Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiadau.
|
2. |
Adroddiad Gorfodi Amgylcheddol PDF 223 KB
Y Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Rheoli Isadeiledd
Chris Howell, Pennaeth Rheoli
Gwastraff, Parciau a Glanhau
Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant
Cofnodion:
Roedd y
Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd,
Chris Howell, Pennaeth Rheoli Gwastraff, Parciau a Glanhau, a Frances Williams,
Arweinydd y Tîm Gorfodi, yn bresennol i friffio'r gweithgor ac i ateb
cwestiynau.
Trafodwyd y prif
faterion canlynol:
- Mae'n ardal heriol ar gyfer yr awdurdod.
- Mae atal yn bwysig iawn, rydym am weld nifer
yr achosion yn lleihau. Gorfodi
yw'r cam olaf.
- Mae tipio anghyfreithlon yn costio arian i'r
awdurdod y gellid ei ddefnyddio ar gyfer pethau eraill. Mae angen lledaenu'r neges hon. Mae datganiadau i'r wasg yn cael eu
cyhoeddi'n rheolaidd.
- Mae nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon
ar dir y cyngor wedi lleihau 39% dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r gweithgor yn credu bod hyn yn
drawiadol iawn a dylai'r awdurdod gyhoeddi hyn.
- Dyfarnwyd contract i 3GS yn 2013 i leihau
sbwriel yng nghanol y ddinas. Mae
3GS yn gyfrifol am orfodi atal sbwriel a baw cŵn. Ni ddarparwyd y gwasanaeth hwn yn
flaenorol. Mae'n gost niwtral i'r
awdurdod. Mae 3GS yn derbyn canran
y derbynebau o hysbysiadau o gosb benodol.
Hoffai'r gweithgor gael gwybodaeth ariannol fanwl - sawl hysbysiad
o gosb benodol a gyflwynir, cost yr erlyniadau, etc. a hoffai weld meini
prawf y contract gyda 3GS.
- Mae perchnogion tir yn gyfrifol am gael
gwared ar dipio anghyfreithlon ar dir preifat. Mae'r awdurdod yn cefnogi hyn ond nid
yw'n cael gwared arno.
- Pan fydd aelodau'n adrodd am broblem, maent
am gael gwybod yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad. Dylai fod yn rhan o'r broses i roi
gwybod i aelodau/y cyhoedd am yr hyn sy'n cael ei wneud.
- Gall yr awdurdod wneud 2 fath o oruchwyliaeth
- CCTV a gwyliadwriaeth gudd. Maent
yn destun deddfwriaethau gwahanol.
Mae'n dibynnu ar gyfranogiad cymunedol i adnabod pobl.
- Gellir defnyddio ffilm camerâu borden flaen
fel tystiolaeth ar gyfer erlyniadau taflu sbwriel ond efallai bydd angen
i'r person sy'n rhoi'r dystiolaeth fynd i'r llys.
- Gall tystiolaeth ffotograffig ar y cyfryngau
cymdeithasol fod yn ddefnyddiol ond bydd angen bod yn ofalus oherwydd ei
bod yn destun sawl deddf.
- Hysbysiadau o gosb benodol yw'r ffordd fwyaf
effeithiol o fynd i'r afael â'r troseddwyr sbwriel mwyaf parhaus.
- Mae angen atgyfnerthu'r neges i dimau bod
angen iddynt godi unrhyw sbwriel sydd wedi cwympo allan o'r sachau ar yr
un pryd pan fyddant yn casglu sachau du sydd wedi cael eu tipio fel nad
oes angen iddynt ddychwelyd, am fod hyn yn wastraff o adnoddau.
- Mae bandiau elastig yn cael eu gollwng ar y
ffyrdd a'r palmentydd gan swyddogion y post. Cytunodd Aelod y Cabinet i anfon llythyr
i Swyddfa'r Post i ofyn i swyddogion y post beidio â'u gollwng.
- Bydd angen monitro gwm cnoi sy'n cael ei
ollwng ar y palmentydd yn ofalus, yn enwedig ar balmentydd newydd yng
nghanol y ddinas. Gellir gofyn i
3GS newid ei ffocws i ganolbwyntio ar balmentydd newydd ar Ffordd y
Brenin, etc.
