Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynodd y cyfreithiwr arweiniol a oedd yn cynghori'r
Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol a gofynnodd i bawb a oedd
yn bresennol gyflwyno'u hunain. Adroddodd y Swyddog Trwyddedu ar y cais am Drwydded Mangre
mewn perthynas â Booze & News,
11A Nelson Street, Abertawe, SA1 3QE a dderbyniwyd
gan yr Awdurdod ar 10 Tachwedd, 2023. Cyfeiriodd at amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan y
Swyddfa Gartref a'r camau gweithredu ar ôl ystyried sylwadau'r Awdurdod
Cyfrifol a phobl eraill. Cyfeiriodd yn benodol at y cais (a'r cynllun) am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1. Manylwyd ar gynllun lleoliad yr
adeilad yn Atodiad B. Atodwyd rhestr o fangreoedd
trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B1. Manylwyd ar yr amodau sy'n gyson â'r
amserlen weithredu yn Atodiad C. Gwnaed cynrychiolaeth gan un Awdurdod Cyfrifol (Heddlu De Cymru) yn Atodiad
D. Derbyniwyd dau ddatganiad gan bobl eraill yn Atodiad D1 a D2. Cafwyd sylwadau gan Heddlu De Cymru ar 24 Tachwedd, 2023. Roedd y
sylw yn seiliedig ar atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans
cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Derbyniwyd 2 sylw gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad D1
a D2. Roedd y sylwadau'n ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y
cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cyfreithiwr Arweiniol, cadarnhaodd
pob parti eu bod wedi derbyn yr wybodaeth atodol a ddosbarthwyd yn flaenorol. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at y llythyr mewn ymateb i sylwadau gan
PC Licensing Consultancy, lle manylwyd ar yr amserlen
weithredu arfaethedig. Nodwyd y byddai'r ddau bwynt cyntaf yn cael eu
gweithredu ni waeth a roddwyd y drwydded: 1.
Cynyddu CCTV y tu allan i'r fangre (roedd tystiolaeth ffotograffig wedi'i dosbarthu'n
flaenorol). 2.
Bydd y Trwyddedai'n cyfarwyddo
aelodau o staff i wneud gwiriadau rheolaidd o'r ardal yn union y tu allan i'r fangre a chael gwared ar unrhyw sbwriel, p'un a yw wedi dod
o'r fangre ai peidio. Bydd y palmant y tu allan i'r fangre'n cael ei ysgubo a'i lanhau'n rheolaidd. 3.
Codi oedran gwerthu alcohol i
bobl dros 21 oed yn unig. 4.
Ni all unrhyw alcohol gael ei
werthu mewn caniau unigol. 5.
Bydd deiliad trwydded bersonol
ar ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor er
mwyn gwerthu alcohol. Ymhelaethodd yr Heddwas Nicola Evans, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, ei
sylwadau ysgrifenedig a cheisiodd gadarnhad bod yr ymgeisydd yn cytuno i'r ddau
amod a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru, sef: 1.
Ni all unrhyw alcohol gael ei
werthu mewn caniau unigol. 2.
