Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd S Joy – Personol
– Cofnod rhif 3 - Deddf Trwyddedu 2003 - Adran 17 - Cais am Drwydded Mangre - Traeth Abertawe, Mumbles
Road, Brynmill, Abertawe SA2 0AY - (cyfesurynnau
51.610827, -3.966594). |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfreithiwr Cyswllt a oedd yn cynghori'r
Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol, er gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
bawb a oedd yn bresennol a gofynnodd iddynt gyflwyno'uu
hunain. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu ar y cais am Drwydded Mangre mewn
perthynas â thraeth Abertawe, Mumbles Road, Brynmill, Abertawe SA2 0AY (cyfesurynnau 51.610827,
-3.966594) a dderbyniwyd gan yr Awdurdod hwn ar 11 Hydref, 2023. Cyfeiriodd at
amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, canllawiau gan y Swyddfa Gartref a'r
camau gweithredu ar ôl ystyried Sylwadau'r Awdurdod Cyfrifol a Phobl
Eraill. Cyfeiriwyd yn benodol at y cais (a'r cynllun) ar gyfer trwydded mangre yn Atodiad A i A3. Cynhwyswyd copi o'r Cynllun
Rheoli Digwyddiadau a'r Asesiad Risg yn Atodiad A4 ac A5. Manylwyd ar gynllun
lleoliad y fangre yn Atodiad B a B1. Atodwyd rhestr o
safleoedd trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B2. Manylwyd ar yr amodau sy'n
gyson â'r amserlen weithredu yn Atodiad C. Y sylwadau a wnaed gan Is-adran
Llygredd yr Awdurdod Cyfrifol (Heddlu De Cymru yn Atodiad D a D1) yn Atodiad D2
a'r Awdurdod Trwyddedu yn Atodiad D3. Derbyniwyd dau sylw gan bobl eraill yn
Atodiad D4. Derbyniwyd sylw
gan Heddlu De Cymru ar 23 Hydref, 2023. Roedd y sylw yn seiliedig ar atal
trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn
plant rhag niwed. Derbyniwyd sylw
gan yr Is-adran Llygredd a Thîm Tai'r Sector Preifat ac roedd yn ymwneud ag
atal niwsans cyhoeddus. Derbyniwyd sylw
gan yr Awdurdod Trwyddedu ac roedd yn ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn,
amddiffyn plant rhag niwed ac atal niwsans cyhoeddus. Derbyniwyd dau sylw
gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad D4. Roedd y
sylwadau'n ymwneud â diogelwch y cyhoedd ac atal niwsans cyhoeddus. Dywedodd PC Chris
Dix, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, fod cyfarfod wedi
cael ei gynnal gyda'r Ymgeisydd wedi iddynt gyflwyno sylwadau a chytunwyd ar y
materion canlynol: 1)
Roedd
Heddlu De Cymru'n hapus i dderbyn trwydded am flwyddyn yn y lle cyntaf. Pe
bai'r cais yn cael ei ganiatáu ac nad oedd yr Ymgeisydd yn gallu cytuno ar
ddyddiad addas yn 2024 oherwydd llanw ac argaeledd adnoddau Heddlu De Cymru,
byddai'r Ymgeisydd yn ceisio trosglwyddo'r drwydded i ddyddiad addas a gytunwyd
arno yn 2025. 2)
Byddai'r
Ymgeisydd yn anrhydeddu pob cais rhesymol am Wasanaeth Heddlu Arbennig. Byddai
hyn yn cynnwys darparu adnoddau ym Mharth X. 3)
Y
contractwr a ffefrir ar gyfer Rheoli Traffig oedd JPS
Consulting sy'n brofiadol iawn ar ôl rheoli'r
cynllun traffig ar y safle yng ngŵyl gerddoriaeth Glastonbury
a'r cynllun traffig oddi ar y safle yng ngŵyl gerddoriaeth Boardmasters ers blynyddoedd lawer. Byddent yn cael eu
comisiynu i gwblhau Cynllun Rheoli Traffig gyda sylw penodol i groesi'r ffordd
ddeuol ger y traeth a llwybrau i Barc Singleton ac
oddi yna. 4)
Mae'r
Ymgeisydd yn brofiadol mewn rheoli gwyliau ar ymyl y dŵr. Y contractwr
diogelwch dŵr a ffefrir gan yr ymgeisydd yw Coast to Coast Water Safety. Mae Ymgynghorydd Diogelwch Digwyddiad yr
Ymgeisydd yn Rheolwr Diogelwch Dŵr cymwys gyda Surf
Life Saving Association GB a fydd yn goruchwylio'r cynllun
diogelwch dŵr a ddarperir gan Coast to
Coast Water Safety. Bydd
yr Ymgeisydd yn gofyn am arweiniad lleol penodol Vinny
Vincent, Goruchwyliwr Arweiniol Lleol Achubwyr Bywyd yr RNLI. Bydd yr Ymgeisydd
yn cefnogi unrhyw batrolau achubwyr bywyd presennol a byddent yn darparu
achubwyr bywyd eu hunain tan ddiwedd y digwyddiadau bob dydd o 6pm pan fydd
gwasanaeth achubwyr bywyd yr RNLI yn gweithredu ac o 12 canol dydd ar
ddiwrnodau pan nad yw'r gwasanaeth achubwyr bywyd yn gweithredu. Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau fe
gadarnhaodd Heddlu De Cymru bod niferoedd digonol o Swyddogion i ddarparu
gwasanaeth ar benwythnos arfaethedig y digwyddiad. Yn ogystal, gan fod y
cytundeb ar gyfer trwydded blwyddyn yn unig, ni ragwelwyd y byddai newid y
dyddiad yn achosi anawsterau o ran staffio'r Heddlu. Dywedodd Tom
Evans, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Adrannol, Rheoli Llygredd a Thai'r Sector
Preifat, fod cyfarfod wedi cael ei gynnal yn dilyn cyflwyno sylwadau
ysgrifenedig. Byddai cytundeb yr ymgeisydd i drwydded blwyddyn yn helpu cyn
belled â digwyddiad prawf. Ymdrinnir â materion sy'n ymwneud â gwastraff,
sŵn etc yn ystod proses y Grŵp Cynghori ar
Ddiogelwch. Mewn ymateb i gwestiynau'r
Aelodau, dywedodd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Rhanbarthol y byddai lefelau
sain yn cael eu monitro mewn modd tebyg i ddigwyddiadau mawr eraill a gynhelir
yn y ddinas. Cyfeiriodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu at ddiwygiadau ynghylch yr amodau arfaethedig fel a
ganlyn: Amod 2 Newid yr isafswm o 3 mis i 4 mis. Amod 9 Newid o 56 o ddiwrnodau i 4 mis. Amod Ychwanegol Bydd deiliad y drwydded mangre
yn cynnwys manylion y cynllun rheoli traffig ar gyfer y traeth er mwyn osgoi
gwrthdaro rhwng cerbydau a cherddwyr i sicrhau diogelwch y cyhoedd bob amser. Amod 11 Ychwanegu Polisi gwasgaru, cynllun diogelwch dŵr a
pharth X. Amod 49 Ychwanegu cynllun gwasgaru. Cynllun Rheoli Traffig Bydd angen mynd i'r afael â'r ddarpariaeth trafnidiaeth
i'r digwyddiad ac oddi yno. Amod Ychwanegol Nodi na ddylid cynnal unrhyw ddigwyddiad yn ystod unrhyw
lanw uchel/llanwau'r gwanwyn a dylai polisi diogelwch dŵr cynhwysfawr fod
ar waith. Dileu Amod 71 a nodi'r canlynol yn ei le – Darparwr diogelwch dŵr annibynnol yn lle'r RNLI neu
yn ogystal â'r darparwyr y cytunwyd arnynt, Coast
to Coast Water Safety, Surf Life Saving
Association GB a Vinny Vicent, Goruchwyliwr Arweiniol Lleol Achubwyr Bywyd yr
RNLI. Amod Ychwanegol Gwneir darpariaeth ar gyfer diogelwch dŵr drwy gydol
y digwyddiad ac nid yw'n gyfyngedig i 1800. Awgrymodd y
Cadeirydd ohirio'r cais i ganiatáu i'r Ymgeisydd ystyried yr amodau diwygiedig. Wedi ei ohirio am 10:52 Ailymgynnull am 11:10 Mewn ymateb i gwestiwn
gan y Cyfreithiwr Cyswllt, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y Grŵp
Cynghori ar Ddiogelwch i fod i gwrdd ar 9 Ionawr, 2024. Cyfeiriodd y
Cyfreithiwr Cyswllt at gynrychiolaeth gan y Cynghorydd P M May, Cynghorydd Ward
nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn ystod cyfarfod y Pwyllgor. Dywedodd fod y
rhan fwyaf o'r materion a oedd wedi cael eu cynnwys wedi cael eu datrys yn
ystod gwrandawiad y Pwyllgor. Croesawodd y
Cadeirydd Tommy Job (Ymgeisydd) gyda chymorth Kevin Instance
a fanylodd ar y cais. Dywedodd ei fod yn dymuno cynnal digwyddiad i deuluoedd
dros dri diwrnod, a fyddai'n fuddiol i'r gymuned ac a fyddai'n cynhyrchu incwm
i'r ddinas. Cyfeiriodd at y posibilrwydd o newid y dyddiad i sicrhau bod y
cynlluniau'n gynhwysfawr. Dywedodd Mr Kevin
Instance, Ymgynghorydd Diogelwch Digwyddiadau, ei fod
yn fodlon ar y diwygiadau arfaethedig i'r amodau. Roedd materion heb eu
hystyried fel y trefniadau gwasgaru, trefniadau parth X, y traeth, y promenâd,
y llwybr o'r maes parcio etc. a fyddai'n dod yn fwy clir pan fydd y Cynllun
Rheoli Traffig wedi'i gwblhau. Awgrymodd Mr Instance
y byddai'r cyfnod rhybudd o 4 mis a gynhwysir o fewn amod 9 yn gwneud y dyddiad
arfaethedig o 3-5 Mai yn anymarferol a chyda ffactorau eraill fel gêm pêl-droed
Millwall byddai dyddiad arall yn debygol o gael ei
geisio. Gofynnodd Mr Instance i'r term 'llanw uchel'
gael ei dynnu o'r amodau ychwanegol, gan fod llanw uchel yn digwydd yn aml. Mewn ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Ymgeisydd: 1)
Dewiswyd
Abertawe fel y lleoliad arfaethedig gan ei bod yn ychydig yn debyg i Gernyw. Ar ben hynny, mae'r traeth yn agos at ganol y
ddinas. 2)
Pe
bai'r cais yn llwyddiannus, byddai cyfathrebu manwl yn digwydd gyda'r lleoliad
agosaf i'r digwyddiad arfaethedig. Mae sgyrsiau cychwynnol wedi dechrau ac
adroddwyd bod y lleoliad wedi'i gyffroi gan y syniad o'r digwyddiad. 3)
Byddai
darparwyr gwasanaethau Abertawe yn cael eu defnyddio pe bai'r digwyddiad yn
cael ei ganiatáu ac felly byddai hynny'n creu incwm ar gyfer yr economi. 4)
Byddai'r
digwyddiad i deuluoedd yn denu bandiau 'canu ar hyd' sy'n addas i deuluoedd,
fel McFly, Busted. 5)
Byddai'r
digwyddiad yn ceisio cyfyngu ar ôl troed carbon ac yn gweithio gyda Surfers Against Sewerage. Byddai cwsmeriaid yn cael eu hannog i
ddefnyddio beiciau. 6)
Roeddent
yn blaenoriaethu gweithio gydag arbenigwyr lleihau sŵn i sicrhau nad oedd
