Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 224 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 16 Medi ac 1 Hydref 2020 fel cofnod cywir.

6.

Cynllun Adfer - Rôl y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl. (Trafodaeth lafar).

Cofnodion:

Roedd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am y gwaith a wnaed yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol ers pandemig COVID-19.

 

Aeth ymlaen i amlinellu manylion adroddiad y cynllun adfer a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 15 Hydref:

 

1.            Ailddechrau (tymor byr – 4 mis) – ailgychwyn ac addasu ystod eang o wasanaethau'r cyngor;

2.            Ailffocysu (tymor canolig – hyd at fis Mai 2022) – ymateb strategol i gefnogi'r ddinas i oresgyn yr argyfwng a thyfu ohono, gan gyflawni'n blaenoriaethau corfforaethol;

3.            Ail-lunio (tymor hir – ar ôl Mai 2022) – strategaeth adfywio a datblygu tymor hwy y ddinas a'r sir.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor fod llawer o'r gwasanaethau a ddarparwyd gan Gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau fel arfer yn ystod y pandemig, mewn perthynas â cham cyntaf y cynllun adfer.  Fodd bynnag, roedd rhai pethau fel rhedeg gwasanaethau dydd wedi'u hoedi.

 

Roedd gofal seibiant brys hefyd wedi parhau yn ystod y camau cychwynnol, gyda nifer y bobl yr oedd angen gofal seibiant brys arnynt wedi cynyddu. Dywedodd fod yn rhaid cydbwyso'r risg yn erbyn y rheini heb ofal a chefnogaeth ffurfiol lle'r oedd "cadw mewn cysylltiad" wedi bod yn hanfodol. 

 

Er bod y gwasanaeth yn dal i fod yng nghanol cam cyntaf y cynllun adfer, roedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod ein darpariaeth frys ar waith ac yn addas i’r diben.

 

Aeth ymlaen i ddweud mai'r prif newid a gafwyd oedd bod y rhan fwyaf o'n gweithlu bron yn gweithio o'u cartrefi yn gyfan gwbl, ac eithrio rhai canolfannau amlddisgyblaethol yn y maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion.  Bu'n rhaid i'r staff hyn wneud rhywfaint o waith yn y swyddfa, a sicrhawyd bod y drefn hon yn ddiogel rhag COVID. 

 

O ran cam 2 –agwedd ailffocysu’r Cynllun Adfer, teimlai y gallai'r Pwyllgor gynorthwyo â'r gwaith a fyddai'n cael ei wneud i gynllunio ar gyfer argyfwng y gaeaf.

 

Yn ogystal, teimlai y gallai'r Pwyllgor gynorthwyo gyda'u helfen gyd-gynhyrchu barhaus o'r llynedd gan ganolbwyntio ar:

 

·                     Drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl – drwy gyd-gynhyrchu;

·                     Gwasanaethau Iechyd a Chymunedol – galluogi pobl i fod yn ddiogel ac aros yn eu cartrefi eu hunain.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am y diweddariad. Dywedodd y byddai'n cyfarfod ag Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant i benderfynu ar y pynciau i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl eu hystyried yn ystod 2020-2021.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

7.

Cynllun Gwaith 2020-2021. (Ar Lafar)

Cofnodion:

Fel y dywedwyd eisoes, byddai'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021 yn cael ei gwblhau gyda'r Aelodau Cabinet perthnasol a'i gyflwyno i'w drafod yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 18 Tachwedd 2020.

 

Gofynnodd Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, a fyddai'n bosib i'r Pwyllgor ystyried cynnwys gwaith ar "les gofalwyr" yn ei Gynllun Gwaith.  Dywedodd fod y pwnc hwn yn cynnwys agweddau ar Iechyd Meddwl, gofal cymhleth, ymatebion cymunedol ac ataliol ac y byddai ei thîm yn canolbwyntio ar hyn yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Dywedodd Dave Howes y byddai hefyd yn tynnu sylw'r Pwyllgor at unrhyw waith cyd-gynhyrchu a drefnwyd yn y tymor byr er mwyn iddynt allu ystyried eu cyfranogiad.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.