Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu
Statudol, er gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn
cyflwyniadau ffurfiol amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w
mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre newydd
mewn perthynas â The Langrove, Parkmill,
Southgate, Abertawe SA3 2AB Cyfeiriodd at yr
amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, arweiniad gan y Swyddfa Gartref a
chamau gweithredu yn dilyn ystyried gwrthwynebiadau'r bobl berthnasol. Cyfeiriwyd yn benodol at gais am drwydded mangre yn Atodiad A ac A1, cynllun lleoliad y fangre yn Atodiad B, yr amodau sy'n gyson â'r amserlen
weithredu yn Atodiad C a'r sylwadau a wnaed gan Bobl Eraill yn Atodiad Ch. Derbyniwyd tri
sylw gan bobl eraill. Atodwyd copi o'u sylwadau yn Atodiad Ch. Roedd y
sylwadau'n ymwneud ag atal troseddu ac anhrefn a niwsans cyhoeddus. Yn absenoldeb y
bobl eraill, darllenodd y Swyddog Trwyddedu'r sylwadau (fel y manylir yn
Atodiad Ch): Croesawodd y
Cadeirydd Ms S Craig, Ymgeisydd.
Cyfeiriodd Ms Craig at y sylw a dderbyniwyd gan Mr B Stewart a dywedodd
fod camddealltwriaeth wedi bod ac roedd hi'n hapus i addasu oriau'r cais i 12:00
– 20:30, o ddydd Llun i ddydd Sul (yn unol ag oriau'r Clwb Iechyd). Nodwyd bod y Clwb Iechyd ar gau am 17:00 ar
ddydd Sadwrn a dydd Sul ar hyn o bryd ond ei fwriad oedd ymestyn yr oriau hyn i
21:00, sy'n esbonio pam y nodwyd yr amserau hyn yn ei chais. Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw estyniad
i'r oriau presennol byddai'n cau am 17:00.
At hynny, nodwyd bod y Clwb Iechyd a'r Caffi yn rhannu'r un system
ddiogelwch felly ni fyddai modd gweithredu heibio 17:00 ar ddydd Sadwrn a dydd
Sul. Cyfeiriodd Ms
Craig at e-bost o gefnogaeth gan Mr B Stewart, er i Swyddogion Trwyddedu
gadarnhau nad oedd e-bost o'r fath wedi ei dderbyn. Cyfeiriodd Ms
Craig at y sylwadau gan Mr a Mrs Porter a Mr Newcombe. Dywedodd fod y twmpathau cyflymder ar y lôn
yn atal unrhyw gerbyd rhag teithio mwy na 10mya. Yn ogystal, derbyniwyd 1 gŵyn mewn
cyfnod o 10 mlynedd (a oedd yn ymwneud â'r Clwb Iechyd). Roedd Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad oedd
cwynion wedi eu derbyn. Cyfeiriodd Ms S
Craig at yr anawsterau a brofir gan fusnesau bach yn ystod yr hinsawdd
economaidd bresennol a dywedodd bod ei chais yn gofyn am ddarparu gwydraid o
win neu gwrw gyda phryd o fwyd, a fyddai'n fuddiol i'r gymuned ac yn rhoi hwb
i'r busnes o bosib. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, nododd Ms Craig: ·
Roedd
y siop goffi wedi bod yn gweithredu ers wythnos felly roedd yn anodd deall sut
y gallai'r materion a godwyd gan wrthwynebwyr ymwneud â'r busnes. ·
O ran
cael gwared ar sbwriel/boteli gwag, roedd hi'n hapus i newid yr amseroedd i
09:00 – 20:30. ·
Rhan
o'i threfniant prydles oedd sicrhau glendid yr ardal, felly roedd gwasanaethau
gwaredu gwastraff ar waith. ·
Byddai'n
cymryd cyfrifoldeb am weithredu a chynnal a chadw teledu cylch cyfyng. ·
Roedd
coffr ar y safle, pe bai angen i gyffuriau a atafaelwyd gael eu storio'n
ddiogel. ·
Byddai
darpariaeth ar gyfer cludfwyd. I gloi, manylodd
Ms Craig ar natur ei busnes a dywedodd fod y preswylwyr lleol yn mynd i'r siop
goffi a'u bod yn canmol y gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig. Dywedodd Ms Craig na fyddai'r cais i weini
alcohol yn annog cwsmeriaid o'r tu allan i'r ardal i fynd i'r siop goffi, ond
yn darparu cynnig gwell i'r gymuned leol.
Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r
gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau)
2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb, a chynghorodd y byddai
penderfyniad yn cael ei ddarparu o fewn 5 niwrnod gwaith. (Sesiwn Gaeëdig) Trafododd yr
aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais. (Sesiwn Agored) Nododd y
Cadeirydd y byddai penderfyniad yr Is-Bwyllgor yn cael ei gyhoeddi o fewn pum
niwrnod gwaith i gyfarfod y Pwyllgor ac y byddai'n ystyried y cais a'r sylwadau
a wnaethpwyd ac anghenion a buddiannau pob parti o ran Datganiadau Polisi
Trwyddedu'r cyngor, yr arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003. Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais yn amodol
ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried
yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: Cyflenwi
Alcohol/Oriau agor Cyflenwi alcohol Dydd Llun – Dydd Sul 1200 – 2030 1.
Bydd system CCTV gynhwysfawr
y gellir recordio arni yn cael ei gosod a'i chynnal a chadw yn yr holl
ardaloedd masnach, sy'n cynnwys golwg ar bob mynedfa ac allanfa i'r
fangre. Rhaid i'r system teledu cylch
cyfyng recordio'n barhaus pan fydd y fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau
trwyddedadwy ac ar bob adeg pan fydd cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid i'r system
allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig cydnabyddiaeth wyneb. Rhaid i bob recordiad gael ei storio am o
leiaf 31 o ddiwrnodau a dangos dyddiad ac amser. Bydd y recordiadau ar gael yn syth ar gais yr
Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig. 2.
Bydd llyfr cofnodi achosion,
yn nhrefn rifiadol, yn cael ei gadw yn y fangre sy'n dangos manylion dyddiad ac
amser pob ymosodiad, niwed, damwain neu droad allan, yn ogystal â manylion
aelodau'r staff fu'n ymwneud â hyn, natur y digwyddiadau a'r cam
gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y llyfr ar gael i'w archwilio gan yr Heddlu a
Swyddogion Awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu. 3.
Gosodir hysbysiadau mewn man
amlwg wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol
ac i adael yr ardal yn dawel. 4.
Ni cheir symud, gwaredu na
gosod gwastraff, gan gynnwys poteli, yn yr ardaloedd awyr agored rhwng 2030 ac
0800. 5.
Gweithredir cynllun prawf
oedran Her 25 yn y fangre a'r unig ffurfiau adnabod derbyniol fydd llun,
dyddiad geni a marc holograffig. 6.
Cedwir cofnod yn rhoi
manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol.
Dylai'r cofnod gynnwys y dyddiad a’r amser y gwrthodwyd ei werthu ac
enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu.
Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu neu
Swyddog Awdurdodedig y cyngor ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor. 7.
Rhaid i'r fangre gadw
cofnodion diweddar o hyfforddiant staff a hyfforddiant gloywi o ran gwerthu yn
ymwneud ag oedran, gan gynnwys gwerthu drwy ddirprwy, gwerthu i bobl feddw ac
adnabod ac atal camddefnyddio cyffuriau, ar ffurf ysgrifenedig neu electronig,
sydd ar gael i'w harchwilio gan Swyddog Awdurdodedig. 8.
Dylai'r hysbysiadau gael eu
harddangos yn glir yn y fangre er mwyn pwysleisio i gwsmeriaid nad yw alcohol yn
cael ei werthu i bobl dan 18 oed. 9.
Rhoddir 30 munud i orffen
diodydd ar ben yr amser hwyraf a ganiateir ar gyfer gwerthu alcohol er mwyn i
gwsmeriaid ddefnyddio'r toiledau a gadael y fangre. Rheswm dros y Penderfyniad: Nododd y Pwyllgor na dderbyniwyd unrhyw sylwadau perthnasol gan awdurdodau
cyfrifol. Nododd y Pwyllgor sylwadau'r preswylwyr lleol. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn nad
oedd y materion a godwyd yn gysylltiedig â'r cais am drwydded mangre. Nododd y Pwyllgor sylwadau'r ymgeisydd. Teimlai'r Pwyllgor fod addasu'r oriau gweithredu a'r amodau yn ddigonol ac
yn ddigon arwyddocaol i ddyrchafu sylwadau'r preswylydd lleol ynghylch yr
effaith y byddai rhoi trwydded yn ei chael ar yr amcanion trwyddedu. |