Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd ffon: 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd holl gyfranogwyr y cyfarfod a gofynnodd i'r Uwch-gyfreithiwr
amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais. Rhoddodd yr Uwch-gyfreithiwr
drosolwg cynhwysfawr o'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth
ystyried y cais. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre mewn
perthynas â Smugglers Beach Bar and Kitchen, Porth Einon, Abertawe SA3 1NN. Cyfeiriodd at yr
Amcanion Trwyddedu, ystyriaethau polisi a'r arweiniad gan y Swyddfa Gartref.
Cyfeiriwyd yn benodol at y drwydded bresennol yn Atodiad A. Cyfeiriodd y
Swyddog Trwyddedu at wall gweinyddol ynghylch y cyfeiriad at 'off sales' ac amodau nad oeddent
wedi'u nodi, yr oedd un ohonynt yn cyfeirio at gwsmeriaid yn yfed alcohol wrth
fwyta wrth y bwrdd, ac un arall yn cyfeirio at arddangos hysbysiadau ynghylch
smygu a gadael y fangre'n dawel mewn lle amlwg. Manylodd ar y
gweithgareddau y gofynnwyd amdanynt yn y cais presennol, gwybodaeth gefndir am
y fangre ac oriau gweithredu mangreoedd
trwyddedig eraill yn y pentref. Nododd yr aelodau
gynllun lleoliad y fangre yn Atodiad B, cynllun o'r fangre arfaethedig yn Atodiad C ac amodau sy'n gyson â'r
atodlen weithredu yn Atodiad D. Derbyniwyd dau
sylw gan bobl eraill, y mae’r ddau ohonynt yn berchen ar eiddo ym mhentref
Porth Einon. Manylwyd arnynt yn Atodiad
E. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn, niwsans cyhoeddus a
diogelwch y cyhoedd. Cafodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor gadarnhad bod aelodau wedi ystyried y
sylwadau ar dudalennau 18 ac 19. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor, dywedodd y Swyddog Trwyddedu
mai Cyngor Abertawe sy'n berchen ar y maes parcio. Mae gan y maes parcio atalfa sy'n cael ei
ddefnyddio o 23.00pm yn ystod yr haf. Fodd bynnag, nid yw'r atalfa wedi'i gloi
a gall ceir fynd i mewn i'r maes parcio o hyd. Mae cydweithwyr yn yr adran
cynllunio wedi cadarnhau nad oes angen unrhyw gyfyngiadau amser ac nid oes
angen newid defnydd mewn perthynas â newid y fangre o
fwyty i far. Darparodd Mr Parry, y cyfreithiwr a oedd yn cynrychioli'r ymgeisydd,
drosolwg cynhwysfawr o gefndir a chyd-destun y cais. Dywedodd fod yr ymgeisydd
wedi'i geni a'i magu ym Mhorth Einon, a'i thad oedd wedi adeiladu'r fangre. Mae'r ymgeisydd yn rheoli siop bysgod a sglodion Captain's Table sydd hefyd yn y
pentref. Daeth y fangre yn ôl dan reolaeth yr
ymgeisydd yn ddiweddar, ar ôl cael ei rheoli'n flaenorol gan aelodau eraill o'r
teulu. Defnyddiwyd y fangre
fel bwyty yn y gorffennol, gyda'r drwydded flaenorol yn nodi bod alcohol yn
ychwanegol at brif gwrs. Buddsoddwyd £300,000 yn y fangre
yn ystod y gwaith i'w hadnewyddu. Mae'r fangre mewn ardal sy'n denu twristiaid ac mae'r rhan fwyaf
o weithgarwch yn digwydd yn ystod tymor yr haf. Yn flaenorol roedd y fangre ar agor yn ystod yr haf yn unig. Mae'r ymgeisydd yn
dymuno agor 52 wythnos y flwyddyn er mwyn cynnig rhywbeth i'r pentref. Mae
ymwelwyr sydd ar eu gwyliau, y ffordd y mae'r diwydiant wedi datblygu,
gosodiadau gwyliau a'r defnydd o garafanau wedi arwain at ddefnyddio’r fangre drwy gydol y flwyddyn. Mae'r ymgeisydd
yn ceisio cynnig amrywiaeth o opsiynau bwyd a diod. Mae ystafell achlysuron
hefyd wedi cael ei datblygu, fodd bynnag bydd yn rhaid aros i weld faint caiff
yr ystafell ei defnyddio ac mae ansicrwydd ynghylch a fydd yn llwyddiannus neu
beidio. Cyfeiriodd Mr
Parry at yr wybodaeth ychwanegol a oedd yn cynnwys gwybodaeth am weithwyr,
bwydlen, cynllun 1 yn dangos ardaloedd allanol, cynllun 2 yn dangos lleoliad y
llwyfan/safle DJ achlysurol pan fydd yr ystafell yn cael ei defnyddio a lluniau
o ardal allanol a mangre bresennol yr ymgeisydd. Nododd aelodau y
byddai'r cynllun sy’n ymwneud â'r ardal allanol/smygu yn destun diwygiad
pellach drwy fân amrywiad i’r drwydded bresennol, os caiff ei chymeradwyo. Rhoddodd fanylion
am y cynllun gwyrdd a oedd yn nodi'r ardal barcio arfaethedig. Roedd digon o
leoedd parcio yn yr ardal. Mae'r ardal allanol hefyd yn cynnwys yr ardal smygu.
Mae angen yr ardal allanol gan fod y fangre mewn
ardal sy'n gyrchfan gwyliau. Dywedodd fod angen cadw mewn cof, wrth ystyried y
cais, mai dyma yw gwyliau blynyddol llawer o bobl, ac uchafbwynt y flwyddyn
iddynt. Felly, awgrymodd y dylai'r pecyn cyffredinol fod yn addas i bobl sydd
ar eu gwyliau blynyddol. Soniodd am y
mater o gerddoriaeth fyw, a nodwyd yn sylw Mrs Gill, a chyfeiriodd yr aelodau
at leoliad ardal y DJ pan fyddai’n cael ei ddefnyddio (i'w weld yn y
ffotograffau, yng nghornel yr adeilad). Tynnodd sylw'r
aelodau at y lle digonol a oedd ar gael yn y llun o’r maes parcio o'r cefn gan
edrych allan o'r ystafell achlysuron. Nododd y
rhagwelir y byddai cwsmeriaid yn gadael y fangre
drwy'r drysau pren sy’n arwain yn syth at y traeth. Felly, mae'n annhebygol y
byddant yn cwrdd ag unrhyw un. Nododd yr amserau
y mae'r fangre ar agor i'r cyhoedd, gan dderbyn eu
bod yn wahanol i'r Ship, ac awgrymodd fod yr oriau'n
rhesymol ac yn addas. Manylodd Mr Parry
ar y cais a chyfeiriodd at ddisgrifiad y Swyddog Trwyddedu o'r fangre. Cyfeiriodd at y digwyddiadau chwaraeon dan do a
chadarnhaodd y byddai hyn yn syml yn golygu caniatáu bwrdd dartiau/bwrdd
pŵl a'r disgwyl oedd na fyddai'r gweithgareddau hyn yn denu torfeydd. Nododd aelodau
mai'r bwriad o ran cerddoriaeth fyw yn yr ardaloedd allanol fyddai diwygio'r
amod i ddod â’r gerddoriaeth fyw i ben am 19:00. Yn yr un modd, bydd
cerddoriaeth fyw yn y fangre'n dod i ben am 23:00. Cyfeiriodd at y
mater o luniaeth gyda'r hwyr a godwyd yn un o'r sylwadau. Y cynllun oedd cynnig
coffi/byrbrydau bar i wersyllwyr gan mai lleiafrif o
bobl yn unig fydd am fynd â bwyd i ffwrdd gyda nhw. O ran yr amserlen
weithredu, dywedodd fod yr amodau a gynigiwyd er mwyn
hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ynghylch atal troseddu ac anrhefn mor gynhwysfawr
ag y byddech yn ei ddisgwyl pe bai'r fangre hon yng
nghanol y ddinas. Ymdrinnir mewn ffordd
gynhwysfawr â materion megis diogelu'r cyhoedd, niwsans cyhoeddus a diogelu
plant rhag niwed, fodd bynnag mae anghysondebau yn yr ardal allanol. Nododd fod
posibilrwydd y byddai pobl yn symud o'r Ship i'r fangre arfaethedig er mwyn manteisio ar yr awr olaf. Os
byddai hyn yn aflonyddu ar breswylwyr, byddai'r ymgeisydd yn cytuno i
ddiwygio’r oriau fel eu bod yr un peth ag oriau’r Ship
pe bai problem yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu
y gallai hyn fod yn broblem. Gall y maes
parcio mawr sydd ar gael, yn ogystal â maes parcio'r cyngor gyferbyn â'r fangre, liniaru unrhyw bryderon ynghylch aflonyddwch gan y
cyhoedd pan fyddant yn gadael y fangre. Cyfeiriodd at
greu swyddi yn y gymuned ac, er nad yw hyn yn un o'r amcanion trwyddedu, mae’n
rhywbeth a fyddai o fudd i'r gymuned. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dywedodd Mr Parry: ·
Bydd
y drysau a'r ffenestri ar gau os bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae, fodd
bynnag, daw hyn i ben am 19:00. ·
Bydd y broblem ynghylch
cerddoriaeth wedi'i mwyhau'n cael ei hegluro yn y cais am amrywiad. Ni fydd
unrhyw unedau sain allanol parhaol yn darlledu cerddoriaeth y tu allan na’r tu
mewn. Ymdrinnir ag unrhyw bryderon ynghylch sŵn drwy reolaeth dda a thrwy
