Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gweithdrefn yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol (er gwybodaeth). PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y Weithdrefn Is-bwyllgor Trwyddedu
Statudol, er gwybodaeth. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig)
|
|
Deddf Trwyddedu 2003 Adran 37 - Cais i amrywio trwydded i nodi unigolyn fel Goruchwylydd Mangre - Rileys American Pool and Snooker, 34 Castle Street, Swansea, SA1 1HZ Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod. Dywedodd y
Swyddog Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi tynnu'r cais yn ôl ddydd Llun 13 Mawrth
2023. Trafododd yr
Aelodau'r broses o ymgeiswyr yn tynnu ceisiadau'n ôl ac y dylid annog ymgeiswyr
yn y dyfodol i ddod i gyfarfod y pwyllgor yn yr amgylchiadau hyn i esbonio'r
rhesymau dros dynnu'r cais yn ôl a/neu dros dynnu'r cais yn ôl mor hwyr. Penderfynwyd nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl gan yr
ymgeisydd. |