Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol. PDF 115 KB Cofnodion: Cyflwynodd
y Cyfreithiwr Arweiniol Weithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er
gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol a gofynnodd iddynt gyflwyno'u hunain. Adroddodd y Swyddog
Trwyddedu am y cais i amrywio trwydded mangre mewn
perthynas â Chastell Weble, Llanrhidian,
Abertawe SA3 1HB, a dderbyniwyd gan yr awdurdod ar 15 Ebrill, 2024. Atodwyd rhestr o safleoedd trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B1. Cyfeiriodd yn benodol at y cais (a'r cynllun) am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1. Atodwyd cynllun y lleoliad
a'r ardaloedd trwyddedig yn Atodiad B. Atodwyd rhestr o safleoedd
trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B1. Atodwyd amodau sy'n gyson â'r
amserlen weithredu ac a fydd ynghlwm wrth y drwydded, os caiff ei rhoi, yn
Atodiad C. Manylwyd ar
Sylwadau Perthnasol yn Atodiad D. Derbyniwyd pum
sylw gan Bobl Eraill (y manylir arnynt yn Atodiad D). Roedd y sylwadau'n
ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus
ac amddiffyn plant rhag niwed. Cyfeiriodd y
Swyddog Trwyddedu at amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan y
Swyddfa Gartref a'r camau gweithredu ar ôl ystyried sylwadau'r Awdurdod
Cyfrifol a Phobl Eraill. Cyfeiriodd y
Cyfreithiwr Arweiniol at yr wybodaeth atodol a ddosbarthwyd yn flaenorol yn
uniongyrchol i'r Cadeirydd a oedd wedyn wedi'i dosbarthu i'r Pwyllgor gan Bobl
Eraill. Yn absenoldeb y
Bobl Eraill, cyfeiriodd y Swyddog Trwyddedu at y sylwadau/ymhelaethiadau
a oedd wedi'u cynnwys yn y pecyn agenda ac ystyriwyd hyn gan y Pwyllgor. Mewn ymateb i
gwestiynau, dywedodd yr Ymgeisydd a'r Trefnydd Digwyddiadau y canlynol: 1) roedd
y digwyddiadau blaenorol wedi digwydd o dan drwydded bresennol Castell Weble, a ddaeth i ben am 12:30 pm. 2) Cytunir
i leihau'r amseriadau. 3) Byddai
gwneud cais am drwydded yn caniatáu i'r Ymgeisydd gymryd rheolaeth dros yr
elfennau penodol nad oedd ganddo reolaeth drostynt o'r blaen, fel y gwerthiant
o'r bar a'r cyllid. Fodd bynnag, nid oedd bwriad i newid natur bresennol
y digwyddiad, sef un sy'n addas i'r teulu. 4) Byddai'r
digwyddiad yn cael ei gynnal o fewn un maes gyda mynedfeydd ar wahân i mewn ac
allan ohono. Doedd dim prinder parcio a byddai tîm o staff yn cynnwys
personél diogelwch. 5) Byddai'r
digwyddiad yn para tridiau a defnyddir dydd Mercher a dydd Iau fel diwrnodau
sefydlu ar gyfer gwerthwyr ac unigolion sy'n dymuno lleoli pebyll, a bydd
llawer ohonynt yn dychwelyd ar y dydd Gwener. 6) Ni
fyddai unrhyw faterion yn codi ynghylch cyflenwi casgenni dŵr ychwanegol
ar y safle. 7) Roedd
yr Ymgeisydd yn ymwybodol o'i rwymedigaethau o ran Tîm Rheoli'r Digwyddiad ac
yn ymgysylltu â'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch. 8) Er nad
oedd gwydr ar y safle, byddai gwydr yn cael ei ddefnyddio i arllwys hylifau i
boteli plastig. Roedd yr Ymgeisydd yn fodlon sicrhau na fyddai gwagio
poteli'n digwydd yn hwyr yn y nos/yn gynnar yn y bore a dywedodd y byddai'n
dilyn arweiniad y Pwyllgor. I gloi, dywedodd
yr Ymgeisydd fod y gwrthwynebiad mwyaf wedi bod mewn perthynas â'r newid mewn
oriau o'i gymharu â digwyddiadau blaenorol ac nad oedd bwriad i gynyddu'r oriau
o flynyddoedd blaenorol. Y newid sylweddol oedd bod yr Ymgeisydd wedi gwneud cais
am y Drwydded yn hytrach na defnyddio'r Drwydded gyfredol a ddelir gan Gastell Weble. Caniatawyd yr
amseriadau ar gyfer twf posib yn y dyfodol a bod yn greadigol wrth weithredu
mathau eraill o adloniant. Ar ben hynny,
cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei barodrwydd i leihau'r oriau yn ôl yr angen ac nid
ei fwriad oedd cynnal gŵyl sy'n aflonyddgar i breswylwyr. Roedd y
digwyddiad yn addas i'r teulu, a daeth preswylwyr lleol a busnesau lleol iddo. Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r
cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu
(Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb. (Sesiwn Gaeëdig) Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais. (Sesiwn Agored) Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais ag addasiadau'n amodol
ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried
yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: Cytuno i addasu Cerddoriaeth Fyw a Cherddoriaeth wedi'i Recordio Dydd Iau 1200 - 2330 Dydd Gwener - dydd Sadwrn 1200 - 0130 Dydd Sul 1200 - 0000 Lluniaeth yn Hwyr y Nos Dydd Gwener - dydd Sadwrn 2300 - 0130 Dydd Sul 2300 - 0000 Cyflenwi alcohol Dydd Iau 1200 - 2300 Dydd Gwener - dydd Sadwrn 1200 - 0100 Dilëwyd dydd Mercher gan fod yr Ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd y
digwyddiad yn un 4 diwrnod, felly ni fydd angen y dydd Mercher. Cadarnhaodd yr ymgeisydd y byddant yn lleihau'r oriau pe bai angen -
roedd oriau dydd Sul wedi gostwng 30 munud yn unol ag oriau Sul ar
ddigwyddiadau blaenorol. Amodau ychwanegol · Ni fydd unrhyw
boteli gwydr yn cael eu symud i finiau ailgylchu/ardaloedd y tu allan rhwng
2100 awr a 0900 awr. ·
Ar
gyfer digwyddiad 2024, addasir amod 10 i gydnabod bod y digwyddiad wedi'i
drefnu mewn llai na 3 mis; dylai trefnwyr y digwyddiad ymgysylltu â'r Grŵp
Cynghori ar Ddiogelwch ar unwaith a
chyflwyno CRhD cychwynnol. Amodau fel y'u diwygiwyd 1. Sicrhau bod
goruchwyliwr dynodedig y safle ar y safle bob amser, gan wneud gwiriadau
rheolaidd i sicrhau bod y polisïau sydd ar waith yn cael eu cynnal. 2. Cynlluniau
iechyd a diogelwch manwl ar waith i gynnal diogelwch yr holl gwsmeriaid,
ymwelwyr, plant a staff. 3. Iechyd a
diogelwch pob ardal lluniaeth gyda thystysgrifau hylendid bwyd yn cael eu
harddangos a'u goruchwylio i gynnal safonau glendid a diogelwch bwyd. 4. Cyfathrebu ag
awdurdodau lleol a sicrhau pob digwyddiad ei adrodd, ei gofnodi ac yr ymdrinnir
ag ef, os bydd unrhyw ddigwyddiadau. 5. Sicrhau bod
staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf ar y safle. 6. Arwyddion yn
amlinellu'n glir ein polisi dim goddefgarwch at ddefnyddio cyffuriau ac
ymddygiad gwrthgymdeithasol. 7. Bydd llyfr
cofnodi achosion, yn nhrefn rifiadol, yn cael ei gadw yn y fangre
sy'n dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, niwed, damwain neu droadau
allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff fu'n ymwneud â hyn, natur y
digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y llyfr ar gael i'w
archwilio gan yr Heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu. 8. Bydd cynllun
prawf oedran Her 25 yn cael ei weithredu yn y fangre
lle bydd yr unig ffurfiau adnabod derbyniol yn dwyn eu ffotograff, dyddiad geni
a marc holograffig. 9. Cedwir cofnod
yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys y
dyddiad a'r amser y gwrthodwyd gwerthu alcohol ac enw'r aelod o staff a
wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar
bob achlysur pan fydd y fangre ar agor. 10. Caiff Cynllun Rheoli'r
Digwyddiad ei gyflwyno i Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch 3 mis cyn y
digwyddiad. (2024 - cydnabyddir bod y digwyddiad wedi'i drefnu mewn llai na 3
mis o'r rhodiad hwn; dylai trefnwyr y digwyddiad ymgysylltu â'r Grŵp
Cynghori ar Ddiogelwch ar unwaith a chyflwyno CRhD
cychwynnol). 11. Ni chaniateir gweini
diodydd mewn cynwysyddion gwydr ar unrhyw adeg. 12. Ni chaniateir i'r bobl sy'n
bresennol gael unrhyw boteli gwydr ar y safle ar unrhyw adeg. 13. Cofrestr rifiadol fanwl
wedi'i rhwymo o oruchwylwyr drysau i'w chynnal bob amser yn y fangre. Dylai cofrestr o'r fath gynnwys enw, rhif
cofrestru, manylion cyswllt y staff wrth y drws ynghyd â'r dyddiad a'r amser y
mae ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd. Dylid cyflwyno manylion llawn yr
asiantaeth sy'n cyflenwi'r staff i'w cymeradwyo ynghyd â sicrhau bod y gofrestr
ar gael i'w harchwilio ar gais gan swyddog awdurdodedig. 14. Bydd dŵr yfed am
ddim ar gael ar draws y safle a bydd y dŵr yn cael ei brofi ymlaen llaw. 15. Bydd asesiad risg, ac
asesiad risg sy'n benodol i dân yn cael ei gwblhau ar gyfer pob cam o'r
ŵyl, gan gynnwys diwrnodau adeiladu, yn ystod y digwyddiad, a chyfnodau
dadosod. 16. Bydd cyfeiriad a
lleoliad unrhyw gerddoriaeth wedi'i mwynhau yn cael eu gosod yn y fath fodd i
leihau effaith sŵn, gyda strwythurau dros dro ar waith i rwystro sŵn
cymaint â phosib. 17. Bydd cynllun rheoli
sŵn llawn ar waith (gan gynnwys teithiau cerdded o amgylch y perimedr a
gwiriadau sain) a chaiff ei amlinellu yng nghynllun rheoli'r digwyddiad. 18. Bydd arwyddion yn
amlinellu telerau ein trwydded ac ynghylch ein polisi dim goddefgarwch tuag at
drosedd ac anhrefn. 19. Sicrhau bod y nifer
digonol o oruchwylwyr drws ar y safle bob amser. 20. Gorfodi polisi chwilio
bagiau wrth y fynedfa i sicrhau nad oes unrhyw eitemau peryglus nac arfau posib
yn mynd i mewn i'r ardal gyhoeddus. 21. Darperir cwpanau a
photeli plastig i leihau peryglon gwydr. 22. Sicrhau bod yr holl
feysydd a ddefnyddir gan y cyhoedd wedi'u goleuo'n dda ac yn ddiogel i'w
defnyddio gyda gwiriadau rheolaidd a bod y cyhoedd yn cael eu rhwystro rhag
cael mynediad at yr holl ardaloedd staff/ardaloedd cefn. 23. Gofyn am ddulliau
adnabod â llun wrth y fynedfa a chael proses band arddwrn â chôd
lliw i adnabod cwsmeriaid o oedran cyfreithiol i yfed alcohol. 24. Hyfforddiant staff ar
gyfer rheoli gwrthdaro a'u hysbysu o'n polisi ar gyfer gwasanaeth diogel a
datrys unrhyw faterion iddynt. 25. Darparu radios ar gyfer
cyfathrebu rhwng yr holl staff a staff diogelwch. 26. Cyflogi digon o
weithwyr proffesiynol Awdurdod y Diwydiant Diogelwch a Chymorth Cyntaf. 27. Pwyntiau cyswllt
lluosog i gwsmeriaid ddod o hyd i aelodau staff. 28. Sicrhau bod gennym
ddigon o fesurau diogelwch tân, gan gynnwys cynllun gweithredu tân, man
ymgynnull tân, mynediad clir i'r gwasanaethau brys ac ymatebwyr tân. 29. Amlinellu'r polisi
iechyd a diogelwch yn glir ar gyfer pob aelod o staff, gan gynnwys hyfforddiant
ar gyfer ein mesurau diogelwch os bydd argyfwng. 30. Cynnal asesiadau risg
manwl ac atal peryglon a nodwyd ym mhob ardal. 31. Yswiriant staff ac
atebolrwydd cyhoeddus. 32. Staff diogelwch yn
patrolio'r ardal o fewn ac o amgylch y safle er mwyn sicrhau ymddygiad diogel a
pharchus yn ogystal â sicrhau nad oes alcohol o fewn y man diogel. 33. Bydd ardaloedd staff yn cael eu cloi a'u rhwystro
er diogelwch cwsmeriaid heb awdurdod. 34. Gwiriadau
rheolaidd ar lygredd sŵn drwy gymryd darlleniadau o fan dynodedig o
amgylch y safle. 35. Peidio â
chaniatáu i gynwysyddion o alcohol gael eu hyfed y tu allan i'r fangre na'u cymryd o'r ardal oruchwyliaeth. 36. Arwyddion yn
hysbysu cwsmeriaid i fod yn dawel wrth adael y safle. 37. Stiwardiaid
sydd wedi'u dynodi i sicrhau bod gwastraff a sbwriel yn cael eu rheoli yn ystod
ac ar ôl oriau gweithredu'r safle. 38. Darparu digon o
finiau gwastraff. 39. Mae gennym
bolisi bod yn rhaid i bob plentyn o dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn bob
amser, a rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn pan fydd mewn
ardaloedd lle gellir yfed alcohol. 40. Bydd deiliaid Trwydded
Awdurdod y Diwydiant Diogelwch a/neu stiwardiaid wedi'u lleoli ger pob mynedfa
ac allanfa i'r safle bob amser gan alluogi goruchwyliaeth ac atal unrhyw blant
ar eu pen eu hunain rhag gadael y safle yn ogystal â rhoi lle amlwg diogel i
bobl sydd ar goll neu sy'n agored i niwed ddod o hyd i aelod o staff. 41. Bydd 3 prif
bwynt wedi'u marcio'n glir yn y safle lle gall pobl fynd i ddod o hyd i aelodau
staff ac arwyddion sy'n dangos yn glir sut i gysylltu â staff os oes pryderon
am ddiogelwch plentyn (prif swyddfa, pabell ddiogelwch, cymorth cyntaf) yn
ogystal â phob allanfa a mynedfa. 42. Polisi dim
goddefgarwch - os ydym yn credu ar unrhyw adeg y gallai fod risg diogelwch
plant neu os oes unrhyw amheuaeth o gamymddygiad. 43.
Ni
fydd unrhyw boteli gwydr yn cael eu symud i finiau ailgylchu/ardaloedd y tu
allan rhwng 2100 awr a 0900 awr. Rheswm dros y penderfyniad: Nododd y pwyllgor nad oedd unrhyw sylwadau wedi'u derbyn gan Heddlu De
Cymru, Safonau Masnach, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, iechyd a
diogelwch, yr awdurdod cynllunio, amddiffyn plant, yr Is-adran Llygredd, y
bwrdd iechyd lleol, yr Awdurdod Trwyddedu neu'r Gwasanaethau Mewnfudo. Nododd y Pwyllgor y derbyniwyd pum sylw gan Bobl Eraill. Roedd y
sylwadau'n ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal
niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Sail amlwg y sylwadau hynny yw'r niwsans o ganlyniad i sain wedi'i mwyafu gyda'r nos/wrth i bobl geisio cysgu. Holodd y preswylwyr ynghylch yr angen am drwydded newydd a'r rhesymau
dros y cynnydd yn nyddiau ac oriau trwyddedig cyflenwi alcohol yn unol â'r
cais. Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw Bobl Eraill yn mynychu'r Pwyllgor yn
bersonol. Fodd bynnag, derbyniwyd sylwadau estynedig yn ysgrifenedig, a
darllenwyd a chydnabuwyd yr holl sylwadau gan y Pwyllgor. Daeth y cyfarfod
i ben am 10.57
am Cadeirydd |