Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol. pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfreithiwr Arweiniol Weithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth.

 

3.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

4.

Deddf Trwyddedu 2003 Rhan 6, Cais am Drwydded Bersonol - RMP.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr holl gyfranogwyr i’r cyfarfod a chyflwynodd yr holl bartïon a oedd yn bresennol eu hunain.

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded bersonol mewn perthynas â RMP a dderbyniwyd ar 29 Ebrill 2024.    Cyfeiriwyd yn benodol at Atodlen 4 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn Atodiad A.  Amlinellwyd y cais am drwydded bersonol yn Atodiad B ynghyd â’r hysbysiad gwrthwynebu a dderbyniwyd gan Heddlu De Cymru, yn Atodiad C.

 

Amlinellodd PC Evans, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, y gwrthwynebiadau i'r cais ar ran Heddlu De Cymru mewn perthynas â thanseilio amcanion trwyddedu trosedd ac anhrefn a diogelwch y cyhoedd. 

 

Cadarnhaodd y Cyfreithiwr Arweiniol y dyddiadau yn ôl sylwadau gan Heddlu De Cymru.

 

Esboniodd RMP, ynghyd ag AM, amgylchiadau'r cais a gwybodaeth berthnasol arall ac atebodd gwestiynau'r Aelodau a'r Cyfreithiwr Arweiniol ynghylch y materion hynny.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais.

 

(Sesiwn Agored)

 

Rhoddodd y Cyfreithiwr Arweiniol a oedd yn cynghori'r Is-bwyllgor drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r Cyngor, arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor wrthod cais RMP am Drwydded Bersonol.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn nad oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol i wyro oddi wrth y Canllawiau.