Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol. PDF 121 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfreithiwr Arweiniol Weithdrefn yr
Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol a gofynnodd i bawb a oedd
yn bresennol gyflwyno'u hunain. Adroddodd y Swyddog Trwyddedu ar y cais am drwydded mangre
mewn perthynas â Premier Stores, 9 Dillwyn Street, Abertawe SA1 4AE a dderbyniwyd gan yr
Awdurdod ar 15 Rhagfyr 2023. Cyfeiriodd at amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan y
Swyddfa Gartref a'r camau gweithredu ar ôl ystyried Cynrychiolaeth yr Awdurdod
Cyfrifol a Phobl Eraill. Cyfeiriodd yn benodol at y cais (a'r cynllun) am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1. Manylwyd ar y cynllun lleoliad
yn Atodiad B a nodwyd rhestr o fangreoedd trwyddedig
yn yr ardal yn B1. Tynnwyd sylw at yr amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu
yn Atodiad C. Manylwyd ar Sylwadau Perthnasol yn Atodiad D. Derbyniwyd sylw gan Heddlu De Cymru ar 11 Ionawr 2024. Roedd y sylw yn
seiliedig ar atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans
cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Ymhelaethodd Cwnstabl yr Heddlu Nicola Evans, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu,
ar ei sylwadau ysgrifenedig ymhellach ynghylch tanseilio'r pedwar amcan
trwyddedu. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch amseroedd agor/cau mangreoedd
trwyddedig eraill yng nghyffiniau'r safle. Dywedodd Mr Sami, cynrychiolydd yr Ymgeisydd, fod
yr ymgeisydd wedi nodi'r sylwadau a wnaed gan Heddlu De Cymru o ran ymddygiad
gwrthgymdeithasol, yn enwedig yfed ar y stryd ac y byddai'n cyflwyno mesurau
priodol i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd. Ychwanegodd fod yr ymgeisydd
wedi gofyn i'r safle fod yn drwyddedig i fod ar agor tan 2am ac i system deledu
cylch cyfyng a diogelwch gwell gael eu darparu, yn enwedig rhwng 11pm a 2am. Dywedodd hefyd y byddai'r ymgeisydd yn cydweithio'n agos â'r awdurdodau a'r
gymuned leol i fynd i'r afael ag yfed ar y stryd a'i atal. Ychwanegodd y byddai
agor tan 2am yn cyfrannu at ddeinameg canol y ddinas a byddai gweithredu fel
busnes cyfrifol yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr economi leol. Byddai'r mesurau
diogelu sy'n cael eu cyflwyno'n mynd i'r afael â'r materion y mae Heddlu De
Cymru'n tynnu sylw atynt. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch nifer y mangreoedd sy'n eiddo i'r
ymgeisydd, yr eitemau sy'n cael eu gwerthu yn y fangre
a'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd gyda phreswylwyr lleol. Gofynnwyd am eglurhad
hefyd ynghylch y mesurau diogelwch sy'n cael eu cyflwyno a mynd i'r afael ag
ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal y fangre. Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd
wrth yr Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd yn berchen ar 3 mangre
arall, 1 yn Abertawe a 2 ym Mhort Talbot. Byddai'r adeilad yn siop gyfleustra
sy'n gwerthu hanfodion pob dydd a phapurau newydd. Cadarnhawyd mai dim ond
busnesau oedd yng nghyffiniau'r safle, roeddent ar agor tan 11pm neu'n hwyrach
ac roedd y fangre'n wag ar hyn o bryd. Amlinellwyd y byddai gwarchodwr diogelwch trwyddedig ar ddyletswydd bob
dydd rhwng 11pm a 2am a fyddai'n atal pobl rhag ymgynnull y tu allan i'r safle.
Byddai unrhyw unigolion sy'n achosi niwsans yn cael eu recordio ar gamerâu
teledu cylch cyfyng ac ni fyddent yn cael eu gwasanaethu yn y fangre. Mynegodd Cwnstabl yr Heddlu Nicola Evans, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu bryder
bod cefn y siop yn wynebu ardal breswyl ac y byddai'r gweithredwr diogelwch
sy'n gwasgaru unigolion yn symud y problemau i fangreoedd
eraill o fewn y cyffiniau a cheisiwyd eglurhad ynghylch sut y byddent yn mynd
i'r afael â materion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cadarnhaodd Gynrychiolydd yr Ymgeiswyr ni fyddai unrhyw unigolion sy'n cael
eu recordio'n achosi niwsans yn cael eu gwasanaethu yn y safle. I gloi, ychwanegodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd y byddai'r ymgeisydd yn
gweithio gyda Heddlu De Cymru i helpu i leddfu'r problemau o ran ymddygiad
gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Penderfynwyd
eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau
Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor
cyfreithiol. Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr
am eu presenoldeb. (Sesiwn
Gaeëdig) Trafododd yr aelodau'r materion yn
ymwneud â'r cais. (Sesiwn
Agored) Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais
yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w
hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: Cyflenwi
alcohol Dydd Llun –
Dydd Sul 07:00 - 02:00 Lluniaeth yn Hwyr
y Nos Dydd Llun –
Dydd Sul 23:00 - 02:00 1.
Bydd system teledu
cylch cyfyng gynhwysfawr sy'n gallu recordio yn cael ei gosod a'i chynnal a'i chadw
a bydd yn recordio pob rhan o'r fangre a phob mynedfa
i'r fangre, ac allanfa ohoni. Rhaid i'r system teledu
cylch cyfyng recordio'n barhaus pan fydd y fangre ar
agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy ac ar bob
adeg pan fydd cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid i'r
system allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig cydnabyddiaeth
wyneb. Rhaid i bob recordiad gael ei storio am o leiaf 31 o ddiwrnodau a dangos
dyddiad ac amser. Bydd y recordiadau ar gael yn syth ar gais yr Heddlu neu
Swyddog Awdurdodedig. 2.
Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch
cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar
agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos data neu luniau
diweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib
pan y gofynnir amdanynt. 3.
Bydd yr holl alcohol a gaiff
ei werthu i'w yfed oddi ar y safle mewn cynwysyddion wedi'u selio yn unig, ac
ni fyddant yn cael eu hyfed ar y safle. 4.
Rhaid i'r fangre
gadw cofnodion wedi'u diweddaru sydd ar gael i'w harchwilio o hyfforddiant
staff yn unol â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran. 5.
Bydd Deiliad y Drwydded Mangre a'r Goruchwyliwr Mangre
Dynodedig yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw beth sy'n cael ei werthu yn y fangre'n cael ei hysbysebu'n gywir a'u bod yn cynnwys
rhybudd bod yr alcohol ar werth i bobl dros 18 oed yn unig. 6.
O na fydd person yn gallu
darparu tystiolaeth o oedran ar adeg y casgliad bydd hyn yn negyddu'r
gwerthiant a bydd pob gwrthodiad o werthiant yn cael ei gofnodi ar y daflen
gofnodi gwrthodiad o werthiant. 7.
Cedwir cofnod yn rhoi manylion
pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser
gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Dylai'r cofnod
fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu
neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor. 8.
Gosodir hysbysiadau mewn man
amlwg wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion trigolion lleol
ac i adael yr ardal yn dawel. 9.
Gweithredir cynllun prawf
oedran Her 25 yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod
derbyniol fydd llun, dyddiad geni a marc holograffig. 10. Dylai'r hysbysiadau gael eu harddangos yn glir yn y fangre
er mwyn pwysleisio i gwsmeriaid nad yw alcohol yn cael ei werthu i bobl dan 18
oed. 11. Nid oes modd
gwerthu alcohol sy'n cynnwys ABV (alcohol fesul cyfaint) o dros 6.5% mewn un
can unigol. 12. Dylai Deiliad
Trwydded Bersonol fod ar ddyletswydd bob amser pan fo'r fangre
ar agor er mwyn gwerthu alcohol. 13. Cyflogir goruchwylwyr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant
Diogelwch bob amser y mae'r safle ar agor ar gyfer gwerthu alcohol o 23:00 awr
hyd nes y bydd y fangre'n cau. Rheswm dros y
penderfyniad: Nododd y pwyllgor fod sylwadau
wedi cael eu gwneud gan un Awdurdod Cyfrifol (Heddlu De Cymru). Derbyniwyd y sylw gan Heddlu
De Cymru ar 11 Ionawr 2024 ac roedd yn seiliedig ar atal troseddu ac anhrefn,
diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Nododd y pwyllgor nad oedd
unrhyw sylwadau wedi'u derbyn gan Safonau Masnach, Awdurdod Tân Canolbarth a
Gorllewin Cymru, Iechyd a Diogelwch, Awdurdod Cynllunio, Is-adran Llygredd,
Amddiffyn Plant, Y Bwrdd Iechyd Lleol, Mewnfudo neu unrhyw bobl arall. Ystyriodd y Pwyllgor
sylwadau'r awdurdodau cyfrifol. Nododd y Pwyllgor fod yr
ymgeisydd yn bwriadu cydweithio â Heddlu De Cymru pan fo'r fangre'n
masnachu a gweithio gydag awdurdodau cyfrifol i gynorthwyo wrth ddatrys
problemau lleol sy'n deillio o'r safle. I gloi, roedd y Pwyllgor o'r
farn bod y sylwadau a wnaed, ar ôl addasu cynnwys yr amodau ychwanegol, 11, 12
a 13, yn ddigonol ac yn ddigon arwyddocaol i leddfu'r sylwadau i hyrwyddo'r
amcanion trwyddedu. |