Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

16.

Cofnodion: pdf eicon PDF 228 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2021 fel cofnod cywir.

17.

Strategaeth Gofalwyr Ifanc. pdf eicon PDF 534 KB

Gavin Evans

Cofnodion:

Darparodd Gavin Evans, Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc, nifer o sleidiau PowerPoint mewn perthynas â'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc.

 

Amlinellodd y sleidiau:

 

Ø    Trosolwg o ddatblygiad y strategaeth;

Ø    Meysydd sy'n cael eu datblygu yn y strategaeth;

Ø    Nodau/diben y strategaeth:

Cynyddu ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc;

Cynyddu'r broses o adnabod Gofalwyr Ifanc;

Sicrhau'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir;

Ø    Canlyniadau a mesurau;

Ø    Y camau nesaf

 

Darparodd Egija Cinovska, Cydlynydd Prosiect Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe, wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cynllun cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc Cenedlaethol.  Esboniodd y gallai'r Gofalwyr Ifanc yn yr ysgol ddefnyddio'r cerdyn, er enghraifft lle'r oedd angen gorffen yn yr ysgol yn gynnar neu fynd i'r ysgol yn hwyr oherwydd cyfrifoldebau gofalu, neu fel arall os nad oeddent wedi gallu cwblhau unrhyw waith cartref.  Yn ogystal, y gobaith oedd y gellid defnyddio'r cerdyn mewn fferyllfeydd fel y gallai gofalwr ifanc gasglu meddyginiaeth ar gyfer ei ddibynnydd, yn ogystal â gallu ei ddefnyddio i gael pris gostyngol ar gludiant cyhoeddus pe bai angen iddynt hebrwng dibynnydd i unrhyw apwyntiad a drefnwyd.  Byddai'r cynllun cerdyn adnabod ar sail cymryd rhan yn wirfoddol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc wrth y Pwyllgor fod YMCA Abertawe wedi llwyddo i ailgomisiynu'r gwasanaeth Gofalwyr Ifanc am y 3 blynedd nesaf.

 

Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau a gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r swyddogion, yr ymatebwyd iddynt yn unol â hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

18.

Strategaeth Cyd-gynhyrchu fel offeryn i ddatblygu'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Cyflwyniad)

Jane Whitmore

Cofnodion:

Rhoddodd Jane Whitmore, y Comisiynydd Arweiniol Strategol, gyflwyniad mewn perthynas â sut y gellid defnyddio'r Strategaeth Cydgynhyrchu fel offeryn i ddatblygu'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc.

 

Amlinellodd:

 

·                     Nod y strategaeth a gynlluniwyd gan ein dinasyddion;

·                     Y cefndir;

·                     Y Daith i Wreiddio Cydgynhyrchu;

·                     Cynnwys plant a phobl ifanc;

·                     Beth yw ystyr cydgynhyrchu;

·                     Ei egwyddorion;

·                     Yr hyn nad yw'n gydgynhyrchu;

·                     Y gwahaniaeth rhwng cydgynhyrchu ac ymgynghori/cynnwys ac addysg;

·                     Sut y gall cydgynhyrchu weithio;

·                     Sut y gall cydgynhyrchu ddatblygu Strategaeth Gofalwyr Ifanc.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei chyflwyniad a dywedodd y dylai'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl fabwysiadu proses y Strategaeth Cydgynhyrchu ar gyfer ei holl eitemau cynllun gwaith yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

19.

Cynllun Gwaith 2020-2021. pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Darparu diweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc yn y ddau gyfarfod sy'n weddill o'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ar gyfer 2020-2021;

2)           Dylid ychwanegu "Datblygu Strategaeth Gwirfoddolwyr" at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 17 Mawrth 2021.