Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

2.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 34 Cais i Amrywio Trwydded Mangre - Jack Murphys, 49 Cilgant Uplands, Abertawe pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr holl gyfranogwyr i’r cyfarfod a gofynnodd i'r Prif Gyfreithiwr amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor trwyddedu wrth ystyried y cais.

 

Rhoddodd y Prif Gyfreithiwr trosolwg cynhwysfawr o'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor Trwyddedu wrth ystyried y cais.

 

Soniodd y Swyddog Trwyddedu am y cais i amrywio'r drwydded mangre mewn perthynas â Jack Murphys, 49 Cilgant Uplands, Abertawe. Cyfeiriodd at yr amcanion trwyddedu, yr ystyriaethau polisi a'r arweiniad gan y Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd yn benodol at y drwydded mangre presennol yn Atodiad A, y cais i amrywio'r drwydded mangre yn Atodiad B, y cynlluniau arfaethedig yn Atodiadau B1 a B2 a chynllun y lleoliad yn Atodiad C.

 

Roedd cyfreithiwr yr ymgeisydd wedi rhoi mwy o wybodaeth/gynigion mewn llythyr dyddiedig 17 Mai 2019 yn Atodiad B3. Derbyniwyd llythyr arall gan gyfreithiwr yr ymgeisydd dyddiedig 6 Mehefin 2019 yn darparu deunyddiau marchnata a gwybodaeth am y tîm diogelwch. Dosbarthwyd yr wybodaeth hon yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd.

 

Cafwyd sylwadau gan Heddlu De Cymru dyddiedig 3 Mai 2019. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad D. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus a diogelu plant rhag niwed.

 

Derbyniwyd sylwadau gan yr Adran Gynllunio dyddiedig 13 Mai 2019. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad E. Roedd y sylwadau'n ymwneud â defnydd a ganiateir o'r fangre dan y caniatâd cynllunio presennol, yn ogystal â'r gofyniad posib am ganiatâd cynllunio ychwanegol, er enghraifft ar gyfer unrhyw ffensys yn yr ardal smygu arfaethedig i gefn y llawr cyntaf.

 

Cafwyd sylwadau gan yr Adran Rheoli Llygredd dyddiedig 7 Mai 2019. Darparwyd copi o'r sylwadau yn Atodiad F. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal niwsans cyhoeddus.

 

Cafwyd sylwadau gan yr Adran Drwyddedu dyddiedig 13 Mai 2019. Darparwyd copi o'i sylwadau yn Atodiad G. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal niwsans cyhoeddus a diffyg gwybodaeth/atodlen weithredu i benderfynu ar hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Derbyniwyd sylwadau niferus gan bobl eraill ynghyd â deiseb. Atodwyd copi o'u sylwadau a'r ddeiseb yn Atodiadau H1, H2, H3, H4 a H5.Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus a diogelu plant rhag niwed.

 

Gofynnodd y Prif Gyfreithiwr i'r ymgeisydd egluro'i gais gan ystyried yr wybodaeth ychwanegol a'r dogfennau a gyflwynwyd yn ogystal â'r cais.

 

Soniodd cwnsler yr ymgeisydd am y llythyr oddi wrth gyfreithiwr yr ymgeisydd dyddiedig 17 Mai 2019 gan gadarnhau bod y llythyr hwn yn egluro'r oriau a geisir ac yn rhoi ffocws ar yr amcanion trwyddedu.

 

Gofynnodd y Prif Gyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor am seibiant i ganiatáu i bartïon a oedd wedi gwneud sylwadau ystyried yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd ar 6 Mehefin 2019 er mwyn ystyried pa faterion, os o gwbl, y gellid cytuno arnynt ar ôl cael yr wybodaeth newydd, a pha faterion yr anghytunir â hwy.

 

Torrodd y cyfarfod am 10.35am

 

Ailalwyd y cyfarfod am 11.50am

 

Yn dilyn trafodaethau rhwng yr ymgeisydd a phartïon a oedd wedi cyflwyno sylwadau, rhoddwyd atodlen weithredu arfaethedig i'r pwyllgor.

