Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu
Statudol, er gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn
cyflwyniadau ffurfiol amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y weithdrefn i'w
mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre mewn perthynas â The
Storyteller. Yn dilyn cyflwyniadau ffurfiol amlinellodd y Cyfreithiwr Cyswllt y
weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor wrth ystyried y cais. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu am y cais am drwydded mangre newydd mewn perthynas â The
Storyteller, 40-42 Princess Way, Abertawe SA1 5HE Cyfeiriodd at yr
amcanion trwyddedu, ystyriaethau polisi, arweiniad gan y Swyddfa Gartref a
chamau gweithredu'n dilyn ystyried gwrthwynebiadau'r bobl berthnasol. Cyfeiriwyd yn benodol at gais am drwydded
mangre yn Atodiad A ac A1, cynllun lleoliad o'r fangre yn Atodiad B, rhestr o
fangreoedd trwyddedig yn yr ardal yn Atodiad B1, amodau sy'n gyson â'r amserlen
weithredu yn Atodiad C a'r sylwadau a wnaethpwyd gan Bobl Eraill yn Atodiad CH. Cyfeiriodd y
Swyddog Trwyddedu at y saith e-bost gwybodaeth ychwanegol a ddosbarthwyd i bob
parti. Derbyniwyd un
sylw gan bobl eraill. Atodwyd copi o'r
sylw yn Atodiad CH. Roedd y sylw yn
ymwneud ag atal troseddu ac anrhefn, niwsans cyhoeddus, diogelwch y cyhoedd,
amddiffyn plant rhag niwed. Cadarnhaodd y
Swyddog Trwyddedu nad oedd y 'Person Arall' yn gallu bod yn bresennol oherwydd
ymrwymiadau gwaith. Darllenodd y
Swyddog Trwyddedu yr ymateb gan y Person Arall mewn perthynas â'r wybodaeth ychwanegol
a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd fel a ganlyn: “Prynhawn da.
Yn dilyn yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd ynglŷn â'r lleoliad hwn,
hoffwn y canlynol. Yn ychwanegol at fy ngwrthwynebiad mewn ymateb, er fy mod yn
rhoi ystyriaeth i'r llythyr gan un o breswylwyr Pearl House, mae'r adeilad yn
cynnwys 42 o fflatiau a byddai lefelau aflonyddwch wrth gwrs yn amrywio yn
dibynnu ar leoliad preswyl o fewn yr adeilad. Pe bawn i'n byw yng nghefn yr
adeilad yna wrth gwrs byddai hyn yn llai. Efallai nad oedd y preswylydd arall
gartref ar noson y parti agoriadol, felly hoffwn i fy natganiad ynglyn â'r
noson honno gael ei ystyried o hyd.
Croesawodd y
Cadeirydd Mr Ioannis Benekis (Ymgeisydd) a Mr Aaaryn Whitelock (Ymgeisydd). Dywedodd Mr
Benekis ei fod yn ceisio datblygu math gwahanol o letygarwch. Manylodd ar ei gefndir sy'n cynnwys 17
mlynedd o brofiad mewn gwahanol leoliadau yng Ngwlad Groeg ac Abertawe. Cyfeiriodd at ei weledigaeth i greu lleoliad
sy'n hygyrch i bawb, gan gynnig lleoliad dymunol i deuluoedd yn ystod y dydd
yng nghanol y ddinas. Cyfeiriodd at
leoliad y fangre a diffyg datblygiad yn yr ardal dros y blynyddoedd
diwethaf. Dywedodd fod y lleoliad yn
gweithio gyda phobl oedd yn rhan o'r Celfyddydau gan ddarparu llwyfan i bobl
fynegi eu hunain a'i fod yn darparu cynnig a chwsmeriaid gwahanol i'r
mangreoedd ar Wind Street. Cyfeiriodd at
gam-gyfathrebu o ran y noson agoriadol ynglŷn â staff drws a chadarnhaodd,