llawer o aflonyddwch i'r gymuned leol. 7)
Manylwyd
ar y mathau o rwystrau a'r trefniadau diogelwch. 8)
Cadarnhaodd
yr ymgeisydd nad oedd yn bwriadu defnyddio unrhyw dân gwyllt yn ystod y
digwyddiad. I gloi, diolchodd
yr Ymgeisydd i'r Pwyllgor a phawb a oedd yn bresennol am y ddeialog adeiladol. Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd
o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu
(Gwrandawiadau) 2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb. (Sesiwn Gaeëdig) Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais. (Sesiwn Agored) Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais ar gyfer cyfnod o flwyddyn yn
amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u diwygiwyd yn
briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: Cerddoriaeth Fyw - Dydd Gwener – Dydd Sul 12:00-23:00 Cerddoriaeth wedi'i recordio - Dydd Gwener – Dydd Sul
12:00-23:00 Perfformiad Dawns - Dydd Gwener – Dydd Sul 12:00-22:00 Unrhyw beth sy'n debyg i'r disgrifiad o'r hyn sy'n cael
ei gynnwys o fewn Cerddoriaeth fyw/wedi'i recordio - Dydd Gwener – Dydd Sul
12:00-22:00 Lluniaeth yn Hwyr y Nos - Nos Wener - Nos Sul 23:00-23:30 Gwerthu Alcohol - Dydd Gwener – Dydd Sul 12:00-23:00 Oriau Agor - Dydd Gwener – Dydd Sul Canol Dydd – Canol
Nos Rhoddir y drwydded am flwyddyn ar gyfer uchafswm o 3
diwrnod olynol. Dydd Gwener i Ddydd Sul rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2024 fel
y cytunwyd gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch neu rhwng 1 Ebrill a 30 Medi
2025 os na chynhaliwyd digwyddiad yn 2024 – dylid rhoi hysbysiad o'r union
ddyddiadau ymlaen llaw. 1. Digwyddiad
blwyddyn yw hwn, gyda gweithgareddau trwyddedadwy yn
cael eu cynnal dros gyfnod o ddim mwy na 3 diwrnod. Bydd y 3 diwrnod yn
olynol a bydd yn cael ei gynnal rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2024, fodd bynnag, os
na chynhelir digwyddiad yn 2024 bydd y drwydded yn cael ei throsglwyddo am
flwyddyn yn unig ar gyfer digwyddiad i'w gynnal rhwng 1 Ebrill a 30 Medi
2025. 2. Cytuno
ar union ddyddiau a dyddiadau digwyddiadau sy'n cael eu cynnal o dan y Drwydded
hon gyda'r Awdurdod Trwyddedu, Tîm Digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe (DASA),
Heddlu De Cymru (HDC) ac aelodau eraill o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o
leiaf 3 mis cyn dyddiad dechrau'r digwyddiad. 3. Uchafswm
nifer y bobl fydd 9,999 (gan gynnwys bob person ar y safle). 4. Cytunir
ar y niferoedd gwirioneddol ar gyfer pob digwyddiad gyda'r Grŵp Cynghori
ar Ddiogelwch yn ystod y broses gynllunio. 5. Bydd
unrhyw ddigwyddiadau sy'n digwydd dan y drwydded hon yn cael eu cyflwyno i’r
Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch ac yn destun craffu ganddo. 6. Bydd
deiliad y drwydded mangre yn rhoi gwybod i'r Awdurdod
Trwyddedu yn fisol o ddyddiad gwerthu'r/dosbarthu'r tocynnau cyntaf beth yw
cyfanswm nifer y tocynnau a brosesir ar gyfer y digwyddiad. 7. Bydd
y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig (GMD) neu ei
gynrychiolydd sydd wedi'i awdurdodi'n briodol (a fydd hefyd yn ddeiliad y
drwydded bersonol) ar ddyletswydd yn y fangre bob
amser pan fo'r fangre wedi'i hawdurdodi i werthu
alcohol. 8. Rhaid
i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau bod y cofnodion
diweddaraf ar gael i'w harchwilio o hyfforddiant staff mewn perthynas â
gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran, fel yr amlinellir yng Nghynllun
Rheoli Alcohol y CRhDD. 9. Bydd
Cynllun Rheoli Diogelwch Digwyddiad addas a digonol (CRhDD)
sy'n benodol i'r digwyddiad a'r safle'n cael ei ddatblygu a'i gyflwyno i'r
Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o leiaf 3 mis cyn i ddigwyddiadau gael eu
cynnal, gan gynnwys manylion cynllun rheoli traffig ar y traeth i osgoi
gwrthdaro rhwng cerbydau a cherddwyr, gan sicrhau diogelwch y cyhoedd bob
amser. 10. Bydd
y CRhDD yn cael ei ddatblygu yn unol â'r arferion
gorau a nodir mewn cyhoeddiadau fel: The Purple Guide (2017), The Event
Safety Guide (HSG195), Managing
Crowds Safely (HSG154),
Guide to Safety at Sports
Grounds (Green Guide), Fire
Safety Risk Assessment (Open Air Events & Venues). 11. Bydd
y CRhDD yn cynnwys manylion am y pynciau canlynol:
Cynllun Rheoli Traffig, Polisi Cyffuriau, Eitemau Gwaharddedig, Polisi Chwilio,
Cyfathrebu, Cynllun Digwyddiadau Mawr, Rheoli Gwastraff, Cynllun Diogelwch a
Rheoli Torfeydd, Mesurau Gwrthderfysgaeth, Gweithdrefnau Pandemig/Clefydau
Trosglwyddadwy, Cynllun Rheoli Sŵn, Trefn y Rhaglen/Amserau Gweithredu'r
Digwyddiad, Cynllun Rheoli Alcohol, Cynllun Allanfeydd, Asesiad Risg, Asesiad
Risg Tân, Cynllun Meddygol, Cynllun Rheoli Gwynt, Cynllun Tywydd Garw, Cyfrifiadau
Lleoedd, Gweithdrefnau Gadael mewn Argyfwng, Cynllun Goleuo, Polisi Lles a
Phobl sy’n Agored i Niwed/Polisi Plant coll neu sydd wedi'u darganfod, polisi
gwasgaru, cynllun diogelwch dŵr a chynnwys ystyried ac ymdriniaeth o barth
X. 12. Bydd
y CRhDD a'i atodiadau cysylltiedig yn cael eu
hystyried yn ddogfennau 'byw' a chânt eu diweddaru a'u diwygio yn ystod camau
cynllunio'r digwyddiad. 13. Cyflwynir
fersiwn derfynol o'r CRhDD i'r Grŵp Cynghori ar
Ddiogelwch heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod cyn y digwyddiad. 14. Caiff
cynllun y safle ei gyflwyno i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o leiaf 56
diwrnod cyn y cynhelir y digwyddiadau. Bydd cynllun y safle’n cynnwys nifer a
safle'r llwyfannau, bariau, masnachwyr bwyd, mynedfeydd/allanfeydd, allanfeydd
argyfwng, cyfleusterau toiled ac ati. 15. Cyflwynir
fersiwn derfynol cynllun y safle i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch heb fod
yn hwyrach na 14 diwrnod cyn i'r digwyddiadau ddechrau. 16. Bydd
trefn rhaglenni'r digwyddiadau a darpariaeth artistiaid yn cael eu trafod
ymlaen llaw, gyda rhanddeiliaid allweddol perthnasol gan gynnwys Heddlu De
Cymru. Bydd y rhestr artistiaid yn cael ei darparu i Heddlu De Cymru 31 diwrnod
cyn y digwyddiad. 17. Rhaid
trafod unrhyw newidiadau i drefn y rhaglen â rhanddeiliaid allweddol, a chytuno
arnynt, gan gynnwys cyfarfodydd ar y safle ar ddiwrnod y digwyddiad(au). 18. Rhaid
anfon unrhyw newidiadau i'r rhestr o artistiaid at Heddlu De Cymru cyn belled
ag y bo'n rhesymol ymarferol. 19. Dylai
holl rannau'r ardal drwyddedig fod ar gael i'w harchwilio yn ystod y cyfnod y
bydd deiliad y drwydded mangre'n defnyddio'r safle,
gan unrhyw swyddog a enwir o Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub
Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Awdurdod Trwyddedu
Cyngor Abertawe neu unrhyw randdeiliad allweddol
perthnasol a awdurdodwyd yn briodol at y diben. 20. Bydd
gan ddeiliad y drwydded mangre yswiriant Atebolrwydd
Cyhoeddus hyd at o leiaf £5,000,000.00 (£5m/pum miliwn o bunnoedd) ar waith ar
gyfer unrhyw ddigwyddiad. Dylai'r dyddiad y bydd yr yswiriant mewn grym fod o 7
niwrnod cyn dechrau codi'r adeiledd ar gyfer y digwyddiad, tan ac yn cynnwys 7
niwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben. Dylai deiliad y drwydded mangre ddarparu copïau ardystiedig o'r polisi a'r
tystysgrifau yswiriant, neu brawf yswiriant derbyniol arall, i'r Awdurdod
Trwyddedu ac unrhyw randdeiliad allweddol perthnasol
ar gais. 21. Bydd
deiliad y drwydded mangre yn gweithio gyda DASA,
Heddlu De Cymru, y Contractwr Diogelwch penodedig, darparwyr gwasanaethau brys
allweddol eraill a rhanddeiliaid allweddol eraill i wneud trefniadau addas i
atal achosion o droseddu ac anhrefn. 22. Bydd deiliad y drwydded mangre'n anrhydeddu pob cais rhesymol gan Heddlu De Cymru i
ddefnyddio Gwasanaethau Heddlu Arbennig (GHA). 23. Yn
ystod y camau cynllunio ar gyfer pob digwyddiad, bydd deiliad y drwydded mangre a Heddlu De Cymru yn penderfynu p'un ai bod angen
cŵn canfod cyffuriau i helpu i orfodi'r Polisi Cyffuriau ai peidio. 24. Os
ystyrir bod angen cŵn canfod cyffuriau ar gyfer digwyddiadau penodol sy'n
cael eu cynnal dan y drwydded hon, cytunir ar nifer y cŵn gyda Heddlu De
Cymru. 25. Caiff
cwmni diogelwch a stiwardio dibynadwy a phrofiadol Awdurdod y Diwydiant
Diogelwch ei benodi i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i atal troseddu ac
anhrefn. 26. Lle
bo hynny'n berthnasol ac yn dilyn trafodaeth gyda'r Awdurdod Trwyddedu,
Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch a'r heddlu, bydd nifer cytunedig o oruchwylwyr
drysau sy’n gwisgo camerâu fideo sy'n recordio'n ddigidol yn cael eu defnyddio
yn y fangre. Defnyddir y camerâu fideo a wisgir ar y
corff i gofnodi unrhyw ddigwyddiadau sy'n digwydd y tu mewn neu'r tu allan i'r fangre sy'n ymwneud â chwsmeriaid, darpar gwsmeriaid neu
unrhyw aelod o staff, sy'n effeithio ar unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu.
Bydd cofnodion data ar gael ar unwaith i swyddog awdurdodedig yr awdurdod lleol
neu i swyddog yr heddlu, ynghyd â chyfleusterau i'w gweld ar gais, yn amodol ar
ddarpariaethau'r Ddeddf Diogelu Data. Caiff y manylion hyn eu storio am o leiaf
31 diwrnod. 27. Bydd
eitemau gwaharddedig yn cael eu trafod a'u cytuno gyda rhanddeiliaid allweddol
perthnasol. Ym mhob achos, ni chaniateir sylweddau anghyfreithlon, arfau,
sylweddau peryglus, tân gwyllt a ffaglau (ac eithrio'r rheini a gyflenwir gan
gontractwyr) i'r digwyddiadau. 28. Bydd
biniau amnest yn cael eu darparu a'u diogelu wrth fynedfa'r fangre
ar gyfer eitemau gwaharddedig y gallai fod gan bobl. Bydd y gwaith o waredu
cynnwys y biniau amnest yn cael ei gydlynu â Heddlu De Cymru. 29. Ni
chaniateir i gwsmeriaid ddod â'u halcohol eu hunain i'r safle. Caiff hyn ei
amlinellu yn y CRhDD. 30. Bydd
arwyddion priodol yn bresennol ar y safle a fydd yn hysbysu'r rheini sy'n
bresennol bod Polisi Cyffuriau mewn grym a bod chwiliadau'n amod mynediad. 31. Bydd
y Polisi Cyffuriau yn cynnwys sylweddau dan reolaeth, sylweddau seicoweithredol newydd yn ogystal â NO2/NOS/ocsid
nitraidd. Ni chaniateir yr un o'r sylweddau hyn ar y safle. 32. Bydd
y gwaith chwilio'n cael ei gynnal yn unol â'r Polisi Chwilio yn y CRhDD a rhaid ei gynnal wrth fynd i mewn i sicrhau
diogelwch y cyhoedd/staff. 33. Bydd
staff cofrestredig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch yn cynnal chwiliadau o bobl
o'r un rhyw â nhw. 34. Gwrthodir
mynediad i unrhyw sydd â mwy na'r symiau y cytunwyd arnynt ar gyfer defnydd
personol (fel yr amlinellir yn y polisi cyffuriau) o sylweddau dan reolaeth neu
sylweddau seicoweithredol newydd, a bydd yr heddlu'n
cael gwybod ar unwaith. 35. Gwrthodir
mynediad i unrhyw un sydd ag arf ymosodol a bydd yr heddlu'n cael gwybod ar
unwaith. 36. Dylid
cadw Cofrestr Achosion yn yr eiddo sy'n dangos manylion dyddiad ac amser pob
ymosodiad, niwed, damwain neu droadau allan, yn ogystal â manylion aelodau'r
staff sy'n rhan o'r broses, natur y digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad.
Rhaid i'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu neu swyddogion
awdurdodedig. 37. Bydd
cofrestr o wrthodiadau yn cael ei chadw sy'n rhoi manylion pob achos o wrthod
gwerthu alcohol. 38. Bydd
deiliad y drwydded mangre yn darparu dŵr yfed
cludadwy am ddim yn unol â'r amodau gorfodol a bydd hwn ar gael drwy gydol y
digwyddiadau. 39. Bydd
Ymgynghorydd Diogelwch y Digwyddiad cymwys a phrofiadol ar ddyletswydd bob
amser yn ystod y digwyddiadau. 40. Darperir
Ystafell Gyswllt/Caban Argyfwng er mwyn gallu monitro’r digwyddiad yn gyson
mewn lleoliad gorchymyn ar gyfer cynrychiolwyr yr awdurdod lleol a'r
gwasanaethau brys sy'n bresennol ar y safle. 41. Bydd
Cofnodwr Rheoli Digwyddiadau yn cael ei ddarparu i sicrhau bod unrhyw
broblemau'n cael eu cofnodi'n amserol, yr ymgynghorir arnynt a'u bod yn cael eu
diweddaru drwy gydol y digwyddiad. 42. Bydd
deiliad y drwydded mangre a'i gynrychiolwyr, gan
gynnwys Ymgynghorydd Diogelwch y Digwyddiad, yn trefnu ac yn hwyluso sesiynau
briffio rheolaidd ar y safle i Awdurdodau Cyfrifol a'r Gwasanaethau Brys fel y
cytunwyd gyda'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch. 43. Deiliad
y drwydded mangre, neu gynrychiolydd enwebedig, sy’n
gyfrifol am y digwyddiad a bod yn bresennol drwy'r amser ynddo, ac eithrio lle
bydd swyddogion awdurdodedig y Gwasanaethau Brys yn gyfrifol am y fath
reolaeth, ac ni ddylai gyflawni unrhyw weithgareddau eraill a fydd yn ei atal
rhag goruchwylio'r digwyddiad yn gyffredinol. 44. Mae'n
rhaid i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau bod yr
holl stiwardiaid a phersonél diogelwch wedi'u hyfforddi'n briodol ac yn gallu
cyflawni'r dyletswyddau a glustnodir iddynt, ac yn 18 oed neu'n hŷn, a
phan fyddant ar ddyletswydd dylent ganolbwyntio ar eu dyletswyddau'n unig ac
nid ar yr adloniant. 45. Bydd
y CRhDD a'r Cynllun Rheoli Torfeydd yn amlinellu
nifer, safle a rolau'r staff diogelwch a stiwardio sy'n gweithio yn y
digwyddiadau. 46. Mae'n
rhaid i ddeiliad y drwydded mangre sicrhau bod
stiwardiaid a phersonél diogelwch yn deall eu rolau a'r ffordd briodol o ymdrin
ag achosion, eu cofnodi ac adrodd amdanynt. Dylai personél o'r fath: a. beidio â gadael eu safle heb ganiatâd; b. peidio ag yfed na bod dan ddylanwad
diodydd meddwol, gan gynnwys alcohol neu gyffuriau; c. rhaid iddynt aros yn ddigyffro a bod yn
gwrtais tuag at bob aelod o'r gynulleidfa. 47.
Bydd pob stiward a phersonél diogelwch yn gwisgo dillad arbennig i sicrhau y
gellir eu hadnabod yn unigol. 48.
Dylid cynnal cofrestr o stiwardiaid a phersonél diogelwch bob amser ar y safle.
Dylai cofrestr o'r fath gynnwys enw, rhif cofrestru Awdurdod y Diwydiant
Diogelwch, manylion cyswllt yr aelod o staff ynghyd â'r dyddiad a'r amser ar
ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd. 49. Darperir
"cynllun gwasgaru" ar gyfer mynediad i'r digwyddiad(au) a gadael y digwyddiad(au) i'r
Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch a'u cytuno i'w cynnwys yn y CRhDD gan gynnwys y ddarpariaeth cludiant i'r digwyddiad ac
oddi yna a'r Cynllun Rheoli Traffig/Cynllun Allanfeydd hollgynhwysol. 50. Lle
yr ystyrir bod hynny'n angenrheidiol gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch,
darperir arwyddion rhybudd ymlaen llaw digonol/arwyddion mynediad i
ddigwyddiadau ar y safle i gynorthwyo gyda phroblemau traffig yn yr ardal a
cheisio'u lleihau. 51. Cynhelir
Asesiadau Risg ac Asesiadau Risg Tân addas a digonol gan berson cymwys. Bydd y
digwyddiadau'n gweithredu yn unol â'r Asesiadau Risg a'r CRhDD. 52. Darperir
y math a'r nifer priodol o gyfarpar difodd tân ar draws y safle. Nodir
lleoliadau a niferoedd y cyfarpar yn y CRhDD a'r
Asesiad Risgiau Tân. 53. Gosodir
arwyddion addas i sicrhau y gall cwsmeriaid ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas y
safle (bariau, dŵr yfed, toiledau, Cymorth Cyntaf) ac allanfeydd argyfwng. 54. Bydd
mynediad addas a llwybrau argyfwng yn cael eu cynnal bob amser. 55. Caiff
cynllun manwl o osodiad terfynol y safle ei gyflwyno i'r Awdurdod Trwyddedu a'r
Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o leiaf 14 niwrnod cyn i'r digwyddiad
ddechrau, a dylai'r ardal lle bydd y gerddoriaeth sydd wedi'i mwyhau a'i
threfnu yn cael ei chwarae gael ei hamlinellu'n glir yn goch. Dylid nodi
lleoliad yr holl adeileddau a chyfleusterau gan gynnwys ffyrdd ac ardaloedd y
digwyddiad yn glir a dylid dangos mynedfeydd ac allanfeydd yr holl adeileddau
ac ardaloedd. Dangosir lleoliadau Cyfarpar Diffodd Tân, Mannau Cymorth Cyntaf a
Mannau Gwybodaeth hefyd. Dylai'r cynllun safle gynnwys grid a chyfeirnodau. 56. Bydd
system giwio yn cael ei chynllunio a'i gweithredu wrth y brif fynedfa i leihau
amser aros wrth gynnal diogelwch y dorf. 57. Darperir
lefel addas o oleuni ger yr holl fynedfeydd/allanfeydd, llwybrau
mynediad/gadael a llwybrau dianc mewn argyfwng ar gyfer parhad y digwyddiad. 58. Lle
defnyddir goleuadau tŵr, bydd y rhain naill ai'n cael eu gosod yn
ardaloedd cefn y tŷ neu wedi'u ffensio i atal mynediad i'r cyhoedd. 59. Dylai
bod gan y digwyddiadau system ddigonol o gyfrif a chofnodi pobl sy'n mynd i
mewn ac allan o safle'r digwyddiad ar waith i sicrhau nad yw lefelau cwsmeriaid
ym mhob ardal yn fwy na'r terfyn a gymeradwyir yn yr asesiad risg a'r CRhDD. Rhaid sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i
swyddogion awdurdodedig drwy gydol y digwyddiad ac ar gais. 60. Yn
ystod y digwyddiadau byw, ni fydd unrhyw gerbydau yn symud mewn ardal
gyhoeddus, oni bai bod angen fel rhan o weithgareddau hanfodol a gyflawnwyd gan
y Gwasanaethau Brys. 61. Os
bydd yn hanfodol symud cerbydau, caiff hyn ei awdurdodi gan Ymgynghorydd
Diogelwch y Digwyddiad a'i oruchwylio gan staff diogelwch. 62. Llwyfannau/Pebyll/Pebyll
Mawr/Adeileddau Dros Dro - Bydd gan bob strwythur adeiledd dystysgrif gwblhau a
gyhoeddir gan berson cymwys o'r cwmni cyflenwi ac a ddarperir i Ymgynghorydd
Diogelwch y Digwyddiad. 63. Rhaid
darparu tystysgrif cymeradwyo trydanol briodol, a gyhoeddwyd ar adeg y gwaith
gan berson cymwys, ar gyfer pob gwaith trydanol dros dro i Ymgynghorydd
Diogelwch y Digwyddiad, a rhaid iddi fod ar gael i'w harchwilio os gofynnir i
chi wneud hyn gan Swyddogion Awdurdodedig. 64. Dylai
deiliad y drwydded mangre gydymffurfio â holl
geisiadau rhesymol yr awdurdod trwyddedu ac unrhyw randdeiliad
allweddol perthnasol ynghylch unrhyw ddiffygion yn y tystysgrifau a'r dogfennau
y cyfeirir atynt yn y drwydded hon a sicrhau y cynhelir y safonau a ardystiwyd
yn ystod y digwyddiad. 65. Bydd
deiliad y drwydded mangre neu'r cynrychiolydd
enwebedig yn rheoli'r systemau sain fel y gall negeseuon sy'n cael eu cyhoeddi
dorri ar draws yr adloniant cerddorol ac y gellir eu cyflwyno'n glir ac yn
glywadwy i bob ran o'r safle. 66. Ni
chaniateir poteli gwydr na chynwysyddion yfed gwydr yn yr ardaloedd sy'n
hygyrch i'r cyhoedd a bydd deiliad y drwydded mangre
yn cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i atal personau rhag dod ag
unrhyw eitemau gwydr i'r safle. Bydd gwydr yn cael ei gadw y tu ôl i fariau a bydd diodydd yn cael eu harllwys i lestri plastig
neu bolycarbonad. Bydd caniau hefyd yn cael eu harllwys i lestri plastig. Gall
nifer cyfyngedig o wydrau fod yn bresennol mewn ardaloedd artistiaid a
lletygarwch cefn llwyfan ond bydd gan ddeiliad y drwydded mangre
fesurau ar waith i sicrhau nad yw'r rhain yn cael eu cario i'r prif ardaloedd
adloniant cyhoeddus. 67. Bydd
awdurdodau perthnasol yn cymeradwyo unrhyw byrodechnegau/laserau
ymlaen llaw a chânt eu storio i leihau unrhyw risg i ddiogelwch y rheini sy'n
defnyddio'r fangre. 68. Bydd
unrhyw arddangosiadau pyrotechnegol yn dilyn yr holl
ganllawiau deddfwriaeth cyfredol a dim ond cyflenwyr cymwys y mae eu safonau
wedi'u harchwilio ymlaen llaw fydd yn ymgymryd â nhw. 69. Bydd
pob agwedd ar ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei thrafod ymlaen llaw gyda'r
rhanddeiliaid allweddol perthnasol yn ystod y broses Grŵp Cynghori ar
Ddiogelwch. Amlinellir manylion y rhain yn llawn yn y CRhDD. 70. Cyn
i safle'r digwyddiad agor i'r cyhoedd, gwahoddir aelodau'r Grŵp Cynghori
ar Ddiogelwch i gynnal archwiliad o'r safle. 71. Bydd
trefnwyr yn cyflogi darparwr diogelwch dŵr annibynnol yn lle, neu yn
ogystal â'r RNLI, cytunir ar ddarparwyr fel Coast
to Coast Water Safety, Surf Life Saving
Association GB a Goruchwyliwr Achubwyr Bywyd yr
RNLI Lleol a fydd yn rhoi sylw i ddiogelwch dŵr drwy gydol y digwyddiad ac
yn sicrhau nad yw'r digwyddiad yn amharu ar batrol yr
RNLI lleol ac maent yn gallu darparu eu gwasanaethau arferol. 72.
