Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

28.

Cofnodion: pdf eicon PDF 235 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

29.

Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes y diweddariad llafar canlynol:

 

Roedd y Grŵp Llywio wedi parhau â'i waith gan ganolbwyntio ar y Polisi Trosglwyddo Drafft. Roedd y Grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth gan bartneriaid mewn Addysg, Gwasanaethau i Oedolion, Iechyd ac aelodau o'r Fforwm Gofalwyr sy'n Rieni. Mae'r Polisi Drafft wedi'i ddosbarthu i aelodau o'r Grŵp Llywio a byddai'n cael ei ystyried ganddynt yn eu cyfarfod nesaf ddydd Gwener, 17 Ionawr 2020. Y gobaith oedd y byddai'r ddogfen wedyn yn barod i'w dosbarthu i randdeiliaid eraill ar gyfer ymgynghoriad ehangach, gan gynnwys i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl.

 

Dywedodd y Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes bod newidiadau sylweddol ar droed yn y maes gwaith hwn ac nad oedd yn eglur beth yn union fyddai'r goblygiadau i'r cyngor a'r Bwrdd Iechyd. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys y Ddeddf Tribiwnlys Addysg newydd ac Arweiniad Llywodraeth Cymru ar gyfer Plant ag Anghenion Cymhleth. Roedd gan y ddwy ddogfen adrannau a oedd yn ymwneud â Throglwyddo wedi'u cynnwys ynddynt, y byddai angen eu cynnwys mewn unrhyw bolisi newydd a oedd yn cael ei ystyried i'w fabwysiadu gan y cyngor.

 

Dywedodd hefyd fod Bwrdd Rhaglen Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg yn parhau a'i waith ar gefnogi plant â'r anghenion mwyaf cymhleth. Cynhaliwyd adolygiad yn ddiweddar a gwaed cyfres o argymhellion. Byddai'r Bwrdd yn cyfarfod eto'r wythnos hon i ystyried a ellid ailadrodd y gwaith cadarnhaol a wnaed mewn perthynas â Throglwyddo ar draws y rhanbarth. 

 

Cydnabu'r Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes fod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud mewn perthynas â Throglwyddo ar lefel uwch, a allai newid y cyfeiriad teithio yn y dyfodol.

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod hefyd wedi cadeirio cyfarfod Rheolwyr Amlasiantaeth ynghyd â chynrychiolwyr o’r meysydd Addysg, Iechyd a’r Gwasanaethau i Oedolion. Roeddent wedi bod yn gweithio ar greu rhestr gynhwysfawr o bobl ifanc y credwyd y byddai angen cefnogaeth amlasiantaeth arnynt wrth iddynt drosglwyddo i fod yn oedolion. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror, lle byddent yn adolygu'r rhestr i sicrhau ei bod yn gywir a byddai'n rhaid sefydlu cynlluniau cadarn er mwyn cefnogi'r bobl ifanc yn ystod y cyfnod troglwyddo.

 

Gofynnodd y Pwyllgor nifer i gwestiynau, ac ymatebodd y swyddog iddynt yn briodol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes am y diweddariadau a chafwyd trafodaeth ynghylch y camau nesaf mewn perthynas â'r Polisi Troglwyddo Drafft.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r diweddariad;

2)              Dosbarthu'r Polisi Troglwyddo Drafft i'r Pwyllgor Datblygu Pobl ar yr un pryd ag y caiff ei ddosbarthu i randdeiliaid i ymgynghori arno;

3)              Cynnal gweithdy yn syth ar ôl y cyfarfod nesaf ar 19 Chwefror 2020 er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried y Polisi Troglwyddo Drafft.

 

 

 

 

30.

Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu - Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd. (Llafar)

Cofnodion:

Eglurodd Jane Whitmore, Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu, y byddai Lisa Banks, Swyddog Cynllunio Uned Contract a Chynllunio yn yr Hwb Comisiynu, a hithau'n darparu sesiwn mewn arddull gweithdy yn syth ar ôl y Pwyllgor. Fe fyddai'r pwyllgor yn archwilio eu gwaith parhaus ar ystyried y Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd ar gyfer y Modelau Comisiynu ymhellach mewn perthynas â'u trafodaethau blaenorol ar Fentrau Cymdeithasol.

 

Fel y gofynnwyd amdano yn y cyfarfod blaenorol ym mis Tachwedd 2019, roedd Lisa Banks wedi gwneud cryn dipyn o waith ymchwil sylweddol ar y pwnc. Byddai angen i'r Pwyllgor ystyried beth oedd y cyfleoedd, y risgiau, y rhwystrau a'r camau perthnasol y byddai angen eu cymryd i symud y darn hwn o waith yn ei flaen.

 

Penderfynwyd y dylid diweddaru'r pwyllgor ar ganlyniadau'r gweithdy mewn cyfarfod yn y dyfodol.

31.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r Cynllun Gwaith;

2)              Bydd y Pwyllgor yn cynnal gweithdy mewn perthynas â'r Polisi Trosglwyddo Drafft yn syth ar ôl ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2020;

3)              Diweddaru'r Pwyllgor ar y gweithdy a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020 ar yr "Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu - Modelau Newydd o Ofal a Chefnogaeth" mewn cyfarfod yn y dyfodol.