Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2020 fel cofnod
cywir. |
|
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl - Adroddiad Cryno 2019-2020. PDF 367 KB Cofnodion: Dechreuodd y
Cadeirydd drwy ddiolch i Simon Jones am ei holl waith caled, nid yn unig ar yr
adroddiad hwn, ond hefyd y gwaith a wnaed i gefnogi'r Pwyllgor yn ystod y ddwy
flynedd ddiwethaf. Cyflwynodd Simon
Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Adroddiad Cryno'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ar gyfer 2019-2020 a oedd yn
crynhoi'r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn ystod
2019/20. Tynnodd sylw at y
gweithgareddau a'r cyflawniadau nodedig yn y meysydd polisi a ystyriwyd, fel
rhan o'r rhaglen waith y cytunwyd arni gydag Aelod y Cabinet. Roedd rhaglen
waith y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl (fel y’i nodir yn Atodiad A) yn cynnwys
dau faes gwaith arwyddocaol: ·
Trosglwyddo
ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag anableddau; ·
Ymagwedd
Strategol at gomisiynu modelau newydd o ofal a chefnogaeth. Amlinellodd pam y
dewiswyd y pynciau hyn, yr ymrwymiadau polisi, y swyddogion arweiniol, y gwaith
a wnaed, y canlyniad a'r camau nesaf.
Aeth ymlaen i egluro sut y defnyddiwyd cyd-gynhyrchu ar gyfer pob un o'r
pynciau. Soniodd hefyd am
y darn o waith a wnaed ar "Fyw â Chymorth" a gwblhawyd gan y Pwyllgor
Datblygu Polisi Pobl ym mis Ebrill 2019. Trafododd y
Pwyllgor effaith Covid-19 ar adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r cynllun
adfer y disgwylid iddo gael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Hydref 2020. Dywedodd y Cadeirydd y dylai adroddiad y
Cabinet roi arweiniad pellach ac amlinellu ffocws y gwaith sydd i'w wneud gan y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn ystod 2020-2021. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1) Anfonir yr adroddiad at yr Aelodau Cabinet perthnasol i benderfynu a ddylid ei gyflwyno fel adroddiad "Er Gwybodaeth" i gyfarfod nesaf y Cabinet sydd ar gael. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 143 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020. Fel a ddywedwyd yn flaenorol, roedd yn disgwyl y byddai adroddiad
y Cynllun Adfer a drefnwyd i’w gyflwyno i'r Cabinet ym mis Hydref 2020 yn
darparu rhagor o gyngor ac arweiniad ar waith y Pwyllgorau Datblygu Polisi yn y
dyfodol. Roedd hefyd yn disgwyl adroddiadau diweddaru pellach mewn perthynas â'r Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu dros weddill Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. |
|
Diolch. Cofnodion: Mynegodd y
Cynghorydd Ceri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ei ddiolch i
bawb am eu holl gefnogaeth, eu gwaith caled a'u cyfraniadau yn ystod y 18 mis
diwethaf, yn arbennig: Allison Lowe a
Jeremy Parkhouse, Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd; Simon Jones,
Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol; Chris Francis,
Jane Whitmore a Lisa Banks am eu gwaith ar y ddau brif bwnc y canolbwyntiwyd
arnynt eleni; Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau
i Blant a Theuluoedd a fyddai'n ymddeol cyn bo hir; Y Swyddogion Cyfreithiol,
yn enwedig Lisa Thomas a holl aelodau’r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl sy’n
gynghorwyr am gefnogi'r Pwyllgor mor ddiwyd. |