Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datgeliadau a
fuddiannau – Peter Jones
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cyflwyniadau Twristiaeth Gynaliadwy/Eco
Chris Lindley,
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr
Deb Hill,
Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur
Chris Dale,
Arweinydd y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad
Cofnodion:
Roedd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, Deb Hill, Arweinydd Tîm
Cadwraeth Natur a Chris Dale, Arweinydd Tîm Mynediad i Gefn Gwlad yn bresennol
i gyflwyno trosolwg o'r gwaith y mae'r awdurdod yn ei wneud mewn perthynas â
thwristiaeth gynaliadwy/eco.
Trafodwyd y prif faterion canlynol:
- Mae'n bwysig
cydnabod gwerth yr amgylchedd naturiol i dwristiaeth a'r economi.
- Yn ogystal â
Gŵyr, mae coridor afon Tawe hefyd yn bwysig i dwristiaeth. Cytunwyd
ar y Cynllun Datblygu Lleol yn ddiweddar ac mae'n cynnwys mynediad i
lannau'r afon ar hyd goridor afon Tawe.
- Mae'r Gweithgor yn
falch o weld faint o waith caled sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod.
- Gallai'r awdurdod
wneud llawer mwy mewn perthynas â thwristiaeth petai ganddo'r adnoddau ond
mae'r gyllideb wedi'i thorri 50% mewn rhai adrannau dros y 3 blynedd
diwethaf. Mae'r adran yn croesawu argymhellion gan yr adran Graffu am yr
hyn y gellir ei wneud gyda'r isafswm adnoddau.
- Mae eco-dwristiaeth yn
bwysig iawn i benrhyn Gŵyr. Hoffai'r Gweithgor weld y rhwydwaith beicio
oddi ar y ffordd yn cael ei gyflwyno. Cost amcangyfrifedig hyn yw £50,000
(ffïoedd cyfreithiol yn bennaf). Mae'r Gweithgor yn argymell bod yr arian
yn cael ei ganfod i ariannu llunio map beicio.
- Mae'r holl lwybrau
cerdded/beicio ar gael ar-lein.
- Gallai'r arwyddion
fod yn well ym mhenrhyn Gŵyr.
Mae angen iddynt fod yn gywir a gosod rhai newydd os oes rhai
wedi'u difrodi neu wedi diflannu.
Mae diffyg arian ar gael ar gyfer y gwaith hwn.
- Mae dyletswydd
statudol i ddarparu arwyddion ar gyfer llwybrau troed/llwybrau
ceffylau. Rhoi gwybod i'r adran os
ydych yn ymwybodol o unrhyw broblemau o ran arwyddion yn yr ardaloedd hyn
a byddant yn cael eu cywiro.
- Yr Undeb Ewropeaidd
yw un o arianwyr mwyaf y gwaith hwn.
Nid ydym yn sicr o beth yw'r sefyllfa'n dilyn Brexit.
- Angen gwneud mwy o
ddefnydd o wirfoddolwyr i atgyweirio llwybrau troed etc. Mae hyn eisoes wedi gweithio'n dda yn un
ardal yn Abertawe.
- Mae'n bwysig cael
ffordd gydlynol o gofnodi popeth sy'n digwydd yn yr ardal a'i
hyrwyddo. Roedd ymgyrch 'Surfari'
Bae Abertawe, gan gynnwys y fan wersylla yn Sioe Gŵyr, yn dda
iawn. Dylid defnyddio syniadau fel
hyn yn fwy aml.
- Yn Llangollen, dim
ond un rhif sydd ar gael i'w ffonio er mwyn gwirio argaeledd llety ac er
mwyn cysylltu â gwestai etc. Codir tâl am ddefnyddio'r llinell hon felly
mae'n talu am ei hun. Byddai'n
syniad da i Abertawe wneud hyn, os nad yw'n gwneud hynny'n barod.
- Byddai'n dda cael
cadeiriau cynfas ar draeth Abertawe unwaith eto. Fodd bynnag, mae cynnal a chadw yn
broblem.
- O ran marchnata
cyfleoedd eco-dwristiaeth, dylai'r awdurdod wneud defnydd o aelodaeth
sefydliadau cenedlaethol. Gellid
ystyried sefydlu grŵp gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau
cenedlaethol eraill a gynrychiolwyd.
|
4. |
Adroddiad a Chyflwyniad Twristiaeth PDF 323 KB
Robert Francis-Davies, Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth
Tracey
McNulty, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol
Frances
Jenkins, Rheolwr Strategol Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau
Steve Hopkins,
Rheolwr Twristiaeth a Marchnata
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a
Thwristiaeth; Steve Hopkins, Rheolwr Twristiaeth a Marchnata a Frances Jenkins,
Rheolwr Strategol ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau'n bresennol i
gyflwyno trosolwg o farchnata a datblygiad twristiaeth a gyflwynwyd gan yr
awdurdod ac i ateb cwestiynau'r Gweithgor.
Trafodwyd y prif faterion canlynol:
- Tîm bach sy'n
cynnwys 4 aelod o staff yw'r tîm Twristiaeth a Marchnata. Maent yn canolbwyntio eu hymdrechion
marchnata ar ogledd-orllewin Lloegr, de-orllewin Lloegr, Llundain a
Birmingham.
- Mae angen sicrhau
bod digwyddiadau mawr yn Abertawe'n cael eu cefnogi gan yr holl adrannau -
gwagio biniau, glanhau ar ôl digwyddiadau etc am fod hyn yn effeithio ar
farn pobl. Mae angen ymagwedd
cyngor cyfan.
- Mae angen gwneud i
benrhyn Gŵyr weithio fel cyrchfan twristiaeth cynaliadwy wrth
ddiogelu'r amgylchedd a chydnabod ei fod hefyd yn lle y mae pobl yn byw
ynddi. Nid yw'n hawdd cael y
cydbwysedd yn gywir.
- Bydd Skyline yn
atyniad twristiaid mawr os yw'n cael ei roi ar waith. Mae'r arwyddion yn gadarnhaol.
- Dylid defnyddio
canran o'r talebion o daliadau meysydd parcio i gynnal a chadw'r
lleoliad. Fodd bynnag, ni ddylid
cynyddu cost y parcio er mwyn ariannu lleoliadau lleol am fod talu barcio
yn rhwystr i dwristiaid.
- Mae aelodau'r
Gweithgor yn hapus i rannu fideos twristiaeth a'u rhannu ar eu tudalennau
cyfryngau cymdeithasol.
- Mae'n bwysig bod
gwahanol fathau o lety ar gael yn yr ardal gan gynnwys tafarndai, llety
gwely a brecwast, gwestai teuluol a safleoedd gwersylla. Dylid edrych ar arfer da o ardaloedd
eraill mewn perthynas â marchnata llety yn Abertawe
- Hoffai'r Gweithgor
weld mwy o hysbysebu megis y faner 'EPIC' yn Rhosili y llynedd. Mae'r math hwn o hysbysebu 'feirol' yn
ddefnydd da o'r gyllideb.
- Mae fideos
marchnata'n dda ond gallent fod yn hirach a chynnwys rhagor o
weithgareddau megis cerdded/cerdded llwybrau a'r gwaith copr.
- Mae'r adran yn
tueddu i ganolbwyntio ar weithredwyr.
Byddai'n werth buddsoddi mewn gwefan archebu y byddai'r awdurdod yn
derbyn comisiwn oddi wrthi.
- Mae twristiaeth
bellach yn fusnes 12 mis y flwyddyn.
- Mae podiau
gwersylla moethus yn syniad da ar gyfer estyn y tymor.
- Mae mynediad at
safleoedd gwersylla ar benrhyn Gŵyr yn broblem.
- Mae'r Gweithgor yn
teimlo bod polisïau cynllunio'n rhwystro twristiaeth, er enghraifft,
gofynnwyd i safle gwersylla ym mhenrhyn Gŵyr gael gwared ar 'bodiau'
am nad oeddent yn bodloni rhai o'r rheoliadau cynllunio, roedd rhaid i'r
safleoedd fynd drwy broses hir i ddangos eu bod yn bodloni rheoliadau
cynllunio; mae problemau cynllunio wedi codi mewn perthynas â mynediad i
safle gwersylla Bae'r Tri Chlogwyn.
Os mai parhau i fod yn lleoliad i dwristiaid yw'r bwriad, mae angen
newid y rheoliadau cynllunio.
- Dylai'r awdurdod
ddefnyddio'r safleoedd â nifer uchel o ymwelwyr ar draws Dinas a Sir Abertawe i
hyrwyddo/hysbysebu twristiaeth yn yr ardal. Dylid edrych ar ddefnyddio'r sgrîn fawr
fwy; defnyddio'r waliau ger mynedfa'r farchnad i hysbysebu ardaloedd
lleol; arddangos gwybodaeth yn yr orsaf drenau a Gorsaf Fysus y Cwadrant;
ac ystyried y posibilrwydd o siopau dros dro ar y brif ffyrdd wrth yrru i
mewn i Abertawe.
- Mae angen i'r
awdurdod hysbysebu twristiaeth gynaliadwy yn Abertawe ar wahanol lwyfannau
megis fideos.
- Mae angen gweithio
gyda BID i hyrwyddo twristiaeth yn Abertawe.
|
5. |
Trafodaeth a Chwestiynau
Gofynnir i
Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr
y Cynullydd at Aelod y Cabinet:
a) Beth hoffech
ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?
b) Oes gennych
unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?
c) Oes unrhyw
faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y
Rhaglen Graffu atynt?
Cofnodion:
Trafododd y Gweithgor gynnydd a chytunwyd ar y casgliadau a'r argymhellion
canlynol:
- Roedd y Gweithgor
yn falch o weld faint o waith caled sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod i
hyrwyddo twristiaeth yn yr ardal.
Rydym yn teimlo y gallai'r awdurdod wneud llawer mwy ond rydym yn
cydnabod bod hyn yn gyfyngedig oherwydd y gyllideb sydd wedi lleihau'n
sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
- Rydym yn teimlo ei
fod bwysig cydnabod gwerth yr amgylchedd naturiol i dwristiaeth a'r
economi ac yn argymell bod:
- y gwaith i
ddatblygu rhwydwaith beicio oddi ar y ffordd yn dechrau'n gynharach a bod
arian yn cael ei ddarganfod i ariannu creu map beicio ar gyfer yr ardal
(amcangyfrifir mai'r gost fydd £50,000, sef ffïoedd cyfreithiol yn
bennaf).
- Rhoddir ystyriaeth
i wneud mwy o ddefnydd o wirfoddolwyr i helpu i gynnal ein hasedau
amgylcheddol megis llwybrau troed, grisiau etc. Dyma adnodd gwerthfawr ar
gyfer yr awdurdod a gall fod yn brofiad dysgu a phrawf cymdeithasol gwych
i wirfoddolwyr.
- Hoffai'r Gweithgor
weld arwyddion yn cael eu gwella, yn enwedig ym mhenrhyn Gŵyr. Mae llawer o'r arwyddion ar goll neu mae
angen eu hatgyweirio. Mae dyletswydd statudol ar yr awdurdod i osod
arwyddion ar lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau a hoffem i bobl fod yn
ymwybodol y bydd yr adran yn atgyweirio unrhyw broblemau o ran arwyddion
yn yr ardaloedd hyn wrth iddynt gael eu hadrodd.
- Rydym yn bryderus
am y gyllideb yn dilyn Brexit ac yn argymell bod darn o waith yn cael ei
gynnal i nodi posibiliadau arian grant ar gyfer y dyfodol.
- Rydym yn teimlo y
dylai'r awdurdod edrych ar arfer da o feysydd eraill mewn perthynas â
marchnata llety yn Abertawe.
- Rydym yn argymell
bod yr awdurdod yn archwilio'r syniad o gyflwyno llinell ffôn gwybodaeth
ac argaeledd ar gyfer llety gwyliau yn yr ardal. Os yw hyn yn cynnwys
system archebu, a chodir tâl comisiwn, gallai dalu am ei hun.
- Hoffem weld yr
awdurdod yn gwneud defnydd o aelodaeth sefydliadau cenedlaethol i
farchnata eco-dwristiaeth yn yr ardal, megis yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol, RSPB etc.
- Rydym yn teimlo bod
angen cael ymagwedd cyngor cyfan at gefnogi digwyddiadau mawr yn
Abertawe. Mae angen i adrannau
megis Sbwriel a Glanhau Strydoedd weithio gyda'r Tîm Twristiaeth i sicrhau
bod digwyddiadau'n cael eu cynnal yn hwylus a bod popeth yn cael eu
tacluso wedi'r digwyddiad.
- Hoffem i'r awdurdod
ystyried sicrhau canran o dalebion o feysydd parcio er mwyn cynnal y
lleoliad lleol, gan gynnwys cynnal a chadw cyfleusterau glanhau cyhoeddus
etc.
- Hoffai'r Gweithgor
weld fideos marchnata'n dangos mwy o'r hyn y gall pobl ei wneud os ydynt
yn ymweld ag Abertawe, megis cerdded/beicio ym mhenrhyn Gŵyr a
hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy.
Hoffem hefyd weld mwy o ddefnydd o fathau 'feirol' o hysbysebu sydd
wedi bod yn effeithiol yn y gorffennol ac hoffem weld mwy o defnydd o
safleoedd â nifer uchel o ymwelwyr ar draws Abertawe i hyrwyddo/hysbysebu
twristiaeth yn yr ardal, megis y farchnad a gorsaf fysus y Cwadrant.
- Mae aelodau'r
Gweithgor yn hapus i hyrwyddo twristiaeth yn Abertawe drwy rwydweithiau
cyfryngau cymdeithasol drwy bostio fideos a rhannu dolenni ar Twitter etc.
Rydym yn argymell cysylltu â'r holl gynghorwyr i ofyn a fyddant yn gwneud
yr un peth.
- Rydym yn teimlo bod
angen i'r Adran Graffu edrych ar y pwnc hwn yn fanylach nag y gellir ei
wneud mewn gweithgor untro. Byddwn
felly yn argymell i Bwyllgor y Rhaglen Graffu fod twristiaeth yn cael ei
hystyried fel testun ymchwiliad craffu yn y dyfodol.
Yn dilyn y cyfarfod hwn:
- Caiff adroddiad ei
ysgrifennu y bydd cynullydd y Gweithgor yn ei gyflwyno i'r Cabinet sy'n
crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau ac argymhellion y
Gweithgor.
|
|
Adroddiad Craffu i'r Cabinet PDF 340 KB
|
|
Ymateb y Cabinet PDF 398 KB
|
|
Ymateb y Cabinet PDF 340 KB
|
|
Ymateb y Cabinet 3 PDF 255 KB
|