Bydd deiliad trwydded bersonol
ar ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor er
mwyn gwerthu alcohol. Mewn ymateb, cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod yr ymgeisydd wedi
derbyn y ddau amod a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru. Dywedodd y Cyfreithiwr
Arweiniol fod yr amodau ychwanegol a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru yr un fath
â'r rhai a gynigiwyd gan gynrychiolydd yr ymgeisydd. Ymhelaethodd Mr Steve Gallagher, ar ran Abertawe
yn Erbyn Troseddau Busnes (SABC), ei sylwadau ysgrifenedig ynghylch tanseilio'r
pedwar Amcan Trwyddedu ymhellach. Rhoddodd fanylion am y problemau gydag
ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal a cheisiodd gael cadarnhad gan yr
ymgeisydd nad oedd unrhyw alcohol wedi'i werthu y tu allan i'r hysbysiadau TENs a ganiateir, gan fod dogfen wrthod a gyflwynwyd gan
gynrychiolydd yr ymgeisydd yn cyfeirio at wrthod gwerthiant. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at ystyried y cais yn ôl ei rinweddau ei
hun a dywedodd y gellid priodoli'r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal
hefyd i'r eiddo trwyddedig arall yn yr ardal. Mewn ymateb, cyfeiriodd Mr Gallagher at 6-7 o
fusnesau annibynnol yn yr ardal a oedd yn dymuno aros yn ddienw rhag ofn
ôl-effeithiau gan gwsmeriaid. Roedd gan yr eiddo trwyddedig arall sydd wedi'i
leoli yn y Cwadrant y fantais o gael gwarchodwr diogelwch. Dywedodd Mr Gallagher fod yr ardal yn destun
Gorchymyn Gwarchod Diogelwch y Cyhoedd, felly gallai pecyn o bedwar can o
alcohol gael eu hatafaelu'n gyfreithlon, a fyddai'n cael mwy o effaith ar yr
unigolyn yn hytrach nag atafaelu un can yn unig. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu nad oedd gan y Co-op, a oedd agosaf i'r fangre
arfaethedig, unrhyw amod sy'n atal gwerthiant caniau sengl o alcohol. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at ganiau sengl mewn ffurfiau eraill,
e.e., gwirodydd a chymysgwyr a dywedodd y byddai gwaharddiad ar werthu caniau
sengl hefyd yn cynnwys mathau eraill o alcohol. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at y sylw bellach gan Bobl Eraill nad
oeddent yn bresennol a dywedodd y rhoddwyd ystyriaeth ddyledus i gynnwys y
sylw. Dywedodd Mr Conisbee, cynrychiolydd yr ymgeisydd,
fod y modd y cafodd y fangre ei reoli'n flaenorol yn
berthnasol gan fod yr ymgeisydd wedi rhoi ystyriaeth briodol i'r holl faterion
a godwyd yn y sylwadau. Cyfeiriodd at y drwydded flaenorol a ddaeth i ben ac
oni bai am hynny, ni fyddai'r ymgeisydd wedi bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau
gan nad oedd unrhyw wrthwynebiadau i'r hysbysiadau o ddigwyddiad dros dro. Manylodd ar y mesurau a fabwysiadwyd gan yr ymgeisydd, gan gynnwys cyflwyno
llyfr gwrthod a oedd yn ymdrin â gwrthodiadau mewn perthynas ag alcohol,
e-sigaréts a sigaréts. Nid oedd y fangre wedi gwerthu
alcohol ers 12 Tachwedd, 2023 ac eto roedd unigolion yn parhau i ymgynnull yn y
cyffiniau. Cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod y gwrthodiad y cyfeiriwyd ato yn
y ddogfennaeth oherwydd nad yw'r fangre'n gwerthu
alcohol. Dywedodd fod yr ymgeisydd yn fodlon cyflwyno mesurau fel gwerthu alcohol i
gwsmeriaid dros 21 oed yn unig, camerâu CCTV ychwanegol (a oedd eisoes wedi'u
gosod o flaen y fangre) a gwrthod gwerthu caniau
unigol o alcohol. Cyfeiriodd at fathau penodol o alcohol a allai fod yn
ddeniadol i yfwyr stryd a oedd â lefel alcohol o 6.5 ABV ac uwch. Dywedodd fod
yr ymgeisydd yn awyddus i ymgysylltu ag asiantaethau i ddatrys unrhyw broblemau.
Cadarnhaodd Mr K Shanthan, yr ymgeisydd, ei fod
yn cytuno â sylwadau ei gynrychiolydd. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y
canlynol: 1.
Pan nad oedd alcohol yn cael
ei werthu yn y fangre, roedd unigolion yn dal i
ymgynnull yn agos at y fangre. 2.
Roedd yr ymgeisydd yn awyddus
i gadw blaen yr adeilad yn lân ac yn daclus ac roedd yn falch o'r fangre. 3.
Roedd yr ymgeisydd yn ystyried
newid enw'r fangre. 4.
Roedd yr ymgeisydd yn cytuno i
wrthod gwerthu caniau sengl o alcohol. 5.
Nid oedd yr ymgeisydd am
ychwanegu at unrhyw broblemau yn yr ardal na bod yn gatalydd iddynt. Rhannodd y Prif Gyfreithiwr fap o'r ardal a chadarnhawyd bod unigolion yn
ymgynnull yn Nelson Street, Plymouth
Street ac ardal y Cwadrant. I gloi, cyfeiriodd cynrychiolydd yr ymgeisydd at yr ymdrechion a wnaed gan
yr ymgeisydd i liniaru'r materion a amlygwyd yn y sylwadau'n rhagweithiol.