Na ddylid cynnal unrhyw ddigwyddiad yn ystod llanwau'r gwanwyn a bod polisi
diogelwch dŵr cynhwysfawr ar waith. Meddygol a Lles 73. Bydd
deiliad y drwydded mangre yn cynnal Asesiad Risg
Meddygol addas a digonol yn ogystal â defnyddio HSG195 i bennu'r lefel briodol
o ddarpariaeth Cymorth Cyntaf ar gyfer y digwyddiadau, fel nad oes galw
gormodol ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Darperir manylion llawn yn y Cynllun
Meddygol a'r CRhDD. 74.
Darperir cyfleusterau lles fel yr amlinellir yn y CRhDD. 75. Bydd
Polisi Pobl Agored i Niwed yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r CRhDD. 76. Dylai
deiliad y drwydded mangre wneud trefniadau addas i
alluogi pobl ag anableddau i fynd i'r digwyddiadau. Dylid rhoi sylw penodol i
fynedfeydd ac allanfeydd, llwybrau dianc/gadael mewn argyfwng a'r cyfleusterau
gwylio i bobl o'r fath. Rheoli Gwastraff/Toiledau 77. Bydd
gweithdrefnau casglu a gwaredu sbwriel digonol ar waith y tu mewn ac o gwmpas
cyffiniau'r digwyddiad. Bydd y gwaith glanhau ar ôl y digwyddiad yn cael ei
gynllunio a'i drafod ymlaen llaw gyda'r rhanddeiliaid allweddol perthnasol er
mwyn bod mor effeithiol â phosib o ran amser. Cytunir ar gwmpas y gwaith
glanhau ar ôl y digwyddiad gyda’r Tîm Parciau cyn y digwyddiad. 78.
Cesglir a gwaredir gwastraff yn aml i atal sbwriel a/neu ddeunyddiau hylosg a
all fod yn beryglus, rhag cronni. 79. Darperir
digon o garthffosiaeth yn unol ag arweiniad cyfredol (The Purple
Guide 2017) a'r hyn a fanylir yn y CRhDD. 80. Bydd
darpariaeth iechydol ddigonol yn cael ei rhoi ar waith yn y digwyddiad ac mewn
ardaloedd allanol yn y cyffiniau y cytunwyd arnynt (os ystyrir bod hynny'n
angenrheidiol gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch). 81. Ni
chwaraeir unrhyw gerddoriaeth sydd wedi'i mwyhau ar ôl 23:00. 82. Bydd
Ymgynghorydd Rheoli Sŵn profiadol sydd â chymwysterau addas yn cymryd rhan
er mwyn cysylltu â Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd i ddatblygu a gweithredu
Cynllun Rheoli Sŵn y CRhDD. 83. Ni
ddylai'r Lefel Sŵn Cerddoriaeth mewn mangreoedd sy'n sensitif i sŵn
yn y cyffiniau fod yn uwch na 65 dBA dros gyfnod o 15
munud. 84. Bydd
yr Ymgynghorydd Rheoli Sŵn yn monitro lefelau sŵn o'r digwyddiad yn
ofalus er mwyn sicrhau nad ydynt yn uwch na'r lefelau dB
hyn. Bydd pob darlleniad dB ar gael i Swyddog Iechyd
yr Amgylchedd gydag adroddiad llawn ar ôl y digwyddiad yn cael ei ddarparu heb
fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y digwyddiad. 85. Bydd
preswylwyr lleol yn derbyn hysbysiad ymlaen llaw am bob digwyddiad gan gynnwys
manylion amseru'r digwyddiad (gan gynnwys gwiriadau sain). Cytunir ar radiws
dosbarthu'r llythyr hysbysu gyda'r awdurdod lleol. Mae hyn i gynnwys busnesau
lleol y gallai mynychwyr effeithio arnynt wrth ddod i mewn ac allan o'r
digwyddiad. 86. Bydd
"llinell gymorth" sŵn hefyd yn cael ei chynnwys i ganiatáu i
breswylwyr gysylltu â chynrychiolydd digwyddiad os bydd angen iddynt wneud cwyn
yn ystod y digwyddiad. 87. Bydd
yr holl alwadau i'r llinell gymorth sŵn yn cael eu cofnodi a bydd yr
wybodaeth berthnasol yn cael ei rhoi i'r Ymgynghorydd Rheoli Sŵn. 88. Lle
y bo'n bosib, gwneir cyflenwadau/casgliadau o'r safle ar adeg resymol er mwyn
cael yr effaith leiaf bosib ar breswylwyr lleol. 89. Gosodir
arwyddion a fydd yn dweud wrth fynychwyr digwyddiadau i adael yn dawel er mwyn
peidio ag amharu ar breswylwyr lleol. 90. Ni
chaniateir adloniant i oedolion. 91. Bydd
Polisi Her 25 mewn grym ym mhob bar ar y safle. 92. Bydd
arwyddion addas ar waith i roi gwybod i gwsmeriaid am y Polisi Her 25. 93. Rhoddir
sylw arbennig i wirio cardiau adnabod wrth i bobl gyrraedd y a bariau. 94. Rhaid
i unrhyw un o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn wrth gyrraedd y safle (gweler
y Cynllun Rheoli Digwyddiadau – Cynllun Tocynnau am ragor o fanylion) 95. Lle