fod yn gymydog da. Yn ogystal, yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan Is-adran
Rheoli Llygredd y cyngor, nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r ffaith y
byddai hyn yn broblem. ·
Ni
fanylwyd ar yr ardal drwyddedig allanol yn y cynllun ac felly nid yw'r pwyllgor
yn gallu rhoi caniatâd. Bydd hyn yn destun cais am amrywiad os caiff y drwydded
ei chymeradwyo. ·
Derbyniwyd dau sylw gan
bentref â 517 o breswylwyr sy'n oedolion. Mae pawb ym Mhorth Einon yn ymwybodol
o'r cais ac yn adnabod yr ymgeisydd, ac nid oes unrhyw ddrwgdeimlad ynghylch y
cais. Felly, y dehongliad yw eu bod yn cefnogi’r cais fel y mae. ·
Mae'r
ymgeisydd yn cytuno i'r amser diwygiedig sef 21:00 ar gyfer gwaredu sbwriel. ·
Caiff
yr ardal allanol ei thirlunio maes o law. I gloi,
cyfeiriodd Mr Parry at achos y 'Thwaites' gan
gyflwyno’r cais i'r aelodau. PENDERFYNWYD eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r
gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 Rheoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau)
2005, er mwyn i'r Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. (SESIWN GAEËDIG) Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais. (SESIWN AGORED) Rhoddodd y cyfreithiwr a oedd
yn cynghori'r Is-bwyllgor drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a
roddwyd. Dywedodd y Cadeirydd fod yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a
buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad
statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003. PENDERFYNODD
yr
Is-bwyllgor GANIATÁU'R cais ar yr amod bod amodau'n gyson â'r amserlen
weithredu ac wedi'u diwygio fel yr ystyrir eu bod yn briodol ar gyfer
hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod. 1.
Darperir CCTV ar ffurf system
recordio sy'n gallu darparu lluniau o safon dystiolaethol ym mhob golau, yn
enwedig cydnabyddiaeth wyneb. Bydd camerâu'n cynnwys holl fynedfeydd ac
allanfeydd yr eiddo, allanfeydd tân, pob ardal y mae gan y cyhoedd fynediad
iddi ac unrhyw ardaloedd allanol. Rhaid bod cyfarpar yn gweithio'n dda, rhaid
i'r system recordio'n gyson pan fydd yr eiddo ar agor am weithgareddau trwyddedadwy ac ar bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn yr
eiddo. Rhaid i recordiadau gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, rhaid cadw
recordiadau yn nhrefn eu dyddiad ac wedi'u rhifo mewn trefn, a'u cadw am 31
diwrnod a'u rhoi i Swyddog yr Heddlu/Swyddog yr Awdurdod Lleol ar gais. Rhaid i
Ddeiliad Trwydded y Fangre sicrhau bod Goruchwyliwr
Eiddo Dynodedig (GED) neu aelod penodedig o staff yn alluog ac yn gymwys i
lawrlwytho ffilm CCTV mewn fformat y gellir ei recordio naill ai disg neu VHS i
Swyddog Heddlu/Swyddog Awdurdod Lleol ar gais, a hynny yn ôl y galw. Cedwir y
cyfarpar recordio mewn amgylchedd diogel dan reolaeth DPS neu unigolyn cyfrifol
arall a enwir. Rhaid cynnal cofnod gweithredol dyddiol, wedi’i gadarnhau gan
lofnod, sy'n nodi bod y system wedi'i gwirio a'i bod yn cydymffurfio. Os bydd
unrhyw fethiannau o ran systemau CCTV, bydd angen cofnodi unrhyw gamau
gweithredu a gymerir ac mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded mangre/DPS
roi gwybod i'r Heddlu/awdurdod lleol am y methiant hwn. 2.
