Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Cylch gorchwyl a rhaglen waith PDF 107 KB Cofnodion: Cytunodd y panel
ar y Cylch Gorchwyl a'r rhaglen waith gynnar. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Abertawe PDF 107 KB Cynllun Cydraddoldeb Diweddaraf gan gynnwys y Cynllun Gweithredu. Bydd Richard Rowlands (Rheolwr Perfformiad a Chyflwyno Strategol) yn bresennol i drafod hwn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Edrychodd y panel
ar Adolygiad Cydraddoldebau Abertawe ar gyfer 2017/18 gyda Richard Rowlands, y
Rheolwr Perfformiad a Chyflwyno Strategol. Nodwyd y prif bwyntiau canlynol: ·
Mai'r adroddiad am yr Adolygiad Cydraddoldeb yw'r
seithfed adolygiad i gael ei gwblhau dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector
Cyhoeddus ac mai prif ddiben yr adroddiad yw gallu adrodd am y cynnydd a wnaed
i fodloni'r rheoliadau a gyflwynwyd yng Nghymru yn 2011. Mae cynllun Abertawe'n
eithaf tebyg i gynllun awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru. ·
Mae'r
broses o ddadansoddi gwybodaeth am gydraddoldeb wedi cael ei chynnal a'i
datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda gwybodaeth ychwanegol a'r
wybodaeth ddemograffig ddiweddaraf yn cael ei chynnwys ar we-dudalennau
‘ystadegau’ y cyngor. Mae hyn yn cynnwys data lleol, cymdeithasol a demograffig
o'r Cyfrifiad a ffynonellau swyddogol eraill. ·
Hefyd,
roedd amrywiaeth o ddulliau dadansoddi, sy'n rhannol gysylltiedig â nodweddion
gwarchodedig, wedi eu cynnwys yn Asesiad o Les Lleol y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Cwblhawyd yr asesiad a chytunodd y BGC arno ym mis Ebrill 2017 ac, yn ei dro,
mae hyn wedi llywio Cynllun Lles Lleol ac amcanion y bwrdd. Yn y dyfodol, bydd
dadansoddiad pellach o wybodaeth am gydraddoldeb yn ofynnol fel rhan o'r
fframwaith mesur lles sy'n cael ei ddatblygu gan bartneriaid y BGC. ·
Mae’r
gwaith hwnnw i fonitro a dadansoddi ystadegau sydd ar gael am bobl â nodweddion
gwarchodedig hefyd yn parhau i gael ei wneud ar gyfer rhaglen cydlyniant
cymunedol Llywodraeth Cymru. ·
Cwblhawyd
fersiynau newydd o'r proffiliau ardaloedd lleol ym mis Ionawr 2018 gan gynnwys
fersiynau ar gyfer Wardiau, Ardaloedd Cymunedol (Deddf LlCD) ac Ardaloedd Cyflawni
(Cymunedau'n Gyntaf yn flaenorol). ·
Mae'r
Arolwg Mawr Plant a Phobl Ifanc wedi dod i ben, ac ar hyn o bryd rydym yn
ystyried y ffyrdd gorau o nodi cyfleoedd, mecanweithiau ac adborth gan y
grŵp hwn o bobl am y penderfyniad sy'n cael ei wneud ac a fydd yn
effeithio arnynt. ·
Mae gwybodaeth am gyflogaeth a hyfforddiant wedi'i hatodi
i'r adroddiad hwn, ond nid oedd y panel o'r farn y byddai hyn yn ddefnyddiol
iawn oherwydd nid yw'r wybodaeth am hyfforddiant yn rhoi dadansoddiad o'r math
o hyfforddiant ac, am nad oes rhaid i staff gwblhau'r wybodaeth am gyflogaeth,
mae'r data'n ddiystyr gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw'n adlewyrchu'r
gweithlu. Ystyriodd aelodau'r panel sut y gellid gwella hyn, gan gynnwys pa mor
aml y cesglir gwybodaeth a phryd, etc. ·
Clywodd
y cynghorwyr fod y rhan fwyaf o'r argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad wrthi'n
cael eu cyflawni neu wedi'u cwblhau. Bydd y panel yn trafod â phob cyfarwyddwr
i gael mwy o fanylion am yr argymhellion maent yn gyfrifol amdanynt. ·
Nododd
y panel nad oes unrhyw asesiad cyffredinol o lwyddiant y cynllun, neu unrhyw
farn amdano, gan fod hyn yn cael ei wneud drwy asesu'r hyn a gwblhawyd neu
gerrig milltir yn unig. ·
Clywodd
y panel am y Cynghorwyr Hyrwyddo sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion
cydraddoldeb yn ogystal â themâu ehangach megis iechyd a lles, gofalwyr a
cham-drin domestig. Rôl y Cynghorwyr Hyrwyddo yw rhoi llais i grwpiau neu
faterion nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn draddodiadol y mae
angen eu cadw ar reng flaen busnes y cyngor. Teimlai’r panel y gellir
datblygu'r rôl hon yn fwy, a defnyddio Cynghorwyr Hyrwyddo'n fwy drwy'r cyngor
wrth ddatblygu a hyrwyddo'r grŵp/mater hwnnw. Teimlai’r panel hefyd fod
modd rhoi rôl fwy clir i Gynghorwyr Hyrwyddo gan nad oes llawer o gyfathrebu
gydag adrannau ar hyn o bryd. Hefyd, maent o'r farn y dylent gael mwy o
wybodaeth am unrhyw agweddau yn y meysydd perthnasol. Roedd hwn yn argymhelliad posib. ·
Clywodd
Cynghorwyr hefyd am yr hyrwyddwyr a benodwyd yn ddiweddar ymhlith y staff, sef
Cynrychiolwyr Cydraddoldeb Staff Adrannol. Dyma staff sydd wedi gwirfoddoli i
wneud y rôl hon yn ychwanegol i'w swyddi presennol. Maent wedi cwrdd unwaith
hyd yn hyn ac wedi cael eu hyfforddiant cychwynnol. Mae cylch gorchwyl ar gyfer
y rôl wrthi'n cael ei gynhyrchu. Hoffai'r panel siarad â nhw ar ôl iddynt fod
yn fwy sefydledig. Byddant yn dod i gyfarfod bord gron gyda'r panel ar 31
Ionawr 2019. ·
Mae
perthnasoedd gyda grwpiau cymunedol wedi parhau, gan gynnwys: o
Fforwm
LGBT Bae Abertawe sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â
Heddlu De Cymru. Mae'r aelodaeth yn cynnwys staff neu wirfoddolwyr sefydliadau
lleol a chenedlaethol sy'n cynrychioli buddion dinasyddion LGBT. o
Fforwm BME sef rhwydwaith BME rhanbarthol a gyflwynwyd y
llynedd. Mae'n cael ei arwain gan EYST fel rhan o Raglen Cydraddoldeb a
Chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Mae'r cyngor yn rhoi cefnogaeth i EYST wrth i'r
rhwydwaith ddatblygu. o
Grŵp Cydgysylltu Anableddau - sefydlwyd y grŵp
hwn i alluogi trafodaeth dwy ffordd rhwng y cyngor a phobl anabl a/neu grwpiau
neu sefydliadau anabledd. Mae gofalwyr hefyd yn rhan o'r fforwm ac maent yn
cymryd rhan ynddo pan fydd yn berthnasol iddynt. Mae'n gweithio'n dda ac yn
gweithio fel y dylai. Mae presenoldeb yn dda ond mae'r adnoddau sydd ar gael yn
y cyngor wedi ei gwneud hi'n anodd parhau. Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ar 18
Mai. ·
Cydgynhyrchu - mae Swyddog Datblygu Cydgynhyrchu, o'r
trydydd sector, wedi parhau i hyrwyddo ymwybyddiaeth, gwybodaeth a chefnogaeth
i'r cyngor, y gwasanaeth iechyd, Bae'r Gorllewin, y trydydd sector a
dinasyddion. Hoffai'r panel wahodd y Swyddog hwn i gyfarfod yn y dyfodol, a
hoffai'r panel weld mwy o wybodaeth am gydgynhyrchu yn Abertawe hefyd. Bydd yr
wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod y panel ar 30 Tachwedd. ·
Cyfeiriwyd
at gysylltiadau a chyfranogiad y gymuned fusnes leol. ·
Mae'r
cyngor wedi bod yn rhan o nifer o raglenni/prosiectau a gweithgareddau eraill,
gan gynnwys, er enghraifft: o
Cynllun
Gweithredu Rhanddeiliaid Troseddau Casineb Abertawe o
Rhaglen
Cydlyniant Cymunedol o
Confensiwn
y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) o
My
Concern mewn ysgolion o
Cynllun
Heneiddio'n Dda, Rhwydwaith 50+, digwyddiadau a gweithgareddau cynnwys o
Trechu
Tlodi o
Dysgu
Gydol Oes o
Diwygio
Lles ·
Fersiwn
Hawdd ei Darllen – lluniwyd fersiwn hawdd ei darllen o’r Adolygiad Blynyddol a
llawer mwy o ddogfennau cyngor allweddol. Fodd bynnag, nodwyd bod fersiwn hawdd
ei darllen yn ffordd benodol o gynhyrchu dogfen sydd ar ffurf wahanol, er
enghraifft os nad yw wedi'i hysgrifennu mewn Cymraeg syml, ac anogir hyn ar
draws y cyngor. Clywodd y panel nad oes digon o adnoddau ar gael i gyflwyno'r
holl ddogfennau a gynhyrchwyd fel fersiynau hawdd eu darllen ond bod dogfennau
allweddol yn cael eu cynhyrchu yn y modd hwn. ·
Gwasanaethau
