Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

38.

Cofnodion: pdf eicon PDF 229 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2020 a Mawrth 18 2020 fel cofnod cywir.

39.

Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu - Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd a Chynnydd hyd yma ar Brosiect Cronfa Her yr Economi Sylfaenol. (Diweddariad llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Jane Whitmore, Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu, ddiweddariad ar lafar fel a ganlyn:

 

Cafwyd llwyddiant â'r cais am arian Cronfa Her yr Economi Sylfaenol, sef cronfa Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o gefnogi dulliau arloesol ac amgen o fynd i'r afael â phroblemau neu wireddu potensial yn yr economi sylfaenol. 

 

Cyflwynwyd y cais i recriwtio asiant dros newid i gefnogi creu cwmnïau cydweithredol neu fentrau cymdeithasol/bach iawn; mewn perthynas â phrynu A darparu gofal a chymorth yn ardal Gŵyr ac ardaloedd gwledig eraill yn Abertawe.

 

Byddai’r cynnig hwn yn newid natur y gofal a'r gefnogaeth a ddarperir yn lleol. Byddai’n helpu pobl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth i reoli'r modd y caiff eu gofal ei lunio a'i ddarparu, ac yn eu cysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau lleol a all ddarparu gwasanaeth lleol, hyblyg ac ymatebol.

 

Trwy gefnogi datblygu gweithlu medrus a chefnogi gweithwyr i greu eu trefniadau cyflogaeth eu hunain, rydym o'r farn y bydd hyn yn arwain at swyddi mwy cynaliadwy a fydd yn cynnig gwell amodau gweithio i weithwyr gofal, yn ogystal â rheolaeth dros eu llwyth gwaith beunyddiol ac amodau eu cyflogaeth.

 

Y gobaith oedd creu ymagwedd wirioneddol wahanol at gomisiynu gofal ar gyfer pobl ag anghenion lefel isel yn y gymuned.

 

Atgoffodd aelodau o’r gweithdy a gynhaliwyd gyda'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ar 15 Ionawr 2020 i archwilio ein dull gweithredu ac i rannu'r hyn a ddysgir oddi wrth awdurdodau lleol eraill a oedd wedi ceisio ymagweddau tebyg.

 

Disgrifiodd yr ymagwedd, sy'n adeiladu ar Gydlynu Ardaloedd Lleol ac Ein Cynllun Cymdogaeth; recriwtio Swyddog Menter Gymunedol i weithio gyda chymunedau i ddod o hyd i bobl sydd â diddordeb mewn dod yn rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol; darparu:

 

·                     Cyngor

·                     Arweiniad

·                     Cyfeiriadau i arbenigwyr (e.e. Busnes Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru)

·                     Grantiau cychwynnol bach

·                     Hyfforddiant

·                     Cefnogaeth i oresgyn rhwystrau

 

Byddai hefyd yn cynnwys recriwtio gweithiwr i gefnogi pobl sy'n derbyn gofal i ddod â'u hadnoddau ynghyd er mwyn cydweithio i ddiwallu eu hanghenion a rennir.

 

Mae Cyngor Sir Gwlad yr Haf wedi dilyn model tebyg ac roedd y gweithdy'n trafod yr ymagwedd y mae wedi'i dilyn a chanlyniadau'r ymagwedd honno.

 

Roedd Gwlad yr Haf wedi mabwysiadu Catalydd Cymunedol i wella gallu lleol o ran gofal, ac wedi cynyddu nifer y taliadau uniongyrchol a dderbynnir er mwyn cefnogi pobl i brynu eu gofal eu hunain.

 

Dyma'r canlyniadau a nodwyd gan Gyngor Sir Gwlad yr Haf: - Caiff pobl hŷn eu cefnogi'n dda yn eu cartrefi gan bobl o'u cymdogaethau. Caiff cefnogaeth ei chyd-ddylunio. Mae pobl greadigol ar ddwy ochr yr hafaliad gofal yn dod o hyd i ffyrdd o wneud pethau'n wahanol.

 

Amlygodd sesiwn weithdy'r Pwyllgor Datblygu Polisi'r risgiau a'r heriau o ran datblygu darparwyr mentrau bach iawn hefyd, sydd wedi cael eu hystyried er mwyn i ni allu mynd i'r afael â'r rhain wrth i'r cynllun peilot gael ei ddatblygu.

 

Amlinellodd Lisa Banks, Swyddog Cynllunio Uned Contract a Chynllunio yn yr Hwb Comisiynu'r statws presennol:

 

Amlygodd gweithdy'r Pwyllgor Datblygu Polisi gyfleoedd y gellid eu gwireddu drwy'r prosiect, a oedd hefyd wedi'u hystyried a'u nodi.

 

Cytunwyd ar Gytundeb Partneriaeth ac ar fanylebau gwasanaeth rhwng yr awdurdod lleol a'n dau bartner allweddol; Canolfan Cydweithredol Cymru a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe.

 

Dywedodd ein bod wedi bod yn barod i recriwtio a dechrau ar y prosiect ers diwedd mis Chwefror/dechrau mis Mawrth, ond bu angen i ni ohirio'r prosiect oherwydd COVID-19 er mwyn ymdrin â'r ymateb brys.

 

Fodd bynnag, datblygwyd cytundeb dros dro gydag un o'n partneriaid i ymgymryd â gwaith rhagarweiniol o bell i sicrhau bod y prosiect yn cadw rhywfaint o fomentwm. Ffocws y gwaith hwn oedd paratoi ar gyfer y cyfnod pryd y gallwn ail-ddechrau'r prosiect.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen i'r prosiect gael ei gyflwyno ar amser o hyd (erbyn 31 Mawrth 2021) a'i fod wedi sefydlu Cymunedau Ymarfer ar draws prosiectau tebyg a Phanel Caffael Arbenigol i gefnogi cyflawniad o fewn yr amserlen.

 

Roedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig yn y ffordd y gallai prosiectau adeiladu ar ymateb i COVID-19, sydd wedi amlygu pwysigrwydd yr Economi Sylfaenol a 'gweithwyr allweddol' a gallu cymunedau i ddod at ei gilydd i ddiwallu anghenion eu haelodau sy'n fwy agored i niwed.

 

Rydym wrthi'n adolygu'r prosiect ar hyn o bryd er mwyn adeiladu ar y cyfleoedd a gyflwynir gan COVID-19 ac i liniaru'r amserlen fwy cyfyngedig; gan gynnwys:

 

·                     Canolbwyntio ar ddwy ardal; Gŵyr a Chlydach.

 

·                    Lleihau'r deilliannau gwreiddiol a chynyddu'r pwyslais ar werthuso deilliannau dysgu

 

·                    Meddwl yn agored am y mathau o gymorth rydym yn gobeithio eu datblygu a chael ein harwain gan y galw presennol yn y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt; dysgu o’r ymatebion i COVID-19.

 

·                    Roedd y broses o recriwtio ar gyfer tair swydd wedi dechrau ac roedd un person eisoes yn ei swydd.

https://cymru.coop/gyrfaoedd/current-vacancies/

 

https://www.scvs.org.uk/scvs-microenterprise-job-july20

 

Dechreuodd gwaith ymgysylltu â'r gymuned yng Nghlydach a Gŵyr gan ddefnyddio'r rhwydweithiau a'r cysylltiadau a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr argyfwng.

 

Hysbysodd y Pwyllgor o ddiddordeb gan unigolyn yn ardal Gŵyr a hoffai sefydlu menter fach iawn. Byddwn yn gweithio'n hyblyg i gynnwys ardal Gŵyr gan ddefnyddio'r swydd a sefydlwyd eisoes nes ein bod yn recriwtio rhywun ar gyfer ardal Gŵyr.

 

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr ym maes gofal cartref i ddeall lefelau presennol y galw, sydd wedi newid yn ystod cyfnod COVID-19 a gallai hyn effeithio ar ein dull o weithredu a'n ffocws.

 

Roedd gwaith ymgysylltu ag awdurdodau lleol eraill wedi dechrau er mwyn rhannu dysgu a chydweithio ar gamau i wneud cynnydd.

 

Ail-gynullwyd Bwrdd y Prosiect yn gynnar ym mis Gorffennaf ac roedd y prosiect bellach yn weithredol unwaith eto.

 

Dywedodd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, fod COVID-19 wedi effeithio ar bopeth. Byddai'n rhaid i gymunedau ddysgu byw gyda COVID-19 am o leiaf y 12-18 mis nesaf, felly byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ein cynlluniau adfer/addasu ac ailystyried ein blaenoriaethau. Dylai'r darn hwn o waith gynorthwyo’r broses honno.

 

Nodwyd bod yr holl wardiau gwahanol yn Abertawe, y rheini gyda chynghorau cymuned neu hebddynt, i gyd wedi ymateb i'r pandemig wrth i lawer o wirfoddolwyr roi cymorth i'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol, y Gwasanaethau Cymunedol, banciau bwyd etc.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y diweddariad ac am eu holl waith gyda'r cynllun ac roedd y Pwyllgor yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariadau ar gynnydd y gwaith maes o law.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

40.

Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Diweddariad llafar)

Cofnodion:

Daeth Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, i roi diweddariad ar lafar. Mynegodd ei ymddiheuriadau ar ran Chris Francis, y swyddog arweiniol, yr oedd ei lwyth gwaith wedi cael ei ailflaenoriaethu oherwydd y pandemig COVID-19.

 

Dywedodd fod y Pwyllgor wedi derbyn adroddiad cynhwysfawr ar y sefyllfa ddiweddaraf yn eu cyfarfod diwethaf ym mis Chwefror 2020 o ran sut y gellid datblygu'r darn hwn o waith a bod bwriad i'r camau nesaf ganolbwyntio ar waith cynllunio. Yn anffodus, oherwydd y pandemig, nid oedd rhagor o waith wedi'i wneud mewn perthynas â'r darn hwn o waith.

 

Fodd bynnag, dywedodd ei bod yn dal yn ofynnol i'r gwelliannau fod yn rhan o'n hadferiad a'n cynllunio addasol ond y gallai fod â goblygiadau o ran amseru a natur y newidiadau sy’n ofynnol.

 

Amlinellodd y cyd-destun rhanbarthol ac, er bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo'n lleol, ni fyddai'n ymarferol cael ffrydiau gwaith ar wahân sy'n edrych ar feysydd ymarfer cysylltiedig.

 

Felly, ei awgrym i'r Pwyllgor ac er mwyn ffurfio rhan o'r adferiad a chynllunio addasol/addasu yn y dyfodol fyddai cysylltu'r darn hwn o waith â'r gwaith rhanbarthol a sydd ar waith ar hyn o bryd. Y gwerth yw ein bod yn cael ein cysylltu'n awtomatig â'r Bwrdd Iechyd a'r gwasanaethau iechyd ac os gallwn wneud hyn yn flaenoriaeth ranbarthol, byddai'n goresgyn rhai o'r rhwystrau a wynebir yn lleol. Roedd hefyd wedi trafod hyn gyda chydweithwyr ym maes addysg a oedd yn gysylltiedig â rhywfaint o'r gwaith rhanbarthol, yn enwedig y rhaglen Plant. 

 

Drwy ddilyn y llwybr rhanbarthol, byddai hyn yn sicrhau na fyddai unrhyw waith a wnaed gan y swyddogion a'r Pwyllgor hyd yma yn cael ei wastraffu. 

 

Cadarnhaodd fod cydweithwyr ym maes addysg wedi ymrwymo'n lleol i ymuno â'r ffrwd waith ranbarthol.  Fodd bynnag, os byddai'r pwnc hwn yn symud i lawr y rhestr ranbarthol o flaenoriaethau am unrhyw reswm, yna byddai'n dod â'r mater hwn yn ôl i drefniadau lleol.

 

Cafwyd trafodaeth ar ail don bosib COVID-19 ac a allwn ni wneud pethau mewn ffordd well/wahanol er mwyn bod yn fwy parod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Howes a'i holl staff yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â staff y Gwasanaethau Democrataidd am yr holl waith gwych a wnaed yn ystod y pandemig.

 

Yna gofynnodd y Cadeirydd a ellid drafftio adroddiad i'r Cabinet i amlinellu'r gwaith a oedd wedi'i wneud hyd yma. Awgrymodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y dylai Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, weithio gyda'r Cadeirydd i ddrafftio adroddiad cryno ar holl waith y Pwyllgor hyd yma. 

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi'r diweddariad;

2)            Y byddai'r Pwyllgor yn nodi bod y gwaith Pontio ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd yn mynd rhagddo ar sail ranbarthol;

3)            Drafftio adroddiad i'r Cabinet yn amlinellu gwaith y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn ystod blwyddyn ddinesig 2019-2020.

41.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020.

 

Nodwyd bod y Pwyllgor yn debygol o dderbyn darn mwy o waith i ganolbwyntio arno o ran adfer a chynllunio oherwydd pandemig COVID-19 a dylid derbyn rhagor o wybodaeth erbyn y cyfarfod nesaf ym mis Medi.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith.