Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 16 Medi ac 1 Hydref 2020 fel
cofnod cywir. |
|
Cynllun Adfer - Rôl y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl. (Trafodaeth lafar). Cofnodion: Roedd Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r
Pwyllgor am y gwaith a wnaed yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol
ers pandemig COVID-19. Aeth ymlaen i
amlinellu manylion adroddiad y cynllun adfer a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 15
Hydref: 1.
Ailddechrau (tymor byr – 4 mis) – ailgychwyn ac addasu
ystod eang o wasanaethau'r cyngor; 2.
Ailffocysu (tymor canolig – hyd at fis Mai 2022) – ymateb
strategol i gefnogi'r ddinas i oresgyn yr argyfwng a thyfu ohono, gan
gyflawni'n blaenoriaethau corfforaethol; 3.
Ail-lunio (tymor hir – ar ôl Mai 2022) – strategaeth
adfywio a datblygu tymor hwy y ddinas a'r sir. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor fod llawer
o'r gwasanaethau a ddarparwyd gan Gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol
wedi parhau fel arfer yn ystod y pandemig, mewn perthynas â cham cyntaf y
cynllun adfer. Fodd bynnag, roedd rhai
pethau fel rhedeg gwasanaethau dydd wedi'u hoedi. Roedd gofal seibiant brys hefyd wedi parhau yn ystod y camau cychwynnol,
gyda nifer y bobl yr oedd angen gofal seibiant brys arnynt wedi cynyddu.
Dywedodd fod yn rhaid cydbwyso'r risg yn erbyn y rheini heb ofal a chefnogaeth
ffurfiol lle'r oedd "cadw mewn cysylltiad" wedi bod yn hanfodol. Er bod y gwasanaeth yn dal i fod yng nghanol cam cyntaf y cynllun adfer, roedd
wedi tynnu sylw at y ffaith bod ein darpariaeth frys ar waith ac yn addas i’r
diben. Aeth ymlaen i ddweud mai'r prif newid a gafwyd oedd bod y rhan fwyaf o'n
gweithlu bron yn gweithio o'u cartrefi yn gyfan gwbl, ac eithrio rhai canolfannau
amlddisgyblaethol yn y maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Bu'n rhaid i'r staff hyn wneud rhywfaint o
waith yn y swyddfa, a sicrhawyd bod y drefn hon yn ddiogel rhag COVID. O ran cam 2 –agwedd ailffocysu’r Cynllun Adfer, teimlai y gallai'r Pwyllgor
gynorthwyo â'r gwaith a fyddai'n cael ei wneud i gynllunio ar gyfer argyfwng y
gaeaf. Yn ogystal, teimlai y gallai'r Pwyllgor gynorthwyo gyda'u helfen
gyd-gynhyrchu barhaus o'r llynedd gan ganolbwyntio ar: ·
Drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl – drwy
gyd-gynhyrchu; ·
Gwasanaethau Iechyd a Chymunedol – galluogi pobl i fod yn
ddiogel ac aros yn eu cartrefi eu hunain. Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am y
diweddariad. Dywedodd y byddai'n cyfarfod ag Aelodau'r Cabinet dros y
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol i Oedolion a'r Gwasanaethau
Plant i benderfynu ar y pynciau i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl eu hystyried
yn ystod 2020-2021. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cynllun Gwaith 2020-2021. (Ar Lafar) Cofnodion: Fel y dywedwyd
eisoes, byddai'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021 yn cael ei gwblhau gyda'r
Aelodau Cabinet perthnasol a'i gyflwyno i'w drafod yn y cyfarfod nesaf a
drefnwyd ar gyfer 18 Tachwedd 2020. Gofynnodd Amy
Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, a fyddai'n bosib i'r Pwyllgor
ystyried cynnwys gwaith ar "les gofalwyr" yn ei Gynllun Gwaith. Dywedodd fod y pwnc hwn yn cynnwys agweddau
ar Iechyd Meddwl, gofal cymhleth, ymatebion cymunedol ac ataliol ac y byddai ei
thîm yn canolbwyntio ar hyn yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Dywedodd Dave
Howes y byddai hefyd yn tynnu sylw'r Pwyllgor at unrhyw waith cyd-gynhyrchu a
drefnwyd yn y tymor byr er mwyn iddynt allu ystyried eu cyfranogiad. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |