Agenda, penderfyniadau a cofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol. pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfreithiwr Cyswllt Weithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - South Wales Grocers Limited, 55 The Kingsway, Abertawe, SA1 5HQ. pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bob mynychwr a gofynnodd i bawb a oedd yn bresennol gyflwyno'u hunain.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre mewn perthynas â South Wales Grocers Limited, 55 Ffordd y Brenin, Abertawe, SA1 5HQ a dderbyniwyd gan yr Awdurdod ar 20 Mai, 2024.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at y cais (a'r cynllun) am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1.  Manylwyd ar y cynllun lleoliad yn Atodiad B a nodwyd rhestr o fangreoedd trwyddedig yn yr ardal yn B1.  Tynnwyd sylw at yr amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C.  Manylwyd ar Sylwadau Perthnasol yn Atodiad D a D1. 

 

Cyfeiriodd at yr Amcanion Trwyddedu, Ystyriaethau Polisi, canllawiau gan y Swyddfa Gartref a'r camau gweithredu ar ôl ystyried Sylwadau'r Awdurdod Cyfrifol a Phobl Eraill. 

 

Amlygodd fod y Cyngor wedi ailfabwysiadu polisi arbennig ar Asesiad Effaith Gronnus (AEG) ym mis Gorffennaf 2023 a bod y fangre wedi'i lleoli yn yr ardal hon.

 

Nododd yr Aelodau nad oedd y cais am drwydded mangre a oedd dan ystyriaeth yn dod o fewn yr eithriad a restrir yn yr AEG fel y nodir ym mharagraff 5.3 o'r Polisi ac felly rhaid iddynt ddangos nad oedd eu cais a'r gweithrediad arfaethedig yn ychwanegu at yr effaith gronnus.

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi ystyried y ffaith bod y lleoliad yn yr ardal effaith gronnus ac o'r herwydd roedd wedi cynnig amodi'n unol â lleoliad mewn ardal o'r fath, i sicrhau bod yr amcanion yn cael eu cynnal.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Trwyddedu at yr wybodaeth ychwanegol a ddosbarthwyd i'r Pwyllgor yn flaenorol.  Cyflwynwyd yr wybodaeth gan PC Licensing Consultancy ar ran yr Ymgeisydd a chynigiwyd y canlynol:

 

1.    Dod â'r awr derfynol ar gyfer gweithgarwch trwyddedadwy, o ddydd Llun i ddydd Sul, yn ôl i 23:00.

2.    Derbyn yr amod - dylai deiliad y drwydded bersonol fod ar ddyletswydd bob amser pan fo'r fangre ar agor at ddiben gwerthu alcohol

3.    Ni fydd poteli bach 50ml o alcohol yn cael eu gwerthu.

4.    Ni chaniateir i bobl sy'n ymddangos eu bod dan 18 oed fod yn y fangre ar ôl 21:00 oni bai eu bod yng nghwmni oedolyn.

 

Derbyniwyd sylw gan Heddlu De Cymru ar 14 Mehefin 2024.  Roedd y sylw'n ymwneud â'r effaith negyddol y byddai'n ei chael ar y pedwar amcan trwyddedu. 

 

Derbyniwyd sylw gan yr Awdurdod Trwyddedu ar 14 Mawrth 2024.  Gan fod y fangre arfaethedig wedi'i lleoli yn ardal yr AEG, teimlwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu nad oedd yr ymgeisydd wedi darparu digon o wybodaeth ynghylch pam y dylid caniatáu'r cais am drwydded mangre ac nid oedd ychwaith wedi dangos yn ddigonol sut y byddai'r Amcanion Trwyddedu yn cael eu hyrwyddo. Roedd yr AEG yn datgan ym mharagraff 5.11 pe na bai'r ymgeisydd yn gallu dangos na fyddai ei weithrediad yn ychwanegu at yr effaith gronnus, y dylid gwrthod trwydded.

 

Ymhelaethodd Cwnstabl yr Heddlu Nicola Evans, ar ei sylwadau ysgrifenedig ymhellach ynghylch tanseilio'r pedwar amcan trwyddedu. Dywedodd fod yr Ymgeisydd wedi derbyn yr amodau ychwanegol a gynigiwyd gan Heddlu De Cymru, sef:

 

1     Bod yn rhaid i Ddeiliad y Drwydded Bersonol fod ar ddyletswydd bob amser pan fo'r fangre ar agor at ddiben gwerthu alcohol.

2.    Bod yr awr derfynol ar gyfer alcohol yn cael ei leihau i 23:00.

 

Ymhelaethodd y Swyddog Trwyddedu ymhellach ar y sylwadau ysgrifenedig,  gan nodi methiant yr Ymgeisydd i ddangos sut y byddai'r fangre'n hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, yn benodol, atal trosedd ac anhrefn, niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed a thrwy hynny, beidio ag ychwanegu at yr Asesiad Effaith Gronnus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu, er i'r Ymgeisydd leihau'r awr derfynol ar gyfer gwerthu alcohol, fod ystyried sut y byddai hyn yn effeithio ar yr AEG yn dal i fod yn fater i'r Pwyllgor ei drafod.

 

Dywedodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd fod gan yr Ymgeisydd bum mlynedd o brofiad o reoli dwy swyddfa bost a siopau trwyddedig.  Nid oes siop gyfleustra ar Ffordd y Brenin ar hyn o bryd a byddai darparu alcohol yn chwarae rôl atodol fach i'r eitemau eraill oedd ar werth.  Fodd bynnag, byddai darparu alcohol yn darparu ystod lawn o opsiynau i annog cwsmeriaid i fynychu'r siop.

