Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019 fel cofnod cywir. Materion yn Codi: Cofnod Rhif 16 -
Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Atgoffodd y
Cadeirydd y pwyllgor y byddai digwyddiad lansio Fforwm Rhiant-ofalwyr Abertawe
yn cael ei gynnal ar 18 Hydref 2019 am 9.30am yn Theatr y Grand Abertawe. Yn
anffodus ni fyddai yntau'n gallu mynd iddo, ond
anogodd aelodau eraill i fynd. Yn ogystal,
adroddodd Chris Francis yr hoffai Heidi Lythgoe egluro'r pwyntiau canlynol y
tynnwyd sylw atynt yn y cyfarfod blaenorol: ·
O ran
y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r cwricwlwm newydd, roedd
cynrychiolwyr Fforwm Rhiant-ofalwyr Abertawe wedi bod yn cysylltu â'r Adran
Addysg drwy'r Grŵp Llywio Strategol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn
hytrach na'n uniongyrchol ag ysgolion. · O ran yr Arolwg ar Asesiadau i Ofalwyr - nid oedd hwn yn ymwneud ag ansawdd y cyfathrebu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol, ond yn hytrach, eu profiad wrth gael mynediad at Asesiadau i Ofalwyr. |
|
Ymagwedd y cyngor at Gomisiynu Strategol. (Cyflwyniad) PDF 508 KB Cofnodion: Rhoddodd y
Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu a'r Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a
Chomisiynu gyflwyniad ar ymagwedd y cyngor at Gomisiynu Strategol. Roedd Amanda
Carr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, hefyd yn bresennol i roi
gwybodaeth am fodelau cyflwyno amgen y gallai'r pwyllgor hefyd eu
hystyried. Roedd y rhain yn cynnwys
manylion micro-fentrau a chydweithfeydd sy'n cysylltu'r ymagweddau sy'n
seiliedig ar gryfder a amlinellwyd gan swyddogion. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor, trafodwyd y materion canlynol: ·
Roedd
holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio tuag at y nodau Comisiynu
Strategol, fodd bynnag, nodwyd bod bylchau yn y maes Addysg yr oeddent wedi'u
hamlygu'n 'risg' i'r Cyfarwyddwr Addysg; ·
Cydnabuwyd
y dylid cael dangosyddion perfformiad (DP) er mwyn monitro canlyniadau; ·
Mae
angen safoni gweithdrefnau e.e. monitro contractau a dysgu gan ei gilydd o ran
arfer gorau; ·
Roedd
digwyddiad hyfforddi staff wedi'i drefnu ym mis Tachwedd ar y Fframwaith
Comisiynu Personol Integredig er mwyn ychwanegu gwerth, nodi bylchau/dyblygu; ·
Y
gwahaniaeth rhwng caffael a chomisiynu; ·
Y
gwahaniaeth rhwng comisiynu strategol ac adolygiadau comisiynu; ·
Roedd
ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru wedi'u cyfuno a'u lleihau i'r: ·
Grant
Cymorth Tai; ·
Grant
Plant a Chymunedau; ·
Y
cynnydd o 13% mewn costau sy'n ymwneud a threfniadau Gofal Cartref; ·
Paham
yr oedd trefniadau gwahanol ar gyfer darpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol mewn
awdurdodau lleol eraill gan nad oeddent yn addas i bawb. Fodd bynnag, cydnabuwyd y gellid safoni
prosesau drwy'r newidiadau yn sgîl y ddeddfwriaeth
newydd; ·
Sut
roedd partneriaid yn cyfrannu drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC)
drwy eu 4 ffrwd waith: ·
Y
Blynyddoedd Cynnar; ·
Byw'n
Dda, Heneiddio'n Dda; ·
Cymunedau
Cryf; ·
Gweithio
gyda Natur; ·
Yn
ogystal, dewiswyd BGC Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gan Lywodraeth Cymru
i weithio ar y cyd fel rhan o gynllun braenaru rhanbarthol y Blynyddoedd Cynnar; ·
Y cyswllt rhwng y BGC a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gorllewin Morgannwg (BPR); ·
Sut
roedd y 3ydd sector yn cysylltu â sefydliadau cymunedol ar lawr
gwlad a sut gallai gysylltu penderfynwyr â
chynllunwyr ac aelodau'r gymuned; ·
Gallai'r
3ydd sector weithredu hefyd
fel galluogwr ar gyfer sefydliadau llai i'w cysylltu â rhai cyfleusterau megis
trefniadau cyfreithiol a llywodraethu; Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu
cyflwyniad addysgiadol. Dywedodd fod y Pwyllgor wedi trafod
canolbwyntio ar arwahanrwydd/unigedd ymysg yr henoed o'r blaen. Dywedodd Amanda Carr fod dau gynllun
newydd yn cael eu trafod ar hyn o bryd a allai fod o gymorth gyda'r pwnc a
awgrymir, fodd bynnag, roedd un cynllun ar gamau cynnar iawn. Felly, awgrymwyd y dylai rhagor o drafodaethau
gael eu cynnal rhwng y Cadeirydd a swyddogion. Penderfynwyd 1)
Nodi'r
cyflwyniad; 2) Y bydd y Cadeirydd yn cwrdd â'r swyddogion i drafod yr union ofynion mewn perthynas â'r pwnc hwn ar gyfer y cyfarfod nesaf. |
|
Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar) Y diweddaraf am gyfarfod cyntaf yr Is-grŵp. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Arweinydd
Datblygu a Chomisiynau Busnes ddiweddariad llafar fel a ganlyn: ·
Cynhaliwyd
cyfarfod cyntaf y Grŵp Tasg a Gorffen ar 13 Medi 2019; ·
Bwriedid
cynnal y cyfarfod nesaf ar 18 Hydref 2019, ond cafodd ei oedi ychydig yn sgîl lansio Fforwm Rhiant-ofalwyr Abertawe; ·
Byddai
cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal rhwng nawr a mis Ionawr 2020; ·
Byddai'r
ddogfen sgerbwd ddrafft yn cael ei hystyried ynghyd â'r map rhanddeiliaid
i sicrhau yr ymgysylltir â'r holl bartneriaid perthnasol; ·
Trefnwyd
trafodaethau â'r Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu a Phennaeth y
Gwasanaethau Dysgwyr Diamddiffyn; ·
Roedd
2 achos trosglwyddo wedi'u trafod â chynrychiolydd o'r gwasanaeth Iechyd
ynghylch newidiadau i integreiddio ac awgrymwyd rhai argymhellion yn sgîl hyn; ·
Byddai
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd â chydweithwyr o'r gwasanaeth
Iechyd ddydd Llun 21 Hydref i drafod yr argymhellion; ·
Cadarnhawyd
bod cynnydd yn cael ei wneud yn ôl y disgwyl er mwyn i’r pwyllgor ystyried y
polisi ym mis Ionawr 2020. Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynau Busnes am y diweddariad. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 137 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig ar gyfer 2019-2020. Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith. |