Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Disclosure of Personal or Prejudicial Interests

Cofnodion:

Dim

2.

10.30am Cynrychiolwyr Staff Cydraddoldeb Adrannol - cyfarfod bwrdd crwn pdf eicon PDF 43 KB

Cofnodion:

Cyfarfu'r Panel ag 16 o gynrychiolwyr staff cydraddoldeb mewn cyfarfod bord gron i drafod set o gwestiynau a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod. Roedd y rhain yn cynnwys (bydd nodiadau llawn ar gael yn yr adroddiad canfyddiadau ar ddiwedd yr ymchwiliad):

 

1.    Pam wnaethoch chi benderfynu dod yn gynrychiolydd staff cydraddoldeb?

2.    Beth sy'n cael ei gynnwys yn y rôl?

3.    Ydych chi'n teimlo'n hyderus yn y rôl?

4.    Ydych chi wedi cael hyfforddiant/datblygiad digonol i'ch cynorthwyo gyda'r rôl hon?

5.    Â phwy ydych chi'n cysylltu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cyngor arnoch ynghylch y rôl hon neu rywbeth y gofynnir i chi ei wneud?

6.    Beth ydych chi'n ei weld fel heriau posibl i'r rôl hon?

7.    Ydych chi'n meddwl bod gan y rôl hon le i wella? Sut?

8.    Ydych chi'n gwybod pwy yw'r Cynghorwyr Hyrwyddo perthnasol? Ydych chi erioed wedi cysylltu â nhw a/neu wedi gweithio gyda nhw ar broblemau?

9.    Ydych chi'n credu bod Cyngor Abertawe yn trin materion cydraddoldeb ac amrywiaeth o ddifrif?

10. A oes gennych unrhyw awgrymiadau am unrhyw beth a fyddai yn eich barn chi’n arwain at amgylchedd mwy cynhwysol?

11. Pa gamau ydych chi’n meddwl y gellid eu cymryd gan y sefydliad i hyrwyddo cyfle cyfartal ac adlewyrchu amrywiaeth y gymdeithas yn fwyfwy?

 

 

3.

11.30am Cydraddoldebau - Cyfarwyddiaeth Addysg pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyfarfu'r Panel â Phennaeth yr Uned Cynnwys Rhanddeiliad, Rhodri Jones, i drafod yr agweddau cydraddoldeb o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg. Trafodwyd yr agweddau canlynol (bydd nodiadau llawn ar gael yn yr adroddiad canfyddiadau ar ddiwedd yr ymchwiliad):

 

·         Pwy sy'n gyfrifol ydych chi’n meddwl am weithredu a gwreiddio cydraddoldebau yn y sefydliad?

·         Sut ydych chi’n sicrhau ymagwedd gyson at gwblhau Asesiadau Effaith Cydraddoldeb ac at safon, yn eich cyfarwyddiaeth?

·         Oes gennych staff sydd wedi'u hyfforddi'n benodol ar weithdrefnau ac arfer Asesiadau Effaith Cydraddoldeb? Pwy sy'n monitro ansawdd y rhain yn eich cyfarwyddiaeth?

·         Sut ydych chi'n sicrhau bod cydraddoldeb wedi'i wreiddio ym mhopeth a wneir o fewn eich cyfarwyddiaeth? Beth mae hyn yn ei olygu?

·         Pwy yw'r prif ddylanwadwyr o ran cydraddoldeb yn eich cyfarwyddiaeth? Er enghraifft Aelod y Cabinet, Hyrwyddwyr Cydraddoldeb (cynghorwyr a/neu staff)

·         Pa gynllun hyfforddi sydd gennych mewn perthynas â materion cydraddoldeb? Sut mae anghenion hyfforddi staff yn cael eu hasesu mewn perthynas â'r anghenion hyfforddi hyn?

·         Pa newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud yn eich cyfarwyddiaeth i fynd i'r afael â'r gofynion/dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (dyletswydd y sector cyhoeddus) a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant etc er mwyn cyflawni'r dyletswyddau cydraddoldeb yn eich cyfarwyddiaeth?

·         Beth mae eich cyfarwyddiaeth yn ei wneud er mwyn nodi rhwystrau i fynediad at wasanaethau ac i gael gwared arnynt?

·         Sut ydych chi'n gweithio gyda sefydliadau cydraddoldeb, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid allweddol eraill i gyflwyno eich gwasanaethau yn unol â deddfwriaeth cydraddoldeb, er enghraifft trwy gydgynhyrchu?

·         Allwch chi egluro wrth y panel yr agweddau hynny yn y Cynllun Cydraddoldeb sy'n ymwneud â'ch Cyfarwyddiaeth, yn arbennig yr amcanion atodedig fel y’u dangosir yn Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2017/2018 a gyhoeddwyd yn ddiweddar?

 

4.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd gan y panel.

 

Daeth y cyfarfod i ben am12.20pm