Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol. PDF 115 KB Cofnodion: Cyflwynodd
y Cyfreithiwr Cyswllt Weithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er
gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr holl fynychwr a gofynnodd iddynt gyflwyno'u hunain. Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am
Drwydded Mangre mewn perthynas â H&R Spirits Limited, Tŷ Rodney, y tu ôl i 6 Curry Close, Dyfnant, Abertawe, SA2 7PL a dderbyniwyd gan yr
Awdurdod ar 31 Mai 2024. Cyfeiriwyd yn benodol at y cais (a'r cynllun) am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1. Atodwyd y cynllun lleoliad
yn Atodiad B. Atodwyd amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac a fydd
ynghlwm wrth y drwydded, os caiff ei rhoi, yn Atodiad C. Manylwyd ar y Sylwadau
Perthnasol yn Atodiad D. Derbyniwyd dau
sylw gan Bobl Eraill (y manylir arnynt yn Atodiad D). Roedd y sylwadau'n
ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y
cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Cyfeiriodd y
Swyddog Trwyddedu at yr amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan
y Swyddfa Gartref a'r camau gweithredu ar ôl ystyried sylwadau'r Awdurdod
Cyfrifol a Phobl Eraill. Ymhelaethodd y
Cynghorydd L S Gibbard, Aelod Ward a chynrychiolydd
Pobl Eraill, ar y sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas ag atal trosedd ac
anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag
niwed. Amlygodd y
Cynghorydd L S Gibbard natur yr ardal a oedd yn ffordd bengaead dawel a
ddefnyddiwyd i gael mynediad i'r ysgol. Roedd preswylwyr yn ofni y byddai eu
cartrefi'n dioddef gweithgarwch troseddol ac yn poeni ynghylch y prinder mannau
parcio a oedd yn broblem ar adegau penodol o'r dydd. Diolchodd y Cynghorydd L S
Gibbard i'r Ymgeisydd am gyfarfod cyn y Pwyllgor i drafod pryderon preswylwyr. Dosbarthodd yr
Ymgeisydd ffotograffau o'r safle arfaethedig. Dywedodd yr
Ymgeisydd fod yr adeilad arfaethedig wedi'i ddiogelu gan system larwm fasnachol
a ffens 2m o uchder. Roedd Heddlu De Cymru wedi ymweld â'r safle
arfaethedig ac yn fodlon na fyddai unrhyw broblemau gyda throsedd ac
anhrefn. Cyfeiriodd yr
Ymgeisydd at y busnes jin a lansiwyd yn 2022. Roedd wedi gweithio i gwmni
mawr ond wedi hynny roedd wedi penderfynu masnachu ar ei ben ei hun.. Mae panel pinc
llachar ar fan y cwmni er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r brand
lleol. Roedd y fan wedi bod ar y dramwyfa ers y ddwy flynedd ddiwethaf ac
nid oedd wedi denu diddordeb troseddwyr. Ni chafwyd unrhyw adroddiadau am
drosedd yn Nyfnant dros yr 8 mlynedd diwethaf. Ni fyddai nwyddau'n cael eu
'casglu' yn y fangre na'u danfon oddi yno. Roedd yr
Ymgeisydd wrthi'n chwilio am uned eilradd yn Fforest-fach
at ddiben storio a danfoniadau pellach a fyddai'n debygol o ddigwydd ddwywaith
yr wythnos. Rhoddodd fanylion
y fangre a oedd yn gartref preswyl a elwai o ddau gi
ac nid oedd unrhyw beth yn denu nac yn amheus y tu hwnt i gatiau'r
eiddo. Roedd ardal y garej wedi'i chymeradwyo gan yr adran hylendid bwyd
ac roedd wedi'i gosod i safon uchel gyda chwrs gwrthleithder,
ffeilio, cypyrddau cegin a lloriau a nenfwd priodol. Roedd yr Awdurdod
Tân wedi cynnal asesiad risg tân nad oedd wedi tynnu sylw at unrhyw bryderon. Byddai'r busnes
yn derbyn archebion ar-lein gan unigolion a fyddai'n cael danfoniadau lleol am
ddim a byddai hyn yn cael ei wneud yn ystod y dydd. Dywedodd yr
Ymgeisydd ei fod yn dymuno bod yn agored ac yn dryloyw a dod i ddatrysiad
cyfeillgar. Manylodd ar ei brofiad gwaith yn gweithio i gwmni fferyllol
a'i sylw i fanylion o ran ymgysylltu â CThEF. Amlygodd nad oedd
unrhyw sylwadau wedi'u cyflwyno gan Awdurdodau Cyfrifol. Manylodd yr
Ymgeisydd ar ei uchelgais fel dyn lleol i sefydlu busnes jin a defnyddio'r lle
sydd ar gael yn ei eiddo. Cyfeiriodd at y berthynas gadarnhaol â'i
gymdogion. Yn ystod y 12 mis diwethaf roedd wedi derbyn un archeb i'w
eiddo sef labeli. Mewn ymateb i
gwestiynau, dywedodd yr Ymgeisydd: 1) Fod y
busnes yn cynnig jin â blas mewn blychau o 6 ac yn derbyn cyflenwadau unwaith
bob 6 mis. 2) Bod y
busnes yn atodol i swydd yr Ymgeisydd yn ystod y dydd. 3) Bod
stoc yn cael ei symud ymlaen yn gyflym iawn ac y gallai'r ardal storio ddal
uchafswm o 200 o boteli, er y byddai'n debygol y byddai hanner y cyfanswm hwnnw
ar unrhyw adeg benodol. 4) Byddai'r
busnes yn masnachu mewn jin yn unig a byddai 35-40 blwch o 6. 5) Byddai'r
fan yn cael ei defnyddio ar gyfer danfoniadau lleol ac roedd masnach wedi'i
chyfyngu i ardal Abertawe. 6) Ei fod
yn fodlon lleihau'r gweithgarwch trwyddedadwy a'r
danfoniadau i 0800 - 2200. I gloi, dywedodd
yr Ymgeisydd ei fod yn dymuno defnyddio'r lle yn ei garej ac nad oedd yn
bwriadu effeithio ar unrhyw un. Ailadroddodd natur ddiogel yr ardal storio a'r
diffyg sylwadau gan yr Awdurdodau Cyfrifol. Roedd y cynsail wedi'i osod
i'r graddau bod y fan wedi bod yn y fan a'r lle ers 2 flynedd ac nid oedd wedi
denu unrhyw broblemau mewn perthynas â throsedd ac anhrefn. Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd
o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu
(Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb. (Sesiwn Gaeëdig) Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais. (Sesiwn Agored) Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar
amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried yn
briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: Cyflenwi
alcohol (oddi ar y safle) Dydd Llun i ddydd
Sadwrn 0800-2200 Dydd Sul 1000-2200 1.
Ni
fydd unrhyw arwyddion hysbysebu’n cael eu codi'r tu allan i'r eiddo na'r cwrtil
o'i gwmpas. Ni chaniateir mynediad cyhoeddus. Bydd system Teledu Cylch Cyfyng
(TCC) sy'n gallu recordio'n cael ei gosod i fonitro diogelwch y safle o bell
24/7. 2.
Bydd
gyrwyr dosbarthu'n gweithredu polisi Her 25 wrth wneud danfoniadau a chydag
unrhyw alcohol i'w dderbyn ar gyfer danfoniadau mewn cynwysyddion dosbarthu
caeedig. 3.
Bydd
Deiliad y Drwydded Mangre'n gyfrifol am sicrhau bod
gwerthiannau alcohol ar-lein yn cael eu hysbysebu’n gywir ac yn cynnwys
rhybuddion sy’n nodi bod yr alcohol ar werth i bobl dros 18 oed yn unig. Bydd
unrhyw fethiant i ddarparu tystiolaeth o oedran os gofynnir amdano ar y pwynt danfon
yn arwain at wrthod y gwerthiant. 4.
Rhaid
i'r fangre gadw cofnodion cyfredol o hyfforddiant
staff a hyfforddiant gloywi mewn perthynas â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag
oedran. 5.
Ni
fydd unrhyw hysbysebu ar flaen yr eiddo i ddangos bod alcohol yn cael ei storio
yn y fangre ar hyn o bryd. Mae'r fangre
wedi'i diogelu gan ddrws dur gradd fasnachol sydd â system gloi 19 pwynt.
Bydd
system TCC gynhwysfawr sy'n gallu recordio'n cael ei gosod a'i chynnal a'i
chadw yn yr ardaloedd masnachu ac yn cwmpasu pob mynedfa i'r fangre, a'r holl ffyrdd allan ohoni. Bydd y system yn
recordio'n barhaus pan fydd y fangre'n cael ei
defnyddio ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy. Bydd
y system yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol, yn enwedig adnabod
wynebau. Bydd pob recordiad yn cael ei storio am o leiaf 31 o ddiwrnodau ac yn
dangos dyddiad ac amser. Rhaid darparu'r recordiadau'n syth ar gais yr Heddlu
neu Swyddog Awdurdodedig. 7.
Bydd
aelod o staff o'r fangre sy'n gyfarwydd â
gweithrediad y system TCC yn y fangre pan fydd
gweithgareddau trwyddedadwy'n digwydd. Bydd yr aelod
o staff hwn yn gallu dangos data neu fideos diweddar i'r heddlu neu'r swyddog
awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib pan ofynnir amdanynt. 8.
Ar
bob adeg pan fydd archebion yn cael eu cyflawni a'u hanfon, bydd deiliad
trwydded bersonol yn bresennol i gynnal yr amcanion trwyddedu. 9.
Ni
chaniateir mynediad cyhoeddus i'r eiddo. Gellir mynd i mewn i'r eiddo drwy
gatiau lled llawn sy'n 2m o uchder sydd ar gau ac yn cael eu cloi pan nad ydynt
yn cael eu defnyddio. Ni ellir gweld yr eiddo o ymyl y ffordd ac mae tua 12m
o'r palmant neu'r briffordd gyhoeddus agosaf. Llwythir a dadlwythir blychau o'n
fan ar dir preifat. 10.
Mae'r
alcohol a werthir i'w ddefnyddio 'oddi ar y safle' yn unig, ac nid ydym yn
cynnig gwasanaeth 'casglu' i gwsmeriaid sy'n archebu. 11.
Ar
gyfer archebion ar-lein, rydym yn gweithio gyda negeswyr i sicrhau danfoniadau
diogel a chydymffurfiol, gyda'r mwyafrif o'n
harchebion yn rhai i sefydliadau trwyddedig eraill fel archebion cyfanwerthu. 12.
Ni
chaniateir mynediad cyhoeddus i'r adeilad. Mae drws dur gradd masnachol wedi'i osod i atal mynediad. Mae hyn
ochr yn ochr â chyflwyno system recordio TCC i
gynnal diogelwch rhag mynediad gwaharddedig. Nid oes unrhyw ran o'r adeilad yn
wynebu'r briffordd a gellir mynd i mewn iddo'n hawdd. 13.
Mae
danfoniadau wedi'u cyfyngu i'r oriau trwyddedadwy
canlynol - 0800 – 2200. Rheswm dros y Penderfyniad: Clywodd y
Pwyllgor sylwadau mewn perthynas â'r amcanion trwyddedu. Nodwyd lleoliad y fangre ganddynt, fodd bynnag mae amddiffyn plant rhag niwed
yn ymwneud ag yfed dan oed ac nid yw'r fangre ar agor
i'r cyhoedd. Er nad yw
diogelwch y cyhoedd a niwsans yn cwmpasu materion parcio, teimlai'r Pwyllgor
fod y pryderon ynghylch parcio a symud cerbydau yn cael eu cwtogi gan y ffaith
mai dim ond yr ymgeisydd fyddai'n gwneud danfoniadau. Rhoddodd y
Pwyllgor sylw i baragraff 7.4 o'r polisi trwyddedu a oedd yn nodi y gellir
gosod amodau i gyfyngu ar sŵn pan fydd mangreoedd wedi'u lleoli mewn
ardaloedd preswyl pan dderbynnir sylwadau a phan ystyrir bod hynny'n
angenrheidiol. Er mwyn lliniaru rhai o'r pryderon ynghylch sŵn cerbydau
felly, roedd y Pwyllgor o'r farn bod amod yn cyfyngu ar amser danfoniadau i'r
oriau trwyddedadwy yn briodol. Cafodd y pryderon
a godwyd ynghylch trosedd ac anhrefn eu lleddfu gan y ffaith bod y fan sy'n
hysbysebu'r busnes wedi bod ar y dramwyfa ers 2022 ac ni fu unrhyw bryderon
troseddol. Nid oedd gan yr heddlu unrhyw sylwadau i'w gwneud mewn perthynas â
throsedd ac anhrefn. Daeth y cyfarfod
i ben am 10.39
am Cadeirydd |