- Os adroddir am faw cŵn, bydd yr awdurdod
yn dod ac yn cael gwared arno ond nid yw'n flaenoriaeth, felly bydd angen
aros nes bod tîm glanhau yn yr ardal.
- Bydd angen i'r cyhoedd wybod y gallant gael gwared ar faw cŵn yn eu sachau du
gartref. Bydd rhaid cyhoeddi hyn.
- Gwaherddir cŵn yn llwyr ar y traethau yn
ystod yr haf. Mae cosb benodol
amdano ac os na fydd perchnogion yn ei dalu ac yn mynd i'r llys, bydd
angen iddynt dalu £2,000. Byddai'n
braf gweld ffigurau sy'n dangos sawl gwaith y gorfodir y gwaharddiad
cŵn ar draethau.
- Os adroddir am faw ceffylau ar balmentydd,
bydd yr awdurdod yn ceisio ei lanhau pan fydd tîm glanhau yn yr ardal.
- Mae map o'r holl finiau gwastraff/finiau
gwastraff cŵn ar gael.
Byddai'n ddefnyddiol petai hwn yn cael ei ddosbarthu i'r holl
aelodau. Hoffai'r gweithgor fod yr
awdurdod yn ail-drafod lleoliadau biniau gwastraff cŵn.
- Mae'r gweithgor wedi'i siomi â nifer yr
erlyniadau ar gyfer baw cŵn yn Abertawe. Mae'n isel iawn o'i gymharu ag
awdurdodau eraill. Nodwyd bod hyn
yn dibynnu ar ffocws yr awdurdodau.
- Mae 3GS yn gyfrifol am orfodi atal baw
cŵn. Gall yr awdurdod ofyn i'r
cwmni ganolbwyntio ar ardaloedd penodol wrth i achosion gael eu
hadrodd. Mae'r gweithgor yn teimlo
y dylai baw cŵn fod yn fwy o flaenoriaeth.
- Mae parcio ar balmentydd yn fater pwysig i
bawb. Os nad oes llinellau melyn
yno, cyfrifoldeb yr heddlu ydyw.
Mae'r gweithgor yn teimlo bod problem sylweddol oherwydd bod
palmentydd yno at ddefnydd pobl.
Nid yw parcio ar balmentydd yn drosedd oni bai ei fod yn creu
rhwystr ac mae'n rhaid i'r heddlu weld y weithred o rwystro wrth iddi ddigwydd.
Yr unig ddatrysiad yw cydweithio rhwng yr heddlu a'r awdurdod lleol.
- Awgrymodd y gweithgor ymchwilio i sut y
defnyddir y wardeniaid cymunedol yn ardaloedd Abertawe, a fyddai'n
gyfrifol am dynnu sylw at yr holl faterion gorfodi yn yr ardal.
- Yr hyn sy'n denu sylw'r gweithgor yw'r
dryswch ynghylch y ddeddfwriaeth.
Dylai'r awdurdod ystyried rhoi pwysau ar bwy bynnag sy'n gyfrifol -
Llywodraeth Cymru neu'r llywodraeth genedlaethol - i adolygu ac egluro'r
ddeddfwriaeth.
- Ychwanegiad arfaethedig i'r is-ddeddf (pwynt
18.2 yr adroddiad) - hoffai'r gweithgor dderbyn eglurhad ar yr hyn y
gallai hyn alluogi'r awdurdod i'w wneud.
- Mae dryswch ynghylch yr is-ddeddfau sy'n
gysylltiedig â phriffyrdd a llwybrau a'r hyn mae'r awdurdod yn ei
orfodi. Mae angen egluro'r hyn y
gall yr awdurdod ei wneud/yr hyn na nall yr awdurdod ei wneud ynghylch
gorfodi, er mwyn i'r cyhoedd gael gwybod am yr hyn rydym yn gyfrifol
amdano a phwy i gysylltu ag ef os nad ydym yn gyfrifol am rywbeth.
- Nid yw'r aelodau wedi cael profiad da o'r
awdurdod yn mynd i'r afael ag adroddiadau am ganghennau bargodol. Ni dderbyniwyd ymateb i nifer ohonynt ac
nid ydynt wedi derbyn adborth.