Bydd llyfr cofnodi achosion,
mewn trefn rifiadol, yn cael ei gadw yn y fangre sy'n
dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, anaf, damwain, ymyriad gan
staff neu achos o droi allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff fu’n
ymwneud â hyn, natur y digwyddiad a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y
llyfr ar gael i'w archwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod
Lleol. 3.
Heblaw am rai a werthwyd i'w
cymryd oddi ar y safle mewn cynwysyddion a seliwyd, ni chaniateir i unrhyw
ddiodydd adael yr ardal drwyddedig ar y cynlluniau adnau. 4.
Ni chaniateir yfed alcohol na
lluniaeth arall ar ôl 22:00 yn yr ardal yfed awyr agored. 5.
Caiff arwyddion "CCTV ar
waith" eu harddangos yn amlwg yn y fangre 6.
Ni osodir uchelseinyddion
parhaol yn lobi'r fynedfa nac y tu allan i adeilad y fangre. 7.
Ni chaiff unrhyw gerddoriaeth
fyw ei chwarae yn y maes parcio, yr ardal allanol neu'r ardal smygu ar ôl 19:00
8.
Cedwir pob ffenestr a drws
allanol ar gau ar ôl 21:30, neu ar unrhyw adeg pan gynhelir adloniant wedi'i
reoleiddio, ac eithrio pan fydd angen i bobl ddod i mewn neu fynd allan. 9.
Gosodir hysbysiadau mewn man amlwg
wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion trigolion lleol ac i
adael yr ardal yn dawel. 10.
Gosodir hysbysiadau mewn man
amlwg mewn unrhyw ardal a ddefnyddir ar gyfer smygu yn gofyn i gwsmeriaid
barchu anghenion trigolion lleol ac i ddefnyddio'r ardal yn dawel. 11.
Bydd rhif ffôn uniongyrchol ar
gyfer rheolwr y fangre ar gael i'r cyhoedd bob tro y
mae'r fangre ar agor. Dylid rhoi'r rhif ffôn hwn i
drigolion yr ardal. 12.
Caiff y maes parcio a'r ardal
allanol/smygu eu goruchwylio'n rheolaidd gan staff y fangre
pan fyddant yn cael eu defnyddio. 13.
Ni cheir symud, gwaredu na
rhoi gwastraff, gan gynnwys poteli, yn yr ardaloedd allanol rhwng 21:00 ac
08:00. 14.
Caiff nenfwd crog gwrthsain
ychwanegol, wedi'i wneud o ddwy haen o fyrddau
acwstig dwysedd uchel a deunydd cwiltio gwrthsain arbenigol, ei osod a'i gynnal
drwy'r lleoliad. 15.
Gweithredir cynllun prawf
oedran Her 25 yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod
derbyniol fydd llun, dyddiad geni a marc holograffig. 16.
Cedwir cofnod yn rhoi manylion
pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Bydd y cofnod yn cynnwys y dyddiad, yr
amser a'r rheswm dros wrthod y gwerthiant a ffyrdd o adnabod yr aelod o staff a
wrthododd y gwerthiant. Bydd y cofnod ar gael yn y fangre
i'w archwilio gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar bob adeg pan
fydd y fangre ar agor. 17.
Dylai'r hysbysiadau gael eu
harddangos yn glir yn y fangre er mwyn pwysleisio i
gwsmeriaid nad yw alcohol yn cael ei werthu i bobl dan 18 oed. 18.
Rhaid i'r fangre
gadw cofnodion cyfoes o hyfforddiant staff a hyfforddiant gloywi o ran
gwerthiannau sy'n ymwneud ag oedran, gan gynnwys ‘gwerthu a phrynu drwy
ddirprwy’, gwerthu i bobl feddw ac adnabod ac atal camddefnyddio cyffuriau, ar
ffurf ysgrifenedig neu electronig, sydd ar gael i'w harchwilio ar gais gan
swyddog awdurdodedig. 19.
Mae'n rhaid i bobl dan 16 oed
fod yng nghwmni oedolyn addas ar bob adeg. |