Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

26.

Cofnodion: pdf eicon PDF 318 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 fel cofnod cywir.

27.

Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau i Oedolion, gyda chefnogaeth Anthony Richards, Rheolwr Datblygu'r Strategaeth Tlodi a'i Atal, adroddiad "Er Gwybodaeth" i fanylu ar y cynnydd o ran datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe a chyflwyno diweddariad ar y Prosiect Gwirfoddoli Rhanbarthol. 

 

Roedd Julia Manser, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA), Rheolwr Canolfan Wirfoddoli Abertawe hefyd yn bresennol i gynorthwyo’r Pwyllgor wrth ddatblygu'r Strategaeth Gwirfoddoli.

 

Amlinellodd yr adroddiad:

 

Ø    Y cefndir;

Ø    Mapio cyfleoedd gwirfoddoli presennol a chyfleoedd gwirfoddoli posib a gynhelir gan Gyngor Abertawe;

Ø    Datblygu Strategaeth Gwirfoddoli;

Ø    Prosiect Gwirfoddoli Rhanbarthol;

Ø    Y camau nesaf

 

Trafododd y pwyllgor:

 

Ø    Elfen ddiogelu gwirfoddoli, yn enwedig i'r rheini sy'n agored i niwed, gan gynnwys gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, goruchwylio gwirfoddolwyr gan reolwyr, asesu risg rolau, sesiynau sefydlu a hyfforddiant parhaus i wirfoddolwyr a goruchwylwyr/rheolwyr;

Ø    Dylid gwneud gwirfoddoli mor hawdd â phosib a'i annog i'r rheini sy'n dymuno gwirfoddoli;

Ø    Dylid nodi nifer y gwirfoddolwyr fel bod gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi ac egwyddorion y strategaeth yn cael eu gwreiddio yn yr Awdurdod;

Ø    Monitro perfformiad a rhannu arfer da;

Ø    Wythnos y Gwirfoddolwyr 1-7 Mehefin – annog cyfathrebu i ddenu gwirfoddolwyr newydd;

Ø    Cymorth i wirfoddolwyr adeiladu dulliau effeithiol o ran dilyniant/cyfleoedd gwaith yn y dyfodol;

Ø    Rôl Cyngor Abertawe yn y ddarpariaeth wirfoddoli ranbarthol ehangach.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

28.

Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc ddiweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc, fel a ganlyn:

 

·                    Ers y cyfarfod diwethaf roedd y Grŵp Partneriaeth wedi'i ailffurfio gyda'r Cylch Gorchwyl newydd fel y "Grŵp Llywio Gofalwyr Ifanc", gydag aelodaeth ddiwygiedig i gynnwys y Cynghorydd Ceri Evans, Cadeirydd y PDP Pobl;

·                    Datblygu'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc oedd y brif flaenoriaeth o hyd;

·                    Roedd y YMCA wedi sicrhau cyllid i benodi swyddog penodedig i gefnogi'r Gofalwyr Ifanc;

·                    Byddai Fforwm neu Fwrdd Gofalwyr Ifanc yn cael ei greu lle byddai eu barn ar gyd-gynhyrchu'r Strategaeth Gofalwyr yn cael ei thrafod.  Mae'n bwysig ei fod yn cael ei arwain gan y bobl ifanc a bod rhwystrau perthnasol yn cael eu dileu;

·                    Roedd yr amserlen ar gyfer cwblhau'r strategaeth yn debygol o fod ym mis Medi ond cytunwyd ei fod yn bwysig cael pethau'n iawn yn hytrach na rhuthro'r broses;

·                    Roedd pobl ifanc yn fwy tebygol o awgrymu syniadau blaengar a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol ar gyfer datblygu’r Strategaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc am y diweddariad.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

29.

Cynllun Gwaith 2020-2021. pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021.

 

Yn ogystal â pharhau â'r gwaith cyfredol mewn perthynas â'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc a'r Strategaeth Gwirfoddoli, roedd y Cadeirydd wedi cyfarfod â Swyddogion i drafod yr eitem "Cyflogadwyedd" a awgrymwyd gan y Cynghorydd Alyson Pugh, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell.  Byddai’r cynllun Cam Nesa a oedd yn canolbwyntio ar y rheini nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth a Chyflogaeth (NEET) yn dod i ben a byddai'n gadael bylchau ynghylch pa mor agored i niwed y mae rhai unigolion.  Gwahoddwyd y swyddogion i ddod i’r cyfarfod nesaf ym mis Mehefin a bwriedir i’r Pwyllgor ddechrau ar y pwnc gwaith hwn o fis Gorffennaf 2021.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith.