Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Hannah Lawson gysylltiad personol â chofnod 13, “Datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe.” Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorydd Hannah Lawson gysylltiad personol â Chofnod 13 "Datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe". |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Diweddariad ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. (Llafarl) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Katie
Spendiff, Swyddog Polisi Hawliau a Phartneriaeth adroddiad llafar ar y Cynllun
Hawliau Plant a Phobl Ifanc. Esboniodd eu bod
wrthi'n adnewyddu ac ailddatblygu'r cynllun a oedd wedi bod ar waith ers 2014.
Dros y 18 mis diwethaf mae'r cynllun wedi cael ei gyd-gynhyrchu gyda phlant a
phobl ifanc, aelodau, ymarferwyr a chyrff cenedlaethol er mwyn ystyried Cynllun
Hawliau Plant sydd wedi'i fireinio a'i adnewyddu i sicrhau ei fod yn addas i'r
diben wrth i ni adfer o COVID-19. Dechreuodd yr
ymgynghoriad ar y cynllun yng nghanol mis Mehefin a disgwylir iddo ddod i ben
ar 31 Gorffennaf 2021. Anogodd bawb a oedd yn bresennol i gymryd rhan yn yr
ymgynghoriad. Rhan o'r gwaith a
wnaed hyd yma oedd alinio'r cynllun â rhywfaint o'r gwaith cenedlaethol gan
ddefnyddio egwyddorion ymagwedd “y ffordd gywir" wrth ystyried y canlynol: -
sut
yr ydym yn ymgorffori hawliau plant ar draws yr awdurdod; -
sut y
gallem gefnogi'r plant a'u teuluoedd i deimlo eu bod wedi'u grymuso; -
sut y
gallem sicrhau bod yr uchod yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw’n gwahaniaethu
yn erbyn grwpiau penodol o blant a phobl ifanc. Dywedodd fod
adran benodol o fewn y cynllun yn canolbwyntio ar y mecanweithiau a oedd yn
gynhwysol ac yn ystyrlon. Dylai'r rhain gynnwys mannau diogel i blant fod yn
rhan o benderfyniadau a wnaed gan y cyngor a effeithiodd ar fywydau'r plant a'r
bobl ifanc. Yr adborth
cychwynnol a gafwyd oedd bod bwlch rhwng y rhyngweithiad wyneb yn
wyneb/uniongyrchol rhwng plant a phobl ifanc a'r rhai sy'n gwneud
penderfyniadau. Roedd hyn ar lefel sirol gyfan. Hoffai ymestyn y
sgwrs i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl, yn enwedig o ran cydweithredu i wella'r
mecanweithiau wrth wrando ar blant a phobl ifanc er mwyn eu gwneud yn gynhwysol
yn y broses honno o wneud penderfyniadau. Gofynnodd y
canlynol i'r Pwyllgor: Yn eich barn chi,
beth y mae angen ei wneud i wella'r mecanweithiau ar gyfer gwrando ar bob
plentyn a pherson ifanc, yn enwedig y rheini sydd ar y cyrion? A oedd unrhyw
enghreifftiau da y gellid eu rhannu? A oedd unrhyw
feysydd gwaith penodol lle gallai plant a phobl ifanc ddod at ei gilydd gyda'r
rhai sy'n gwneud penderfyniadau dros y 12-18 mis nesaf? Tynnodd y
Pwyllgor sylw at waith da a wnaed gyda'r canlynol: Ysgolion – y
pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw gynllun fel arfer; Clybiau
Ieuenctid; EYST (TÎM CEFNOGI
IEUENCTID ETHNIG); Gofalwyr Ifanc. Cydnabu'r Pwyllgor
yr anhawster o ran sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael cyfle i
fynegi eu barn a’r mecanwaith a ddefnyddir i sicrhau bod hynny'n digwydd. Eglurodd y
Swyddog Polisi Hawliau a Phartneriaeth y byddai'r sylwadau a wnaed i'r
ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi erbyn 20 Awst ac y byddai adroddiad pellach
yn cael ei gyflwyno i'r cyngor llawn ym mis Hydref. Byddai pob Cynghorydd yn
cael cyfle i barhau â'r sgwrs dros y misoedd nesaf. Dywedodd y
Cadeirydd y dylai pob un o'r 5 Pwyllgor Datblygu Polisi ystyried sut y gallent
ymgysylltu â phlant a phobl ifanc fel y gallent gyfrannu at eitemau amrywiol y
cynllun gwaith a'u penderfyniadau. Rhoddodd sylwadau ar y gwaith da sylweddol
sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Abertawe a oedd yn gadarnhaol iawn a
thynnodd sylw at ein hymrwymiad parhaus. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Polisi Hawliau a Phartneriaeth am yr adroddiad llafar. |
|
Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Nodi’r diweddaraf a threfnu gweithdy. Cofnodion: Rhoddodd Amy
Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion ddiweddariad llafar ar y
sefyllfa bresennol mewn perthynas â Datblygu Strategaeth Gwirfoddoli. Roedd y dyddiad
cau ar gyfer y swydd Rheolwr Prosiect rhanbarthol a oedd yn gyfyngedig o ran
amser bellach wedi bod ac yn anffodus nid oedd unrhyw un wedi'i recriwtio. Fodd bynnag, roeddent wedi edrych ar y cyllid
ac awgrymwyd y gallai ein partneriaid yng Nghyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Abertawe (CGGA) a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
wneud y gwaith. Ymgynghorwyd â
Llywodraeth Cymru hefyd i weld a ellid defnyddio rhywfaint o'r cyllid i barhau
i weithio gydag arfarnwr allanol sydd wedi bod yn ein
cefnogi ar sail amlasiantaethol ranbarthol am y
flwyddyn ddiwethaf. Roedd adnoddau
o'r strategaeth a'r ffrwd waith ranbarthol hefyd wedi'u lansio. Mae 12 taflen wybodaeth
ar wirfoddoli a 6 phecyn cymorth ar gael ar hyn o bryd ar wefannau Partneriaeth
Ranbarthol Gorllewin Morgannwg a CGGA a chânt eu rhoi ar wefan y cyngor maes o
law. Yn ogystal â hyn, roedd fideo byr
wedi'i animeiddio hefyd wedi'i greu am y camau cyntaf i wirfoddoli. Eglurodd Pennaeth
Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion fod Anthony Richards yn y Tîm Trechu Tlodi
yn arwain ar y Strategaeth Gwirfoddoli ac roedd ef a'i dîm wedi cyfarfod â
Julia Manser, CGGA yr wythnos hon i ystyried unrhyw
enghreifftiau o arfer da. Eglurodd Julia Manser fod y rhaglen waith wedi dechrau a bod y tîm wedi
ymgysylltu â Chyngor Sir Fynwy ac wedi cael copi o'i Strategaeth Gwirfoddoli.
Roeddent hefyd yn edrych ar strategaeth gwirfoddoli Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae
Abertawe o safbwynt y sector statudol. Byddai cyfarfodydd parhaus rheolaidd yn
parhau â'r darn hwn o waith. Awgrymodd y
Cadeirydd y dylid sefydlu gweithdy ynghylch yr egwyddorion allweddol a fydd yn
llywio'r strategaeth i roi rhagor o fanylion i'r pwyllgor. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Nodi'r
diweddariad llafar; 2)
Bydd
gweithdy'n cael ei sefydlu cyn y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl nesaf a drefnwyd
ar gyfer 22 Medi 2021. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 122 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022. Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022. |