Dywedodd y byddai profiad ac ethos yr ymgeisydd yn fuddiol ac nid yn rhwystr. Penderfynwyd
eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau
Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor
cyfreithiol. Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr
am eu presenoldeb. (Sesiwn
Gaeëdig) Trafododd yr aelodau'r materion
ynghylch y cais. (Sesiwn
Agored) Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn
amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w
hystyried yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: Cyflenwi
alcohol Dydd Llun – Dydd Sul 0600 - 2200 awr 1.
Bydd
cofnod digwyddiad yn cael ei gadw yn y fangre, a bydd
ar gael ar gais i swyddog awdurdodedig y cyngor neu'r Heddlu, a bydd yn
cofnodi'r canlynol: ·
pob
trosedd a adroddir i'r lleoliad. ·
pob achos
o droi cwsmer allan. ·
unrhyw
gwynion a dderbyniwyd am drosedd ac anhrefn. ·
unrhyw ddigwyddiadau
o anhrefn. ·
unrhyw
ddiffygion yn y system CCTV. ·
unrhyw
ymweliad gan awdurdod perthnasol neu wasanaeth brys. 2.
Bydd CCTV yn cael ei osod, ei weithredu a'i
gynnal bob amser y mae'r fangre ar agor ar gyfer
gweithgareddau trwyddedadwy, er mwyn cydymffurfio â'r
meini prawf canlynol. Bydd y trwyddedai'n sicrhau bod y system yn cael ei
gwirio bob pythefnos i sicrhau bod y system yn gweithio'n iawn a bod y dyddiad
a'r amser yn gywir. Bydd cofnod o'r gwiriadau hyn, sy'n dangos dyddiad ac amser
y person sy'n gwirio, yn cael ei gadw a bydd ar gael i'r heddlu neu swyddogion
awdurdodedig y cyngor ar gais. Rhaid hysbysu'r heddlu os na fydd y system yn
gweithredu am fwy nag un diwrnod o fusnes am unrhyw reswm. Bydd un camera'n
dangos y fynedfa i'r fangre'n agos, er mwyn dangos
delwedd glir, hyd llawn o unrhyw un sy'n dod i mewn. Bydd y system yn darparu
fideo o unrhyw ran allanol o'r fangre sydd ar gael
i'r cyhoedd. Bydd y system yn cofnodi mewn amser real a bydd recordiadau'n
dangos dyddiad ac amser. Cedwir recordiadau am o leiaf 31 diwrnod a bydd fideos
wedi'u lawrlwytho'n cael eu darparu yn rhad ac am
ddim i'r heddlu neu swyddogion awdurdodedig y cyngor ar gais, (yn amodol ar
Ddeddf Diogelu Data 1998) o fewn 24 awr i unrhyw gais, ac ar bob adeg mae'r fangre ar agor ar gyfer gweithgaredd trwyddedadwy,
bydd person yn y fangre sy'n gallu gweithredu'r
system yn ddigonol i ganiatáu i'r heddlu neu swyddogion awdurdodedig y cyngor
weld fideos ar gais. 3.
Bydd
arwyddion sy'n nodi bod CCTV ar waith yn y fangre'n
cael eu harddangos yn glir yn y fangre. 4.
Bydd y
defnydd o CCTV yn y fangre'n cael ei gofrestru gyda
Swyddfa'r Comisiynwyr Gwybodaeth (SCG) 5.
Cedwir
cofnod sy'n manylu ar bob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod
gynnwys dyddiad ac amser gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd
ei werthu. Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre
gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor neu'r heddlu ar bob achlysur
pan fydd y fangre ar agor. 6.
Bydd blwch
cymorth cyntaf ar gael yn y fangre ar bob adeg. 7.
Bydd
asesiad risg diogelwch tân yn cael ei gwblhau'n flynyddol yn unol â
chanllawiau'r llywodraeth (Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005)
a'i gynhyrchu i swyddogion awdurdodedig y cyngor, yr heddlu a'r Gwasanaeth Tân
ar gais. 8.
Bydd yr
holl lwybrau ymadael ac ardaloedd cyhoeddus yn cael eu cadw'n ddirwystr, bydd
ganddynt arwynebau nad ydynt yn llithrig ac sy'n wastad, byddant yn rhydd o
beryglon baglu a bydd arwyddion clir arnynt. 9.
Bydd
hysbysiadau'n cael eu harddangos yn amlwg yn y fangre
yn gofyn i gwsmeriaid adael yn dawel a pharchu natur breswyl yr ardal. 10.
Ni fydd
sbwriel yn cael ei symud i'r tu allan i'r fangre
rhwng 9pm a 7am. 11.
Bydd y
trwyddedai'n cyfarwyddo aelodau o staff i wneud archwiliadau rheolaidd o'r
ardal allanol yn union o amgylch y fangre, gan dynnu
unrhyw sbwriel sy'n deillio o'r fangre. 12.
Bydd y fangre bob amser yn gweithredu polisi Her 25 i atal unrhyw
gwsmeriaid sy'n ceisio prynu alcohol ac sy'n edrych i'r aelod staff ei fod o
dan 25 oed heb ddarparu dogfennaeth adnabod yn gyntaf. Dim ond trwydded gyrrwr
Prydeinig ddilys sy'n dangos ffotograff o'r person, pasbort dilys neu gerdyn
prawf oedran sy'n dangos yr hologram 'Pass' sydd i'w
dderbyn fel dogfennaeth adnabod. Gellir derbyn cardiau adnabod milwrol hefyd.
Bydd hysbysiadau a/neu bosteri sy'n hysbysebu'r polisi Her 25 yn cael eu rhoi
mewn lleoedd amlwg yn y fangre. 13.
Bydd pob
aelod o staff sy'n gwerthu alcohol neu a fydd yn ei werthu yn y fangre'n derbyn hyfforddiant llawn sy'n berthnasol i'r
Ddeddf Trwyddedu, yn benodol o ran gwerthiannau â chyfyngiad oedran, ac yn
gwrthod gwerthu i bersonau y credir eu bod o dan ddylanwad alcohol neu
gyffuriau. 14.
Mae'r holl
hyfforddiant o'r fath yn cael ei ddogfennu'n llawn a'i lofnodi nid yn unig gan
y gweithiwr ond y person sy'n darparu'r hyfforddiant. Cedwir cofnodion
hyfforddiant yn y fangre a byddant ar gael ar gais i
naill ai Swyddogion yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor. 15.
Bydd staff
sy'n cael eu cyflogi i werthu alcohol yn derbyn hyfforddiant ar ôl cwblhau'r
cyfnod sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, bolisi gwirio
oedran y fangre, ymdrin â gwrthod gwerthiannau, prynu
drwy ddirprwy, nodi ymdrechion gan bobl feddw i brynu alcohol, a nodi arwyddion
o feddwdod. 16.
Cynyddu
CCTV y tu allan i'r fangre. 17.
Bydd y
trwyddedai'n cyfarwyddo aelodau o staff i wneud gwiriadau rheolaidd o'r ardal
yn union y tu allan i'r fangre a throsglwyddo unrhyw
sbwriel, p'un a yw'n deillio o'r fangre ai peidio.
Bydd y palmant y tu allan i'r fangre'n cael ei ysgubo
a'i lanhau'n rheolaidd. 18.
Ni ellir
gwerthu unrhyw alcohol ag ABV dros 6.5% mewn caniau unigol. 19.
Bydd
deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor er mwyn gwerthu alcohol. Rheswm dros y penderfyniad: Nododd y Pwyllgor y gwnaed sylwadau gan un Awdurdod Cyfrifol
(Heddlu De Cymru) a derbyniwyd dau sylwad gan bobl eraill Roedd y sylw a dderbyniwyd gan Heddlu De Cymru ar 24
Tachwedd 2023 yn seiliedig ar atal troseddu ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd,
atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Derbyniwyd dau sylw ychwanegol gan bobl eraill, sef PLlTB a masnachwr lleol, a oedd yn ymwneud ag atal trosedd
ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag
niwed. Cadarnhaodd pob parti eu bod wedi derbyn yr wybodaeth
atodol a ddosbarthwyd yn flaenorol. Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw sylwadau wedi'u derbyn
gan Safonau Masnach, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Iechyd a
Diogelwch, yr Awdurdod Cynllunio, yr Is-adran Llygredd, Amddiffyn Plant, y
Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Adran Mewnfudo. Ystyriodd y Pwyllgor uwch sylwadau'r awdurdodau cyfrifol
fel y'u nodwyd yn ystod cyfarfod y Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi ymgysylltu â'r
awdurdodau cyfrifol cyn cyfarfod y Pwyllgor a thrafodwyd amodau addasedig a
fyddai'n hyrwyddo'r amcanion ymhellach. Nododd y Pwyllgor er bod y sicrwydd yn bodloni sylwadau'r
heddlu, ni wnaethant dynnu eu sylwadau'n ôl. Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd yn cydnabod pob sylw. Cadarnhaodd yr ymgeisydd barodrwydd i weithio gydag
awdurdodau cyfrifol i gynorthwyo i ddatrys problemau lleol sy'n deillio o'r fangre. Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi ymgysylltu â
phartïon gyda'r bwriad o liniaru pryderon y cynrychiolydd, ac oherwydd hynny
roedd yr ymgeisydd wedi cynnig amodau ychwanegol a/neu addasedig. Byddai nodi pwyntiau 1 a 2 yn cael eu gweithredu ni waeth
a roddwyd y drwydded: 1. Cynyddu CCTV y tu allan i'r fangre
(roedd tystiolaeth ffotograffig wedi'i dosbarthu'n flaenorol). 2. Bydd y Trwyddedai yn cyfarwyddo aelodau o staff i
wneud gwiriadau rheolaidd o'r ardal yn union y tu allan i'r fangre
a chael gwared ar unrhyw sbwriel, p'un a yw wedi dod o'r fangre
ai peidio. Bydd y palmant y tu allan i'r fangre'n
cael ei ysgubo a'i lanhau'n rheolaidd. 3. Codi oedran gwerthu alcohol i
bobl dros 21 oed yn unig. 4. Ni all unrhyw alcohol gael ei werthu trwy werthu
caniau unigol. 5. Bydd deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd bob
amser pan fydd y fangre ar agor er mwyn gwerthu
alcohol. Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi darparu
tystiolaeth ar gyfer hynny ym mhwynt 1. Roedd CCTV eisoes wedi'i roi ar waith a
phan ddefnyddiwyd TENS, roedd yr ymgeisydd wedi gweithredu cofnod gwrthod
hollgynhwysol, a ddarparwyd i'r pwyllgor fel rhan o'r wybodaeth ychwanegol. Nododd y Pwyllgor ymwybyddiaeth yr ymgeisydd wrth
hyrwyddo'r amcanion drwy sicrhau bod gwiriadau rheolaidd o'r ardal y tu allan
i'r fangre a sicrhau bod deiliad trwydded bersonol ar
ddyletswydd bob amser pan fydd y fangre ar agor at
ddibenion gwerthu alcohol. Nododd y Pwyllgor barodrwydd yr ymgeisydd i godi oedran
gwerthu alcohol i bobl dros 21 oed yn unig, ond nid oes modd gorfodi cyflwr o'r
fath yn unol â deddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod amod 12 yn nodi y
byddant yn gweithredu polisi Her 25. Nododd y Pwyllgor fod sylw'r ymgeisydd wedi addasu
ymhellach pwynt 4 o'i gyflwyniad ychwanegol "ni all unrhyw alcohol i'w
werthu mewn caniau unigol" i "Ni ellir gwerthu alcohol gydag alcohol
ABV dros 6.5% mewn caniau unigol". Nododd y cynrychiolydd y rhesymeg dros
ychwanegu "ABV dros 6.5%" o ganlyniad i'w brofiad fel ymgynghorydd
trwyddedu ac yn ei gyflogaeth flaenorol fel heddwas a oedd yn ymdrin â
thrwyddedu. Trafodwyd y pwynt ymhellach gan Heddlu De Cymru a'r cynrychiolydd o
PLlTB wrth i'r pwyllgor gydnabod ei sylw a'i brofiad
yn y maes. I gloi, roedd y Pwyllgor o'r farn bod y mesurau lliniaru
a gynigir, gydag addasiadau drwy gynnwys yr amodau ychwanegol 16, 17, 18 a 19
yn ddigonol ac yn ddigon arwyddocaol i leddfu'r sylwadau i hyrwyddo'r amcanion
trwyddedu. Hawl i Apelio: Ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn mae gennych hawl i apelio
i'r Llys Ynadon. Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i Brif
Weithredwr yr Ynadon o fewn 21 diwrnod i ddyddiad derbyn yr hysbysiad hwn. |