 

Ailadroddodd y Prif Gyfreithiwr weithdrefn yr Is-bwyllgor.

 

Amlinellodd Jon Hancock, Heddlu De Cymru, y sylwadau ysgrifenedig (manylwyd arnynt ar dudalennau 41-46) gan amlygu'r pryderon o ran tanseilio'r amcanion trwyddedu mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus a diogelu plant rhag niwed.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd Jon Hancock, Heddlu De Cymru, fod gwybodaeth ychwanegol bellach wedi cael ei derbyn, ac y byddai Heddlu De Cymru'n gweithio tuag at gytuno ar amodau cyn gwrthod.

 

Roedd Liam Jones, Arweinydd Tím Ardal, Cynllunio, wedi ymhelaethu ymhellach ar y sylwadau (a fanylwyd ar dudalen 47) ar y defnydd o’r fangre, a'r caniatâd cynllunio posib y byddai ei angen ar gyfer y ffensys arfaethedig yn yr ardal smygu y tu ôl i’r llawr cyntaf.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Rheoli Llygredd yr aethpwyd i'r afael â'r sylwadau (a fanylwyd ar dudalen 48) ar ôl i'r ymgeisydd ddarparu rhagor o wybodaeth.

 

Amlinellodd Bethan Walker, Swyddog Trwyddedu, y sylwadau (a fanylwyd ar dudalennau 49-52). Argymhellwyd eu gwrthod gan na ddarparwyd digon o wybodaeth am yr amcanion trwyddedu. Pe bai'r ymgeisydd yn cytuno ar atodlen weithredu/amodau trwyddedu diwygiedig ac arfaethedig, roedd yn bosib y gellid cytuno ar atodlen amodau addas.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Irene Mann ymhellach ar y sylwadau ysgrifenedig (a fanylwyd ar dudalen 53), gan wrthwynebu’r cais ac amlygu ei phryderon ynghylch gormod o fusnesau yn yr ardal, brand Jack Murphy's a'i gynigion arbennig ar ddiodydd, a gwahaniaethu rhwng y gangen ar Stryd y Gwynt. Roedd hefyd wedi amlygu pryderon ynghylch tanseilio'r amcanion trwyddedu mewn perthynas ag atal niwsans cyhoeddus, diogelwch y cyhoedd, a diogelu plant rhag niwed. Cyfeiriodd at y ddeiseb a ddangoswyd ar dudalennau 59-114 yr adroddiad.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Mary Sherwood ymhellach ar y sylwadau ysgrifenedig (a fanylwyd ar dudalennau 116-121) a oedd yn gwrthwynebu'r cais, ac amlygodd ei phryderon ynghylch tanseilio'r amcanion trwyddedu o ran atal niwsans cyhoeddus, diogelwch y cyhoedd, a diogelu plant rhag niwed. Cyfeiriwyd at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Nick Davies ymhellach ar y sylwadau ysgrifenedig (a fanylwyd ar dudalennau 122-124) a oedd yn gwrthwynebu'r cais ac amlygodd ei bryderon ynghylch tanseilio'r amcanion trwyddedu o ran atal niwsans cyhoeddus a diogelwch y cyhoedd.

 

Cyfeiriodd y Prif Gyfreithiwr at y sylwadau pellach a wnaed gan bobl eraill fel a fanylwyd ar dudalennau 125-136, a chadarnhaodd fod yr aelodau wedi ystyried y cynnwys. 

 

Cadarnhaodd cwnsler yr ymgeisydd y gellid cytuno ar yr atodlen weithredu arfaethedig i raddau helaeth ac eglurodd amodau arfaethedig 21, 23, 24, 25 a 26.

 

Darparodd yr ymgeisydd fwy o wybodaeth o ran y Camerâu Teledu Cylch Cyfyng (CCTV), model busnes Jack Murphy's a ffensys yn yr ardal smygu. Cadarnhaodd hefyd y byddai'n dileu’r cais am gerddoriaeth fyw o'r ffurflen cais am drwydded.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, cadarnhaodd yr ymgeisydd y canlynol, gyda chymorth ei gwnsler: -

 

·                Bydd y lle sydd ar gael ym mhob ardal o'r adeilad yn destun asesiad risg llawn

·                Byddai'r grisiau dur allanol y tu ôl i’r adeilad yn cael eu defnyddio fel allanfa argyfwng

·                Ni fyddai unrhyw fordydd neu gadeiriau'n cael eu clirio ar gyfer yr hwyr

·                Roedd Jack Murphy's wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

·                Amcangyfrifwyd y byddai lle i oddeutu 250 o bobl, gyda lle i 50-70 ohonynt ar y teras awyr agored, 50 ohonynt dan do lan lofft, a'r gweddill lawr llawr

·                Byddai'r teras awyr agored yn cael ei ddefnyddio ar gyfer smygu, yfed a bwyta

·                Ni fyddai model busnes Jack Murphy Uplands yr un peth â model busnes Jack Murphy Stryd y Gwynt, ac ni fyddai'n cynnig yr un cynigion ar ddiodydd

·                Roedd cwmni diogelwch gwahanol i'r un ar Stryd y Gwynt yn cael ei ddefnyddio

·                Byddai larymau'n cael eu gosod ar allanfeydd heb oruchwyliaeth, megis allanfeydd tân

·                Byddai gwasanaeth bwrdd ar y llawr cyntaf

·                Efallai bydd goleuadau gwan a cherddoriaeth ychydig yn uwch yn y fangre gyda'r hwyr. Byddai adloniant gyda'r hwyr hefyd

·                Byddai staff hyfforddedig yn mynd ati i symud cwsmeriaid o'r teras i'r tu mewn ar ôl i'r teras gau

·                Byddai gofynion CCTV, o ran arwyddion etc., yn cael eu bodloni

·                Byddai'r prif ardaloedd i seinyddion ar flaen yr adeilad. Roedd drysau dwbl a ffenestri gwydro dwbl yn cael eu gosod ar flaen yr adeilad

·                Nid oedd gan y seinyddion unrhyw gyfyngiad o ran uchder, ond ni fyddant yn cynhyrchu lefelau sain afresymol

·                Byddai golwg o'r camerâu diogelwch ar y teras yn cael ei dangos ger y drws blaen er mwyn i staff y drws fonitro'r ardal

·                Byddai staff yn gweithio wrth y drws ar ddydd Mercher, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul gwyliau banc

·                Gellid cytuno ar beidio â symud neu waredu ar unrhyw sbwriel, gan gynnwys poteli, na'i roi yn yr ardaloedd awyr agored ar ôl 21:00

·                Doedd dim bwriad i gael llawr dawnsio.

 

Cadarnhawyd y canlynol o ran y cwestiynau agored: -

 

·                Ni fyddai unrhyw setiau teledu ar y teras awyr agored a byddai'r staff diogelwch yn rheoli unrhyw lefelau sŵn gormodol ar y teras

·                Byddai goleuadau a gwresogyddion trydan ar y teras

·                Roedd pob lleoliad Jack Murphy yn wahanol ac yn gweithredu'n wahanol

·                Byddai bwyd yn cael ei weini tan yr amser cau

·                Roedd yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r amodau a’r gofynion cynllunio

·                Gellid cytuno ar amod i weini bwyd sylweddol

·                Byddai'r gallu i wneud hyn yn destun asesiad risg llawn

·                Roedd yr ymgeisydd yn rhagweld y canrannau canlynol: 40% ar gyfer bwyd a 60% ar gyfer diodydd

·                Byddai'r teras awyr agored yn cael ei ddefnyddio ar gyfer smygu, yfed a bwyta. Rhagwelwyd y byddai hyn yn cael ei weithredu'n debyg i fwytai awyr agored eraill gyda byrddau smygu a byrddau dim smygu

·                Byddai staff yn sicrhau nad yw diodydd yn cael eu cymryd o’r safle i'r briffordd

·                Gellid cytuno ar yr atodlen weithredu arfaethedig

 

Darparodd cwnsler yr ymgeisydd ddatganiadau i gloi

 

PENDERFYNWYD eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 Rheoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, er mwyn i'r is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais.

 

(SESIWN AGORED)

 

Rhoddodd y Prif Gyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Is-bwyllgor Trwyddedu drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd, a oedd yn cynnwys y canlynol: -

 

·                Gallai'r Is-bwyllgor Trwyddedu ganiatáu'r cais diwygiedig heb yr angen am gais newydd yn unol â phenderfyniad Taylor yn erbyn Cyngor Dinas Manceinion [2013]2 All ER 490 

·                Roedd yn bosib rhoi caniatâd i amrywio'r cais yn amodol ar amodau gwahanol o ran rannau gwahanol o'r fangre a gweithgareddau trwyddedadwy gwahanol.

·                Nid oedd 'angen' yn rhywbeth y gallai'r Is-bwyllgor Trwyddedu ei ystyried

·                Nodwyd bod sôn am ormodedd o fangreoedd trwyddedig yn yr ardal ond, yn absenoldeb tystiolaeth sy'n cydymffurfio â pharagraff 6.4 y polisi a phennod 14 yr arweiniad statudol, nid ellid ystyried hyn ymhellach.

·                Roedd yn rhaid i'r Is-bwyllgor wneud ei benderfyniad yn unol ag Adran 4 y polisi a'r arweiniad statudol er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ond, ar yr un pryd, roedd yn rhaid iddo hefyd ystyried y nodau eraill fel y’u hamlinellir ym mharagraffau 1.5 ac 1.19 yr arweiniad statudol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedi ystyried y cais, y  sylwadau a wnaed a holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu gymeradwyo'r cais fel a ddiwygir isod:

 

Addasiadau

 

Tynnu'r rhan o'r cais sy'n gofyn am chwarae cerddoriaeth fyw ar ôl 23:00 - cynigiwyd gan yr ymgeisydd.

 

Ychwanegu'r amodau a gynigiwyd yn y llythyr dyddiedig 17/5/2019 (tudalennau 36-39) fel a ddiwygiwyd gan yr atodlen weithredu arfaethedig a ddarparwyd yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu ac fel y cytunwyd arnynt gan yr ymgeisydd, a'u diwygio gan y pwyllgor fel a ganlyn: Dangosir copi o'r Atodlen Weithredu Arfaethedig fel a ddiwygiwyd isod yn Atodiad A y cofnodion hyn:

 

Atodlen Weithredu Arfaethedig

 

Amod 15 - Ni chaiff yr ardal allanol ei ddefnyddio ar ôl 23:00.

 

Amod 16 - Newid 23:00 i 21:00 fel y cytunwyd yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu

 

Yn dilyn Amod 25, ychwanegu "...ni fydd unrhyw gyfarpar cynhyrchu sŵn yn yr ardal allanol ar unrhyw adeg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i seinyddion a sgriniau teledu. Cedwir yr holl ddrysau a ffenestri ar gau ar bob adeg heblaw at ddibenion mynd i mewn ac allan...fel y cytunwyd yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu."

 

Rheswm

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu y sylwadau a wnaed gan y bobl eraill a chanfuwyd bod ardal breswyl y tu ôl i’r fangre a allai ddioddef niwsans cyhoeddus o ganlyniad i’r defnydd o’r ardal allanol ar gyfer y gweithgareddau arfaethedig ar ôl 23:00, a thanseilio hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ar gyfer atal niwsans cyhoeddus.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu y byddai lleihau'r amser gweithredu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn briodol er mwyn mynd i'r afael â'r effaith debygol hon.

 

Ychwanegu amod ar ôl amod 24 - Ar bob adeg y mae'r fangre ar agor i werthu alcohol, bydd trefniadau eistedd y fangre'n caniatáu ar gyfer o leiaf 60% o nifer y bobl a ganiateir yn ôl trefniadau diogelwch tân (i'w hadrodd i'r Awdurdod Trwyddedu pan fônt yn hysbys er mwyn i fwyd sylweddol gael ei fwyta yn y fangre.

