Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2020 fel cofnod
cywir. |
|
Gofalwyr Ifanc - Sicrhau Lles Gofalwyr Ifanc yng Nghyd-destun Covid-19. (Llafar) Cofnodion: Esboniodd y
Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cynnal gweithdy llawn gwybodaeth yn gynharach y
diwrnod hwnnw. Roedd Egija Cinovska,
Cydlynydd y Prosiect Gofalwyr Ifanc yn YMCA Abertawe, yn bresennol yn y
gweithdy i esbonio'r gwasanaethau a ddarperir i Ofalwyr Ifanc yn Abertawe. Yn
ogystal â hyn, amlinellodd yr effaith yr oedd COVID-19 wedi ei gael ar y
Gofalwyr Ifanc, lle roeddent yn wynebu hyd at 30 awr ychwanegol yr wythnos o
ddyletswyddau. Creodd brwdfrydedd, gwybodaeth ac angerdd Cydlynydd y Prosiect
Gofalwyr Ifanc argraff fawr ar Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol yn y
gweithdy. Codwyd y pwyntiau
canlynol gan Aelodau'r Pwyllgor: ·
Byddai'n
ddefnyddiol cysylltu â'r Gofalwyr Ifanc drwy wahoddiad i weithdy neu gyfarfod
Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn deall eu problemau yn uniongyrchol; ·
Dylai
rhywfaint o waith fod wedi'i wneud eisoes mewn perthynas ag ystadegau trwy'r
Dadansoddiad o Anghenion y Boblogaeth; ·
Dylai
unrhyw waith a wneir barhau ar ôl COVID-19; ·
Sicrhau
bod ein holl ysgolion yn ymwybodol o'r gwasanaeth fel y gellid cyfeirio yn ôl
yr angen; ·
Dengys
ystadegau fod 3 Gofalwr Ifanc ym mhob dosbarth ym mhob ysgol. Mynegwyd pryder efallai na fyddai rhai wedi'u
nodi. Angen sicrhau bod y dull/gweithdrefnau cywir ar waith i gasglu'r
wybodaeth hon; ·
Nid
yw rhai Gofalwyr Ifanc yn cydnabod eu hunain fel gofalwr; ·
Ymchwilio
i arfer da mewn awdurdodau lleol eraill; ·
Angen
osgoi "labelu" a bod yn sensitif i'w hanghenion; ·
Argaeledd
"Grant Gofalwyr Ifanc"; ·
Mae
angen i'r strategaeth sicrhau bod proffil asesu cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc yn
hollbwysig a bod proses gynhwysfawr ar gyfer hyrwyddo'r gefnogaeth a oedd ar
gael gyda chyn lleied o rwystrau â phosib yn y broses; ·
Dylid
cynnwys pob ardal clwstwr meddygon teulu; ·
Blaenoriaeth
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) - Rhoi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i
bob plentyn; ·
Cyfethol
Egija Cinovska i'r Pwyllgor
ar gyfer yr eitem hon o gynllun gwaith (os bydd yr YMCA yn llwyddiannus yn y
broses ail-gomisiynu); ·
Ni
ddylai unrhyw gefnogaeth fod yn gyfyngedig o ran oedran; ·
Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg yn ystyried "Dysgwyr Diamddiffyn" fel rhan o'u
cynllun gwaith. Byddai Cadeiryddion pob Pwyllgor yn trafod er mwyn sicrhau eu
bod yn cydweddu â'i gilydd ond nid yn dyblygu gwaith; ·
Roedd
"Bwrdd Gofalwyr Ifanc" yn cael ei ystyried; ·
Byddai'n
ddefnyddiol i Aelodau'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl dderbyn copi o'r
Strategaeth ddrafft. Roedd y Cadeirydd
a Gavin Evans, Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc
wedi trafod yn fyr rôl y Pwyllgor o ran cynorthwyo Gofalwyr Ifanc a llunio'r
Strategaeth. Yr amserlen ar gyfer llunio'r Strategaeth oedd mis Ebrill, a oedd
yn cyd-daro â chynllun gwaith y Pwyllgor tan fis Mawrth 2021. Byddai'r Cadeirydd yn gwahodd Gavin Evans ac Egija Cinovska i'r cyfarfod nesaf
a rhai Gofalwyr Ifanc i'r gweithdy/Pwyllgor nesaf. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r
diweddariad; 2)
Caiff
y Strategaeth ddrafft ei dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl; 3) Bydd y Cadeirydd yn gwahodd Gavin Evans & Egija Cinovska i'r cyfarfod nesaf a Gofalwyr Ifanc i'r gweithdy/Pwyllgor nesaf. |
|
Cynllun Gwaith 2020-2021. PDF 222 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021. Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith. |