er nad oedd staff drws yn bresennol ar y noson honno, y byddent yn cael eu
cyflogi ar y safle ar nos Wener a nos Sadwrn ac unrhyw ddyddiau lle mae oriau
estynedig. Cyfeiriodd at
ddiogelwch teuluoedd a dywedodd na fyddai'r fangre'n hybu yfed yn ormodol. Manylodd ar y mesurau sydd ar waith o ran
hyfforddi staff mewn perthynas â gwerthu alcohol a diogelwch cwsmeriaid ar y
safle. Tynnodd sylw at y
defnydd o gamerâu cylch cyfyng ar y safle a'r tu allan i'r safle, a chyfeiriodd
at enghraifft o ble roedd fideo o ladrad y tu allan i'r safle wedi cael ei roi
i Heddlu De Cymru. Mae'r safle'n
gweithio'n agos gyda'r Ardal Gwella Busnes (BID), sefydliadau a chymdeithasau
lleol (mae digwyddiad elusennol wedi'i gynllunio o fewn y misoedd nesaf). Teimlai na fyddai'r safle'n ychwanegu at
unrhyw broblemau o fewn yr ardal ac y byddai cyfrifoldeb cymdeithasol yn cael
ei gymryd o ddifrif. Cyfeiriodd at yr
ohebiaeth gefnogol gan Mr Rees a chadarnhaodd nad oedd Mr Rees yn gweithio yn
The Storyteller ond yn ffotograffydd ac yn gwsmer cyson o'r lleoliad. O ran strategaeth
farchnata, roedd y lleoliad yn dibynnu ar y gair llafar a chefnogaeth cwsmeriaid. Roedd yn
ymwybodol o daflen a oedd yn cael ei dosbarthu o fewn Pearl House ynglŷn
â'r lleoliad a dywedodd fod pryderon preswylwyr lleol yn cael eu cymryd o
ddifrif. Cyfeiriodd at drafodaethau gyda
Swyddogion Trwyddedu yn dilyn y digwyddiad agoriadol, ac aeth i'r afael â'r
materion ynghylch diffyg staff drws, a'r drws yn cael ei adael ar agor ar ôl
9.30pm ar ddamwain ond yn cael ei gau wedi hynny. Ers hynny roedd y lleoliad wedi cael ei
brofi gyda drysau caeedig ac ni fyddai'n achosi niwsans. Ni fyddai llawer o ddigwyddiadau ac yn sicr
ni fyddent yn ddyddiol nac yn wythnosol. Pwysleisiodd nad oedd y lleoliad am
greu unrhyw niwsans cyhoeddus a chyfeiriodd at yr hysbysiadau sy'n ei gwneud yn
ofynnol i gleientiaid fod yn barchus i breswylwyr lleol wrth adael y
lleoliad. Byddai'r lleoliad
yn cynnal digwyddiad elusennol o fewn y misoedd nesaf gyda CRISIS. Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau, nododd Mr Benekis, 1)
Roedd dyblygu mewn perthynas ag
amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu, a gellir dileu rhif 5 a rhif 7. 2)
Cytunodd i newid yr amserau
gwaredu poteli i 9pm tan 8am. 3)
Mae biniau yng nghefn y safle
mewn lôn a ddefnyddir gan safle arall ac nid oes unrhyw sbwriel yn cael ei
symud o'r eiddo yn ystod y nos. 4)
Byddai cais am drwydded
palmant yn cael ei wneud o fewn yr wythnos nesaf. 5)
Byddai amod yn cael ei gynnwys
ynglŷn ag yfed y tu allan, sy'n datgan y byddai yfed tu allan ond yn cael
ei ganiatáu o fewn yr ardal a ddynodir gan drwydded palmant. I gloi, dywedodd
Mr Whitelock fod llawer iawn o amser ac ymdrech wedi'i roi i'r safle er mwyn
creu lleoliad amrywiol, diogel ac hamddenol (er enghraifft, roedd parti plant
wedi cael ei gynnal yn y lleoliad). Cyfeiriodd at fentrau megis darparu
tocynnau a allai gael eu defnyddio gan bobl ddigartref ar gyfer diodydd poeth a