 

Rheswm

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn ystyried ei fod yn addas i ychwanegu'r amod hwn i ategu amod 24 yn yr atodlen weithredu arfaethedig er mwyn osgoi unrhyw bryder ynghylch natur y fangre'n newid yn ystod y nos a pheidio â darparu’r profiad nos a gynigiwyd fel yr addawyd yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu. Ystyriwyd bod osgoi creu sefydliad Yfed Alcohol Sylweddol ar eich Sefyll yn addas, sef pryderon yr awdurdodau cyfrifol a'r bobl eraill. Hefyd byddai'n caniatáu i'r lleoliad ddarparu ar gyfer unrhyw gwsmeriaid sy'n cerdded i mewn ynghyd â'r rhai sydd wedi cadw lle a sicrhau cyflwyno'r profiad bwyta a addawyd pan fydd y lleoliad yn gweithredu.

 

O gofio’r amodau diwygiedig, nododd yr Is-bwyllgor fod yr awdurdodau cyfrifol yn fodlon ar yr amodau newydd y cytunwyd arnynt, ac roeddent yn fodlon na fyddai caniatáu'r drwydded, fel y'i diwygiwyd, yn tanseilio'r amcanion trwyddedu. 

 

Nododd yr Is-bwyllgor Trwyddedu y sylwadau a wnaed gan bobl eraill nad oeddent yn bresennol ond, o gofio’r diffyg ymhelaethu ac eglurhad, ni roddwyd cymaint o sylw i’r sylwadau hynny. O ran y sylwadau hynny a wnaed yn ystod cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu, rhoddwyd sylw dyladwy i'r rheiny a oedd yn ymwneud ag effaith debygol caniatáu'r cais a hyrwyddo'r amcanion trwyddedu fel a nodwyd yn Neddf Trwyddedu 2003, y polisi a'r arweiniad statudol. Teimlai’r Is-bwyllgor Trwyddedu y byddai'r amrywiadau, fel y'u cytunwyd a'u cynigiwyd uchod, yn cynnig cydbwysedd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.35pm

 

Cadeirydd

Atodiad 1

 

 

Atodlen Weithredu Arfaethedig fel y’i diwygiwyd - Jack Murphy's

 

1.         Darperir CCTV ar ffurf system recordio sy'n gallu darparu lluniau o safon dystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig cydnabyddiaeth wyneb. Bydd camerâu'n cynnwys pob mynediad i'r eiddo, allanfeydd tân ym mhob ardal y mae gan y cyhoedd fynediad iddi ac unrhyw ardaloedd yfed allanol. Rhaid bod cyfarpar yn gweithio'n dda, rhaid i'r system recordio'n gyson pan fydd yr eiddo ar agor am weithgareddau trwyddedadwy ac ar bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn yr eiddo. Rhaid i recordiadau gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, rhaid cadw recordiadau yn nhrefn eu dyddiad, wedi'u rhifo mewn trefn a'u cadw am 31 diwrnod a’u rhoi i Swyddog yr Heddlu/Swyddog yr Awdurdod Lleol ar gais. Rhaid i Ddeiliad y Drwydded Mangre sicrhau bod gan Oruchwyliwr Eiddo Dynodedig neu aelod penodedig o staff y gallu a’r cymhwyster i lawrlwytho ffilm CCTV mewn fformat y gellir ei recordio naill ai disg neu VHS i Swyddog Heddlu/Swyddog Awdurdod Lleol ar gais. Cedwir y cyfarpar recordio a'r tapiau/disgiau mewn amgylchedd diogel dan reolaeth DPS neu unigolyn cyfrifol arall a enwir. Rhaid cynnal adroddiad log dyddiol, ynghyd â llofnod, sy'n nodi bod y system wedi'i gwirio a'i bod yn cydymffurfio. Os bydd unrhyw fethiannau, bydd rhaid cofnodi'r camau gweithredu. Os bydd methiant technegol gyda'r cyfarpar CCTV, rhaid i Ddeiliad Trwydded y Fangre/DPS ddweud wrth yr Heddlu/Awdurdod Lleol am y methiant.

