||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=619
||

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Room 235 (Councillors Meeting Room) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cylch gorchwyl a rhaglen waith pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y Cylch Gorchwyl a'r rhaglen waith gynnar.

 

3.

Cynllun Cydraddoldeb Abertawe pdf eicon PDF 107 KB

Cynllun Cydraddoldeb Diweddaraf gan gynnwys y Cynllun Gweithredu. Bydd Richard Rowlands (Rheolwr Perfformiad a Chyflwyno Strategol) yn bresennol i drafod hwn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Edrychodd y panel ar Adolygiad Cydraddoldebau Abertawe ar gyfer 2017/18 gyda Richard Rowlands, y Rheolwr Perfformiad a Chyflwyno Strategol. Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Mai'r adroddiad am yr Adolygiad Cydraddoldeb yw'r seithfed adolygiad i gael ei gwblhau dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac mai prif ddiben yr adroddiad yw gallu adrodd am y cynnydd a wnaed i fodloni'r rheoliadau a gyflwynwyd yng Nghymru yn 2011. Mae cynllun Abertawe'n eithaf tebyg i gynllun awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru.

·         Mae'r broses o ddadansoddi gwybodaeth am gydraddoldeb wedi cael ei chynnal a'i datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda gwybodaeth ychwanegol a'r wybodaeth ddemograffig ddiweddaraf yn cael ei chynnwys ar we-dudalennau ‘ystadegau’ y cyngor. Mae hyn yn cynnwys data lleol, cymdeithasol a demograffig o'r Cyfrifiad a ffynonellau swyddogol eraill.

·         Hefyd, roedd amrywiaeth o ddulliau dadansoddi, sy'n rhannol gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig, wedi eu cynnwys yn Asesiad o Les Lleol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Cwblhawyd yr asesiad a chytunodd y BGC arno ym mis Ebrill 2017 ac, yn ei dro, mae hyn wedi llywio Cynllun Lles Lleol ac amcanion y bwrdd. Yn y dyfodol, bydd dadansoddiad pellach o wybodaeth am gydraddoldeb yn ofynnol fel rhan o'r fframwaith mesur lles sy'n cael ei ddatblygu gan bartneriaid y BGC.

·         Mae’r gwaith hwnnw i fonitro a dadansoddi ystadegau sydd ar gael am bobl â nodweddion gwarchodedig hefyd yn parhau i gael ei wneud ar gyfer rhaglen cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru.

·         Cwblhawyd fersiynau newydd o'r proffiliau ardaloedd lleol ym mis Ionawr 2018 gan gynnwys fersiynau ar gyfer Wardiau, Ardaloedd Cymunedol (Deddf LlCD) ac Ardaloedd Cyflawni (Cymunedau'n Gyntaf yn flaenorol).

·         Mae'r Arolwg Mawr Plant a Phobl Ifanc wedi dod i ben, ac ar hyn o bryd rydym yn ystyried y ffyrdd gorau o nodi cyfleoedd, mecanweithiau ac adborth gan y grŵp hwn o bobl am y penderfyniad sy'n cael ei wneud ac a fydd yn effeithio arnynt.

·         Mae gwybodaeth am gyflogaeth a hyfforddiant wedi'i hatodi i'r adroddiad hwn, ond nid oedd y panel o'r farn y byddai hyn yn ddefnyddiol iawn oherwydd nid yw'r wybodaeth am hyfforddiant yn rhoi dadansoddiad o'r math o hyfforddiant ac, am nad oes rhaid i staff gwblhau'r wybodaeth am gyflogaeth, mae'r data'n ddiystyr gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw'n adlewyrchu'r gweithlu. Ystyriodd aelodau'r panel sut y gellid gwella hyn, gan gynnwys pa mor aml y cesglir gwybodaeth a phryd, etc.

·         Clywodd y cynghorwyr fod y rhan fwyaf o'r argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad wrthi'n cael eu cyflawni neu wedi'u cwblhau. Bydd y panel yn trafod â phob cyfarwyddwr i gael mwy o fanylion am yr argymhellion maent yn gyfrifol amdanynt.

·         Nododd y panel nad oes unrhyw asesiad cyffredinol o lwyddiant y cynllun, neu unrhyw farn amdano, gan fod hyn yn cael ei wneud drwy asesu'r hyn a gwblhawyd neu gerrig milltir yn unig.