bwyd am ddim. Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r
gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu (Gwrandawiadau)
2005, fel y gall yr Is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu presenoldeb, a chynghorodd y byddai
penderfyniad yn cael ei ddarparu o fewn 5 niwrnod gwaith. (Sesiwn Gaeëdig) Trafododd yr
aelodau'r materion yn ymwneud â'r cais. (Sesiwn Agored) Nododd y Cadeirydd
y byddai penderfyniad yr Is-Bwyllgor yn cael ei gyhoeddi o fewn pum niwrnod
gwaith i gyfarfod y Pwyllgor ac y byddai'n ystyried y cais a'r sylwadau a
wnaethpwyd ac anghenion a buddiannau pob parti o ran Datganiadau Polisi
Trwyddedu'r cyngor, yr arweiniad statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003. Penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol
ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u haddaswyd i'w hystyried
yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu isod: Cyflenwi
Alcohol/Oriau agor Cerddoriaeth
wedi'i Recordio Nos Sul – nos Iau 2300 – 0030 Nos Wener – nos Sadwrn 2300 – 0130 Cyflenwi alcohol Dydd Sul - dydd Iau 1200 – 0000 Dydd Sul - dydd Sadwrn 1200 -
0100 1.
Bydd
y safle'n cadw'r cofnodion diweddaraf am hyfforddiant i staff a hyfforddiant gloywi mewn perthynas â
gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran,
gan gynnwys gwerthiannau procsi i bobl sy'n feddw ac adnabod ac atal camddefnyddio cyffuriau, mewn fformat
ysgrifenedig neu electronig sydd ar gael
i'w archwilio ar gais gan swyddog awdurdodedig. 2.
Gosodir hysbysiadau yn yr
holl fannau allanol a ddefnyddir yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion
preswylwyr lleol ac i ddefnyddio'r ardal yn dawel. 3.
Bydd system CCTV gynhwysfawr
y gellir recordio arni yn cael ei gosod a'i chynnal a chadw yn yr
holl ardaloedd masnach, sy'n cynnwys golwg ar bob mynedfa ac allanfa i'r
fangre. Rhaid i'r system gofnodi'n barhaus pan mae'r fangre ar agor
ar gyfer gweithgareddau trwyddedig ac yn ystod pob cyfnod pan fo cwsmeriaid ar
y safle. Rhaid i'r system allu darparu lluniau o safon dystiolaeth, yn enwedig
cydnabyddiaeth wyneb. Mae'n rhaid i bob recordiad gael ei storio am o leiaf 31
niwrnod gyda dyddiad ac amser. Rhaid
sicrhau bod recordiadau ar gael yn syth ar gais yr Heddlu neu Swyddog
Awdurdodedig. 4.
Bydd llyfr cofnodi
digwyddiadau, wedi'i rwymo mewn trefn rifiadol, yn cael ei gynnal ar y safle
gan ddangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, anaf, damwain neu
ddigwyddiad o droi cwsmeriaid allan, yn ogystal â manylion yr aelodau o staff
dan sylw, natur y digwyddiad a'r camau gweithredu/canlyniad. Rhaid i'r llyfr
fod ar gael i'w archwilio gan yr Heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu. 5.
Bydd hysbysiadau'n cael eu
harddangos yn amlwg ger pob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion y preswylwyr lleol
a gadael yr ardal yn dawel. 6.
Ni fydd unrhyw yfed tu allan i'r safle heblaw
gan gwsmeriaid sy'n defnyddio ardal y mae ganddi drwydded caffi palmant. Ni
ddylid defnyddio gwydrau ym mhob ardal o'r fath. 7.
Ni fydd sbwriel, gan gynnwys
poteli, yn cael ei symud, ei dynnu neu ei osod mewn ardaloedd tu
allan rhwng 2100 a 0800. 8.
Rhoddir 30 munud i orffen diodydd ar ben yr
amser hwyraf a ganiateir ar gyfer gwerthu alcohol er mwyn i gwsmeriaid
ddefnyddio'r toiledau a gadael y fangre. 9.
Heblaw am gael mynediad i'r fangre neu ei
gadael, dylid cadw pob drws ar gau. 10.
Ni ddylai unrhyw gwsmeriaid yn y fangre fynd
ag unrhyw wydrau na photeli gwydr y tu allan i'r fangre. 11.
Dylai'r
ardal awyr agored gael ei goruchwylio'n rheolaidd gan staff y fangre pan fydd yn cael ei defnyddio. 12.
Caiff hysbysiadau eu harddangos ger pob
allanfa yn gofyn i gwsmeriaid smygu o fewn yr ardal ddynodedig. 13.
Ni fydd unrhyw seinyddion uchel allanol yn cael eu
defnyddio yn y fangre nac o'i hamgylch. 14.
Bydd y cynllun prawf oedran Her 25 yn cael ei
weithredu yn y fangre lle bydd yr unig ddulliau adnabod
derbyniol yn cynnwys ffotograff, dyddiad geni a marc
holograffig. 15.
Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o
wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r
cofnod gynnwys dyddiad ac
amser y gwerthiant a wrthodwyd ac enw'r aelod o staff wnaeth wrthod y
gwerthiant. Bydd y cofnod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar
bob adeg pan fo'r fangre ar agor. 16.
Bydd y fangre'n cadw'r
cofnodion diweddaraf am hyfforddiant i staff a hyfforddiant gloywi mewn perthynas â
gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran, gan gynnwys gwerthiannau procsi i
bobl sy'n feddw ac adnabod ac atal camddefnyddio cyffuriau, mewn fformat
ysgrifenedig neu electronig sydd ar gael i'w archwilio ar gais gan swyddog
awdurdodedig. 17.
Bydd hysbysiadau yn cael eu
harddangos yn glir yn y fangre i bwysleisio i gwsmeriaid y gwaherddir gwerthu alcohol
i bobl dan ddeunaw oed 18.
Ni fydd unrhyw adloniant,
perfformiad, gwasanaeth nac arddangosfa sy'n cynnwys noethni neu ysgogiad
rhywiol a fyddai'n dod o fewn y diffiniad o sefydliad rhyw yn Atodlen 3 o
Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 fel y'i diwygiwyd gan
Ddeddf Plismona a Throsedd 2009), yn cael eu darparu. Rheswm dros y Penderfyniad: Nododd y Pwyllgor na dderbyniwyd unrhyw sylwadau perthnasol gan awdurdodau
cyfrifol. Nododd y Pwyllgor sylwadau'r preswylydd lleol a'i sylwadau ychwanegol. Nododd y Pwyllgor sylwadau'r ymgeisydd a gwybodaeth ategol yr ymgeisydd a ddarparwyd
cyn y pwyllgor. Yn ogystal, nodwyd sylwadau'r ymgeisydd ynghylch sylwadau'r
preswylydd lleol a materion y noson agoriadol. Nododd y Pwyllgor fod yr ymgeisydd yn cydnabod pryderon y preswylydd lleol
ac o'r herwydd, ei fod wedi lliniaru yn erbyn ailadrodd y materion hynny o fewn
pwyntiau .2 / .7 / .8 / .10 / .11 /.12 o'i amodau addasedig fel uchod. Felly, teimlai'r Aelodau fod y mesurau lliniaru a gynigir a'r addasiad yn 5
a 7 o'r amodau, yn ddigonol ac yn ddigon sylweddol i godi sylwadau'r preswylydd
lleol ynghylch yr effaith y byddai cymeradwyo trwydded yn ei chael ar yr
amcanion trwyddedu. |