 

2.         Ar unrhyw ddydd Mercher, dydd Gwener, dydd Sadwrn neu ddydd Sul cyn gŵyl y banc, bydd o leiaf 2 oruchwylydd drws SIA trwyddedig yn gweithio o 21:00 pan fydd y fangre ar agor am fusnes. Ar bob adeg arall rhaid cyflogi goruchwylwyr drws SIA trwyddedig ar achlysuron pan fydd gofyniad yn cael ei nodi gan asesiad risg ysgrifenedig deiliad y drwydded. Rhoddir ystyriaeth i wyliau cyhoeddus a diwrnodau yr ystyrir eu bod yn ddiwrnodau digwyddiadau mawr yn yr ardal. Os bydd asesiad risg ysgrifenedig yn nodi bod staff drws yn ofynnol, rhaid cadw at y rhif dilynol:

         

Aelodau'r Cyhoedd sy’n Bresennol

Nifer y Goruchwylwyr Drws

1 - 100

2

100 - 250

3

250 - 500

4

500 - 750

5

750 - 1,000

6

1,000 - 1,250

9

1.250 - 1,500

10

1,500 – 2,000

12

          Os bydd mwy na 2,000, o leiaf 12 yn ogystal â stiwardiaid eraill a allai fod yn ofynnol gan y Prif Swyddog Tân neu'r cyngor.

 

3.         Rhaid cadw cofrestr rifiadol fanwl o'r goruchwylwyr drws yn y fangre ar bob adeg. Dylai cofrestr o'r fath gynnwys enw, rhif cofrestru, manylion cyswllt y staff wrth y drws ynghyd â'r dyddiad a'r amser ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd. Caiff manylion llawn yr asiantaeth sy'n cyflenwi'r staff eu cymeradwyo gan Swyddog Awdurdodedig a bydd y gofrestr ar gael i'w harchwilio ar gais ganddo.

 

4.         Bydd llyfr cofnodi achosion, mewn trefn rifiadol, yn cael ei gadw yn yr eiddo sy'n dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, niwed, damwain neu achosion o daflu allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff sy'n rhan o'r broses, natur y digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y llyfr ar gael i'w archwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.

 

5.         Heblaw am rai a werthwyd i'w cymryd oddi ar y safle mewn cynwysyddion a seliwyd, ni chaniateir cymryd unrhyw ddiodydd o'r ardal drwyddedig sydd wedi'i nodi ar y cynlluniau adnau.

 

6.         Dylid arddangos arwyddion yn amlwg wrth y fynedfa i'r fangre, yn y cyfleusterau toiledau ac mewn mannau strategol allweddol yn yr ardaloedd cyhoeddus. Bydd arwyddion yn nodi bod defnyddio cyffuriau'n annerbyniol a bod y lleoliad yn gweithredu polisi chwilio am gyffuriau ar hap fel amod mynediad gan gadw'r hawl i archwilio cwsmeriaid o dan y ddarpariaeth hon.

 

7.         Bydd polisi cwpwrdd cyffuriau ysgrifenedig, wedi'i gymeradwyo gan Heddlu De Cymru, ar gael cyn i'r fangre agor a dechrau masnachu.

 

8.         Dylai'r fangre fynd ati i gymryd rhan mewn mentrau rheolaidd i dargedu camddefnyddio cyffuriau yn y lleoliad gan gynnwys cydweithredu'n llwyr â gweithrediadau chwilio am gyffuriau a pheiriannau profi cyffuriau a gaiff eu harwain gan Heddlu De Cymru.

 

9.         Bydd y fangre'n rhan o unrhyw gynllun gorchymyn gwahardd yn yr ardal.

 

10.      Gwaherddid yfed unrhyw ddiodydd meddal neu alcoholig a brynir yn y fangre, gan gwsmeriaid y fangre, ar y briffordd yng nghyffiniau'r fangre.

 

11.      Dylai fod system ddigonol o gyfrif a chofnodi pobl sy'n mynd i mewn ac allan o'r fangre ar waith i sicrhau nad yw lefelau cwsmeriaid ym mhob ardal yn fwy na'r terfyn a gymeradwyir yn yr asesiad risg ar gyfer y lleoliad.

 

12.      Bydd staff rheoli'r lleoliad a staff drws SIA wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.

 

13.      Gosodir hysbysiadau mewn mannau amlwg wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol ac i adael yr ardal yn dawel.

 

14.      Gosodir hysbysiadau mewn mannau amlwg mewn unrhyw ardal a ddefnyddir ar gyfer smygu yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion trigolion lleol ac i ddefnyddio'r ardal yn dawel

 

15.      Ni chaniateir i’r ardal allanol gael ei defnyddio ar ôl 23:00.

 

16.      Ni cheir symud, gwaredu na gosod gwastraff, gan gynnwys poteli, yn yr ardaloedd awyr agored rhwng 21:00 ac 08:00.

 

17.      Gweithredir cynllun prawf oedran Her 25 yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod derbyniol fydd ffotograff, dyddiad geni a marc holograffig.

 

18.      Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser y gwerthiant a wrthodwyd ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Bydd y cofnod ar gael i'w archwilio yn y fangre ar gyfer yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor o hyd pan fydd y fangre ar agor.

 

19.      Rhaid i'r fangre gadw cofnodion cyfoes o hyfforddiant staff a hyfforddiant gloywi o ran gwerthiannau’n ymwneud ag oedran, gan gynnwys gwerthu trwy ddirprwy i bobl feddw ac adnabod ac atal camddefnyddio cyffuriau, ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, sydd ar gael i'w harchwilio ar gais gan swyddog awdurdodedig.

 

20.      Mae'n rhaid i bobl ifanc dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn ac ni chaniateir iddynt fod yn y fangre ar ôl 22:00

 

21.      Bydd deiliad trwydded bersonol ar gael yn y fangre ar ôl 20:00 bob dydd Mercher, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul cyn Gŵyl y Banc pan fydd gan y fangre’r hawl i werthu alcohol.

 

22.      Ni chaniateir mynediad neu fynediad am yr eildro i'r fangre un awr cyn yr amser hwyraf a ganiateir ar gyfer gwerthu alcohol.

 

23.      Rhaid archwilio toiledau'n rheolaidd at ddibenion atal cyffuriau a chaiff amserau ymweliadau o'r fath eu cofnodi.

 

24.      Bydd bwyd sylweddol a diodydd anfeddwol ar gael ym mhob rhan o'r fangre lle gwerthir alcohol neu lle caiff ei gyflenwi i'w yfed yn y fangre.

 

25.      Ar bob adeg y mae'r fangre ar agor i werthu alcohol, bydd trefniadau eistedd y fangre'n ddigonol ar gyfer o leiaf 60% o nifer y bobl a ganiateir yn ôl trefniadau diogelwch tân (i'w hadrodd i'r Awdurdod Trwyddedu pan fônt yn hysbys) er mwyn i fwyd sylweddol gael ei fwyta yn y fangre.

 

26.      Ni fydd unrhyw gerddoriaeth neu adloniant yn yr ardal allanol ar unrhyw adeg. Ni fydd unrhyw gyfarpar cynhyrchu sŵn yn yr ardal allanol ar unrhyw adeg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i seinyddion a setiau teledu.

 

27.      Cedwir yr holl ddrysau a ffenestri ar gau ar bob adeg heblaw i bobl gyrraedd a gadael

 

28.      Caiff yr ardaloedd allanol eu goruchwylio'n rheolaidd gan staff y fangre pan fyddant yn cael eu defnyddio a symudir yr holl wydrach yn brydlon.