bo'n berthnasol ac fel y cytunwyd gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, bydd
gweithwyr lles plant proffesiynol â chymwysterau addas/profiad (sydd â gwiriad
GDG) yn bresennol i helpu gyda materion o ran pobl ddiamddiffyn/diogelu. 96. Bydd
polisi plant/pobl sy'n agored i niwed coll/a ganfuwyd yn cael ei gyflwyno fel
rhan o'r CRhDD. 97. Bydd
personél meddygol â chymwysterau addas ar gael i ymdrin ag unrhyw faterion sy'n
ymwneud â phlant fel y bo'n briodol. Rheswm dros y
Penderfyniad: Nododd y Pwyllgor sylwadau a dderbyniwyd gan yr
awdurdodau cyfrifol. Nododd y Pwyllgor yr holl sylwadau gan drigolion lleol a'r
sylwadau a wnaed gan y cynghorydd ward lleol. Nododd y pwyllgor nad oedd unrhyw sylwadau wedi'u derbyn
gan Safonau Masnach, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, yr awdurdod
cynllunio, amddiffyn plant, y bwrdd iechyd lleol neu fewnfudo. Ystyriodd y pwyllgor y sylwadau sydd wedi'u cyfoethogi
gan yr awdurdodau cyfrifol fel y nodwyd yn ystod cyfarfod y pwyllgor. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi ymgysylltu â'r awdurdodau cyfrifol
cyn y pwyllgor a bod amodau addasedig sy'n hyrwyddo'r amcanion wedi'u trafod,
wrth hefyd roi sicrwydd a chyllid ar gyfer GHA sy'n bodloni'r heddlu'n ddigonol
gan achosi iddynt ddiddymu eu sylwadau a chefnogi'r cais bellach. Nodwyd unwaith eto, ar ôl trafod ymlaen llaw ac addasiad
arfaethedig pellach i'r amodau gan yr ymgeisydd, y gallai'r is-adran lygredd
gefnogi'r cais ar yr amod y cydymffurfir â'r holl amodau ac nad oes unrhyw
doriadau na niwsans yn codi wrth gynnal y digwyddiad. Pe bai unrhyw doriadau
o'r fath yn codi yna byddent yn ymdrin â'r digwyddiad dan eu pwerau statudol. Gwellodd yr awdurdod trwyddedu eu sylwadau ymhellach a
chynhigiwyd amodau ychwanegol sylweddol gyda'r bwriad o hyrwyddo cynnal y
digwyddiad yn ddiogel yn unol â'r amcanion trwyddedu ond gan ei wneud yn
ofynnol i'r ymgeiswyr ymgysylltu'n gynnar ac yn barhaus â'r Grŵp Cynghori
ar Ddiogelwch. Nododd y pwyllgor fod yr ymgeisydd yn cydnabod yr holl
sylwadau a phryderon trwy ymgysylltu ymlaen llaw â phob parti gyda'r bwriad o
liniaru pryderon y cynrychiolwyr a chynnal y digwyddiad yn unol ag amcanion
trwyddedu a dewis artistiaid sy'n addas ar gyfer y lleoliad. Cadarnhaodd yr ymgeisydd hefyd barodrwydd i weithio gyda
phreswylwyr lleol i helpu wrth ddatrys problemau lleol sy'n dod o'r safle. Mae'r ymgeisydd yn agored i ymgysylltu â'r grŵp
cynghori ar ddiogelwch yn gynnar ac yn cydnabod manteision arferion gwaith da
gyda'r holl awdurdodau cyfrifol. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn dweud ei fod yn fodlon â'r
amodau arfaethedig ychwanegol, er wrth wneud hynny awgrymodd y byddai addasu
amod 9 i gyfnod rhybudd o 4 mis yn gwneud y dyddiad arfaethedig yn anymarferol
ac felly byddai'n debygol y byddai angen chwilio am ddyddiad arall. Ystyriodd
yr aelodau sylw a chynigion yr awdurdodau trwyddedu a'r posibilrwydd o ddyddiad
arall. Penderfynodd yr aelodau fod cynnydd o 56 o ddiwrnodau i 3 mis yn gymesur
gan roi amser ychwanegol i bob parti ymgysylltu â'r grŵp cynghori ar
ddiogelwch, wrth ganiatáu i'r digwyddiad gael ei gynnal ar y dyddiad
arfaethedig a hefyd gyd-fynd â sylwadau'r heddlu i allu trosglwyddo cyrff sydd
eisoes ar gael i'r digwyddiad pe bai angen. Felly, teimlai'r aelodau fod y mesurau lliniaru sy'n cael
eu cynnig, gydag addasiadau sy'n cynnwys rhai o'r argymhellion a gyflwynwyd gan
yr awdurdod trwyddedu sef amodau 9, 11, 49, 71, 72 a bod y drwydded yn un
blwyddyn yn ddigonol ac yn ddigon sylweddol i liniaru'r sylwadau sy'n weddill i
hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Hawl Apelio: Ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn mae gennych hawl i apelio
i'r Llys Ynadon. Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i Brif
Weithredwr yr Ynadon o fewn 21 diwrnod i ddyddiad derbyn yr hysbysiad hwn. |