedig hyn yw £50,000 (ffïoedd cyfreithiol yn bennaf). Mae'r Gweithgor yn argymell bod yr arian yn cael ei ganfod i ariannu llunio map beicio.
  • Mae'r holl lwybrau cerdded/beicio ar gael ar-lein.
  • Gallai'r arwyddion fod yn well ym mhenrhyn Gŵyr.  Mae angen iddynt fod yn gywir a gosod rhai newydd os oes rhai wedi'u difrodi neu wedi diflannu.  Mae diffyg arian ar gael ar gyfer y gwaith hwn.   
  • Mae dyletswydd statudol i ddarparu arwyddion ar gyfer llwybrau troed/llwybrau ceffylau.  Rhoi gwybod i'r adran os ydych yn ymwybodol o unrhyw broblemau o ran arwyddion yn yr ardaloedd hyn a byddant yn cael eu cywiro.
  • Yr Undeb Ewropeaidd yw un o arianwyr mwyaf y gwaith hwn.  Nid ydym yn sicr o beth yw'r sefyllfa'n dilyn Brexit.
  • Angen gwneud mwy o ddefnydd o wirfoddolwyr i atgyweirio llwybrau troed etc.  Mae hyn eisoes wedi gweithio'n dda yn un ardal yn Abertawe.
  • Mae'n bwysig cael ffordd gydlynol o gofnodi popeth sy'n digwydd yn yr ardal a'i hyrwyddo.  Roedd ymgyrch 'Surfari' Bae Abertawe, gan gynnwys y fan wersylla yn Sioe Gŵyr, yn dda iawn.  Dylid defnyddio syniadau fel hyn yn fwy aml.
  • Yn Llangollen, dim ond un rhif sydd ar gael i'w ffonio er mwyn gwirio argaeledd llety ac er mwyn cysylltu â gwestai etc. Codir tâl am ddefnyddio'r llinell hon felly mae'n talu am ei hun.  Byddai'n syniad da i Abertawe wneud hyn, os nad yw'n gwneud hynny'n barod.
  • Byddai'n dda cael cadeiriau cynfas ar draeth Abertawe unwaith eto.  Fodd bynnag, mae cynnal a chadw yn broblem.
  • O ran marchnata cyfleoedd eco-dwristiaeth, dylai'r awdurdod wneud defnydd o aelodaeth sefydliadau cenedlaethol.  Gellid ystyried sefydlu grŵp gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill a gynrychiolwyd.

 

4.

Adroddiad a Chyflwyniad Twristiaeth pdf eicon PDF 323 KB

 Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Tracey McNulty, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol

Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau

Steve Hopkins, Rheolwr Twristiaeth a Marchnata

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth; Steve Hopkins, Rheolwr Twristiaeth a Marchnata a Frances Jenkins, Rheolwr Strategol ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau'n bresennol i gyflwyno trosolwg o farchnata a datblygiad twristiaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod ac i ateb cwestiynau'r Gweithgor. 

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Tîm bach sy'n cynnwys 4 aelod o staff yw'r tîm Twristiaeth a Marchnata.  Maent yn canolbwyntio eu hymdrechion marchnata ar ogledd-orllewin Lloegr, de-orllewin Lloegr, Llundain a Birmingham. 
  • Mae angen sicrhau bod digwyddiadau mawr yn Abertawe'n cael eu cefnogi gan yr holl adrannau - gwagio biniau, glanhau ar ôl digwyddiadau etc am fod hyn yn effeithio ar farn pobl.  Mae angen ymagwedd cyngor cyfan. 
  • Mae angen gwneud i benrhyn Gŵyr weithio fel cyrchfan twristiaeth cynaliadwy wrth ddiogelu'r amgylchedd a chydnabod ei fod hefyd yn lle y mae pobl yn byw ynddi.  Nid yw'n hawdd cael y cydbwysedd yn gywir.
  • Bydd Skyline yn atyniad twristiaid mawr os yw'n cael ei roi ar waith.  Mae'r arwyddion yn gadarnhaol.
  • Dylid defnyddio canran o'r talebion o daliadau meysydd parcio i gynnal a chadw'r lleoliad.  Fodd bynnag, ni ddylid cynyddu cost y parcio er mwyn ariannu lleoliadau lleol am fod talu barcio yn rhwystr i dwristiaid. 
  • Mae aelodau'r Gweithgor yn hapus i rannu fideos twristiaeth a'u rhannu ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Mae'n bwysig bod gwahanol fathau o lety ar gael yn yr ardal gan gynnwys tafarndai, llety gwely a brecwast, gwestai teuluol a safleoedd gwersylla.  Dylid edrych ar arfer da o ardaloedd eraill mewn perthynas â marchnata llety yn Abertawe
  • Hoffai'r Gweithgor weld mwy o hysbysebu megis y faner 'EPIC' yn Rhosili y llynedd.  Mae'r math hwn o hysbysebu 'feirol' yn ddefnydd da o'r gyllideb.
  • Mae fideos marchnata'n dda ond gallent fod yn hirach a chynnwys rhagor o weithgareddau megis cerdded/cerdded llwybrau a'r gwaith copr.
  • Mae'r adran yn tueddu i ganolbwyntio ar weithredwyr.  Byddai'n werth buddsoddi mewn gwefan archebu y byddai'r awdurdod yn derbyn comisiwn oddi wrthi.
  • Mae twristiaeth bellach yn fusnes 12 mis y flwyddyn.
  • Mae podiau gwersylla moethus yn syniad da ar gyfer estyn y tymor.
  • Mae mynediad at safleoedd gwersylla ar benrhyn Gŵyr yn broblem.
  • Mae'r Gweithgor yn teimlo bod polisïau cynllunio'n rhwystro twristiaeth, er enghraifft, gofynnwyd i safle gwersylla ym mhenrhyn Gŵyr gael gwared ar 'bodiau' am nad oeddent yn bodloni rhai o'r rheoliadau cynllunio, roedd rhaid i'r safleoedd fynd drwy broses hir i ddangos eu bod yn bodloni rheoliadau cynllunio; mae problemau cynllunio wedi codi mewn perthynas â mynediad i safle gwersylla Bae'r Tri Chlogwyn.  Os mai parhau i fod yn lleoliad i dwristiaid yw'r bwriad, mae angen newid y rheoliadau cynllunio.
  • Dylai'r awdurdod ddefnyddio'r safleoedd â nifer uchel o ymwelwyr  ar draws Dinas a Sir Abertawe i hyrwyddo/hysbysebu twristiaeth yn yr ardal.  Dylid edrych ar ddefnyddio'r sgrîn fawr fwy; defnyddio'r waliau ger mynedfa'r farchnad i hysbysebu ardaloedd lleol; arddangos gwybodaeth yn yr orsaf drenau a Gorsaf Fysus y Cwadrant; ac ystyried y posibilrwydd o siopau dros dro ar y brif ffyrdd wrth yrru i mewn i Abertawe.
  • Mae angen i'r awdurdod hysbysebu twristiaeth gynaliadwy yn Abertawe ar wahanol lwyfannau megis fideos.
  • Mae angen gweithio gyda BID i hyrwyddo twristiaeth yn Abertawe.

 

 

5.

Trafodaeth a Chwestiynau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

Cofnodion:

Trafododd y Gweithgor gynnydd a chytunwyd ar y casgliadau a'r argymhellion canlynol:

 

  1. Roedd y Gweithgor yn falch o weld faint o waith caled sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod i hyrwyddo twristiaeth yn yr ardal.  Rydym yn teimlo y gallai'r awdurdod wneud llawer mwy ond rydym yn cydnabod bod hyn yn gyfyngedig oherwydd y gyllideb sydd wedi lleihau'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

 

  1. Rydym yn teimlo ei fod bwysig cydnabod gwerth yr amgylchedd naturiol i dwristiaeth a'r economi ac yn argymell bod:
    1. y gwaith i ddatblygu rhwydwaith beicio oddi ar y ffordd yn dechrau'n gynharach a bod arian yn cael ei ddarganfod i ariannu creu map beicio ar gyfer yr ardal (amcangyfrifir mai'r gost fydd £50,000, sef ffïoedd cyfreithiol yn bennaf).
    2. Rhoddir ystyriaeth i wneud mwy o ddefnydd o wirfoddolwyr i helpu i gynnal ein hasedau amgylcheddol megis llwybrau troed, grisiau etc. Dyma adnodd gwerthfawr ar gyfer yr awdurdod a gall fod yn brofiad dysgu a phrawf cymdeithasol gwych i wirfoddolwyr.

 

  1. Hoffai'r Gweithgor weld arwyddion yn cael eu gwella, yn enwedig ym mhenrhyn Gŵyr.  Mae llawer o'r arwyddion ar goll neu mae angen eu hatgyweirio. Mae dyletswydd statudol ar yr awdurdod i osod arwyddion ar lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau a hoffem i bobl fod yn ymwybodol y bydd yr adran yn atgyweirio unrhyw broblemau o ran arwyddion yn yr ardaloedd hyn wrth iddynt gael eu hadrodd.

 

  1. Rydym yn bryderus am y gyllideb yn dilyn Brexit ac yn argymell bod darn o waith yn cael ei gynnal i nodi posibiliadau arian grant ar gyfer y dyfodol.

 

  1. Rydym yn teimlo y dylai'r awdurdod edrych ar arfer da o feysydd eraill mewn perthynas â marchnata llety yn Abertawe.

 

  1. Rydym yn argymell bod yr awdurdod yn archwilio'r syniad o gyflwyno llinell ffôn gwybodaeth ac argaeledd ar gyfer llety gwyliau yn yr ardal. Os yw hyn yn cynnwys system archebu, a chodir tâl comisiwn, gallai dalu am ei hun. 

 

  1. Hoffem weld yr awdurdod yn gwneud defnydd o aelodaeth sefydliadau cenedlaethol i farchnata eco-dwristiaeth yn yr ardal, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB etc.

 

  1. Rydym yn teimlo bod angen cael ymagwedd cyngor cyfan at gefnogi digwyddiadau mawr yn Abertawe.  Mae angen i adrannau megis Sbwriel a Glanhau Strydoedd weithio gyda'r Tîm Twristiaeth i sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu cynnal yn hwylus a bod popeth yn cael eu tacluso wedi'r digwyddiad.

 

  1. Hoffem i'r awdurdod ystyried sicrhau canran o dalebion o feysydd parcio er mwyn cynnal y lleoliad lleol, gan gynnwys cynnal a chadw cyfleusterau glanhau cyhoeddus etc.

 

  1. Hoffai'r Gweithgor weld fideos marchnata'n dangos mwy o'r hyn y gall pobl ei wneud os ydynt yn ymweld ag Abertawe, megis cerdded/beicio ym mhenrhyn Gŵyr a hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy.  Hoffem hefyd weld mwy o ddefnydd o fathau 'feirol' o hysbysebu sydd wedi bod yn effeithiol yn y gorffennol ac hoffem weld mwy o defnydd o safleoedd â nifer uchel o ymwelwyr ar draws Abertawe i hyrwyddo/hysbysebu twristiaeth yn yr ardal, megis y farchnad a gorsaf fysus y Cwadrant.

 

  1. Mae aelodau'r Gweithgor yn hapus i hyrwyddo twristiaeth yn Abertawe drwy rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol drwy bostio fideos a rhannu dolenni ar Twitter etc. Rydym yn argymell cysylltu â'r holl gynghorwyr i ofyn a fyddant yn gwneud yr un peth.

 

  1. Rydym yn teimlo bod angen i'r Adran Graffu edrych ar y pwnc hwn yn fanylach nag y gellir ei wneud mewn gweithgor untro.  Byddwn felly yn argymell i Bwyllgor y Rhaglen Graffu fod twristiaeth yn cael ei hystyried fel testun ymchwiliad craffu yn y dyfodol.

 

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

  • Caiff adroddiad ei ysgrifennu y bydd cynullydd y Gweithgor yn ei gyflwyno i'r Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau ac argymhellion y Gweithgor.

 

 

 

 

 

Adroddiad Craffu i'r Cabinet pdf eicon PDF 340 KB

Ymateb y Cabinet pdf eicon PDF 398 KB

Ymateb y Cabinet pdf eicon PDF 340 KB

Ymateb y Cabinet 3 pdf eicon PDF 255 KB