- Cynghorodd Aelod y Cabinet yr aelodau i
gysylltu â'u goruchwyliwr ardal lleol os oes mannau poblogaidd penodol yn
eu wardiau - ar gyfer tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel, etc. - oherwydd
mai’r goruchwyliwr sydd yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â'r
materion.
|
3. |
Trafodaeth a Chwestiynau
Gofynnir i
Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr
y Cynullydd at Aelod y Cabinet:
a) Beth hoffech
ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth
yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?
b) Oes gennych
unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?
c) Oes unrhyw
faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y
Rhaglen Graffu atynt?
Cofnodion:
Trafododd y
gweithgor gynnydd a daeth at y casgliadau canlynol:
- Hoffem ganmol y tîm am eu gwaith da a'r hyn
maent yn ei wneud.
- Teimlwn fod nifer o faterion y mae angen i'r
awdurdod eu cyhoeddi'n fwy er mwyn lledaenu'r neges:
a)
Cost
tipio anghyfreithlon i'r awdurdod, sef arian y gellid ei ddefnyddio ar gyfer
pethau eraill
b)
Gellir
cael gwared ar faw cŵn yn eich sachau du gartref
c)
Straeon
cadarnhaol megis lleihau nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon ar dir cyngor
yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn sylweddol
- Hoffem dderbyn gwybodaeth ariannol fanwl am
orfodi, er enghraifft sawl hysbysiad o gosb benodol sy'n cael eu cyflwyno,
costau erlyniadau, etc.
- Byddai'n ddefnyddiol i'r gweithgor weld meini
prawf y contract â 3GS.
- Rydym yn argymell newid gweithrediadau er
mwyn i aelodau/y cyhoedd gael gwybod yn awtomatig am yr hyn sy'n digwydd o
ganlyniad pan fyddant yn adrodd am broblemau.
- Hoffem dderbyn cynnig Aelod y Cabinet i anfon
llythyr i Swyddfa'r Post i ofyn i swyddogion y post beidio â gollwng
bandiau elastig ar y palmentydd pan fyddant yn dosbarthu'r post.
- Hoffem dderbyn ffigurau sy'n dangos sawl
gwaith y gorfodir y gwaharddiad cŵn ar y traethau yn yr haf, oherwydd
nad ydym wedi gweld llawer o dystiolaeth o orfodi.
- Hoffem ofyn i'r map o'r holl finiau
gwastraff/gwastraff cŵn gael ei ddosbarthu i'r holl aelodau oherwydd
ei bod yn wybodaeth ddefnyddiol iddynt ei dosbarthu yn eu wardiau.
- Rydym wedi'n siomi â nifer yr euogfarnau am
faw cŵn yn Abertawe a theimlwn yn gryf fod angen sicrhau bod gorfodi
atal baw cŵn yn fwy o flaenoriaeth.
- Hoffem i'r awdurdod ymchwilio i sut y
defnyddir wardeniaid cymunedol yn ardaloedd Abertawe, a fyddai'n gyfrifol
am adnabod yr holl faterion gorfodi yn yr ardal.
- Hoffem fynegi ein pryder ynghylch y dryswch o
ran deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â phriffyrdd a llwybrau. Teimlwn y
dylai'r awdurdod roi pwysau ar bwy bynnag sy'n gyfrifol - Llywodraeth
Cymru neu'r llywodraeth genedlaethol - i adolygu ac egluro'r
ddeddfwriaeth.
- Teimlwn fod angen i'r awdurdod roi gwybod i'r
cyhoedd am yr hyn mae'n gyfrifol amdano o ran gorfodi a phwy i gysylltu ag
ef os nad yw'r awdurdod yn gyfrifol am rywbeth. Rydym yn awgrymu dangos yr
wybodaeth hon ar y wefan.
- Hoffem dderbyn eglurhad ar yr hyn y gallai
ychwanegiad arfaethedig is-ddeddf, o dan Ddeddf Gorllewin Morgannwg,
alluogi'r awdurdod i'w wneud o ran cymryd camau gweithredu yn erbyn
modurwyr sy'n parcio ar droedffyrdd ac ymylon yn rheolaidd, ac eu
rhwystro.
Yn dilyn y
cyfarfod hwn:
- Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth
gynullydd y gweithgor i Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn
amlinellu meddyliau ac argymhellion y gweithgor.
|
|
Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 5 Chwefror 2019) PDF 146 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 5 Chwefror 2019) PDF 307 KB
|