Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

8.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

9.

Cofnodion: pdf eicon PDF 230 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgorau Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 21 Hydref ac 18 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

10.

Cynllun Gwaith 2020-2021. pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi mynychu'r cyfarfod ar 21 Hydref 2020 i amlinellu darpar eitemau i'r Pwyllgor eu hystyried ar gyfer ei Gynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021. Yn anffodus, ers hynny, bu heriau digynsail yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac ar hyn o bryd nid oeddent yn gallu darparu'r adnoddau perthnasol i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl er mwyn datblygu'r eitemau a drafodwyd yn flaenorol.

 

Felly, yn dilyn trafodaethau pellach gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac aelodau perthnasol y Cabinet, argymhellwyd bod y Pwyllgor yn ystyried gwaith mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant, yn enwedig "Gofalwyr Ifanc - Sicrhau lles gofalwyr ifanc yng nghyd-destun COVID-19".

 

Daeth Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc, i'r cyfarfod i roi trosolwg o'r sefyllfa bresennol yn Abertawe mewn perthynas â Gofalwyr Ifanc.

 

Ar hyn o bryd, YMCA Abertawe sydd â'r contract ar gyfer Gofalwyr Ifanc yn Abertawe, ac maent yn darparu elfennau gwahanol o gymorth megis Grwpiau Ieuenctid, asesiad un  i un o anghenion a'r Cynllun Adnabod – cynllun sy'n benodol i Abertawe ar hyn o bryd ond gobeithio y bydd yn dod yn genedlaethol. 

 

Er mai YMCA Abertawe sydd â'r contract ar gyfer Gofalwyr Ifanc yn Abertawe ar hyn o bryd, roedd proses ail-gomisiynu wrthi'n cael ei chynnal a byddai canlyniad y cynigydd llwyddiannus yn hysbys ym mis Ionawr 2021.  Byddai'r cynigydd llwyddiannus yn cael ei wahodd i gyfrannu at y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor drwy ddull cyd-gynhyrchu.

 

Aeth y Prif Swyddog ymlaen i amlinellu'r grwpiau amrywiol a oedd wedi cwrdd yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyfarfodydd gweithgor rheolaidd gydag YMCA Abertawe er mwyn sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cefnogi. Roedd dulliau cyfathrebu newydd wedi'u datblygu drwy wahanol lwyfannau digidol ac roedd adnoddau ar-lein hefyd yn cael eu defnyddio.   Yn ogystal, prynwyd 20 gliniadur o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cael ei fenthyg i'r Gofalwyr Ifanc drwy YMCA Abertawe.

 

Roedd gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas ag arolwg ar farn ac effaith COVID-19 ar ofalwyr ifanc hyd at 18 oed.  Byddai Egija Cinovska, Cydlynydd y Prosiect Gofalwyr Ifanc yn YMCA Abertawe, a oedd wedi gweithio'n helaeth gyda gofalwyr ifanc, yn cael ei gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol i rannu ei gwybodaeth pe bai YMCA Abertawe yn llwyddiannus yn y broses ail-gomisiynu. 

 

Roedd grŵp trawsadrannol gan gynnwys swyddogion Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Timau Blynyddoedd Cynnar ac Iechyd wedi bod yn datblygu Strategaeth Gofalwyr Ifanc 3 blynedd newydd. Y gobaith oedd y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf a'i gyd-gynhyrchu gydag YMCA Abertawe a'r Gofalwyr Ifanc eu hunain.

 

Trafodwyd yr heriau amrywiol sy'n cael eu hwynebu gan y Gofalwyr Ifanc a thrafodwyd y materion cymhleth, a gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amrywiol, yr ymatebwyd iddynt gan y Prif Swyddog.  Nodwyd a gwerthfawrogwyd cyfraniadau'r gwesteion a wahoddwyd hefyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc am fod yn bresennol i ddarparu'r trosolwg.

 

Aeth ymlaen i egluro bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl gymryd rôl fwy canolog wrth ddatblygu'r darn hwn o waith ac awgrymodd y dylid cynnal gweithgorau yn ogystal â chyfarfodydd Pwyllgor ffurfiol.  Byddai dogfennau cefndir amrywiol yn cael eu e-bostio at y Pwyllgor cyn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2021.

 

Penderfynwyd y byddai'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn ystyried yr eitem ganlynol ar gyfer Cynllun Gwaith 2020-2021:

 

Gofalwyr Ifanc - Sicrhau lles gofalwyr ifanc yng nghyd-destun COVID-19 i ddatblygu polisi a fydd yn:

 

·                    Casglu barn gofalwyr ifanc ar yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar eu lles, gan gyfeirio'n benodol at effaith y cyfyngiadau symud;

·                    Cyd-gynhyrchu ystod o fesurau a allai gefnogi gofalwyr yn well pe bai'r firws yn cychwyn eto yn y dyfodol neu pe bai cyfyngiadau symud eraill ar waith er mwyn sicrhau eu lles;

·                    Nodi unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth gwasanaeth a weithredwyd yn ystod y cyfyngiadau symud a weithiodd yn dda;

·                    Adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol o gymorth i ofalwyr yn Ninas a Sir Abertawe;

·                    Cynnwys barn amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys; Cynghorwyr, gofalwyr, y rhai sy'n derbyn gofal, Canolfan Gofalwyr Abertawe, darparwyr trydydd sector, Addysg a rhanddeiliaid perthnasol eraill y gellir eu nodi.