Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

43.

Cofnodion: pdf eicon PDF 307 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir.

44.

Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl - Adroddiad Cryno 2019-2020. pdf eicon PDF 367 KB

Cofnodion:

Dechreuodd y Cadeirydd drwy ddiolch i Simon Jones am ei holl waith caled, nid yn unig ar yr adroddiad hwn, ond hefyd y gwaith a wnaed i gefnogi'r Pwyllgor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Cyflwynodd Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, Adroddiad Cryno'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ar gyfer 2019-2020 a oedd yn crynhoi'r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn ystod 2019/20.  Tynnodd sylw at y gweithgareddau a'r cyflawniadau nodedig yn y meysydd polisi a ystyriwyd, fel rhan o'r rhaglen waith y cytunwyd arni gydag Aelod y Cabinet.

 

Roedd rhaglen waith y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl (fel y’i nodir yn Atodiad A) yn cynnwys dau faes gwaith arwyddocaol:

 

·                     Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag anableddau;

·                     Ymagwedd Strategol at gomisiynu modelau newydd o ofal a chefnogaeth.

 

Amlinellodd pam y dewiswyd y pynciau hyn, yr ymrwymiadau polisi, y swyddogion arweiniol, y gwaith a wnaed, y canlyniad a'r camau nesaf.  Aeth ymlaen i egluro sut y defnyddiwyd cyd-gynhyrchu ar gyfer pob un o'r pynciau.

 

Soniodd hefyd am y darn o waith a wnaed ar "Fyw â Chymorth" a gwblhawyd gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ym mis Ebrill 2019.

 

Trafododd y Pwyllgor effaith Covid-19 ar adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r cynllun adfer y disgwylid iddo gael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Hydref 2020.  Dywedodd y Cadeirydd y dylai adroddiad y Cabinet roi arweiniad pellach ac amlinellu ffocws y gwaith sydd i'w wneud gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn ystod 2020-2021.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Anfonir yr adroddiad at yr Aelodau Cabinet perthnasol i benderfynu a ddylid ei gyflwyno fel adroddiad "Er Gwybodaeth" i gyfarfod nesaf y Cabinet sydd ar gael.

45.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020.

 

Fel a ddywedwyd yn flaenorol, roedd yn disgwyl y byddai adroddiad y Cynllun Adfer a drefnwyd i’w gyflwyno i'r Cabinet ym mis Hydref 2020 yn darparu rhagor o gyngor ac arweiniad ar waith y Pwyllgorau Datblygu Polisi yn y dyfodol.

 

Roedd hefyd yn disgwyl adroddiadau diweddaru pellach mewn perthynas â'r Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu dros weddill Blwyddyn Ddinesig 2020-2021.

46.

Diolch.

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd Ceri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ei ddiolch i bawb am eu holl gefnogaeth, eu gwaith caled a'u cyfraniadau yn ystod y 18 mis diwethaf, yn arbennig:

 

Allison Lowe a Jeremy Parkhouse, Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd;

Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol;

Chris Francis, Jane Whitmore a Lisa Banks am eu gwaith ar y ddau brif bwnc y canolbwyntiwyd arnynt eleni;

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a fyddai'n ymddeol cyn bo hir;

Y Swyddogion Cyfreithiol, yn enwedig Lisa Thomas a holl aelodau’r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl sy’n gynghorwyr am gefnogi'r Pwyllgor mor ddiwyd.