Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2021 a 20 Mai 2021 fel
cofnod cywir. |
|
Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Rhoddodd Amy
Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion ddiweddariad llafar ar y
Strategaeth Gwirfoddoli Rhanbarthol fel a ganlyn: ·
Byddai'r
pecynnau cymorth/cyngor gwybodaeth yn cael eu lansio'r wythnos ar ôl y nesaf,
gan gynnwys y pecyn cymorth gwirfoddoli gwyrdd / amgylcheddol a'r pecyn cymorth
gwirfoddoli amrywiol sylfaenol. Byddai'r
rhain yn cael eu cynnal yn rhanbarthol ar wefannau gwahanol bartneriaid a
byddai rhagor o fanylion yn cael eu dosbarthu maes o law; ·
Roedd
cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Prosiect Gwirfoddoli Rhanbarthol sy'n
gysylltiedig â'r pecynnau cymorth wedi'i ddatblygu'n rhanbarthol gan Abertawe,
Castell-nedd Port Talbot, y Bwrdd Iechyd a CGSau yn ganolog, ac roedd
hyfforddiant perthnasol wedi'i ddarparu.
·
Defnyddiwyd
arian dros ben ychwanegol tuag at swydd Prosiect Gwirfoddoli Rhanbarthol a
fyddai'n cael ei hysbysebu cyn bo hir.
Byddai'r swydd yn cefnogi ac yn datblygu gwaith y Strategaeth
Gwirfoddoli, a oedd ar ffurf ddrafft ar hyn o bryd ac a fyddai'n cael ei
chyd-gynhyrchu â phartneriaid. ·
Byddai
Strategaeth ddrafft yn dod yn ôl i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn ystod y
misoedd nesaf a dylid cwblhau a chyhoeddi'r Strategaeth derfynol yn ystod y 6
mis nesaf. ·
Roedd
amserlen debyg hefyd ar gyfer y swydd wirfoddoli ranbarthol wrth gefnogi'r
broses rhwng nawr a mis Mawrth nesaf, gan orffen ddechrau'r flwyddyn nesaf. Diolchodd y
Cadeirydd i Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion am y diweddariad. Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar. |
|
Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Rhoddodd Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl
Ifanc ddiweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc fel a ganlyn: Penodwyd
y swyddog penodedig yn yr YMCA i gefnogi'r Gofalwyr Ifanc a'r Fforwm Gofalwyr
Ifanc. Derbyniwyd enwebiadau i'r Fforwm
ac roedd cynnydd da'n cael ei wneud.
Roedd y trafodaethau cychwynnol wedi dechrau ac roedd y Fforwm yn
awyddus i gyd-gynhyrchu'r strategaeth.
Byddai cyfarfodydd rhwng Swyddogion a'r Gofalwyr Ifanc yn dechrau dros
yr haf, gyda dyddiad cwblhau delfrydol o fis Hydref. Fodd bynnag, gallai'r amserlen honno amrywio
gan fod angen o hyd i ddeall mwy am sut y mae'r gofalwyr ifanc am lunio'r
strategaeth, a'r gwaith y byddai hyn yn ei olygu. Byddai'r Cynghorydd Evans hefyd yn cael ei
wahodd i gymryd rhan yn y cyfarfodydd hynny. Diolchodd
y Cadeirydd i'r Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc am
y diweddariad. Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar. |
|
Cyngor Abertawe - Darpariaeth Cyflogadwyedd. PDF 368 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Elliott
Williams, Rheolwr Cyllid Allanol, gyda chefnogaeth Joanne Thomas, Arweinydd Tîm
Mentor Cyflogadwyedd a Tim Moss, Cydlynydd Abertawe’n
Gweithio, gyflwyniad ar y Ddarpariaeth Cyflogadwyedd bresennol ar gyfer Cyngor
Abertawe. Amlinellodd
fanylion y cynlluniau canlynol, o dan "Abertawe'n
Gweithio" a'r cymorth a gynigir mewn perthynas
â: ·
Chymunedau
am Waith; ·
Cam
Nesa; ·
Gweithffyrdd+; ·
Diweithdra
Tymor Byr Gweithffyrdd+; ·
Cymunedau
am Waith +. Eglurodd y Rheolwr
Cyllid Allanol y materion allweddol o ran: ·
Ffocws 1 - Cefnogi pobl ifanc i gael gwaith; ·
Ffocws 2 – Y Cynllun Kick-Start. Gofynnwyd i'r
Pwyllgor ystyried pa un o'r ddau gynllun yr oeddent am ganolbwyntio arno ar
gyfer eu trydydd pwnc yn 2021-2022. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cyflwyniad; 2) Bydd y Cadeirydd yn cynnal trafodaethau pellach gyda'r Swyddogion ynglŷn â'r opsiynau cyn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 28 Gorffennaf 2021. |
|
Cynllun Gwaith Drafft 2021-2022. PDF 121 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022. Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022. |