Cyfieithu Mae gan y cyngor ei Wasanaeth
Cyfieithu Cymraeg ei hun ac ar gyfer unrhyw waith arall, mae'r cyngor yn
defnyddio'i aelodaeth fel rhan o bartneriaeth GCC. Gofynnodd y Cynghorwyr a yw
ein holl staff yn ymwybodol o fynediad y cyngor at y bartneriaeth hon? |
|
Proses Sgrinio Asesiad Effaith Cydraddoldeb Abertawe PDF 106 KB Bydd Rhian Millar (Cydlynydd Ymgynghori) yn bresennol i drafod hon Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r panel yn
cwrdd â Rhian Millar a Catherine Window i drafod y broses sgrinio Asesiad
Effaith Cydraddoldeb (AEC). Nodwyd y canlynol: ·
Diben
AEC yw asesu effaith penderfyniadau'r cyngor ar faterion cydraddoldeb. Mae
hefyd yn gyfle i ni roi ystyriaeth briodol i Ddeddf Dyletswydd Cydraddoldeb y
Sector Cyhoeddus (Cymru). ·
Mae AEC yn ofyniad cyfreithiol o Ddyletswydd Cydraddoldeb
y Sector Cyhoeddus a Mesur y Gymraeg. Mae'r ddyletswydd yn rhoi gofyniad
penodol arnom i gwblhau asesiadau effaith cydraddoldeb fel ffordd o adolygu a
yw swyddogaeth, gwasanaeth, polisi, gweithdrefn, strategaeth, cynllun neu
brosiect presennol yn effeithio ar unrhyw berson neu grŵp o bobl yn
andwyol. ·
Mae
AEC yn rhan annatod o unrhyw broses benderfynu a dylid ei gwblhau cyn gynted â
phosib yn ystod unrhyw fenter, yn ddelfrydol wrth ei sefydlu. Gall methu
cwblhau AEC neu ei gwblhau ar ôl gwneud penderfyniad ddirymu'r penderfyniad,
neu ei adael yn agored i her neu adolygiad barnwrol. ·
Mae'n
rhaid cyflwyno gwerthusiad AEC a/neu'r adroddiad llawn gydag unrhyw adroddiad a
roddir i Bwyllgorau, y Bwrdd Gweithredol, Briffio Corfforaethol, y Cabinet
neu'r cyngor. ·
Mae'r
broses AEC hefyd yn ystyried materion a blaenoriaethau allweddol eraill megis tlodi
ac eithrio cymdeithasol, cydlyniant cymunedol, gofalwyr a CCUHP. ·
Mae'r
holl ffurflenni ac adroddiadau, ynghyd ag arweiniad penodol, ar gael i staff ar
we-dudalennau Staffnet. ·
I ddechrau caiff gwerthusiad AEC ei gwblhau, sef fersiwn
fwy cryno. Bydd hyn yn nodi a oes angen AEC llawn neu beidio ar yr adeg honno.
Mae'n rhaid i'r Pennaeth Gwasanaeth gymeradwyo unrhyw AEC llawn ·
Mae'n
bwysig bod y broses AEC yn cael ei dilyn yn gyson ac yn dda. ·
Mae'n
rhaid iddi ddangos tystiolaeth o ymgynghori a chynnwys (Egwyddorion Gunning).
Mae pecyn cymorth ar gael. Caiff ei ddosbarthu i aelodau'r panel ar ôl y
cyfarfod. ·
Mae'n
rhaid dangos sut mae cynnwys wedi cael ei ystyried ond nid yw'n rhwystro
penderfyniad rhag cael ei wneud, er y rhoddir ystyriaeth briodol i'r canlyniad
cynnwys. Mae lliniaru'n allweddol os bydd canlyniad negyddol, a bydd yn rhoi
pethau yn eu lle er mwyn lleihau'r effeithiau. ·
Gall cwblhau a phrosesu AEC gymryd llawer o amser a bod
yn gymhleth i'w ysgrifennu. Mae adnoddau canolog bellach yn gyfyngedig i
adolygiad a chyngor. Mae rhwydwaith newydd o Gynrychiolwyr Cydraddoldeb
Adrannol wedi cael ei enwebu i helpu'r adrannau i'w cwblhau. Mae'r adran
gyfreithiol yn gwirio'r AEC hynny sy'n fwy dadleuol. ·
Mae'r
broses hon wedi bod ar waith am nifer o flynyddoedd fel rhan o broses adrodd,
er nad yw pob ALl yng Nghymru'n gwneud hyn. Mewn gwirionedd, nid yw'n bosib i
benderfyniad gael ei drafod gan y cyngor/Cabinet os nad yw'r AEC wedi cael ei
gymeradwyo. ·
Dogfen
fyw yw AEC, a gellir ei hagor a'i diweddaru'n barhaol os yw'n addas, er
enghraifft os yw mewn perthynas â Chanol y Ddinas. ·
Teimlai’r panel fod angen sôn am y proffil
cydraddoldebau. Pa mor bwysig yw cydraddoldebau i'r ALl? Dylai fod yn
flaenoriaeth uchel a bydd yr ymholiad hwn yn helpu i'w roi'n uwch ar yr agenda.
Mae'n bwysig cael arweinyddiaeth weladwy o'r brig. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.10pm Cadeirydd |