Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 242 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2021 a 20 Mai 2021 fel cofnod cywir.

6.

Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Diweddariad Llafar)

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Rhoddodd Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion ddiweddariad llafar ar y Strategaeth Gwirfoddoli Rhanbarthol fel a ganlyn:

 

·                    Byddai'r pecynnau cymorth/cyngor gwybodaeth yn cael eu lansio'r wythnos ar ôl y nesaf, gan gynnwys y pecyn cymorth gwirfoddoli gwyrdd / amgylcheddol a'r pecyn cymorth gwirfoddoli amrywiol sylfaenol.  Byddai'r rhain yn cael eu cynnal yn rhanbarthol ar wefannau gwahanol bartneriaid a byddai rhagor o fanylion yn cael eu dosbarthu maes o law;

·                    Roedd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Prosiect Gwirfoddoli Rhanbarthol sy'n gysylltiedig â'r pecynnau cymorth wedi'i ddatblygu'n rhanbarthol gan Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, y Bwrdd Iechyd a CGSau yn ganolog, ac roedd hyfforddiant perthnasol wedi'i ddarparu. 

·                    Defnyddiwyd arian dros ben ychwanegol tuag at swydd Prosiect Gwirfoddoli Rhanbarthol a fyddai'n cael ei hysbysebu cyn bo hir.  Byddai'r swydd yn cefnogi ac yn datblygu gwaith y Strategaeth Gwirfoddoli, a oedd ar ffurf ddrafft ar hyn o bryd ac a fyddai'n cael ei chyd-gynhyrchu â phartneriaid.

·                    Byddai Strategaeth ddrafft yn dod yn ôl i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn ystod y misoedd nesaf a dylid cwblhau a chyhoeddi'r Strategaeth derfynol yn ystod y 6 mis nesaf.

·                    Roedd amserlen debyg hefyd ar gyfer y swydd wirfoddoli ranbarthol wrth gefnogi'r broses rhwng nawr a mis Mawrth nesaf, gan orffen ddechrau'r flwyddyn nesaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion am y diweddariad.

 

Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar.

7.

Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar)

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Rhoddodd Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc ddiweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc fel a ganlyn:

Penodwyd y swyddog penodedig yn yr YMCA i gefnogi'r Gofalwyr Ifanc a'r Fforwm Gofalwyr Ifanc.  Derbyniwyd enwebiadau i'r Fforwm ac roedd cynnydd da'n cael ei wneud.  Roedd y trafodaethau cychwynnol wedi dechrau ac roedd y Fforwm yn awyddus i gyd-gynhyrchu'r strategaeth.  Byddai cyfarfodydd rhwng Swyddogion a'r Gofalwyr Ifanc yn dechrau dros yr haf, gyda dyddiad cwblhau delfrydol o fis Hydref.  Fodd bynnag, gallai'r amserlen honno amrywio gan fod angen o hyd i ddeall mwy am sut y mae'r gofalwyr ifanc am lunio'r strategaeth, a'r gwaith y byddai hyn yn ei olygu.  Byddai'r Cynghorydd Evans hefyd yn cael ei wahodd i gymryd rhan yn y cyfarfodydd hynny.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc am y diweddariad.

Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar.

8.

Cyngor Abertawe - Darpariaeth Cyflogadwyedd. pdf eicon PDF 368 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Elliott Williams, Rheolwr Cyllid Allanol, gyda chefnogaeth Joanne Thomas, Arweinydd Tîm Mentor Cyflogadwyedd a Tim Moss, Cydlynydd Abertawe’n Gweithio, gyflwyniad ar y Ddarpariaeth Cyflogadwyedd bresennol ar gyfer Cyngor Abertawe.

 

Amlinellodd fanylion y cynlluniau canlynol, o dan "Abertawe'n Gweithio" a'r cymorth a gynigir mewn perthynas â:

 

·                    Chymunedau am Waith;

·                    Cam Nesa;

·                    Gweithffyrdd+;

·                    Diweithdra Tymor Byr Gweithffyrdd+;

·                    Cymunedau am Waith +.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Allanol y materion allweddol o ran:

 

·                    Ffocws 1 - Cefnogi pobl ifanc i gael gwaith;

·                    Ffocws 2 – Y Cynllun Kick-Start.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried pa un o'r ddau gynllun yr oeddent am ganolbwyntio arno ar gyfer eu trydydd pwnc yn 2021-2022.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Nodi'r cyflwyniad;

2)           Bydd y Cadeirydd yn cynnal trafodaethau pellach gyda'r Swyddogion ynglŷn â'r opsiynau cyn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 28 Gorffennaf 2021.

9.

Cynllun Gwaith Drafft 2021-2022. pdf eicon PDF 121 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022.

 

Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022.