 

Lluniwyd y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i'r AEG a'r gweithgareddau gwrthgymdeithasol  yn yr ardal.  Byddai alcohol yn cael ei gadw'r tu ôl i gaead dan glo ac ni fyddai unrhyw alcohol dros 6abv yn cael ei werthu.  Byddai staff yn cael eu hyfforddi'n llawn.

 

Roedd y fangre arfaethedig 50 metr o adeilad InfoNation.  Mae'r problemau a geir yn yr ardal ar hyn o bryd o ganlyniad i fangreoedd presennol.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn ymwybodol o'r problemau yn yr ardal a byddai Deiliad Trwydded Bersonol ar y safle ar bob adeg.  Dywedodd na fyddai poteli bach 50ml o alcohol yn cael eu gwerthu gwerthiant

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi cynnig gwahardd cwsmeriaid dan 18 oed ac ailadroddodd mai prif nod y fangre oedd gwerthu bwydydd.  Nid bwriad yr Ymgeisydd oedd ychwanegu ymhellach at y problemau a geir yn yr ardal ar hyn o bryd.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd ei fod yn bostfeistr ac yn fanwerthwr cyfrifol a oedd wedi bod yn byw yn Abertawe am bum mlynedd.  Dywedodd ei fod yn gwbl ymwybodol o'r problemau sy'n ymwneud â gwerthu alcohol ac y byddai system fewnol gref i adnabod  pobl drafferthus. Ni fyddai unrhyw ganiau sengl neu alcohol 6abv ac uwch yn cael eu gwerthu.  Dywedodd am y diffyg siopau cyfleustra yn yr ardal a golwg 'dirywiedig' gyffredinol yr ardal.  Teimlai y byddai'r fangre o fudd i'r ardal  ac y byddai'n atal pobl rhag yfed ar y stryd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd yr Ymgeisydd/Cynrychiolydd yr Ymgeisydd:

 

1)     Mai 10% yn unig o'r lle sydd ar gael yn y fangre fyddai'n cael ei neilltuo i werthu alcohol.

2)     Y byddai'r alcohol yn cael ei gadw o fewn caead dan glo o fewn golwg yr ariannwr.

3)    Roedd gwerthu alcohol yn ategol i bwrpas y fangre sef gwerthu bwydydd yn bennaf.

4)     Roedd yn ymwybodol o'r problemau yn yr ardal a byddai pris yr alcohol yn atal pobl rhag yfed ar y stryd.

5)    Roedd rheoli dwy fangre arall, er nad oeddent yn Abertawe ond o fewn ardaloedd 'stryd fawr', wedi rhoi'r wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i'r Ymgeisydd o ran hyfforddi staff a rheoli'r problemau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

 

Dywedodd y cyfreithiwr sy'n cynghori'r Pwyllgor er nad oedd siop gyfleustra ar Ffordd y Brenin, fod mangreoedd a oedd yn gwerthu alcohol o fewn pellter cerdded i'r fangre arfaethedig.

 

I gloi, cadarnhaodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd a'r Ymgeisydd na fyddai'r cyfuniad o'r amodi ychwanegol a'r hyfforddiant staff yn ychwanegu at yr effaith gronnus yn yr ardal.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor wrthod y cais. 

 

 

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Mae gan Ddeddf Trwyddedu 2003 ragdybiaeth i roi trwydded mangre oni bai fod pryderon wedi codi y byddai gwneud hynny'n tanseilio'r pedwar amcan trwyddedu.

 

Mae trwydded mangre a geisir mewn Ardal Effaith Gronnus yn gwrthdroi'r rhagdybiaeth honno ac yn gosod baich y profi ar yr ymgeisydd i ddangos nad yw'n ychwanegu at yr effaith gronnus ar yr ardal.

 

Ni chafodd y Pwyllgor eu perswadio na fyddai'r drwydded yn ychwanegu at yr effaith gronnus o fewn yr ardal.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd fod alcohol yn gynnig atodol bach yn y siop ond gwrthddywedodd hynny drwy ddweud bod angen cynnig alcohol i gael cwsmeriaid drwy'r drws. Teimlai'r Pwyllgor fod hyn yn annog gwerthiannau alcohol ac yn cynyddu'r effaith gronnus.

 

Ni chafodd y Pwyllgor eu perswadio bod gan yr Ymgeisydd brofiad perthnasol o reoli siop mewn ardal fel Ffordd y Brenin sydd â llawer o broblemau cymdeithasol ac ymddygiadol fel yfed ar y stryd. Cadarnhaodd sylwadau'r heddlu fod "... siopau cyfleustra wedi denu elfen o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hanesyddol gan eu bod yn tueddu i fod yn ardal gynulleidfaol gan fod alcohol a chynnyrch tybaco'n cael eu gwerthu..."

 

Nid oedd yr Ymgeisydd wedi mynd i'r afael â'r broblem o yfed ar y stryd ac eithrio drwy ddweud y byddai'n dod i adnabod y rheini sy'n gwneud hynny.

 

Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu ynghylch lleoliad y fangre gan ei bod yn agos at ganolfan galw heibio i oedolion ifanc sy'n agored i niwed.

 

Ni ddarparwyd esboniad boddhaol ynghylch sut na fyddai'r Ymgeisydd yn ychwanegu at effaith gronnus yr ardal, ac felly roedd yr Ymgeisydd wedi methu cyflawni baich y prawf arno fel y gallai'r Pwyllgor wyro oddi wrth ei bolisi i wrthod trwyddedau mewn Ardal Effaith Gronnus.

 

 

 

</AI3>

<TRAILER_SECTION>

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.14 am

 

 

Cadeirydd