Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

33.

Cofnodion: pdf eicon PDF 220 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi - Pobl a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020 fel cofnod cywir.

34.

Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu - Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd. (Verbal)

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y byddai Jane Whitmore a Lisa Banks yn darparu adborth ar y gwaith a wnaed yn y gweithdy ar 15 Ionawr 2020 yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 18 Mawrth 2020.

 

Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar.

35.

Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes y diweddariad llafar canlynol:

 

Byddai'r pwyllgor yn ystyried y Polisi Pontio Drafft yn fanylach yn y gweithdy yn syth ar ôl cyfarfod y pwyllgor.  Dywedodd y byddai'n rhaid rhoi sylw i ystyriaethau eraill megis:

 

·                 Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru;

·                 Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - yn aros am arweiniad terfynol;

·                 Gofal Parhaus - yn aros am y fersiwn derfynol;

·                 Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Bontio a Throsglwyddo ar gyfer Iechyd - cyhoeddwyd ar 27 Ionawr 2020, daw'r ymgynghoriad i ben AR 20 Ebrill 2020.

 

Trefnwyd cyfarfod ar gyfer 20 Mawrth 2020 dan arweiniad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe, ynghyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a chynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd. Gobeithiwyd y byddai modd cadarnhau yn y cyfarfod hwnnw a fyddai partneriaid mewn sefyllfa i "gymeradwyo'r" Polisi Pontio Drafft ar y cam hwnnw, fodd bynnag, roedd yn bosib y byddai partneriaid eisiau aros am ganlyniad y dogfennau ymgynghori eraill i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r Polisi Pontio Drafft.

 

Aeth y Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes ymlaen i ddweud gan fod y dogfennau ymgynghori dywededig yn cynnwys yr un cynnwys yn gyffredinol â'n Polisi Pontio Drafft, nid oedd yn disgwyl iddynt newid yn ddramatig. Ar y sail honno, byddai'n awgrymu bod Cyngor Abertawe yn ymrwymo i ddogfen bolisi lefel uchel, er nad oedd yn glir a fyddai partneriaid yn cytuno. Dywedodd y byddai'r polisi yn cynnwys atodiadau a'r atodiadau hynny y byddai'n cael eu diwygio (os bydd unrhyw newidiadau perthnasol) yn hytrach na'r polisi ei hun.

 

Mynegodd y pwyllgor bryder ynghylch yr oedi parhaus wrth gyflwyno'r Polisi Pontio Drafft hwn i'r cyngor.  Cydnabuont fod yr oedi o ganlyniad i'r ffactorau dywededig ac awgrymwyd y dylai'r Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes ddarparu asesiad risg o'r hyn a allai ddigwydd pe bai'r polisi'n cael ei oedi ymhellach.  Gofynnwyd iddo hefyd gadarnhau yn y cyfarfod ar 20 Mawrth pryd y byddai'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl mewn sefyllfa i gyflwyno'r Polisi Pontio Drafft i'r Cabinet.

 

Nododd y Cadeirydd y byddent yn trafod y materion hyn ymhellach yn y gweithdy a fyddai'n cael ei gynnal yn syth ar ôl cyfarfod y pwyllgor.

 

Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar.

36.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith.