Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

21.

Cofnodion: pdf eicon PDF 242 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2021 fel cofnod cywir.

22.

Datblygu Strategaeth Gwirfoddolwyr. (Ar lafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion, ymateb llafar mewn perthynas â datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Corfforaethol.

 

Cefndir

 

Dywedodd ein bod wedi gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr yn ystod yr ymateb i COVID-19 a bod yr effaith wedi bod yn aruthrol o fewn y cyngor ac o fewn cymunedau.

 

Roedd cysylltu cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y cyngor yn gam gweithredu ar gyfer ffrwd waith Cefnogaeth y Gymuned Cynllun Adfer y cyngor.

 

Pam y dylem gael strategaeth gwirfoddoli corfforaethol?

 

·         Er mwyn sicrhau bod natur a gwerth cynnwys gwirfoddolwyr yn cael eu deall ar bob lefel o'r cyngor fel bod gwirfoddolwyr a'r cyngor yn elwa o'r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud.

·         Gwyddom fod cannoedd o wirfoddolwyr eisoes yn cyfrannu o fewn gwaith y cyngor ac er budd cymunedol a chymdeithasol ehangach, er enghraifft; Pwyllgorau, Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd, Llywodraethwyr Ysgol, aelodau'r CRhA a Hyfforddwyr Chwaraeon Cymunedol, Cydlynwyr Digwyddiadau, Gwirfoddolwyr Canolfannau Cymunedol a Grwpiau Cyfeillion.

·         Mae ystod ac ansawdd gwasanaethau, cyfleusterau, gweithgareddau a bywyd diwylliannol yn elwa o wirfoddolwyr.

·         Mae gwirfoddoli'n gwella ansawdd bywyd y gwirfoddolwyr eu hun a'r bobl a'r cymunedau maent yn eu cefnogi.

·         Mae rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr yn bwysig a bydd y strategaeth wirfoddoli yn sicrhau bod cefnogaeth a chydnabyddiaeth briodol i'r rhai sy'n gwirfoddoli a'r rhai sy'n cefnogi gwirfoddolwyr.

 

Egwyddorion Allweddol Gwirfoddoli:

1.     Mae gwirfoddoli'n cael ei wneud drwy ddewis.  Mae gan unigolion yr hawl i wirfoddoli neu beidio.

2.     Er na ddylai gwirfoddolwyr fel arfer dderbyn na disgwyl gwobrau neu gymhellion ariannol, dylid eu had-dalu am dreuliau rhesymol.

3.     Dylai cyfraniad gwirfoddolwyr a staff cyflogedig gyd-fynd â'i gilydd Ni ddylid defnyddio gwirfoddolwyr i gymryd lle staff cyflogedig nac i danbrisio eu cyflog a'u hamodau gwasanaeth. 

4.     Dylai gwirfoddolwyr wella ansawdd gweithgareddau'r cyngor.

5.     Dylai mecanweithiau effeithiol fod ar waith i gefnogi a datblygu gwirfoddolwyr.

6.     Dylai gwirfoddolwyr (a staff cyflogedig) allu cyflawni eu dyletswyddau mewn amgylcheddau diogel ac iach sy'n rhydd o aflonyddwch, bygwth, bwlio, trais a gwahaniaethu. 

7.     Dylai gwirfoddolwyr gael mynediad at gyfleoedd priodol ar gyfer dysgu a datblygu.

8.     Dylid cael proses gydnabyddedig ar gyfer datrys problemau, ar gyfer staff a gwirfoddolwyr.

9.     Dylai gwirfoddoli fod yn agored ac yn hygyrch i bawb.

10.  Dylai'r gwirfoddolwr a'r cyngor elwa o'r berthynas wirfoddoli.

11.  Dylid cydnabod cyfraniad y gwirfoddolwr.

 

Cynnydd Cyfredol:

·         Sicrhawyd rhywfaint o gyllid tymor byr ar gyfer cynnydd dros dro mewn oriau ychwanegol i weithwyr presennol ar sail tasg a gorffen i fapio cyfleoedd presennol a chyfleoedd posib o fewn eu meysydd gwasanaeth a'u cyfarwyddiaethau. 

·         Ar hyn o bryd rydym yn casglu gwybodaeth am y rolau amrywiol y mae gwirfoddolwyr eisoes yn ymgymryd â nhw.

·         Yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer rolau y gellid eu datblygu gyda gwasanaethau ar draws y cyngor.

·         Y prosesau a'r gweithdrefnau sydd eisoes ar waith. 

·         Profiadau staff sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr ar hyn o bryd.

·         Gwybodaeth am fuddion ar y cyd – budd y rôl wirfoddoli i'r gwasanaeth a'r manteision i'r gwirfoddolwr megis hyfforddiant, cymwysterau etc.

·         Camau gweithredu rhanbarthol ychwanegol i gefnogi'r strategaeth hon; Hyfforddiant Gwirfoddoli a Phecynnau Cymorth i gefnogi sefydliadau mewn amrywiaeth o themâu gwirfoddoli gan gynnwys; Camau Cyntaf at Wirfoddoli, Gwirfoddoli ar gyfer Gyrfa, Gwirfoddoli'n Ddiogel – bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at ein gwefannau ni a gwefannau partneriaid.

 

Y Camau nesaf

·         Gorffen y mapio;

·         Cydgynhyrchu'r strategaeth wirfoddoli;

·         Datblygu ac adnewyddu'r polisïau/gweithdrefnau gwirfoddoli presennol i gefnogi rhoi'r strategaeth ar waith;

·         Cymeradwyo, lansio a rhoi ar waith.

 

Gellid cael rhagor o wybodaeth gan naill ai:

Anthony Richards Anthony.Richards@abertawe.gov.uk neu

Amy Hawkins Amy.Hawkins@abertawe.gov.uk

 

Roedd Amanda Carr a Julia Manser, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS) sy'n rheoli Canolfan Wirfoddoli Abertawe hefyd yn bresennol i roi cyngor ac arweiniad, a byddent yn cefnogi gwaith y pwyllgor er mwyn sicrhau bod Abertawe'n cael ei chydnabod fel Cyngor Rhagoriaeth Gwirfoddolwyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl swyddogion am ddod i'r cyfarfod ac roedd yn edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth yn y cyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd cofnodi'r eitem lafar.

23.

Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc ddiweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc:

 

·                     Gwahoddwyd y Cynghorydd Ceri Evans i fynychu cyfarfodydd y grŵp amlasiantaeth yn y dyfodol, trefnwyd y cyfarfod nesaf yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill 2021;

·                     Trefnwyd y Strategaeth Ddrafft ar gyfer diwedd Ebrill 2021;

·                     Roedd y grŵp wedi bod yn edrych ar gyflawniadau a blaenoriaethau a byddai'n canolbwyntio ar gwblhau'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc;

·                     Er bod Addysg yn cael ei chynrychioli yn y grŵp ar hyn o bryd, ceisiwyd cynrychiolaeth o bob ysgol i sicrhau y byddai'r gwaith yn cael ei roi ar waith ar y lefel honno;

·                     Roedd hi’n "Ddiwrnod Gofalwyr Ifanc" ddydd Llun, ond cynhaliwyd Wythnos Gweithredu Gofalwyr Ifanc gyda gweithgareddau ar-lein amrywiol ar gyfer Gofalwyr Ifanc a'u teuluoedd;

·                     Lansiwyd y cerdyn adnabod newydd, ac roedd Abertawe’n  un o ddeg o Awdurdodau Lleol yng Nghymru a wnaeth gymryd rhan;

·                     Cyflwynwyd Cyfathrebu Corfforaethol gyda dyfyniadau amrywiol gan y Gweinidog ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc am y diweddariad llafar.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

24.

Cynllun Gwaith 2020-2021. pdf eicon PDF 224 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021.

 

Awgrymodd Alyson Pugh, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell, y gallai'r Pwyllgor gynorthwyo gyda'r materion cyflogadwyedd mewn perthynas â gwahanol gynlluniau megis y cynllun Kick Start a oedd yn cynnwys amrywiaeth o asiantaethau allanol.  Ar hyn o bryd, y cyngor sy'n gyfrifol am frysbennu'r cynlluniau hyn er mwyn sicrhau bod y bobl gywir yn cael eu paru â'r prosiect mwyaf priodol. 

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            nodi'r cynllun gwaith:

2)            Bydd y pwyllgor yn ystyried ychwanegu "Cyflogadwyedd" i'w cynllun gwaith ar gyfer 2021-2022.