·         Clywodd y panel am y Cynghorwyr Hyrwyddo sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion cydraddoldeb yn ogystal â themâu ehangach megis iechyd a lles, gofalwyr a cham-drin domestig. Rôl y Cynghorwyr Hyrwyddo yw rhoi llais i grwpiau neu faterion nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn draddodiadol y mae angen eu cadw ar reng flaen busnes y cyngor. Teimlai’r panel y gellir datblygu'r rôl hon yn fwy, a defnyddio Cynghorwyr Hyrwyddo'n fwy drwy'r cyngor wrth ddatblygu a hyrwyddo'r grŵp/mater hwnnw. Teimlai’r panel hefyd fod modd rhoi rôl fwy clir i Gynghorwyr Hyrwyddo gan nad oes llawer o gyfathrebu gydag adrannau ar hyn o bryd. Hefyd, maent o'r farn y dylent gael mwy o wybodaeth am unrhyw agweddau yn y meysydd perthnasol.  Roedd hwn yn argymhelliad posib.

·         Clywodd Cynghorwyr hefyd am yr hyrwyddwyr a benodwyd yn ddiweddar ymhlith y staff, sef Cynrychiolwyr Cydraddoldeb Staff Adrannol. Dyma staff sydd wedi gwirfoddoli i wneud y rôl hon yn ychwanegol i'w swyddi presennol. Maent wedi cwrdd unwaith hyd yn hyn ac wedi cael eu hyfforddiant cychwynnol. Mae cylch gorchwyl ar gyfer y rôl wrthi'n cael ei gynhyrchu. Hoffai'r panel siarad â nhw ar ôl iddynt fod yn fwy sefydledig. Byddant yn dod i gyfarfod bord gron gyda'r panel ar 31 Ionawr 2019.

·         Mae perthnasoedd gyda grwpiau cymunedol wedi parhau, gan gynnwys:

o   Fforwm LGBT Bae Abertawe sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru. Mae'r aelodaeth yn cynnwys staff neu wirfoddolwyr sefydliadau lleol a chenedlaethol sy'n cynrychioli buddion dinasyddion LGBT.

o   Fforwm BME sef rhwydwaith BME rhanbarthol a gyflwynwyd y llynedd. Mae'n cael ei arwain gan EYST fel rhan o Raglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Mae'r cyngor yn rhoi cefnogaeth i EYST wrth i'r rhwydwaith ddatblygu.

o   Grŵp Cydgysylltu Anableddau - sefydlwyd y grŵp hwn i alluogi trafodaeth dwy ffordd rhwng y cyngor a phobl anabl a/neu grwpiau neu sefydliadau anabledd. Mae gofalwyr hefyd yn rhan o'r fforwm ac maent yn cymryd rhan ynddo pan fydd yn berthnasol iddynt. Mae'n gweithio'n dda ac yn gweithio fel y dylai. Mae presenoldeb yn dda ond mae'r adnoddau sydd ar gael yn y cyngor wedi ei gwneud hi'n anodd parhau. Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ar 18 Mai.

·         Cydgynhyrchu - mae Swyddog Datblygu Cydgynhyrchu, o'r trydydd sector, wedi parhau i hyrwyddo ymwybyddiaeth, gwybodaeth a chefnogaeth i'r cyngor, y gwasanaeth iechyd, Bae'r Gorllewin, y trydydd sector a dinasyddion. Hoffai'r panel wahodd y Swyddog hwn i gyfarfod yn y dyfodol, a hoffai'r panel weld mwy o wybodaeth am gydgynhyrchu yn Abertawe hefyd. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod y panel ar 30 Tachwedd.

·         Cyfeiriwyd at gysylltiadau a chyfranogiad y gymuned fusnes leol.

·         Mae'r cyngor wedi bod yn rhan o nifer o raglenni/prosiectau a gweithgareddau eraill, gan gynnwys, er enghraifft:

o   Cynllun Gweithredu Rhanddeiliaid Troseddau Casineb Abertawe

o   Rhaglen Cydlyniant Cymunedol

o   Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC)

o   My Concern mewn ysgolion

o   Cynllun Heneiddio'n Dda, Rhwydwaith 50+, digwyddiadau a gweithgareddau cynnwys

o   Trechu Tlodi

o   Dysgu Gydol Oes

o   Diwygio Lles

·         Fersiwn Hawdd ei Darllen – lluniwyd fersiwn hawdd ei darllen o’r Adolygiad Blynyddol a llawer mwy o ddogfennau cyngor allweddol. Fodd bynnag, nodwyd bod fersiwn hawdd ei darllen yn ffordd benodol o gynhyrchu dogfen sydd ar ffurf wahanol, er enghraifft os nad yw wedi'i hysgrifennu mewn Cymraeg syml, ac anogir hyn ar draws y cyngor. Clywodd y panel nad oes digon o adnoddau ar gael i gyflwyno'r holl ddogfennau a gynhyrchwyd fel fersiynau hawdd eu darllen ond bod dogfennau allweddol yn cael eu cynhyrchu yn y modd hwn.

·         Gwasanaethau Cyfieithu  Mae gan y cyngor ei Wasanaeth Cyfieithu Cymraeg ei hun ac ar gyfer unrhyw waith arall, mae'r cyngor yn defnyddio'i aelodaeth fel rhan o bartneriaeth GCC. Gofynnodd y Cynghorwyr a yw ein holl staff yn ymwybodol o fynediad y cyngor at y bartneriaeth hon?

 

4.

Proses Sgrinio Asesiad Effaith Cydraddoldeb Abertawe pdf eicon PDF 106 KB

Bydd Rhian Millar (Cydlynydd Ymgynghori) yn bresennol i drafod hon

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r panel yn cwrdd â Rhian Millar a Catherine Window i drafod y broses sgrinio Asesiad Effaith Cydraddoldeb (AEC). Nodwyd y canlynol:

 

·         Diben AEC yw asesu effaith penderfyniadau'r cyngor ar faterion cydraddoldeb. Mae hefyd yn gyfle i ni roi ystyriaeth briodol i Ddeddf Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Cymru).

·         Mae AEC yn ofyniad cyfreithiol o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Mesur y Gymraeg. Mae'r ddyletswydd yn rhoi gofyniad penodol arnom i gwblhau asesiadau effaith cydraddoldeb fel ffordd o adolygu a yw swyddogaeth, gwasanaeth, polisi, gweithdrefn, strategaeth, cynllun neu brosiect presennol yn effeithio ar unrhyw berson neu grŵp o bobl yn andwyol. 

·         Mae AEC yn rhan annatod o unrhyw broses benderfynu a dylid ei gwblhau cyn gynted â phosib yn ystod unrhyw fenter, yn ddelfrydol wrth ei sefydlu. Gall methu cwblhau AEC neu ei gwblhau ar ôl gwneud penderfyniad ddirymu'r penderfyniad, neu ei adael yn agored i her neu adolygiad barnwrol.

·         Mae'n rhaid cyflwyno gwerthusiad AEC a/neu'r adroddiad llawn gydag unrhyw adroddiad a roddir i Bwyllgorau, y Bwrdd Gweithredol, Briffio Corfforaethol, y Cabinet neu'r cyngor.

·         Mae'r broses AEC hefyd yn ystyried materion a blaenoriaethau allweddol eraill megis tlodi ac eithrio cymdeithasol, cydlyniant cymunedol, gofalwyr a CCUHP.

·         Mae'r holl ffurflenni ac adroddiadau, ynghyd ag arweiniad penodol, ar gael i staff ar we-dudalennau Staffnet.

·         I ddechrau caiff gwerthusiad AEC ei gwblhau, sef fersiwn fwy cryno. Bydd hyn yn nodi a oes angen AEC llawn neu beidio ar yr adeg honno. Mae'n rhaid i'r Pennaeth Gwasanaeth gymeradwyo unrhyw AEC llawn

·         Mae'n bwysig bod y broses AEC yn cael ei dilyn yn gyson ac yn dda.

·         Mae'n rhaid iddi ddangos tystiolaeth o ymgynghori a chynnwys (Egwyddorion Gunning). Mae pecyn cymorth ar gael. Caiff ei ddosbarthu i aelodau'r panel ar ôl y cyfarfod.

·         Mae'n rhaid dangos sut mae cynnwys wedi cael ei ystyried ond nid yw'n rhwystro penderfyniad rhag cael ei wneud, er y rhoddir ystyriaeth briodol i'r canlyniad cynnwys. Mae lliniaru'n allweddol os bydd canlyniad negyddol, a bydd yn rhoi pethau yn eu lle er mwyn lleihau'r effeithiau.

·         Gall cwblhau a phrosesu AEC gymryd llawer o amser a bod yn gymhleth i'w ysgrifennu. Mae adnoddau canolog bellach yn gyfyngedig i adolygiad a chyngor. Mae rhwydwaith newydd o Gynrychiolwyr Cydraddoldeb Adrannol wedi cael ei enwebu i helpu'r adrannau i'w cwblhau. Mae'r adran gyfreithiol yn gwirio'r AEC hynny sy'n fwy dadleuol.

·         Mae'r broses hon wedi bod ar waith am nifer o flynyddoedd fel rhan o broses adrodd, er nad yw pob ALl yng Nghymru'n gwneud hyn. Mewn gwirionedd, nid yw'n bosib i benderfyniad gael ei drafod gan y cyngor/Cabinet os nad yw'r AEC wedi cael ei gymeradwyo.

·         Dogfen fyw yw AEC, a gellir ei hagor a'i diweddaru'n barhaol os yw'n addas, er enghraifft os yw mewn perthynas â Chanol y Ddinas.

·         Teimlai’r panel fod angen sôn am y proffil cydraddoldebau. Pa mor bwysig yw cydraddoldebau i'r ALl? Dylai fod yn flaenoriaeth uchel a bydd yr ymholiad hwn yn helpu i'w roi'n uwch ar yr agenda. Mae'n bwysig cael arweinyddiaeth weladwy o'r brig.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.10pm

 

 

Cadeirydd

 

 

Cysylltiadau:
© 2011 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340